Lawrlwytho'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2026.
Gosodir y ddogfen hon gerbron y Senedd ar y cyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, yn unol ag Atodlen 1 Deddf Addysg (Cymru) 2014.
Adroddiad ar berfformiad
Rhagair gan y Cadeirydd
A minnau’n Gadeirydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mae’n bleser gennyf fyfyrio ar flwyddyn lwyddiannus arall fel y rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Drwy gydol 2025-26, mae CGA wedi parhau i ymgymryd â’i swyddogaethau statudol, gan weithredu er budd y cyhoedd i gynnal a safonau uchel, cefnogi’r proffesiwn, a gwella canlyniadau i ddysgwyr a phobl ifanc.
Mae ein hymrwymiad parhaus i ddiogelu wrth wraidd ein gwaith o hyd. Trwy reoleiddio teg, tryloyw, a chadarn, rydym yn gweithio i gynnal hyder y cyhoedd ym mhroffesiynoldeb ac unplygrwydd y rhai yr ymddiriedir addysg a llesiant y genhedlaeth nesaf iddynt.
Roeddwn i, fel llawer ar draws y sector addysg, yn siomedig iawn wrth ddarllen adroddiad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, sef Cyfiawnder trwy ein Dewrder, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2025. Mae ei ganfyddiadau’n pwysleisio’r angen am ddull amlasiantaethol cryfach o ddiogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc. Mae diogelu’n gyfrifoldeb a rennir. Mae gwaith partneriaeth cryf yn hanfodol i gyflawni canlyniadau gwell trwy sicrhau bod risgiau’n cael eu hamlygu’n gynharach, a bod camau priodol yn cael eu cymryd. Mae CGA yn parhau i gydweithio â sefydliadau ledled Cymru sy’n rhannu’r ymrwymiad hwn ac yn barod i gydweithio i gryfhau systemau presennol ymhellach, egluro cyfrifoldebau, a mynd i’r afael â bylchau sy’n weddill mewn polisi, rheoleiddio, ac ymarfer.
Ynghyd â’n pwyslais ar ddiogelu, rydym hefyd wedi parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i gefnogi blaenoriaethau cenedlaethol allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu cynlluniau i ddiwygio addysg gychwynnol athrawon ar gyfer athrawon addysg bellach, gweithio tuag at greu’r corff cenedlaethol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid, a chyfrannu ein data a’n gwybodaeth unigryw i lywio Cynllun Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gweithlu Addysg, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2026. Wrth wneud hynny, rydym wedi cyfrannu gwybodaeth, data, mewnwelediadau, ac arbenigedd i arwain penderfyniadau ar sail tystiolaeth, gan helpu i sicrhau bod lleisiau ein cofrestreion yn cael eu clywed yn glir, a chwarae rôl annatod wrth ffurfio dyfodol addysg yng Nghymru.
Bu fy rhagflaenydd, sef Eithne Hughes, a wasanaethodd fel Cadeirydd y Cyngor o fis Mai 2023 i fis Tachwedd 2025, yn allweddol wrth arwain y sefydliad yn ystod y cyfnod hwn. Helpodd ei harweinyddiaeth i atgyfnerthu’r diwylliant hunanreoleiddio proffesiynol sy’n sail i waith CGA a chynorthwyo’r sefydliad i addasu ac ymateb i anghenion esblygol y gweithlu addysg a dysgwyr a phobl ifanc Cymru. Ar ran y Cyngor, hoffwn ddiolch i Eithne am ei gwasanaeth a’i hymroddiad diysgog.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi, ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid, am eich arbenigedd a’ch ymroddiad. Mae hyn yn allweddol i godi safonau ar draws y system addysg, ac rydym yn falch o gefnogi’ch gwaith pwysig.
Geraint Williams
Cadeirydd, CGA
Rhagair gan y Prif Weithredwr
Yn ystod 2025-26, mae CGA wedi parhau i ganolbwyntio ar reoleiddio trwyadl, teg, ac annibynnol, gan sicrhau’r safonau uchaf wrth gyflawni ein cyfrifoldebau statudol. Wrth wneud hynny, rydym wedi parhau i flaenoriaethu amddiffyn dysgwyr a phobl ifanc, a chynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiwn.
Daeth difrifoldeb y cyfrifoldebau hyn i’r amlwg yn sgil yr achos proffil uchel yn Ysgol Friars a’r Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig dilynol. Rhannwn y pryderon difrifol a fynegwyd gan randdeiliaid ac aelodau’r cyhoedd ynglŷn â’r methiannau llywodraethu ac atebolrwydd a amlygwyd. Wrth ymateb, gwnaethom fyfyrio’n ofalus ar y canfyddiadau i ystyried pa gamau pellach allai gryfhau ein dull rheoleiddio, gwella cydweithio â sefydliadau partner, ac atgyfnerthu ymddiriedaeth y cyhoedd. Rydym wedi cymryd camau ers hynny i wella ymgysylltiad â chyflogwyr, partneriaid statudol, yr heddlu, rheoleiddwyr, a chyrff diogelu er mwyn gwella arferion rhannu gwybodaeth, cynyddu ymwybyddiaeth o ddyletswyddau cyfreithiol, a chefnogi adnabod risg yn gynharach.
Mae’r ymrwymiad hwnnw i reoleiddio cadarn a thryloyw yn sail i’n holl waith. Drwy gydol y flwyddyn, roedd ein gwaith wedi’i wreiddio o hyd mewn cyflawni ein swyddogaethau craidd yn ddibynadwy ac i safon uchel. Proseswyd dros 18,000 o geisiadau cofrestru newydd a chynhaliwyd Cofrestr gyhoeddus o fwy na 91,000 o ymarferwyr addysg. Cwblhawyd 358 o achosion disgyblu ac addasrwydd i gofrestru, gan gymryd camau pendant i amddiffyn dysgwyr a phobl ifanc. Gwnaethom hefyd gyflwyno Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig, a chynorthwyo cofrestreion a chyflogwyr i ddeall ac ymgorffori’r disgwyliadau wedi’u diweddaru trwy hyfforddiant, arweiniad, ac adnoddau newydd.
Gwnaethom hefyd barhau i sicrhau ansawdd rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon sy’n paratoi athrawon newydd i ymuno â’r proffesiwn yng Nghymru, gan wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd safonau llym trwy ein prosesau achredu. Roedd hyn yn cynnwys goruchwylio rhaglenni presennol i gadarnhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â’r meini prawf gofynnol. Yn yr un modd, trwy gyflawni’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, gwnaethom gynorthwyo sefydliadau i ddangos a chryfhau ansawdd eu darpariaeth ar draws y sector gwaith ieuenctid.
Ochr yn ochr â’n gwaith rheoleiddiol, cynhaliwyd ein pwyslais ar gefnogi proffesiynoldeb a dysgu ar draws y gweithlu addysg, gan gynnwys trwy gyflwyno rhaglen eang o ddigwyddiadau, gweminarau, ac adnoddau a gynlluniwyd i helpu cofrestreion i gynnal y Cod. Parhaodd ein gwaith i hyrwyddo gyrfaoedd trwy Addysgwyr Cymru i ehangu hefyd, gan gefnogi ymdrechion i fynd i’r afael â her proffil uchel recriwtio a chadw’r gweithlu.
Roedd ein gwaith polisi yn rhychwantu ystod eang o faterion allweddol, gan weithio’n agos gyda chofrestreion a rhanddeiliaid, rhannu mewnwelediadau am y gweithlu, ymateb i ymgynghoriadau, a chymryd rhan mewn grwpiau llywio niferus (a rhoi arweiniad iddynt). Eleni, roedd ein gwaith polisi wedi canolbwyntio’n arbennig ar gynllunio’r gweithlu, recriwtio, a chadw ar draws y proffesiynau addysg, a sicrhau bod rheoleiddio’n amddiffyn y cyhoedd ac yn cryfhau’r proffesiwn.
Rydym hefyd wedi parhau i weithio’n agos gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ar drefniadau cyllido yn y dyfodol ar gyfer ffioedd cofrestru, a’r fframwaith deddfwriaethol ehangach sy’n sail i’n rôl.
