Fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru, ein swyddogaeth graidd yw rheoleiddio er budd y cyhoedd. I sicrhau ein bod yn cynnal ein hachosion yn drylwyr ac yn deg, rydym yn cynnal ein gwrandawiadau priodoldeb i ymarfer yn gyhoeddus, oni bai bod rheswm eithriadol dros breifatrwydd.
Gall aelodau’r cyhoedd a’r wasg gysylltu â ni er mwyn gwylio ein gwrandawiadau cyhoeddus; mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn cael eu cynnal o bell erbyn hyn.
Gellir gwneud cais am gynnal gwrandawiadau yn breifat. Os bydd y pwyllgor priodoldeb i ymarfer annibynnol yn caniatáu cais ar ddiwrnod cyntaf gwrandawiad, ni fydd unrhyw aelodau’r cyhoedd a’r wasg sy’n bresennol yn gallu ei wylio. Weithiau, dim ond rhan o wrandawiad a gynhelir yn breifat, felly gall unrhyw aelodau’r cyhoedd neu’r wasg sy’n bresennol wylio sesiynau cyhoeddus gwrandawiad yn unig.
Bydd penderfyniad pwyllgor bob amser yn cael ei ddatgan yn gyhoeddus.
Bod yn bresennol mewn gwrandawiad
Os byddwch chi’n dymuno bod yn bresennol mewn gwrandawiad, dylech wneud cais uniongyrchol i’r
Gallwch aros am y cyfan o’r gwrandawiad cyhoeddus, gan gynnwys datgan y penderfyniad yn gyhoeddus.
Sylwch, os na fyddwch yn bresennol mewn gwrandawiad, neu’n bresennol mewn rhannau ohono yn unig, byddwn ond yn gallu darparu’r wybodaeth ganlynol i chi os gofynnwch amdani:
- copi o’r penderfyniad wedi’i ddatgan yn gyhoeddus
- cadarnhau’r honiadau a’r bobl allweddol sy’n gysylltiedig
Bydd y wybodaeth hon ar gael o fewn 48 o oriau gwaith wedi i’r gwrandawiad ddod i ben.
Ymholiadau ychwanegol
Os hoffech gael eglurhad o agwedd ar y dystiolaeth rydych chi’n ei chlywed wrth wylio gwrandawiad, cysylltwch â’r swyddog achos sy’n bresennol, a fydd yn ystyried eich cais. Ni fydd yn gallu egluro unrhyw beth sydd heb gael ei glywed yn gyhoeddus.
Os oes gan y wasg unrhyw ymholiadau yn dilyn gwrandawiad, neu os hoffech wneud cais am gopïau o’r dogfennau a restrir uchod, cysylltwch â