CGA / EWC

About us banner
Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026
Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026

Lawrlwytho Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026.

Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth a data ar waith priodoldeb i ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.

Ynghylch CGA

Amdanom ni

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. 

A ninnau wedi’n sefydlu gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (y Ddeddf), rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn tri ar ddeg o wahanol gategorïau cofrestru sy’n rhychwantu ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, addysg oedolion a dysgu seiliedig ar waith. Ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg yw’r gofrestr gyhoeddus fwyaf o unrhyw broffesiwn yng Nghymru, a’r gofrestr ehangaf o weithwyr addysg proffesiynol yn y byd, gyda dros 91,000 o ymarferwyr wedi’u cofrestru.

Rheoleiddio

Ein swyddogaeth graidd yw rheoleiddio er budd y cyhoedd. Er mwyn gwneud hyn, yn gyntaf, rydym yn cynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg (y Gofrestr) sy’n gymwys i ymarfer mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, ac addysg oedolion/dysgu seiliedig ar waith. Yn ail, rydym yn cyhoeddi Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol sy’n cyflwyno’r safonau y mae disgwyl i’r bobl sydd wedi cofrestru eu harddangos. Yn drydydd, rydym yn ymchwilio i honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu droseddau perthnasol, ac yn cynnal gwrandawiadau iddynt.

Y Gofrestr Ymarferwyr Addysg

Ers 10 Mai 2024, rydym yn cofrestru ac yn rheoleiddio 13 o grwpiau ymarferwyr addysg yng Nghymru. Mae’n ofyniad cyfreithiol i bob un ohonynt gofrestru. Ein Cofrestr yw’r gofrestr gyhoeddus fwyaf o unrhyw broffesiwn yng Nghymru, a’r gofrestr ehangaf o weithwyr addysg proffesiynol yn y byd.

Ar 31 Mawrth 2026, roedd 100,027 o ymarferwyr addysg cofrestredig cymwys i ymarfer/91,357 o ymarferwyr addysg cofrestredig unigol wedi’u cofrestru gyda ni, ar draws y pedwar sector addysg gwahanol yng Nghymru.

CategoriNifer y cofrestreion %
Gweithwyr cymorth dysgu ysgol 40,578 44.4
Athrawon ysgol 30,170 33.2
Athrawon addysg bellach 3,873 4.2
Gweithwyr cymorth dysgu addysg bellach 2,394 2.6
Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith 2,279 2.5
Gweithwyr cymorth dysgu sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol 289 0.3
Athrawon sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol 66 0.1
Athrawon ysgolion annibynnol 1,707 1.9
Gweithwyr cymorth dysgu ysgolion annibynnol 1,247 1.4
Gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig 562 0.6
Gweithwyr ieuenctid cymwysedig 366 0.4
Penaethiaid ac uwch arweinwyr 116 0.1
Ymarferwyr addysg oedolion 268 0.3
Categorïau lluosog* 7,422 8.1
Cyfanswm 91,357 100
 * Mae rhai cofrestreion wedi cofrestru mewn mwy nag un categori.
 

 Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Mae ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) yn cyflwyno’r safonau y mae disgwyl i’r bobl sydd wedi cofrestru gyda ni eu harddangos a bwriedir iddo gefnogi a llywio’u hymddygiad a’u barn fel gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn swyddi addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Daeth y fersiwn ddiweddaraf o’r Cod i rym ar 1 Medi 2025.

Mae cofrestreion yn ymrwymo i gynnal chwe egwyddor allweddol y Cod:

  1. Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol
  2. Unplygrwydd Proffesiynol
  3. Cydweithio
  4. Arweinyddiaeth
  5. Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol
  6. Dysgu Proffesiynol

Gallai methiant i gydymffurfio â’r Cod fwrw amheuaeth ynghylch cofrestriad ymarferydd.

Er mwyn rhoi ffocws i’r Cod, yn benodol, cyfrifoldebau proffesiynol a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, yn ystod 2025-26, rydym wedi:

  • darparu 47 o gyflwyniadau wyneb yn wyneb ac ar-lein i gofrestreion, cyflogwyr, a’n rhanddeiliaid eraill ar draws Cymru
  • adolygu ein 14 canllaw arfer da, a luniwyd i ategu’r Cod a helpu i gefnogi a llywio ymddygiad a barn cofrestreion

Ynghylch Priodoldeb i Ymarfer

Mae gennym ddyletswydd statudol i ymchwilio i achosion sy’n ymwneud â’n cofrestreion, a chlywed yr achosion hynny, os cawn wybod am eu camymddygiad neu anghymhwysedd (disgyblaeth) honedig. Hefyd, rydym yn penderfynu p’un a ddylid caniatáu mynediad ai peidio i ymarferwyr addysg yng Nghymru i’r Gofrestr pan fyddant yn gwneud cais (addasrwydd i gofrestru), a ni yw’r corff apelio i’r athrawon ysgol hynny sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol i fethu eu cyfnod sefydlu statudol (apeliadau sefydlu).