Hoffwn ddiolch i’n staff, aelodau’r Cyngor, aelodau paneli, a chofrestreion. Mae eu proffesiynoldeb, eu hymroddiad, a’u hymrwymiad ar y cyd i godi safonau ledled Cymru wrth wraidd popeth a gyflawnwn.
Ac yn olaf, yn dilyn ei ymddeoliad ym mis Awst 2025, ar ôl 25 mlynedd o wasanaeth ymroddedig, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’n cyn Brif Weithredwr, sef Hayden Llewellyn. Helpodd ei arweinyddiaeth, wedi’i seilio ar bwyslais clir ar ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, ac ymrwymiad cryf i gefnogi’r gweithlu addysg, i ffurfio CGA fel y sefydliad uchel ei barch sy’n gyfarwydd i ni heddiw.
Lisa Winstone
Prif Weithredwr, CGA
Trosolwg
Mae’r adran hon yn amlygu rhai o’n gweithgareddau a’n cyflawniadau allweddol yn 2025-26.
Rheoleiddio’n effeithiol
- Derbyn a phrosesu dros 18,000 o geisiadau newydd ar gyfer cofrestru.
- Cynnal Cofrestr o 91,357 o ymarferwyr addysg sy’n addas i ymarfer yng Nghymru.
- Cwblhau 358 o achosion priodoldeb i ymarfer, ac addasrwydd i gofrestru.
- Gosod 23 Gorchymyn Atal Dros Dro Interim ac adolygu 29 Gorchymyn Atal Dros Dro Interim.
- Ailachredu tair rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) a monitro saith rhaglen.
- Cwblhau 11 asesiad Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Cefnogi proffesiynoldeb a dysgu
- Cyhoeddi 1,066 o ddyfarniadau statws athro cymwysedig (SAC) a phrosesu 162 o geisiadau am gydnabyddiaeth SAC o’r tu allan i Gymru.
- Cyhoeddi 1,256 o ddyfarniadau sefydlu.
- Cyflwyno 243 o sesiynau cymorth a chyflwyniadau i gofrestreion a rhanddeiliaid.
- Cefnogi 3,544 o athrawon newydd gymhwyso (ANG) a mentoriaid yn rhan o sefydlu statudol, gan gyflwyno 49 o sesiynau cymorth sefydlu.
- Cynorthwyo cofrestreion i ddatblygu eu Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), gyda bron 27,500 o ddefnyddwyr gweithredol.
Hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg
- Denu 656,432 o ymweliadau â gwefan Addysgwyr Cymru.
- Hysbysebu 6,455 o swyddi ar Addysgwyr Cymru.
- Mynychu 219 o ddigwyddiadau fel Addysgwyr Cymru ac ymgysylltu â 15,199 o unigolion.
Llywio, ffurfio, a dylanwadu ar bolisi addysgol
- Defnyddio ein data unigryw wrth ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, gwleidyddion, a rhanddeiliaid eraill.
- Ymateb i 24 o ymgynghoriadau/galwadau am dystiolaeth.
- Cyfrannu at fwy na 40 o grwpiau llywio cenedlaethol.
- Darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth annibynnol i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC).
Datblygu sefydliad effeithlon, cydnerth, a chynaliadwy
- Cyflawni barn archwilio ddiamod ar gyfer Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024-25.
- Cyflawni sgôr sicrwydd sylweddol ar draws pob un o’r pum maes allweddol a archwiliwyd yn fewnol.
- Diweddaru ein seilwaith seiberddiogelwch ac adnewyddu ardystiad Cyber Essentials fel sicrwydd.
- Penodi dau aelod newydd o’r uwch dîm rheoli: Prif Weithredwr ym mis Hydref 2025, a Chyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ym mis Chwefror 2026.
- Cynnal adolygiad cynhwysfawr o’n prosesau recriwtio a’n hachrediadau gweithle.
Amdanom ni
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Fe’n sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (y Ddeddf), ac rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn 13 o wahanol gategorïau cofrestru sy’n rhychwantu ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, addysg oedolion, a dysgu seiliedig ar waith. Ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg (y Gofrestr) yw’r gofrestr gyhoeddus fwyaf o unrhyw broffesiwn yng Nghymru, a’r gofrestr fwyaf pellgyrhaeddol o weithwyr addysg proffesiynol yn y byd, gyda dros 91,000 o ymarferwyr wedi’u cofrestru.
Gweledigaeth
I fod yn rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol, dibynadwy sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru.
Rôl a chylch gwaith
Yn ogystal ag amlinellu ein rôl yn ffurfiol, mae’r Ddeddf hefyd yn manylu ar ein rhwymedigaethau i’n cofrestreion, dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd, ac yn diffinio ein nodau a’n swyddogaethau.
Ein nodau
- Cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru.
- Cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon, ac eraill sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.
- Diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd, a chynnal hyder a ffydd y cyhoedd yn y gweithlu addysg.
Ein swyddogaethau
- Sefydlu a chynnal Cofrestr Ymarferwyr Addysg.
- Cynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
- Ymchwilio i honiadau a allai godi amheuon ynghylch priodoldeb ymarferydd cofrestredig i ymarfer, a’u clywed.
- Achredu a monitro rhaglenni AGA athrawon ysgol.
- Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ac eraill.
- Monitro’r broses sefydlu a chlywed apeliadau sefydlu.
- Hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg.
- Ymgymryd â gwaith penodol a ariennir gan grant, ar gais Llywodraeth Cymru, mewn meysydd sy’n berthnasol i’n cylch gwaith ac sy’n cyd-fynd â’n hymrwymiad i wella safonau a chanlyniadau addysgol.
Ein gwerthoedd
Tegwch
Rydym yn gweithredu’n deg a chydag unplygrwydd i gynnal safonau a hyrwyddo proffesiynoldeb.
Cymorth
Rydym yn grymuso’r gweithlu addysg i gynnal safonau ymddygiad ac ymarfer uchel, gan weithredu fel unigolion hunanreoleiddiol sy’n cynnal unplygrwydd eu proffesiwn.
Rhagoriaeth
Rydym yn ymdrechu i gyflawni rhagoriaeth ac yn ceisio darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gofrestreion, rhanddeiliaid, dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd.
Cydweithredu
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r gweithlu addysg a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu a hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu.
Annibyniaeth
Rydym yn annibynnol, ac yn rheoleiddio mewn ffordd sy’n ddiduedd ac wedi’i seilio ar dystiolaeth.
Ein pobl
Mae gan ein Cyngor 14 o aelodau sy’n gosod cyfeiriad strategol y sefydliad ac sy’n gyfrifol am ei lywodraethu. Caiff pob aelod ei benodi am gyfnod o bedair blynedd. Penodir saith aelod yn uniongyrchol trwy system penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru, a phenodir saith aelod arall yn sgil cael eu henwebu gan amrywiaeth o randdeiliaid. Ar 31 Mawrth 2026, roedd tair swydd wag ar y Cyngor; un yn sgil ymddiswyddiad aelod yn ystod y flwyddyn a dwy swydd a oedd yn wag o hyd yn sgil ymddiswyddiadau a dderbyniwyd yn 2024-25. Gwnaethom gynorthwyo Llywodraeth Cymru i symud y broses penodiadau cyhoeddus ymlaen gyda’r bwriad o lenwi’r swyddi gwag hyn yn ystod 2025-26.
Rydym yn cyflogi 60 aelod o staff ar hyn o bryd, y mae eu proffesiynoldeb a’u harbenigedd yn sail i’n gallu i gyflawni ein swyddogaethau statudol. Mae ein timau’n sicrhau ein bod yn gweithredu’n effeithlon ac yn gallu darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i gofrestreion a rhanddeiliaid.
