Dewiswch eich iaith
Mae dechrau blwyddyn academaidd newydd yn amser perffaith i wirio eich cofnod ar y Gofrestr. Mewngofnodwch i FyCGA i wneud yn siŵr bod eich holl wybodaeth yn gyfredol.
Mae hefyd gan gyflogwyr gyfrifoldeb i sicrhau bod eu staff wedi eu cofrestru. Defnyddiwch eich mynediad at y gofrestr i wirio hyn.
Croeso mawr i bawb sy'n ymuno neu'n dychwelyd i'r gweithlu addysg ym mis Medi.
Wrth i ni ddod i ddiwedd y flwyddyn ddarllen genedlaethol, dyma'ch atgoffa fod gyda ni nifer o adnoddau i'ch cefnogi chi. Meddwl Mawr yw ein clwb llyfrau, lle'r ydym yn argymell adnoddau i'ch cefnogi yn eich gwaith o ddydd i ddydd.
Ein blog yw'r man lle gallwn rannu ein barn ar faterion sy'n effeithio ein cofrestrion, yn ogystal â mewnwelediadau i'n gwaith. Ry'n ni hefyd yn cynnwys postiadau gan eraill ledled y sector addysg yng Nghymru a thu hwnt, yr ydym yn credu y bydd yn ddefnyddiol i chi. Barn yr awduron eu hunain ydyw ym mhob achos.
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu syniadau ar gyfer ein blog, cysylltwch â
10 Hyd 2025
03 Hyd 2025
10 Ebr 2025
20 Chwe 2025
09 Rhag 2024
25 Hyd 2024
15 Mai 2024
17 Chwe 2022
27 Med 2021
04 Mai 2021
26 Chwe 2021
16 Chwe 2021
21 Hyd 2020
02 Hyd 2020
22 Gor 2020
21 Ion 2020
Yn yr adran hon, gallwch ddarllen ein cynlluniau a’n hadroddiadau sy’n dangos sut rydym ni’n cyflawni ein prif nodau, sef:
Mae ein Cynllun Strategol 2026-29 yn amlinellu ein gweledigaeth, sef bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, dibynadwy sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae’n amlinellu’r blaenoriaethau a’r amcanion a fydd yn ein helpu i wireddu’r weledigaeth hon a’r gwerthoedd a fydd wrth wraidd ein hymagwedd dros y tair blynedd nesaf.
Darllenwch ein Cynllun Strategol 2026-29.
Rydym ni’n ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac am chwarae ein rhan i greu Cymru decach. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu sut byddwn ni’n cofleidio ein rôl wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, o fewn ein sefydliad ac (o fewn ein cylch gwaith) ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru.
Darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 .
Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o’n cynnydd a’n heffaith dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac mae’n amlygu rhai o’n cyflawniadau allweddol. Hefyd, mae’n esbonio ein llywodraethiant, ein hadnoddau ariannol a’n cynlluniau at y dyfodol.
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2025-26.
Rydym ni’n cyhoeddi adroddiad priodoldeb i ymarfer blynyddol sy’n amlinellu:
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2025-26.
Rydym ni’n cyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb sy’n amlygu’r cynnydd a wneir bob blwyddyn tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2025-26.
Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth am sut rydym ni wedi cydymffurfio ac mae’n amlinellu sut rydym ni wedi gweithredu’r safonau.
Darllenwch ein Hadroddiad monitro blynyddol Safonau’r Gymraeg 2025-26.
Darllenwch fwy am sut rydym ni’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.