Mae gennym gyfrifoldeb statudol i:
- achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
- monitro cydymffurfiaeth rhaglenni achrededig yn erbyn meini prawf Llywodraeth Cymru
- tynnu rhaglenni achrediad yn ôl
Mae holl raglenni AGA a gynigir gan bartneriaethau yng Nghymru yn cael eu hasesu, eu gwerthuso, a'u monitro yn erbyn Meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer achredu rhaglenni AGA yng Nghymru. Ein Bwrdd Achredu AGA sy’n cyflawni'r swyddogaeth hon.
Beth yw achredu?
Mae CGA yn diffinio achrediad fel y broses o ganfod derbynioldeb proffesiynol rhaglen AGA yn arwain at gymhwyster addysgu, yn erbyn Meini prawf achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru ('y Meini Prawf'). Rhoddir achrediad i raglenni, ac nid i bartneriaethau, ac felly mae'r broses achredu yn digwydd rhaglen fesul rhaglen.
Dysgwch fwy am gyflwyno rhaglen i'w hachredu.
Diddordeb mewn bod yn athro ysgol?
Mae gan Addysgwyr Cymru wybodaeth ar y cyrsiau hyfforddiant athrawon sydd ar gael yng Nghymru, yn ogystal ag unrhyw gyfleoedd hyfforddiant.