Rydym hefyd yn cynnal ac yn cefnogi:
- cronfa o 57 o aelodau panel priodoldeb i ymarfer
- Bwrdd Achredu AGA sy’n cynnwys 14 o aelodau
- cronfa o 54 o aseswyr y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Cynaliadwyedd ariannol
A ninnau’n rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol a ariennir gan ffioedd cofrestru, rydym wedi ymrwymo’n gryf i beidio â gwario mwy na’n hincwm a sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau’n effeithlon. Rydym yn ceisio cadw ein ffioedd cofrestru mor isel â phosibl, ond gan ddarparu gwasanaeth o safon uchel ar yr un pryd wrth gyflawni ein dyletswyddau statudol. Fel rheoleiddwyr eraill, rydym yn cynnal cronfeydd ariannol wrth gefn priodol er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a diogelu ein gwasanaethau rhag risgiau a allai godi o ddigwyddiadau annisgwyl.
Rydym yn derbyn cymorth grant gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i ymgymryd â’n cyfrifoldebau statudol. Rydym hefyd yn arwain gweithgareddau ar ran Llywodraeth Cymru yn rheolaidd, lle’r ystyrir mai CGA yw’r corff mwyaf priodol i wneud gwaith o’r fath yng Nghymru. Mewn amgylchiadau o’r fath, Llywodraeth Cymru fydd yn talu ein costau trwy gyllid grant ar gyfer prosiectau. Gallwn ymgymryd â gweithgareddau masnachol hefyd, ac rydym yn gwneud hynny pan fyddwn yn credu ei fod er budd cofrestreion a’r sector addysg yng Nghymru.
Archwilir ein Hadroddiad Blynyddol a’n Cyfrifon gan Archwilio Cymru bob blwyddyn ac, wedi hynny, fe’u gosodir gerbron y Senedd.
Strwythurau ein Cyngor a’n pwyllgorau
Y Cyngor
- Mae’n gosod ein gweledigaeth a’n cyfeiriad strategol.
- Mae’n craffu ar berfformiad.
- Mae’n dal y Prif Weithredwr i gyfrif.
Pwyllgor Gweithredol
Mae’n goruchwylio:
- datblygiad cynlluniau strategol a gweithredol
- cynnydd yn erbyn amcanion gweithredol a strategol trwy adolygu adroddiadau chwarterol, a’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
- cynlluniau statudol
Pwyllgor Cofrestru a Rheoleiddio
Mae’n goruchwylio:
- y broses gofrestru a chynnal y Gofrestr
- y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol a phriodoldeb i ymarfer
- achredu rhaglenni AGA
- mentrau i sicrhau ansawdd a gwella safonau addysgu a dysgu
Pwyllgor Archwilio a Chraffu
Mae’n goruchwylio:
- gweithdrefnau gweinyddol a chyllid
- prosesau rheoli risg
- seiberddiogelwch, diogelu data, a rhyddid gwybodaeth
- gweithgarwch a gyflawnir gan archwilio mewnol ac allanol
- adroddiadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
Uwch dîm rheoli
Mae’r uwch dîm rheoli’n gyfrifol am ein gweithrediadau a’n rheolaeth. Mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am ein harweinyddiaeth, yn unol â’r cyfeiriad strategol a osodwyd gan y Cyngor, ac mae’n goruchwylio’r uwch dîm rheoli.
Prif Weithredwr – Lisa Winstone (yn barhaol ers 20 Hydref 2025, a Phrif Weithredwr Dros Dro o 14 Gorffennaf 2025 i 19 Hydref 2025), Hayden Llewellyn (tan 11 Awst 2025).
Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Dirprwy Brif Weithredwr – David Browne (Dirprwy Brif Weithredwr Dros Dro o 14 Gorffennaf 2025 i 19 Hydref 2025).
Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi – Bethan Holliday-Stacey.
Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol – Christine Hellings (o 2 Chwefror 2026), Kerry Price (secondiad o 1 Awst 2025 i 4 Chwefror 2026), Lisa Winstone (tan 14 Gorffennaf 2025).
Amcanion strategol 2025-26
Amcan 1
Bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol effeithiol, sy’n gweithio er budd y cyhoedd a meithrin hyder yn y gweithlu addysg.
1.1 Cynnal Cofrestr Ymarferwyr Addysg sy’n gywir ac yn hygyrch.
1.2 Gweithredu gweithdrefnau rheoleiddiol cadarn, teg, a thryloyw sy’n sicrhau mai’r rhai yr ystyrir eu bod yn addas i ymarfer yn unig sy’n cael gwneud hynny.
1.3 Ffurfio ymarfer cofrestreion trwy hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad, proffesiynoldeb ac unplygrwydd uchel.
1.4 Achredu a sicrhau ansawdd rhaglenni a darpariaeth addysg yng Nghymru.
1.5 Sicrhau bod gwaith CGA a gwerth rheoleiddio proffesiynol yn amlwg i gofrestreion, rhanddeiliaid, a’r cyhoedd trwy gyfathrebu ystyrlon.
Amcan 2
Cefnogi proffesiynoldeb a dysgu, a hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg.
2.1 Darparu casgliad o ganllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol sy’n canolbwyntio ar gynorthwyo ein cofrestreion i gynnal egwyddorion allweddol y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
2.2 Hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg yng Nghymru.
2.3 Arwain a chefnogi mentrau i hyrwyddo ac annog dysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer cofrestreion.
2.4 Arwain a chefnogi mentrau i hyrwyddo ymchwil addysg a lledaenu arfer gorau er mwyn helpu i lywio polisi a chodi safonau.
Amcan 3
Llywio, ffurfio, a dylanwadu ar bolisi addysgol a cheisio gwella rheoleiddio’r gweithlu addysg yng Nghymru.
3.1 Sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n sail i’n swyddogaethau rheoleiddiol yn ddigon cadarn i’n galluogi i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau o fewn y gweithlu addysg, er budd y cyhoedd.
3.2 Darparu cyngor, ymchwil, a dadansoddiad annibynnol i lywio a dylanwadu ar ddatblygu a chyflawni polisi addysg yng Nghymru, gyda’r nod o wella safonau.
3.3 Gweithio gyda chofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, y cyhoedd, a’n rhanddeiliaid i lywio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru, gan helpu i wella safonau.
3.4 Cynnig mewnwelediadau ar sail tystiolaeth ynglŷn â thueddiadau recriwtio a chadw o fewn y gweithlu addysg, gan gefnogi penderfyniadau strategol a chynllunio’r gweithlu yng Nghymru.
Amcan 4
Bod yn sefydliad effeithlon, cydnerth, a chynaliadwy sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion.
4.1 Rheoli adnoddau’n effeithiol ac yn gynaliadwy i fodloni anghenion y presennol a’r dyfodol, gan ddefnyddio technoleg yn briodol i annog effeithlonrwydd a gwella ein gwasanaethau.
4.2 Sefydlu prosesau effeithiol ar gyfer cynllunio, rheoli perfformiad, a monitro, gan sicrhau eu bod yn ymgorffori arfer gorau.
4.3 Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol (gan gynnwys mewn perthynas â’r Gymraeg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, diogelu data, a chynaliadwyedd amgylcheddol), gan ymgorffori arfer gorau.
4.4 Bod yn gyflogwr rhagorol sy’n hyrwyddo diwylliant cefnogol a chynhwysol lle mae’r holl staff, aelodau’r Cyngor, ac aelodau Pwyllgorau/paneli yn teimlo eu bod yn werthfawr ac yn gallu cyfrannu’n llawn.
Dadansoddiad o berfformiad
Mae ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2025-26 yn amlinellu camau gweithredu a mesurau manwl ar gyfer pob un o’n hamcanion strategol. Rhannwyd y cyfrifoldeb am gyflawni’r amcanion hyn ymhlith uwch swyddogion, ac fe’i dirprwywyd ymhellach i dimau, fel y bo’n briodol. Adolygwyd cynnydd yn fisol gan yr uwch dîm rheoli a chraffodd y Cyngor a’i Bwyllgor Gweithredol arno trwy adolygiadau chwarterol ac adroddiadau monitro blynyddol. Rhoddir manylion ein cyflawniadau yn erbyn pob un o’r amcanion isod.
