CGA / EWC

About us banner
Aled Roberts - Miliwn o siaradwyr Cymraeg: rôl y sector addysg
Aled Roberts - Miliwn o siaradwyr Cymraeg: rôl y sector addysg

Aled Roberts - Miliwn o siaradwyr Cymraeg: rôl y sector addysg

Aled Roberts portrait wrth y ddesg June 2020Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod dau darged uchelgeisiol erbyn 2050, sef i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac i ddyblu canran y boblogaeth sy’n defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol. Mae Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd y sector addysg er mwyn cyflawni’r amcanion hyn. I raddau helaeth mae’r taflwybr i’r miliwn o siaradwyr yn seiliedig ar gynyddu’r nifer o unigolion sy’n gadael yr ysgol yn meddu ar y sgiliau a’r hyder i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau. Mae hefyd yn hollbwysig fod y sector addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn cynnal sgiliau Cymraeg dysgwyr ac yn diwallu’r galw cynyddol am weithlu dwyieithog a thrwy hynny yn meithrin cysylltiad rhwng y byd addysg, gwaith a defnyddio’r Gymraeg. 

Un rhan bwysig o strategaeth addysg y Llywodraeth yw ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn sylweddol. Ar hyn o bryd, mae tua 22% o blant oedran cynradd yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg, a’r nod yw cynyddu’r ganran hon i 40% erbyn 2050. Mae twf addysg cyfrwng Cymraeg wedi arafu dros y ddegawd ddiwethaf, ac mae’n amlwg bod angen gwneud mwy er mwyn diwallu’r galw cynyddol sy’n bodoli am addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Bydd Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn addysg pob awdurdod lleol yn gyfrwng i gynllunio’n lleol i gynyddu addysg Gymraeg yn unol â thargedau Cymraeg 2050.  

Er bod ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o strategaeth iaith Gymraeg y Llywodraeth, mae’n amlwg bod angen i’r sector addysg yn ei gyfanrwydd gyfrannu at y nod o greu mwy o siaradwyr Cymraeg. Mae strategaeth addysg y Llywodraeth ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr hefyd yn canolbwyntio ar ddiwygio’r ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae’r Llywodraeth wedi gosod targed y bydd 50% o ddysgwyr sy’n gadael y sector addysg statudol cyfrwng Saesneg yn 2050 yn nodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn golygu trawsnewid y sefyllfa bresennol yn llwyr gan  mai ychydig iawn o ddisgyblion y sector cyfrwng Saesneg sy’n datblygu sgiliau a hyder digonol i ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i giatiau’r ysgol ar hyn o bryd. Yn ôl y Llywodraeth, y cwricwlwm newydd i Gymru fydd y prif sbardun ar gyfer y diwygiadau pellgyrhaeddol hyn, er enghraifft drwy ddisodli’r cwricwlwm ‘Cymraeg ail-iaith’ presennol gydag un continwwm ar gyfer dysgu’r Gymraeg ar draws holl ysgolion Cymru. Er ei bod yn annelwig beth yn union yw goblygiadau hyn i ysgolion yng Nghymru, ymddengys mai’r weledigaeth drwy gyflwyno continwwm iaith yw y bydd ysgolion yn gallu cynyddu’n raddol y cyfleoedd fydd gan ddisgyblion i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i ddefnyddio’r iaith yn yr ysgol. Y gobaith yw y bydd proses ddiwygio cynyddol o’r fath yn galluogi dysgwyr i symud ymhellach ac yn gyflymach ar hyd y continwwm iaith, ac felly y bydd yn cynyddu’n sylweddol gyfraniad ysgolion cyfrwng Saesneg i’r nod o greu rhagor o siaradwyr Cymraeg.

Fel canlyniad i weithredu’r strategaethau uchod, mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd 70% o holl ddysgwyr yn gadael addysg statudol yn 2050 yn siaradwyr Cymraeg. Mae’n bwysig pwysleisio y bydd cyflawni’r weledigaeth hon yn golygu newid sylfaenol yn y ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu a’i defnyddio mewn ysgolion ar draws Cymru. Bydd ysgolion yn 2050 yn edrych yn dra gwahanol i’r hyn sy’n bodoli ar hyn o bryd. Er bod diwygiad radical yn ymhlyg yn nhargedau  a strategaeth iaith Gymraeg y Llywodraeth, nid yw’n amlwg fod y weledigaeth hon wedi cael ei chyfathrebu’n effeithiol a chlir i’r sector addysg yng Nghymru.

