Dewiswch eich iaith
Mae Siarad yn Broffesiynol yn ôl yr hydref yma yn ei slot newydd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Byddwn yn croesawu Rocio Cifuentes MBE, Comisiynydd Plant Cymru i siarad am beth sydd angen i addysgwyr wybod am roi hawliau plant ar waith.
Rydym wedi lansio'r nesaf yn ein cyfres o astudiaethau achos yn amlygu'r heriau a'r peryglon cyffredin sy'n gallu arwain at wrandawiad priodoldeb i ymarfer (PiY). Mae pob un yn seiliedig ar esiamplau go-iawn, a'r bwriad yw cynnig pwyntiau dysgu gwerthfawr.
Ydych chi wedi darllen ein canllaw i gefnogi rhieni/gwarcheidwaid? Mae'r canllaw yn esbonio sut ry'n ni, trwy reoleiddio, yn sicrhau eich bod chi a'ch plentyn yn cael y safonau uchaf o ymddygiad ac ymarfer proffesiynol gan ein cofrestreion.