Amcan 1: Bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol effeithiol, sy’n gweithio er budd y cyhoedd a meithrin hyder yn y gweithlu addysg
Cofrestru
Mae’r Gofrestr yn ganolog i’n gwaith i gynnal proffesiynoldeb ar draws y gweithlu addysg. Mae’n amddiffyn y cyhoedd trwy sicrhau mai dim ond unigolion sy’n cyrraedd a chynnal safonau uchel all weithio mewn rolau wedi’u rheoleiddio yng Nghymru.
Yn ystod 2025-26, proseswyd 18,767 o geisiadau newydd i gofrestru. Roedd y gyfran fwyaf o’r cofrestreion newydd hyn yn weithwyr cymorth dysgu mewn ysgol, a oedd yn cynrychioli 13,063 o geisiadau.
Mae cynnal cofrestr gynhwysfawr yn hanfodol i’n rôl fel rheoleiddiwr, ond mae’r un mor bwysig bod cyflogwyr, y cyhoedd, ac eraill yn gallu cael at y Gofrestr i ddilysu statws cofrestru ymarferydd. Rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026, gwiriwyd y Gofrestr ar-lein fwy na 145,000 o weithiau. Mae’r tryloywder hwn yn ganolog i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc ac mae’n fwyaf effeithiol pan fydd cyflogwyr hefyd yn deall ac yn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol yn ymwneud â chofrestru.
Dyna pam, drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi gweithio’n helaeth gyda chyflogwyr ac asiantaethau ar draws y sector i sicrhau eu bod yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol, gan gynnwys y gofyniad i gynnal gwiriadau cyn-gyflogaeth angenrheidiol ar gyfer rolau sy’n gofyn am gofrestru â CGA, a’u cynghori ar sut i ddefnyddio eu mynediad at y Gofrestr.
Ochr yn ochr â’n negeseuon cyffredinol, mae ein gwaith ymgysylltu targedig wedi cynnwys gohebiaeth uniongyrchol a chyfarfodydd â dros 300 o sefydliadau. Mae’r rhain yn cryfhau’r ddealltwriaeth o’r rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n berthnasol i ymarferwyr sy’n gweithio mewn gwahanol leoliadau, yn ogystal ag amlygu buddion proffesiynol cofrestru â CGA.
Gwnaethom hefyd gyflwyno 35 o sesiynau rhithwir gyda phartneriaethau AGA a cholegau addysg bellach i sicrhau bod myfyrwyr sy’n bwriadu ymuno â’r gweithlu addysg yn ymwybodol o’u gofyniad cyfreithiol i gofrestru.
Cynhaliwyd sawl ymarfer eleni i wella cyflawnder cofnodion ar y Gofrestr. Roedd hyn yn cynnwys cysylltu â mwy na 13,915 o gofrestreion i ddiweddaru gwybodaeth a oedd ar goll. Ar 31 Mawrth 2026, roedd yr ymgysylltiadau hyn wedi arwain at gwblhau 15.1% o feysydd anhysbys, gan ddarparu set ddata fwy cywir a chynhwysfawr ynglŷn â’r gweithlu addysg. Mae gwybodaeth fwy cyflawn am ddemograffeg, cymwysterau, a phatrymau cyflogaeth yn ein galluogi i ddeall cyfansoddiad y gweithlu’n well. Mae hefyd yn rhoi sylfaen dystiolaeth gryfach i lywio gwaith i ddatblygu polisi ar faterion allweddol fel recriwtio a chadw.
Addasrwydd i gofrestru
Mae’n ofynnol i unrhyw un sy’n gwneud cais i gofrestru gyda ni ddatgelu unrhyw hanes troseddol, disgyblu, neu reoleiddiol yn rhan o’u cais. Mae hyn yn caniatáu i ni asesu eu haddasrwydd a’u priodoldeb i ymarfer, gan sicrhau mai dim ond y rhai hynny sydd â’r sgiliau, y wybodaeth, a’r ymddygiadau angenrheidiol sy’n gallu gweithio yn y proffesiynau addysg yng Nghymru.
Yn ystod 2025-26, cwblhawyd 268 o asesiadau lle’r oedd ymgeiswyr wedi datgan materion rheoleiddiol, cyflogaeth, neu gofnodion troseddol blaenorol neu yn yr arfaeth. Arweiniodd hyn at benderfynu bod chwe unigolyn yn anaddas i’w cofrestru gyda CGA yn eu categori neu gategorïau cofrestru penodol yng Nghymru
Priodoldeb i ymarfer (PiY)
Mae gennym gyfrifoldeb statudol i ymchwilio i achosion honedig o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu euogfarn am drosedd berthnasol, a’u clywed os oes angen. Mae ein hymagwedd yn sicrhau bod pryderon diogelu’n cael eu hasesu’n ofalus ac yn gymesur, a bod camau priodol yn cael eu cymryd pan fydd angen.
Gwaith achos PiY
Eleni, gwnaethom gwblhau 90 o achosion PiY. Roedd y rhain yn cynnwys 51 o wrandawiadau PiY, y cynhaliwyd 48 ohonynt ar-lein, a thri wyneb yn wyneb. Mae amrywiaeth o gosbau y gellir eu gosod o ganlyniad i’r gwaith hwn. Yn yr achosion mwyaf difrifol, cafodd 17 o unigolion eu dileu o’r Gofrestr gyhoeddus, sy’n golygu nad ydynt yn gallu ymarfer yn y proffesiynau cofrestredig yng Nghymru. O ran y 39 o achosion a gwblhawyd heb wrandawiad, penderfynodd pwyllgor ymchwilio eu cau gan fod ‘dim achos i’w ateb’, neu nid oeddent yn cyrraedd y trothwy ar gyfer ymchwiliad ac fe’u caewyd gan nodi ‘dim camau pellach’.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol PiY, a gyhoeddir ar ein gwefan, yn rhoi gwybodaeth glir am dueddiadau yn ein gwaith achos, gan amlinellu sut rydym yn trin materion sy’n cael eu hatgyfeirio i ni, y mathau o achosion yr ydym yn eu hystyried, patrymau o flwyddyn i flwyddyn, a phroffil demograffig y rhai sy’n gysylltiedig. Trwy gyhoeddi’r wybodaeth hon, rydym yn hyrwyddo tryloywder yn ein gwaith rheoleiddiol ac yn cefnogi dealltwriaeth ehangach o’r materion sy’n effeithio ar y gweithlu addysg.
Gorchmynion Atal Dros Dro Interim
Un rhan gynyddol bwysig o’n gwaith PiY yw defnyddio ein pwerau deddfwriaethol i osod Gorchmynion Atal Dros Dro Interim. Mae’r gorchmynion hyn yn caniatáu i ni atal hawl cofrestrai i ymarfer mewn un categori cofrestru neu fwy am gyfnod dros dro, mewn amgylchiadau pan fydd pryderon difrifol wedi codi, fel mesur diogelu brys i amddiffyn dysgwyr, pobl ifanc, a’r cyhoedd ehangach tra bod y materion yn cael eu hymchwilio iddynt. Eleni, rydym wedi gosod 23 Gorchymyn Atal Dros Dro Interim, sef 64% yn fwy na’r llynedd, ac adolygu 29 Gorchymyn Atal Dros Dro Interim, sef 32% yn fwy.
Apeliadau sefydlu
Rydym yn gyfrifol am wrando ar apeliadau gan athrawon newydd gymhwyso (ANG) sy’n methu’r cyfnod sefydlu statudol, ac sy’n dymuno herio’r penderfyniad. Ni chawsom unrhyw apeliadau sefydlu yn ystod 2025-26
Sbotolau ar: Rheoleiddio cydweithredol
Rydym yn cydnabod bod gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill sy’n gyfrifol am ddiogelu yn creu system fwy cydlynol ac ymatebol. Mae hyn yn helpu i amlygu a lliniaru risgiau’n gynharach ac yn atal gwybodaeth bwysig rhag cael ei cholli. Mae’r dull cyfunol hwn yn cryfhau atebolrwydd, yn cefnogi safonau uchel o broffesiynoldeb, ac yn amddiffyn dysgwyr a phobl ifanc, a’r proffesiwn yn well.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ymgysylltu ag ystod eang o sefydliadau a chyrff rheoleiddio proffesiynol i drafod materion diogelu ac archwilio cyfleoedd i gydweithio mwy. Rydym yn cynnal trafodaethau blynyddol â heddluoedd yng Nghymru i sicrhau bod trefniadau rhannu data priodol ar waith, ac yn ymgysylltu’n rheolaidd ag arweinwyr diogelu yn yr holl awdurdodau lleol. Yn ogystal, rydym yn parhau i gynnull ddwywaith y flwyddyn gyda’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, ac yn cyfarfod yn flynyddol â Chomisiynydd Plant Cymru, lle mae diogelu’n eitem allweddol ar yr agenda. Rydym hefyd wedi parhau i weithio’n agos gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ar faterion polisi a system sy’n ymwneud â diogelu, gan sicrhau bod ein mewnwelediadau rheoleiddiol yn llywio dulliau cenedlaethol, a bod dealltwriaeth glir o rolau a chyfrifoldebau ar draws y system.