Mae ein Gweithdrefnau a Rheolau Disgyblu, Rheolau Cofrestru, a Chanllawiau ar gyfer gwrando ar apeliadau sefydlu yn amlinellu’r gweithdrefnau a ddilynwn wrth ymgymryd â’n gwaith yn y meysydd allweddol hyn. Mae hyn yn cynnwys ein pwerau i osod Gorchmynion Atal Dros Dro Interim mewn amgylchiadau penodol.

Ein blwyddyn reoleiddio

Gwaith achos

Disgyblu

Eleni, rydym wedi:

  • cwblhau 90 o achosion disgyblu
  • cynnal 12 Pwyllgor Ymchwilio, a ystyriodd 78 o achosion
  • cynnal 51 gwrandawiad priodoldeb i ymarfer
  • gosod 43 gorchymyn disgyblu
  • gosod 23 gorchymyn atal dros dro interim (ISO)

Addasrwydd i gofrestru

Eleni, rydym wedi:

  • asesu 268 o geisiadau am gofrestru gyda CGA â datganiad ynghlwm
  • gwrthod chwe chais am gofrestru gyda CGA â datganiad ynghlwm

Pwyllgorau

Ar 31 Mawrth 2026, roedd ein carfan o aelodau panel yn cynnwys 57 o aelodau panel annibynnol.

Mae ein holl bwyllgorau priodoldeb i ymarfer yn cynnwys o leiaf un aelod sy’n ymarfer ac sydd wedi cofrestru mewn o leiaf 1 o’r 13 categori cofrestru, ac aelod lleyg. Gall pwyllgor hefyd gynnwys ymarferydd sydd wedi ymddeol, neu gyn-ymarferydd. 3 yw’r cworwm.

Bydd un aelod yn cael ei benodi’n gadeirydd y pwyllgor.

Rhaid i’r holl aelodau panel fynychu hyfforddiant diweddaru yn flynyddol i sicrhau bod eu sgiliau a’u gwybodaeth yn gyfredol.

Nid yw unrhyw aelod o’r Cyngor – sy’n rheoli gwaith CGA – yn ymwneud ag achosion priodoldeb i ymarfer, ac nid ydynt yn aelodau o’r paneli.

Gwaith achos disgyblu

Mae ein gwaith disgyblu’n ymwneud â’r ymarferwyr addysg hynny yng Nghymru sydd wedi cofrestru gyda ni.

Rydym yn cael gwybod am bryderon amdanynt mewn sawl ffordd wahanol, ac o nifer o ffynonellau atgyfeirio gwahanol.

Daw’r rhan fwyaf o atgyfeiriadau a gawn oddi wrth gyflogwyr ac maent yn cynnwys honiadau a allai fod yn gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu euogfarn o drosedd berthnasol.

Mae gan gyflogwyr ac asiantau cyflenwi preifat ddyletswydd statudol i atgyfeirio cofrestrai i ni:

  • os caiff cofrestrai ei ddiswyddo neu os yw’n gadael cyflogaeth cyn diswyddiad posibl (er enghraifft, oherwydd ymddiswyddo neu gytundeb setlo) (cyflogwyr)
  • os yw asiantaeth yn rhoi’r gorau i ddefnyddio gwasanaethau cofrestrai neu os gallai fod wedi gwneud hynny pe na fyddai’r cofrestrai wedi rhoi’r gorau i ddarparu’r gwasanaethau hynny (asiantau)

Yn y ddau achos, dyma’r seiliau ar gyfer atgyfeirio:

  • camymddygiad; a/neu
  • anghymhwysedd proffesiynol; a/neu
  • euogfarn o drosedd berthnasol

Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth gan y canlynol:

  • gall heddluoedd wneud atgyfeiriadau’n uniongyrchol i CGA yn unol â datgeliad yr heddlu o dan gyfraith gyffredin (CLPD)
  • gall unrhyw unigolyn neu sefydliad wneud cwyn i ni am ymddygiad neu anghymhwysedd honedig cofrestrai
  • mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yn anfon gwybodaeth atom i’w hystyried am resymau proffesiynol pan fydd yn penderfynu peidio â chynnwys un o’n cofrestreion ar y Rhestr Waharddedig – Plant; ni allwn ymchwilio i’r un unigolyn sydd wedi’i wahardd y GDG
  • gallwn hunanatgyfeirio cofrestreion os down i wybod am wybodaeth y byddai ymchwilio iddi er budd y cyhoedd, yn ein barn ni
  • o dan y Cod, mae’n ofynnol i gofrestreion ddweud wrthym am unrhyw euogfarn, rhybuddiad neu gyfyngiad y maent yn destun iddynt