Mae hyn yn arwyddocaol, oherwydd bydd gweithredu’r diwygiadau hyn â goblygiadau pellgyrhaeddol i athrawon, cymorthyddion ac arweinwyr addysg yng Nghymru. Os yw disgyblion am symud yn raddol ar hyd continwwm iaith, yna mae’r un peth yn wir ar gyfer ysgolion a’r gweithlu. Mae dau o gonglfeini strategaeth iaith y Llywodraeth yn amodol ar sicrhau bod gan ddigon o athrawon a chymorthyddion y sgiliau a’r arbenigedd ieithyddol yn y lle cyntaf. Mae hyn yn dasg sylweddol. Nid yn unig mae angen sicrhau digon o athrawon er mwyn galluogi twf addysg cyfrwng Gymraeg, ond mae hefyd angen gwella sgiliau Cymraeg y gweithlu presennol ar draws y sector addysg statudol. Mae’n debyg y bydd hyn yn golygu y bydd angen ailfeddwl rôl Addysg Gychwynnol Athrawon fel ei fod yn datblygu gweithlu addysgol gynyddol ddwyieithog, yn ogystal ag ystyried sut gall fframwaith datblygu proffesiynol ddatblygu sgiliau a gallu'r gweithlu presennol. Fel sy’n wir mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd, athrawon a chymorthyddion fydd yn y pendraw yn gyfrifol am gyflawni’r rhan helaethaf o weledigaeth Cymraeg 2050. Dyma pwy fydd yn gorfod gwneud y gwaith o wireddu cynnwys dogfennau polisi a strategaethau a’u trosglwyddo yn ddiwygiadau pedagogaidd fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y dysgwyr. Mae’n rhesymol felly fod athrawon a chymorthyddion yn cael y gefnogaeth a’r adnoddau y mae arnynt eu hangen er mwyn eu galluogi i wneud hyn yn effeithiol. 

Mae’r heriau sy’n wynebu’r sector addysg statudol hefyd yn wynebu’r sector addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Yn wir, gellid dadlau nad yw’r sectorau hyn hyd yma wedi derbyn yr un buddsoddiad a phwyslais strategol o ran darpariaeth dwyieithog o gymharu ag addysg statudol ac addysg uwch. Mae gwaith sylweddol i’w wneud yn y sectorau hyn. Yn ddiweddar mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi Cynllun gweithredu addysg bellach a phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg. Mae’r cynllun gweithredu hwn yn feiddgar ac yn gofyn am newidiadau pellgyrhaeddol i’r sector yn y dyfodol. Rhan allweddol o’r cynllun yw datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu, a chynyddu capasiti sefydliadau addysg ôl-16 a dysgu seiliedig ar waith i gynnig mwy o ddarpariaeth ddwyieithog. Fel sy’n wir yn y sector addysg statudol, bydd sicrhau gweithlu addysg dwyieithog yn dod yn gynyddol allweddol i’r sector addysg ôl-orfodol dros y degawdau nesaf.

Mae’n gyfnod o newid sylweddol i’r sector addysg yng Nghymru, ac mae’r proffesiwn addysgu yn gwbl ganolog i’r broses hon. Tra bo rhywfaint o ansicrwydd yn rhan annatod o broses ddiwygio o’r fath, mae’n destun pryder nad yw’r sector addysg yn ei gyfanrwydd yn ymddangos yn llwyr ymwybodol o oblygiadau Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i’r gweithlu. Mae angen amlygu’r cyfleoedd cynhyrfus sy’n bodoli i ddatblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu ac addysgeg ddwyieithog er mwyn cyfrannu at weledigaeth Strategaeth 2050. Dyma pam ei bod yn hollbwysig fod y Llywodraeth yn egluro’n glir ac yn effeithiol  ei gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn y byd addysg, a goblygiadau hyn i’r gweithlu addysg. Rhan bwysig o hyn yw amlygu a thrafod pwrpas strategaethau a pholisïau o’r fath o’r cychwyn cyntaf. Yn achos Cymraeg 2050, mae’n ymwneud â’r dyhead i sicrhau hyfywedd iaith sy’n chwarae rhan allweddol yn yr hyn sy’n ein diffinio fel pobl ac fel gwlad, ac i sicrhau bod gan pob unigolyn yng Nghymru y cyfle i dderbyn manteision addysgol, cymdeithasol a phersonol dwyieithrwydd. Hyderaf fod hon yn weledigaeth y dylai pawb sy’n addysgu yng Nghymru ei rhannu.

 

Aled Roberts

Cychwynnodd Aled Roberts ar ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg yn 2019.