Trwy’r dull partneriaeth hwn, ceisiwn gryfhau trefniadau diogelu ledled Cymru er budd dysgwyr, pobl ifanc a’r proffesiwn ehangach.
Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
Mae’r Cod yn amlinellu’r safonau a ddisgwylir gan ein cofrestreion, a bwriedir iddo lywio eu dyfarniadau a’u penderfyniadau. Mae hefyd yn rhoi gwybod i ddysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, cyflogwyr, a’r cyhoedd am y safonau y gallant eu disgwyl gan ymarferwyr cofrestredig.
Mae’r Ddeddf yn mynnu ein bod yn adolygu’r Cod bob tair blynedd (a phryd bynnag y bydd categori cofrestru newydd yn cael ei ychwanegu), a gwneud diwygiadau, fel y bo’n briodol. Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, cynhaliwyd adolygiad rheolaidd a oedd yn cynnwys ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid trwy ymgynghoriad cyhoeddus. Cyhoeddwyd adroddiad ym mis Awst 2025 yn manylu ar yr ymatebion a gawsom i’r ymgynghoriad. Cyhoeddwyd y Cod diwygiedig ar wefan CGA ar 1 Medi 2025, ac anfonwyd copi at ein holl gofrestreion. I gefnogi ei lansio, rhyddhawyd gweminar yn canolbwyntio ar gofrestreion a roddodd drosolwg cynhwysfawr o’r Cod, a oedd hefyd ar gael mewn Iaith Arwyddion Prydain.
Yn ystod 2025-26, rydym wedi parhau i gynorthwyo ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid i ddeall gofynion y Cod. Roedd hyn yn cynnwys:
- cyflwyno 47 o sesiynau hyfforddi
- cyhoeddi pedair astudiaeth achos sy’n rhoi gwybodaeth glir ac ymarferol am y disgwyliadau a’r safonau a ddisgwylir gan gofrestreion
- ychwanegu at ein casgliad o ganllawiau arfer da, sy’n cydategu’r Cod, a rhoi cyngor ychwanegol i gofrestreion ynglŷn â meysydd ymarfer allweddol
- diweddaru dwy o’n gweminarau byr yn y gyfres Eich CGA: Eich CGA: Cyflwyniad i CGA ac Eich CGA: Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
- cynnal digwyddiad cyntaf CGA i gyflogwyr i rannu ein gwybodaeth a’n mewnwelediadau
Sbotolau ar: Datgloi 25 mlynedd a mwy o arbenigedd gwaith achosion priodoldeb i ymarfer CGA
Ym mis Mai 2025, cynhaliwyd digwyddiad ar-lein i rannu gwybodaeth a gafwyd o fwy na 25 mlynedd o waith achos rheoleiddiol. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad o’r fath, a gynlluniwyd i roi dealltwriaeth ddyfnach i’r mynychwyr o’n prosesau PiY a chefnogi rhyngweithiadau mwy gwybodus â CGA, ac atgyfeiriadau mwy gwybodus i ni, yn y dyfodol.
Gan ddefnyddio ein profiad o fwy na 5,000 o achosion, amlygodd y digwyddiad enghreifftiau o arfer da ac achosion lle na fodlonwyd y safonau, a rhoddodd drosolwg o sut mae penderfyniadau PiY yn cael eu gwneud. Rhoddodd hyn wybodaeth ymarferol i’r mynychwyr am sut y penderfynir ar ganlyniadau, a’r ffactorau sy’n llywio’r dyfarniadau hyn.
Daeth y digwyddiad i ben gyda sesiwn holi ac ateb a oedd yn ysgogi’r meddwl, a roddodd gyfle i’r mynychwyr rannu eu safbwyntiau, gofyn cwestiynau, a cheisio eglurhad ynglŷn ag agweddau allweddol ar ein gwaith.
SAC a sefydlu statudol
Er mwyn ymarfer fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, mae’n rhaid i gofrestreion feddu ar SAC a chwblhau cyfnod sefydlu statudol yn llwyddiannus. Eleni, fe wnaethom:
- roi tystysgrifau i 1,066 o bobl a gyflawnodd SAC yng Nghymru
- asesu 27 o geisiadau am gydnabyddiaeth SAC gan ymgeiswyr a gyflawnodd gymwysterau y tu allan i Gymru
- rhoi 1,256 o dystysgrifau i athrawon ysgol a gwblhaodd eu cyfnod sefydlu’n llwyddiannus
Achredu AGA
Mae’n rhaid i’r holl raglenni AGA a gynigir yng Nghymru gael eu hachredu gan CGA a’u monitro drwy gydol y cyfnod achredu. Rydym yn dirprwyo’r swyddogaeth hon i’n Bwrdd Achredu AGA (y bwrdd). Wrth benderfynu p’un ai rhoi achrediad, mae’r bwrdd yn ystyried p’un a yw’r rhaglen yn bodloni meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer achredu rhaglenni AGA yng Nghymru.
Ni achredwyd rhaglenni newydd yn ystod 2025-26. Fodd bynnag, roedd un rhaglen a achredwyd gydag amodau ym mis Chwefror yn ystod y flwyddyn adrodd flaenorol wedi parhau i gael ei monitro, a chadarnhawyd bod yr holl amodau wedi’u bodloni ym mis Mai 2025. Ailachredwyd tair rhaglen a bu saith rhaglen arall yn destun gweithgarwch monitro arferol, gan sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â’r meini prawf AGA. O fis Medi 2025, roedd 16 o raglenni ar waith ar draws chwe phartneriaeth.
Mae CGA wedi gweithio’n agos gyda phartneriaethau AGA, Llywodraeth Cymru ac Estyn drwy gydol y flwyddyn i roi cyngor a chymorth parhaus, a sicrhau bod prosesau a gweithdrefnau achredu cadarn a chymesur ar waith. Ym mis Mawrth 2026, gweithiom gyda chydweithwyr o Estyn i gynnal digwyddiad rhanddeiliaid ar-lein ar gyfer partneriaethau AGA a gynigiodd amrywiaeth o sesiynau, gan gynnwys cynllunio athrawon dan hyfforddiant, datblygu sgiliau Cymraeg, datblygu deialog gyson rhwng mentoriaid ac athrawon dan hyfforddiant, a datblygu gallu athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu sgiliau disgyblion. Croesawyd 41 o fynychwyr o bob partneriaeth, gyda chynrychiolaeth o sefydliadau addysg uwch, ac ysgolion.
Ar ôl cwblhau’r cylch achredu, monitro, ac ailachredu cychwynnol, rydym wedi bod yn llunio adroddiad yn manylu ar y ddarpariaeth AGA yng Nghymru. Pan fydd wedi’i gwblhau, byddwn yn rhannu’r adroddiad hwn gyda rhanddeiliaid allweddol yn 2026-27.
Yn ogystal, rydym yn rhan o’r Grŵp Cynghori Arbenigol sy’n archwilio diwygio AGA ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Rydym wedi pwysleisio pwysigrwydd achredu a threfniadau sicrhau ansawdd sy’n gyfwerth â’r rhai ar gyfer AGA athrawon ysgol, wrth gefnogi diwygiad o’r fath.