A ninnau’n rheoleiddiwr, nid cosbi cofrestreion pan fydd eu hymddygiad neu eu perfformiad yn codi amheuaeth am eu cofrestriad yw ein rôl, ond diogelu dysgwyr, pobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Ymchwiliadau a gwrandawiadau

Ymchwiliadau

Mae’r rhan fwyaf o atgyfeiriadau sy’n dod i law yn cael eu hystyried yn breifat gan baneli annibynnol o’r enw Pwyllgorau Ymchwilio1.

Mae ymgynghorydd cyfreithiol annibynnol yn eistedd gyda’r pwyllgor hwn i sicrhau bod yr ymchwiliad yn deg, ond nid yw’n cymryd rhan yn y penderfyniad.

Mae Pwyllgorau Ymchwilio yn penderfynu a oes gan y cofrestrai dan sylw achos i’w ateb ai peidio. Hynny yw, a yw’n debygol ai peidio y byddai pwyllgor priodoldeb i ymarfer mewn gwrandawiad yn penderfynu, i ddechrau, bod ffeithiau’r achos yn cael eu profi, yna canfod ymddygiad proffesiynol annerbyniol2, anghymhwysedd proffesiynol difrifol3, a/neu euogfarn o drosedd berthnasol4.

Mae’r prawf posibilrwydd go iawn yn golygu bod posibilrwydd gwirioneddol (yn hytrach na’r phosibilrwydd lleiaf neu dybiedig) y bydd pwyllgor, sy’n eistedd mewn gwrandawiad, yn canfod felly.

Gwrandawiadau

Cynhelir gwrandawiad pan fydd Pwyllgor Ymchwilio wedi penderfynu bod gan gofrestrai achos i’w ateb. Caiff y cofrestrai ei wahodd i fynychu a/neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad.

Rhagdybir y bydd pob gwrandawiad yn cael ei gynnal yn gyhoeddus. Fodd bynnag, gall fod rhesymau eithriadol dros gynnal y cyfan o rai gwrandawiadau, neu ran ohonynt, yn breifat.

Mae’r rhan fwyaf o’n gwrandawiadau bellach yn cael eu cynnal yn rhithwir, ond gall y cofrestrai dan sylw wneud cais am wrandawiad wyneb yn wyneb os bydd yn cadarnhau y bydd yn bresennol a/neu yn cael ei gynrychioli yn y gwrandawiad.

Mae Pwyllgorau Priodoldeb i Ymarfer yn baneli annibynnol sy’n penderfynu p’un a ddylai cofrestriad ymarferwr barhau, cael ei atal dros dro, neu a ddylid tynnu enw’r unigolyn o’r Gofrestr. Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth, gan gynnwys tystiolaeth tystion, bydd pwyllgorau’n penderfynu p’un a yw ffeithiau’r honiadau wedi cael eu profi ai peidio. Os felly, bydd yn penderfynu p’un a yw hyn gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol a/neu euogfarn o drosedd berthnasol.

Mae ymgynghorydd cyfreithiol annibynnol yn eistedd gyda’r pwyllgor hwn i sicrhau bod y gwrandawiad yn deg, ond nid yw’n cymryd rhan yn y penderfyniad.

Mae’r penderfyniadau sydd ar gael i’r pwyllgor fel a ganlyn:

  • ni phrofwyd y ffeithiau
  • profwyd y ffeithiau ond nid ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu drosedd berthnasol
  • ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu drosedd berthnasol – dim gorchymyn disgyblu
  • cerydd – caiff ei gofnodi am ddwy flynedd ar y Gofrestr
  • gorchymyn cofrestru amodol – caiff ei gofnodi ar y Gofrestr am gyfnod a bennir gan y Pwyllgor – os na phennir cyfnod, bydd y gorchymyn hwn yn berthnasol yn barhaol
  • gorchymyn atal dros dro – dileu’r unigolyn o’r Gofrestr am y cyfnod a bennir gan y Pwyllgor (heb fod yn fwy na 2 flynedd) – gellir cymhwyso amodau i orchymyn atal dros dro
  • gorchymyn gwahardd – dileu’r unigolyn o’r Gofrestr am gyfnod amhenodol – ni ellir gwneud cais am aildderbyn i’r Gofrestr hyd nes bod o leiaf 2 flynedd wedi mynd heibio

Os bydd Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer yn penderfynu bod gosod gorchymyn disgyblu yn briodol ac yn gymesur (heblaw am orchymyn atal dros dro interim), byddwn yn cyhoeddi’r penderfyniad hwnnw ar ein gwefan am gyfnod o 6 mis o’r diwrnod y caiff ei gyhoeddi.

Hefyd, sicrhawn fod cofnod yr ymarferydd ar y Gofrestr yn adlewyrchu’r penderfyniad hwn.

Mae rhestr o orchmynion disgyblu byw ar gael yn gyhoeddus ar ein gwefan.

Gorchmynion Atal Dros Dro Interim (ISO)

Os cawn wybod bod cofrestrai wedi’i gyhuddo o gamymddygiad difrifol, gallem argymell i bwyllgor eu bod yn gosod ISO ar frys. Diben hyn yw amddiffyn dysgwyr, pobl ifanc, a’r cyhoedd, er enghraifft wrth i ymchwiliad gael ei gwblhau gan yr heddlu. Gall ISO fod yn ei le am hyd at 18 mis.

Hefyd, rydym yn cynnal adolygiadau o orchmynion atal dros dro interim i sicrhau nad yw gorchymyn o’r fath yn ei le am fwy nag y bo’n angenrheidiol ac yn gymesur.

Cynhelir pob gwrandawiad o’r natur hwn yn breifat.

Crynodeb o ddata

Mae’r wybodaeth a’r data canlynol yn cynnig adroddiad lefel uchel o’n gweithgarwch disgyblu rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026. Mae hyn yn cwmpasu ymchwiliadau, gwrandawiadau a’n gwaith ISO, fel y’i disgrifir uchod.

Darperir gwybodaeth a data am flynyddoedd ariannol blaenorol i gymharu.

Sylwch:

  • ers 2015, rydym wedi bod yn gyfrifol am gofrestru a rheoleiddio 12 categori ychwanegol o gofrestreion, ar draws pum maes addysg a hyfforddiant yng Nghymru – nid yw’r grwpiau diweddaraf, o’r grwpiau penaethiaid/uwch arweinwyr addysg bellach ac ymarferwyr addysg oedolion, yn cael eu cynrychioli yn ein data ar hyn o bryd gan na fu unrhyw achosion yn ymwneud â’r ddau grŵp newydd hyn
  • mae rhai cofrestreion wedi cofrestru mewn mwy nag un categori – at ddiben yr adroddiad hwn, defnyddir sawl categori cofrestru i ddisgrifio’r rheiny
  • rydym yn adrodd ar ein gwaith ISO ar wahân i’n hymchwiliadau a’n gwrandawiadau

Nifer yr achosion yn ôl canlyniad

  2021-222022-232023-242024-252025-26
Terfynwyd heb osod gorchymyn 27 (31%) 25 (35%) 28 (38%) 27 (36%) 38(42%)
Cerydd 20 19 18 20 16
Gorchymyn cofrestru amodol 1 0 4 1 0
Gorchymyn atal dros dro (dim amodau) 4 2 2 1 8
Gorchymyn atal dros dro (gydag amodau) 2 2 1 5 2
Gorchymyn gwahardd 23 17 17 17 17
Cais i fod yn gymwys yn dilyn gorchymyn gwahardd 3 0 1 0 2
Gwaharddwyd gan y DBS cyn i CGA derfynu’r achos 6 5 3 5 6
Caewyd yr achos – bu farw’r cofrestrai 0 0 0 0 1
Cyfanswm 86 71 74 76 90

O’r 38 o achosion a derfynwyd heb osod gorchymyn, cafodd pump eu terfynu ar y cam gwrandawiad, ystyriwyd bod 11 yn rhai dim achos i’w ateb gan bwyllgor ymchwilio, ac roedd 22 yn ymwneud â mân euogfarnau/nid oeddent yn cyrraedd trothwy ymchwilio ac fe’u caewyd gan nodi dim camau pellach.