Dyrannu niferoedd derbyn AGA
Ym mis Tachwedd 2025, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, dyrannom niferoedd derbyn i bartneriaethau AGA ar gyfer rhaglenni sy’n dechrau ym mis Medi 2026. Roedd y dyraniadau hyn yn adlewyrchu meysydd penodol lle ceir prinder athrawon yng Nghymru, ochr yn ochr â gofynion Llywodraeth Cymru i gefnogi recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg, ac athrawon o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Gan ddilyn dull y llynedd, parhawyd i fonitro recriwtio i raglenni AGA drwy gydol 2025-26 o ran derbyniad 2025-26 a 2026-27, gan adrodd ar gynnydd i Lywodraeth Cymru bob mis. Bydd y dull hwn yn parhau yn 2026-27.
Y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Ym mis Ionawr 2020, dyfarnwyd contract i ni i ddarparu’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (y Marc Ansawdd), mewn partneriaeth â Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru, a bûm yn llwyddiannus wrth aildendro ar gyfer y contract yn 2023. Ym mis Rhagfyr 2024, rhoddwyd gwybod i ni fod ein contract gwreiddiol i gyflawni’r gwaith hwn wedi cael ei ymestyn tan fis Mawrth 2026.
Yn 2025-26, fe wnaethom asesu 11 o sefydliadau (10 efydd, ac un aur). Mae cyfanswm o 41 o sefydliadau’n dal dyfarniad y Marc Ansawdd bellach.
Fe wnaethom ymgysylltu’n helaeth â’r sector, a rhoi cyngor ac arweiniad i sefydliadau ac unigolion sy’n ystyried gwneud cais am y Marc Ansawdd. Rydym wedi datblygu a darparu hyfforddiant ar y Marc Ansawdd i gynorthwyo aseswyr cymheiriaid newydd. Ym mis Mai 2025, cynhaliwyd digwyddiad yn Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam i ddathlu cyflawniadau sefydliadau ledled Cymru sydd wedi ennill y Marc Ansawdd yng Nghymru.
Cyfathrebu ac ymgysylltu
Mae gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu wedi parhau i ddatblygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda hyfforddiant, sesiynau cymorth, a chyflwyniadau ar-lein newydd yn gwella ein cyfres bresennol o recordiadau ar gais.
Yn 2025-26, fe wnaethom fwy o gynnydd wrth wella hygyrchedd ein cyfathrebu, gan ychwanegu dehongliad Iaith Arwyddion Prydain at ddau fideo sefydliadol allweddol.
Gwnaethom hefyd gyhoeddi cyfres newydd o fideos astudiaeth achos, yn dangos y Pasbort Dysgu Proffesiynol a sut mae’n helpu sefydliadau yng Nghymru i gefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol staff. Ategwyd hyn gan e-daflen ac animeiddiad penodol.
Roedd ymgysylltu digidol yn gryf yn ystod y flwyddyn, gan gyhoeddi 10 cylchlythyr i gofrestreion, wyth blog, a 27 erthygl newyddion ar wefan CGA, a’n helpodd i ddenu 757,007 o edrychiadau ar dudalennau. Parhaodd ein presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol i dyfu hefyd, gan gyrraedd 2,091 o ddilynwyr ar draws LinkedIn a Facebook erbyn diwedd 2025-26, sef 35% yn fwy na’r llynedd.
Ategwyd y rhaglen ehangach hon o weithgarwch gan sylw rheolaidd yn y cyfryngau, yn enwedig i’n gwaith PiY. Fodd bynnag, dangosodd y wasg ddiddordeb mewn pynciau eraill hefyd, gan gynnwys ein cyfraniad at ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru, penodi Lisa Winstone fel ein Prif Weithredwr newydd, a’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Amcan 2: Cefnogi proffesiynoldeb a dysgu, a hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg
Cefnogi ymarfer proffesiynol cofrestreion
Roedd ein rhaglen ddigwyddiadau yn 2025-26 yn ceisio cynorthwyo cofrestreion mewn meysydd ymarfer proffesiynol. Roedd hyn yn cynnwys cyfres o weminarau ar gynyddu ymwybyddiaeth o’n rôl a’r gwasanaethau a gynigiwn, gyda phwyslais arbennig ar y Cod a sut i gydymffurfio ag ef.
Ochr yn ochr â’r rhaglen barhaus hon, rhoddodd ein dau brif ddigwyddiad gyfleoedd i arddangos syniadau arloesol a siaradwyr blaenllaw ar amrywiaeth o bynciau.
Ym mis Mai 2025, cyflwynodd y niwrowyddonydd Dr Dean Burnett ein dosbarth meistr blynyddol ar ymennydd sy’n datblygu mewn cyd-destun addysgol modern. Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad, recordiwyd pennod arbennig o’r podlediad gyda Dr Burnett lle yr atebodd gwestiynau ychwanegol a gododd o’r sesiwn holi ac ateb ddiddorol.
Ym mis Ionawr 2026, cyflwynodd yr academydd blaenllaw o Brifysgol Abertawe, sef yr Athro Kelly Mackintosh, y brif araith yn ein digwyddiad blynyddol Siarad yn Broffesiynol. Archwiliodd yr Athro Mackintosh fater ymddygiad dysgwyr, sydd wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd, a rôl bosibl gweithgarwch corfforol wrth gefnogi ymddygiad a lles cadarnhaol.
Datblygu perthnasoedd a chydweithrediadau i hyrwyddo proffesiynoldeb a thegwch
Mae proffesiwn addysg lle mae pobl o bob cefndir yn cael eu cefnogi a’u cynnwys, ac yn gallu ffynnu yn hanfodol i greu amgylchedd cynhwysol i ymarferwyr, a dysgwyr a phobl ifanc. Eleni, rydym wedi parhau i weithio gyda sefydliadau partner i ddatblygu canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol ar gyfer ein cofrestreion. Mae hyn wedi cynnwys sefydlu partneriaeth â KidsCare4U ac adnewyddu ein partneriaeth ffurfiol â Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd ymhlith unigolion o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
Hyrwyddo gyrfaoedd ym myd addysg
Mae gennym swyddogaeth statudol i hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y proffesiynau addysg yng Nghymru ac rydym wedi parhau i ddatblygu brand a phlatfform Addysgwyr Cymru i gefnogi recriwtio a dilyniant gyrfaol.
Gan ddefnyddio adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau, rydym wedi gwella gwefan Addysgwyr Cymru (sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru) i wella ymarferoldeb a phrofiad y defnyddiwr. Mae porth swyddi’r platfform yn helpu cyflogwyr i hysbysebu swyddi ac yn ei gwneud yn haws i addysgwyr ddod o hyd i’w rôl nesaf. Yn 2025-26, denodd y wefan 656,432 o ymwelwyr ac, am y drydedd flwyddyn yn olynol, roedd porth swyddi Addysgwyr Cymru wedi hysbysebu mwy o swyddi gwag yn gyson nag unrhyw ddarparwr arall tebyg yng Nghymru.
Ymgysylltom â rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o’r sector addysg i adolygu a diweddaru cynnwys o fewn y porth gyrfaoedd. Sicrhaodd hyn fod y wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr yn gywir, yn gyfredol, ac yn gynhwysfawr. Mae’r cynnwys wedi’i ddiweddaru’n rhoi arweiniad clir ar yr ystod o rolau o fewn y sector, gan gynnwys sgiliau cysylltiedig, gofynion profiad, a disgwyliadau cyflog.
Gwnaethom hefyd gyfarfod â thimau Adnoddau Dynol o awdurdodau lleol a cholegau addysg bellach ledled Cymru i gasglu adborth ar borth swyddi Addysgwyr Cymru. Rhoddodd y trafodaethau hyn wybodaeth werthfawr am dueddiadau a heriau recriwtio rhanbarthol. Bydd canfyddiadau’r cyfarfodydd hyn yn llywio dull mwy strategol o gynllunio yn y dyfodol a chyflawni gweithgareddau ymgysylltu targedig.