Nifer yr achosion yn ôl categori cofrestreion

Grŵp cofrestreion2021-222022-232023-242024-252025-26
Athrawon ysgol 25 21 22 22 21
Athrawon addysg bellach 11 9 6 10 5
Gweithwyr cymorth dysgu addysg bellach 3 0 6 4 3
Gweithwyr cymorth dysgu ysgol 21 21 26 29 45
Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith 9 5 10 9 7
Athrawon ysgolion annibynnol - - 0 0 0
Gweithwyr cymorth dysgu ysgolion annibynnol - - 0 0 1
Athrawon sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol - - 0 0 0
Gweithwyr cymorth dysgu sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol - - 0 0 0
Gweithwyr cymorth ieuenctid 1 0 0 0 2
Gweithwyr ieuenctid 0 0 0 1 1
Ymarferwyr addysg oedolion - - - 0 0
Penaethiaid ac uwch arweinwyr addysg bellach - - - 0 0
Sawl categori cofrestru 16 15 4 1 5
Cyfanswm 86 71 74 76 90

O’r 90 o achosion, ystyriwyd 51 o achosion mewn gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer, gan gynnwys dau gais a oedd yn gysylltiedig ag aildderbyn i’r Gofrestr yn dilyn gorchymyn atal. Gwrthodwyd y ddau gais.

Ffynhonnell atgyfeirio – achosion a ddaeth i ben

 2021-222022-232023-242024-252025-26
Cyflogwr 73.3% 85.9% 71.3% 73.7% 69.7%
Yr heddlu 10.5% 7.0% 13.8% 6.6% 13.5%
Atgyfeiriad gan CGA 3.5% 0.0% 8.8% 6.6% 4.5%
Hunanatgyfeiriad 11.6% 2.8% 6.3% 11.8% 12.4%
Arall* 1.2% 4.2% 0.0% 1.3% 0.0%

 *Mae arall yn cynnwys cwynion, atgyfeiriadau gan y GDG, ac atgyfeiriadau gan reoleiddwyr eraill

Gosod ISO

Grŵp cofrestreion2022-232023-242024-252025-26
Athrawon ysgol 1 5 9 9
Athrawon addysg bellach 0 0 2 0
Gweithwyr cymorth dysgu addysg bellach 0 0 0 2
Gweithwyr cymorth dysgu ysgol 1 4 2 8
Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith 0 0 0 2
Athrawon ysgolion annibynnol - 0 1 0
Gweithwyr cymorth dysgu ysgolion annibynnol - 0 0 0
Athrawon sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol - 0 0 0
Gweithwyr cymorth dysgu sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol - 0 0 0
Gweithwyr cymorth ieuenctid 0 0 0 0
Gweithwyr ieuenctid 0 0 0 0
Ymarferwyr addysg oedolion - - 0 0
Penaethiaid ac uwch arweinwyr addysg bellach - - 0 0
Sawl categori cofrestru 1 0 0 2
Cyfanswm 3 9 14 23

 

Data demograffig 2025-26 yn gysylltiedig â rhywedd, oedran, hunaniaeth genedlaethol ac ethnigrwydd y cofrestreion hynny sy’n destun achos disgyblu, o gymharu â demograffeg y Gofrestr

Sylwch fod achosion PiY yn golygu achosion priodoldeb i ymarfer, a  bod y gweithlu cofrestredig yn deillio o’r Gofrestr ar 31 Mawrth 2026.

 Rhywedd
 Achosion PiYGweithlu cofrestredig
Benyw 42.5% 78.5%
Gwryw 57.5% 21.4%
Heb ddatgan  0.0% 0.1%
 
Oedran
 Achosion PiYGweithlu cofrestredig
O dan 30 22.1% 21.9%
30 i 39 24.8% 23.8%
40 i 49 27.4% 24.8%
50 i 59 14.2% 21.1%
60+ 11.5% 8.4%
 
Hunaniaeth genedlaethol
 Achosion PiYGweithlu cofrestredig
Albanaidd/Gwyddel/Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon 0.0% 0.6%
Nid yw’n dymuno cofnodi hunaniaeth genedlaethol 3.5% 0.8%
Arall 3.5% 3.6%
Saes/Saesnes 4.4% 5.6%
Anhysbys 8.0% 7.8%
Prydeinig 22.1% 27.8%
Cymro/Cymraes 58.4% 53.8%
 
Grŵp ethnig
 Achosion PiYGweithlu cofrestredig
Anhysbys 8.0% 7.9%
Nid yw’n dymuno cofnodi grŵp ethnig 3.5% 1.4%
Grŵp ethnig arall 0.0% 0.6%
Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig 1.8% 1.1%
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig 0.0% 2.4%
Grwpiau ethnig cymysg/lluosog 0.9% 1.1%
Gwyn 85.8% 85.5%
 

Data demograffig 2025-26 ynghylch sgiliau Cymraeg y cofrestreion hynny sy’n destun achos disgyblu, o gymharu â demograffeg y Gofrestr

Y Gymraeg

Pan fydd ymarferwyr yn gwneud cais i ymuno â’n Cofrestr, gofynnir iddynt gadarnhau a ydynt yn gallu siarad Cymraeg ai peidio. Mae ateb cadarnhaol yn golygu eu bod yn rhugl, neu’n weddol rugl, yn yr iaith.

Hefyd, gofynnir iddynt gadarnhau a ydynt yn darparu addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, neu’n gallu gwneud hynny.

Yn y ddau achos, mae’r ymatebion wedi’u seilio ar hunanddatgan.

Siaradwyr Cymraeg
 Achosion PiYGweithlu cofrestredig
Ydy 20.4% 24.9%
Nac ydy 72.6% 69.5%
Anhysbys 7.1% 5.6%
 Gallu darparu addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg
 Achosion PiYGweithlu cofrestredig
Ydy 16.8% 20.2%
Nac ydy 76.1% 74.1%
Anhysbys 7.1% 5.7%
 

Addasrwydd i gofrestru

Mae ein gwaith addasrwydd i gofrestru yn ymwneud â’r ymarferwyr addysg hynny yng Nghymru sy’n gwneud cais i gofrestru gyda ni.

Rydym yn asesu addasrwydd pan fydd ymgeisydd yn gwneud datganiad wrth wneud cais.

Gofynnir i ddarpar gofrestreion ateb nifer o gwestiynau yn ymwneud â’u hanes blaenorol wrth wneud cais. Os yw ymgeisydd yn ateb yn gadarnhaol i unrhyw gwestiwn yn y datganiad hwn, caiff ei gais ei asesu gan y tîm priodoldeb i ymarfer.

Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am ddangos ei addasrwydd i gofrestru gyda ni.

Asesiadau addasrwydd

Cam un: Pan fyddwn o’r farn bod y datganiad a wnaed yn gymharol ddibwys ac ni fyddai’n effeithio ar addasrwydd yr ymgeisydd i gofrestru, caniatawn gofrestru.

Cam dau: Pan fydd yr ymgeisydd yn gwneud datganiad nad yw’n dod o dan gam un, gofynnwn iddynt ddarparu gwybodaeth fanylach am amgylchiadau ei ddatganiad. Dylai hyn gynnwys esboniad o’i ddatganiad, tystlythyrau, a sylwadau eraill i gefnogi ei addasrwydd i gofrestru.  Os byddwn yn fodlon ar ymateb yr ymgeisydd, caniatawn gofrestru.

Cam tri: Pan na fyddwn yn fodlon caniatáu cofrestru o dan gam un neu gam dau, byddwn yn atgyfeirio’r cais i bwyllgor addasrwydd graffu arno’n annibynnol mewn cyfarfod preifat. Gwahoddir yr ymgeisydd i’r cyfarfod.

Cyfarfod pwyllgor addasrwydd

Mae cyfarfodydd ein pwyllgor addasrwydd yn breifat/rhithwir, ac yn gyfle i’r ymgeisydd esbonio wrth banel annibynnol pam y mae o’r farn ei fod yn addas i’w gofrestru gyda ni.

Pwyllgorau addasrwydd yw ein paneli annibynnol sy’n penderfynu p’un a ddylid caniatáu mynediad i ymgeisydd i’n Cofrestr, ar sail ei ddatganiad. O dan y gweithdrefnau hyn, yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am ddarbwyllo’r pwyllgor ei fod yn addas, trwy ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth.

Os bydd pwyllgor yn penderfynu y dylid gwrthod caniatáu mynediad i’r Gofrestr, ni fydd yr ymgeisydd yn gymwys i wneud unrhyw gais pellach yn yr un categori/categorïau cofrestru am 12 mis.

Mae ymgynghorydd cyfreithiol annibynnol yn eistedd gyda’r pwyllgor hwn i sicrhau bod y cyfarfod yn deg, ond nid yw’n cymryd rhan yn y penderfyniad.

Crynodeb o ddata

Mae’r wybodaeth a’r data canlynol yn cynnig adroddiad lefel uchel o’n gweithgarwch asesu addasrwydd rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026. Mae hyn yn cwmpasu holl gamau ein proses addasrwydd i gofrestru.

Darperir gwybodaeth a data am flynyddoedd ariannol blaenorol i gymharu.