Trwy ein gwasanaeth hyrwyddo ac eiriolaeth, cynigiwyd cymorth i unigolion, cyflogwyr, a sefydliadau addysg. Cynrychiolwyd Addysgwyr Cymru mewn mwy na 219 o ddigwyddiadau, gan ymgysylltu â miloedd o unigolion sydd â diddordeb mewn gyrfa ym myd addysg.
Parhaom hefyd i weithio gyda phartneriaid i roi cynlluniau gweithredu penodol ar waith ar gyfer meysydd recriwtio â blaenoriaeth. Roedd hyn yn cynnwys cefnogi partneriaethau AGA â’u hymdrechion i recriwtio i bynciau â blaenoriaeth, a denu mwy o addysgwyr Du, Asiaidd, ac ethnig leiafrifol, ac addysgwyr sy’n siarad Cymraeg i’r proffesiwn.
Addysgwyr Cymru mewn rhifau
- 656,432 o ymwelwyr â gwefan Addysgwyr Cymru.
- 6,455 o swyddi wedi’u postio ar y porth swyddi.
- 583 o ymholiadau neu geisiadau am gyngor.
- 71 o gyflwyniadau i sefydliadau, cyflogwyr, darpar addysgwyr ac addysgwyr presennol.
- 13,794 o broffiliau addysgwyr, 65 o broffiliau darparwyr, 715 o broffiliau cyflogwyr, ac 842 o broffiliau defnyddwyr.
Sbotolau ar: Dangos tystiolaeth o effaith
Yn 2025-26, datblygom ddangosfwrdd dadansoddeg i ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r data rydym yn ei ddal a sut y gellir ei ddefnyddio i ddangos tystiolaeth o effaith ein gwaith hyrwyddo gyrfaoedd. Dadansoddwyd gwybodaeth gan gynnwys:
- nifer y digwyddiadau ac ymrwymiadau a fynychwn, a pha fath
- gwasgariad daearyddol ein gweithgarwch
- natur yr ymholiadau rydym yn ymateb iddynt
- nifer y proffiliau addysgwyr rydym yn eu dal
- nifer yr hysbysebion am swyddi
Yna, roeddem yn gallu cymryd camau rhagweithiol i fonitro a gwerthuso ein heffaith.
Mae’r mewnwelediadau hyn hefyd yn ein helpu i amlygu meysydd lle gallai fod angen adnoddau neu gymorth ychwanegol, boed hynny trwy gynyddu ymgysylltiad tîm, neu gryfhau cydweithio â sefydliadau partner i wella canlyniadau. Trwy ddefnyddio’r wybodaeth hon, ochr yn ochr â dadansoddeg ehangach, rydym yn sicrhau bod y wybodaeth, yr arweiniad, a’r adnoddau a ddarparwn yn parhau i fodloni anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth, ar yr un pryd â chynnig mewnwelediadau gwerthfawr i lywio cynllunio yn y dyfodol a gwneud penderfyniadau strategol.
Sefydlu
Rydym yn gweinyddu trefniadau cyllido, cofnodi, ac olrhain ar gyfer sefydlu statudol athrawon ysgol ar ran Llywodraeth Cymru. Eleni, rydym wedi parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, y consortia rhanbarthol, mentoriaid, ANG, a Llywodraeth Cymru. Yn 2025-26, roedd y gwaith hwn yn cynnwys:
- cynorthwyo dros:
- 2,500 o athrawon newydd
- 950 o fentoriaid sefydlu
- 250 o fentoriaid sefydlu cyflenwi tymor byr, a dilyswyr sefydlu
- 700 o ysgolion (yn rhan o’r rhaglen sefydlu)
- dosbarthu £3.2 miliwn o gyllid ar gyfer sefydlu i ysgolion
- rhyddhau dros £1.16 miliwn i’r consortia rhanbarthol i gefnogi gwirwyr allanol
- darparu cymorth gweinyddol wedi’i deilwra i bob un o’r consortia rhanbarthol
- darparu gwasanaethau ar-lein, cyfleusterau desg gymorth, ac arddangosiadau i ysgolion, y consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, dilyswyr sefydlu, a’r holl ymarferwyr cofrestredig sy’n cael at eu proffil sefydlu
E-bortffolio cenedlaethol – Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
Parhaom i ddatblygu a chynnal y PDP fel yr e-bortffolio cenedlaethol ar gyfer ein cofrestreion i’w cynorthwyo i gynllunio, cofnodi, a myfyrio ar eu profiadau a’u dysgu proffesiynol, a rhyngweithio’n ystyrlon â’u safonau proffesiynol. Mae’r PDP hefyd yn cefnogi rhaglenni dysgu proffesiynol cenedlaethol allweddol gan gynnwys y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol, yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), a’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth, gyda thempledi wedi’u teilwra’n darparu platfform strwythuredig i gyfranogwyr ddangos tystiolaeth o’u dysgu a chynnydd yn erbyn safonau proffesiynol. Ar 31 Mawrth 2026, roedd bron 27,500 o ddefnyddwyr gweithredol y PDP, a dros 6,000 o gyfrifon newydd ers 1 Ebrill 2025.
Sbotolau ar: Datblygu adnoddau pwrpasol
Mae cynorthwyo cofrestreion i ddefnyddio’r PDP yn effeithiol yn ganolog i gryfhau ymarfer myfyriol ac annog dysgu proffesiynol parhaus. Ochr yn ochr â’n sesiynau hyfforddiant a chymorth rheolaidd, cynhyrchom bortffolio hyrwyddo newydd a ddosbarthwyd i bob ysgol yng Nghymru, yn amlygu sut gall y PDP gefnogi dysgu proffesiynol eu staff a’r gweithlu addysg ehangach.
Datblygwyd hyn ymhellach drwy gydol 2025-26, gan gydweithio â 14 ysgol unigol i ddatblygu adnoddau pwrpasol wedi’u teilwra i’w staff ac sy’n cyd-fynd â’u prosesau adolygu datblygiad proffesiynol. Mae’r adnoddau hyn yn galluogi ymarferwyr i gofnodi eu hamcanion dysgu proffesiynol a myfyrio ar eu cynnydd o ran safonau proffesiynol, ar yr un pryd â galluogi arfarnwyr i adolygu’r cynnydd hwn a rhoi adborth ystyrlon.
Yn ogystal â hyn, ffurfiwyd partneriaeth ag awdurdod lleol i greu adnoddau i’w defnyddio ar draws ei leoliadau. Roedd hyn yn cynnwys templedi PDP newydd a gynlluniwyd i gynorthwyo staff sy’n ymgymryd â phrosiectau ymholi annibynnol a chydweithredol.
Gyda’i gilydd, mae’r adnoddau hyn sydd wedi’u teilwra yn helpu ymarferwyr a sefydliadau i ddefnyddio’r PDP i gefnogi ymarfer myfyriol, dysgu proffesiynol, a rhannu gwelliant, gan gysylltu datblygiad unigol ag uchelgeisiau ehangach ysgolion a lleoliadau fel sefydliadau dysgu.
Cefnogi ymchwil gan ymarferwyr
Yn unol â’n strategaeth ymchwil, rydym wedi parhau i hyrwyddo ymgysylltiad cofrestreion ag ymchwil, gan gydnabod ei werth mewn perthynas â llywio a chryfhau ymarfer. Mae hyn yn cyd-fynd â disgwyliadau’r Cod, sy’n pwysleisio cynnal gwybodaeth broffesiynol gyfredol ac ymrwymiad i ddysgu proffesiynol parhaus.
Rydym yn cynnig ystod o adnoddau ar-lein i gynorthwyo cofrestreion i wneud hyn, gan gynnwys mynediad am ddim at becyn EBSCO o gyfnodolion ac e-lyfrau academaidd. Mae ein clwb llyfrau a chyfnodolion, sef Meddwl Mawr, yn argymell cynnwys ar EBSCO yn fisol. Yn ystod 2025-26, argymhellwyd 16 o lyfrau yn ymdrin â phynciau fel ymddygiad dysgwyr, camu ymlaen i uwch arweinyddiaeth, dyslecsia mewn plant, ymwybyddiaeth ofalgar, a’r berthynas rhwng chwarae ac addysg. Ym mis Mehefin 2025, yn dilyn ein digwyddiad Dosbarth Meistr, cyhoeddwyd rhifyn arbennig o Feddwl Mawr a oedd yn cynnwys pedwar o lyfrau poblogaidd Dr Dean Burnett ar ddeall niwrowyddoniaeth
Amcan 3: Llywio, ffurfio, a dylanwadu ar bolisi addysgol a cheisio gwella rheoleiddio’r gweithlu addysg yng Nghymru.