Sylwch:

  • ers 2015, rydym wedi bod yn gyfrifol am gofrestru a rheoleiddio 12 categori ychwanegol o gofrestreion, ar draws 5 sector addysg yng Nghymru – nid yw’r grwpiau diweddaraf, o’r grwpiau penaethiaid/uwch-arweinwyr addysg bellach ac ymarferwyr addysg oedolion, yn cael eu cynrychioli yn ein data ar hyn o bryd gan na wnaed unrhyw ddatganiadau gan ymgeiswyr sy’n ceisio cofrestru yn y categorïau newydd hyn
  • mae rhai cofrestreion wedi cofrestru mewn mwy nag un categori – at ddiben yr adroddiad hwn, defnyddir sawl categori cofrestru i ddisgrifio’r ymarferwyr hynny
  • gallwn ni a’r ymgeisydd dynnu ceisiadau yn eu hôl/cau ceisiadau, er enghraifft, os bydd ymgeisydd yn methu ag ymateb i’n hymholiadau am y datganiad a wnaethant, gallem roi’r gorau i’n hasesiad. Gall ymgeisydd hefyd benderfynu tynnu ei gais yn ôl unrhyw bryd yn ystod y broses asesu

Nifer yr asesiadau addasrwydd yn ôl canlyniad

Canlyniad 2021-222022-232023-242024-252025-26
Caniatawyd y cais (Cam 1/2) 149 (81.4%) 159 (85.5%) 159 (72.9%) 148 (71.2%) 176 (65.7%)
Caniatawyd y cais (Cam 3) 10 (5.5%) 4 (2.2%) 8 (3.7%) 6(2.9%) 11 (4.1%)
Gwrthodwyd y cais (Cam 3) 2 (1.1%) 4 (2.2%) 1 (0.5%) 3 (1.4%) 6 (2.2%)
Tynnwyd y cais yn ôl/caewyd y cais 22 (12.0%) 19 (10.1%) 50 (22.9%) 51 (24.5%) 75 (28.0%)
Cyfanswm 183 186 218 208 268

 

Nifer yr asesiadau addasrwydd a wnaed yn ôl categori cofrestreion

Grŵp cofrestreion 2021-222022-232023-242024-252025-26
Gweithwyr cymorth dysgu ysgol 86 96 137 117 167
Athrawon ysgol 30 24 22 25 21
Athrawon addysg bellach 20 12 9 10 18
Gweithwyr cymorth dysgu addysg bellach 6 7 8 12 7
Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith 9 13 17 7 16
Gweithwyr ieuenctid 0 1 0 3 2
Gweithwyr cymorth ieuenctid 3 0 2 1 3
Gweithwyr cymorth dysgu ysgolion annibynnol - - 3 8 14
Athrawon ysgolion annibynnol - - 1 1 2
Gweithwyr cymorth dysgu sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol - - 0 0 0
Athrawon sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol - - 0 1 0
Ymarferwyr addysg oedolion - - - 0 0
Penaethiaid ac uwch arweinwyr addysg bellach - - - 0 0
Sawl categori cofrestru 29 33 19 23 18
Cyfanswm 183 186 218 208 268

 

Math o ddatganiad 2025-26

Math o ddatganiad a wnaed Canran
Euogfarn/Rhybuddiad 46.6%
Arall 53.4%

 

Data demograffig 2025/26 yn gysylltiedig â rhywedd, oedran, hunaniaeth genedlaethol ac ethnigrwydd yr ymgeiswyr hynny sydd wedi gwneud datganiadau wrth wneud cais i gofrestru gyda CGA, o gymharu â demograffeg y Gofrestr

Sylwch mai ystyr ymgeisydd yw cais a wnaed gyda datganiad, a bod y gweithlu cofrestredig yn deillio o’r Gofrestr ar 31 Mawrth 2026.

Rhywedd
 YmgeisyddGweithlu cofrestredig
Benyw 60.8% 78.5%
Gwryw 39.2% 21.4%
Heb ddatgan  0.0% 0.1%
 
Oedran
 YmgeisyddGweithlu cofrestredig
O dan 30 27.5% 21.9%
30 i 39 28.7% 23.8%
40 i 49 19.0% 24.8%
50 i 59 16.0% 21.1%
60+ 9.0% 8.4%
 
Hunaniaeth genedlaethol
  YmgeisyddGweithlu cofrestredig
Albanaidd/Gwyddel/Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon 0.4% 0.6%
Nid yw’n dymuno cofnodi hunaniaeth genedlaethol 0.4% 0.8%
Arall 2.2% 3.6%
Saes/Saesnes 7.8% 5.6%
Anhysbys 0.0% 7.8%
Prydeinig 34.7% 27.8%
Cymro/Cymraes 54.5% 53.8%
 
Grŵp ethnig
 YmgeisyddGweithlu cofrestredig
Anhysbys 0.0% 7.9%
Nid yw’n dymuno cofnodi grŵp ethnig 0.7% 1.4%
Grŵp ethnig arall 0.7% 0.6%
Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig 3.0% 1.1%
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig 0.4% 2.4%
Grwpiau ethnig cymysg/lluosog 1.9% 1.1%
Gwyn 93.3% 85.5%

 

Apeliadau sefydlu

Ni yw’r corff apeliadau ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) yng Nghymru: 

  • sy’n methu eu cyfnod sefydlu statudol
  • y mae eu cyfnod sefydlu statudol yn cael ei ymestyn
  • sy’n dymuno apelio yn erbyn y penderfyniadau hynny, fel y’u gwnaed gan yr awdurdod lleol sy’n gysylltiedig

Gall ANG wneud cais am estyniad pellach i’w cyfnod sefydlu yn rhan o’u hapêl.

Rhaid cyflwyno unrhyw apêl yn ysgrifenedig o fewn 20 diwrnod gwaith o benderfyniad yr awdurdod lleol.

Gwrandawiadau

Byddwn yn trefnu gwrandawiad llafar os bydd yr ANG sy’n cyflwyno apêl yn gwneud cais am hynny. Gall yr ANG fynychu a/neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, fel y gall cynrychiolwyr ar ran yr awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad.

Rhagdybir y bydd pob gwrandawiad yn cael ei gynnal yn gyhoeddus. Fodd bynnag, gall fod rhesymau eithriadol dros gynnal y cyfan o rai gwrandawiadau, neu ran ohonynt, yn breifat.

Fel yr esboniwyd uchod, mae’r rhan fwyaf o’n gwrandawiadau bellach yn cael eu cynnal yn rhithwir. Fodd bynnag, gall yr ANG sy’n cyflwyno apêl wneud cais am wrandawiad wyneb yn wyneb os bydd yn cadarnhau y bydd yn bresennol a/neu yn cael ei gynrychioli yn y gwrandawiad.

Pwyllgorau apeliadau sefydlu yw ein paneli annibynnol sy’n penderfynu p’un a ddylid caniatáu neu wrthod apêl yr ANG. Er mwyn dod i’r penderfyniad hwnnw, rhaid i’r pwyllgor sefydlu yn gyntaf, ar ôl clywed yr holl dystiolaeth gan y naill barti a’r llall:

  • p’un a wnaeth yr ANG sy’n apelio fethu â bodloni’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
  • p’un a oedd yr ANG sy’n apelio yn destun unrhyw ddiffyg yn y broses sefydlu a oedd cyn bwysiced fel y byddai wedi rhoi’r ANG o dan anfantais ddifrifol wrth fodloni’r safonau hyn
  • p’un a oes unrhyw amgylchiadau arbennig eraill sy’n cyfiawnhau caniatáu’r apêl neu ymestyn y cyfnod sefydlu

Mae ymgynghorydd cyfreithiol annibynnol yn eistedd gyda’r pwyllgor hwn i sicrhau bod y gwrandawiad yn deg, ond nid yw’n cymryd rhan yn y penderfyniad.

Crynodeb o ddata

Yn 2025-26, ni chawsom unrhyw apeliadau sefydlu ac ni chafodd unrhyw apeliadau sefydlu eu terfynu gennym.

Y flwyddyn reoleiddio i ddod

Yn ystod 2026-27, byddwn yn:

  • recriwtio aelodau panel ychwanegol er mwyn cynnal cyflenwad sy’n caniatáu ar gyfer gweinyddu ein gwaith achos yn effeithiol
  • parhau i ddatblygu tegwch ac effeithlonrwydd ein swyddogaeth reoleiddio trwy adolygu ein rheolau disgyblu a chofrestru – gall y naill a’r llall fod yn destun rhyw fath o ymgynghoriad
  • parhau i weithio ar ddatblygu ystod o ddeunyddiau ac adnoddau ar-lein, gan gynnwys nifer o fideos gwybodaeth sy’n hysbysu’r cyhoedd am ein gwaith yn y maes hwn ac i gynorthwyo a chefnogi’r holl bartïon sy’n ymwneud â gwaith achos priodoldeb i ymarfer
  • parhau i gyflwyno hyfforddiant i ystod o wahanol gynulleidfaoedd – cofrestreion presennol a darpar gofrestreion, cyflogwyr, asiantau a rhanddeiliaid allweddol eraill am y Cod

 

[1] Gallwn gau achosion heb ymchwilio. Er enghraifft mân droseddau, ac ymddygiad na ellir ystyried ei fod yn gyfystyr â honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a/neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol.

[2] Ymddygiad sy’n brin o’r safon y disgwylir i gofrestrai ei arddangos.

[3] Lefel gymhwysedd sydd ymhell islaw’r safon y disgwylir i gofrestrai ei arddangos, gan gyfrif am yr holl amgylchiadau perthnasol.

[4] Trosedd sy’n berthnasol i briodoldeb unigolyn i fod yn gofrestrai.