Cefnogi polisi addysgol
Rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at ddatblygu polisi er budd ein cofrestreion, a dylanwadu arno. Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Cadeirydd, y Prif Weithredwr, ac uwch swyddogion wedi cyfarfod yn rheolaidd â phobl allweddol ym myd addysg yng Nghymru, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, ac arweinwyr addysg pob un o’r pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd. Rydym hefyd wedi gweithio’n agos gyda sefydliadau fel undebau llafur ac ystod eang o gyrff proffesiynol a chyflogwyr ar draws y sector addysg.
Rydym wedi cyfranogi mewn a chyfrannu at fwy na 40 o grwpiau cenedlaethol â phroffil uchel sydd â chylchoedd gwaith yn ymestyn ar draws ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a gwaith ieuenctid. Canolbwyntiodd y grwpiau hyn ar faterion allweddol y gweithlu fel diogelu ym maes addysg a datblygu’r gweithlu.
Pwnc arall allweddol sy’n effeithio ar amgylchedd gwaith llawer o gofrestreion yw ymddygiad dysgwyr, sydd wedi dod yn gynyddol heriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ym mis Mai 2025, gwnaethom gymryd rhan yn nhrafodaeth bord gron Llywodraeth Cymru ar Drais a Diogelwch mewn Ysgolion. Gwnaethom hefyd gymryd rhan yn Uwchgynhadledd Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar Ymddygiad, gan archwilio sut gallai gwell cydweithio ar draws y sector helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn er budd cofrestreion, a’r dysgwyr a’r bobl ifanc maen nhw’n eu cefnogi.
Gweithiom yn agos gyda Llywodraeth Cymru drwy gydol y flwyddyn i helpu i lywio’r broses o ddatblygu ei Chynllun Strategol y Gweithlu Addysg, gan roi tystiolaeth ysgrifenedig a llafar sawl gwaith. Gan fanteisio ar ein cyfrifoldebau statudol, data unigryw, a safbwynt system gyfan, ceisiodd ein mewnwelediadau gefnogi datblygiad strategaeth gydlynol, gydgysylltiedig, a chyflawnadwy.
Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, ymgysylltom yn agos â rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â diogelu ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys cyfrannu at adolygiad Llywodraeth Cymru o gyrff llywodraethu ysgolion, yn ogystal â’r adolygiad o Weithdrefnau Diogelu Cymru, honiadau llywodraethu neu bryderon a godwyd yn erbyn ymarferwyr a phobl mewn swyddi cyfrifol.
Yn ystod y flwyddyn, ymatebom i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn arbennig o bwysig i ni gan fod safonau proffesiynol yn allweddol i ddiogelu dysgwyr, cefnogi hyder y cyhoedd, ac atgyfnerthu atebolrwydd proffesiynol ar draws y gweithlu addysg.
Yn ein hymateb, croesawyd y penderfyniad i adolygu’r safonau a nodwyd eu bod yn cyfateb i flaenoriaethau cenedlaethol allweddol. Amlygwyd sut gallai strwythur mwy eglur a disgwyliadau mwy penodol gefnogi dealltwriaeth gyson a chymhwyso teg ar draws y system, a phwysleisiwyd pwysigrwydd ymgorffori diogelu o fewn y safonau – gan gynnwys trwy gyfeirio’n benodol at y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
Cyngor polisi wedi’i seilio ar dystiolaeth
Data a dadansoddi
Mae ein Cofrestr yn parhau i ddarparu ffynhonnell gyfoethog o ddata sy’n helpu i lywio a dylanwadu ar ddatblygu polisi a chynllunio’r gweithlu yng Nghymru. Dyfynnir ohoni a chyfeirir ati’n aml yn y Senedd, gan undebau llafur, ac yn y cyfryngau. Rydym hefyd wedi ymgymryd â dau gomisiwn gan Lywodraeth Cymru i gyflenwi dadansoddiadau data o’r Gofrestr (fel yr amlinellwyd yn llythyr cynnig grant 2025-26), yn ogystal â chwblhau tri chomisiwn ychwanegol – dau ar gyfer y consortia a’r llall ar gyfer Medr.
Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddasom ein Hystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru, sy’n manylu ar gyfansoddiad y gweithlu cofrestredig ar draws ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, addysg oedolion, a lleoliadau gwaith ieuenctid. Am y tro cyntaf, roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y rhai hynny a gyflogir fel penaethiaid neu uwch arweinwyr (sy’n rheoli addysgu a dysgu yn uniongyrchol) mewn sefydliadau addysg bellach, ac ymarferwyr addysg oedolion yn y gymuned (a gyflogir gan awdurdodau lleol) ar ôl iddynt gael eu hychwanegu at y Gofrestr ym mis Mai 2024. Ar ôl cyhoeddi Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg, cynhaliwyd digwyddiad briffio rhanddeiliaid ym mis Hydref 2025, lle y cyflwynwyd trosolwg o’r data ac amlygwyd tueddiadau allweddol yn y gweithlu.
Ym mis Awst 2025, cyhoeddwyd canlyniadau myfyrwyr AGA ar gyfer 2024-25, gan gadarnhau’r niferoedd y dyfarnwyd SAC iddynt. Ym mis Rhagfyr 2025, rhyddhawyd cyfres o fewnwelediadau data yn canolbwyntio ar athrawon ysgol, gan gynnwys athrawon cyflenwi a gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgol. Amlygodd y mewnwelediadau hyn dueddiadau allweddol ar draws y gweithlu cofrestredig, gan gynnwys edrych ar ganlyniadau AGA, athrawon newydd gymhwyso, athrawon cyflenwi, ac archwilio tueddiadau recriwtio a chadw a gallu o ran y Gymraeg ar draws ein holl grwpiau cofrestreion.
Sbotolau ar: Darparu mewnwelediadau ar recriwtio a chadw’r gweithlu
Mae ein Cofrestr yn cynnig gwybodaeth unigryw, hirdymor am y gweithlu sy’n helpu i amlygu’r heriau recriwtio a chadw sy’n wynebu lleoliadau addysg yng Nghymru. Mae’r data hwn yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i gyfrannu’n ystyrlon at drafodaethau cenedlaethol a helpu i ffurfio penderfyniadau ar bolisi addysgol sy’n effeithio ar ein cofrestreion.
Yn ystod y flwyddyn adrodd, rhoddwyd tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ynglŷn â recriwtio a chadw athrawon ysgol. Gan ddefnyddio 25 mlynedd o ddata am y gweithlu, darparwyd dadansoddiadau a mewnwelediadau ar gyfansoddiad y gweithlu, tueddiadau, a meysydd problemus, gan helpu i greu darlun mwy cyflawn o’r heriau recriwtio a chadw sy’n wynebu’r sector.
Defnyddiwyd y wybodaeth hon hefyd i lywio ein digwyddiad briffio polisi ym mis Tachwedd 2025, a archwiliodd dueddiadau allweddol, heriau, ac opsiynau polisi yn gysylltiedig â recriwtio a chadw yng Nghymru. Roedd y digwyddiad yn cynnwys panel o arbenigwyr, gan gynnwys penaethiaid o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg, a gynigiodd fewnwelediadau o’u lleoliadau eu hunain, gan roi safbwyntiau unigryw ar yr heriau cymhleth hyn.
Yn yr hydref 2025, cawsom gyfle i archwilio materion yn ymwneud â recriwtio a chadw’r gweithlu gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn rhan o drafodaethau gyda nhw ynglŷn â Chynllun Strategol y Gweithlu Addysg sy’n dod i’r amlwg.
Rydym wedi ymrwymo o hyd i ddefnyddio ein sylfaen dystiolaeth i gefnogi Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill wrth iddynt ddatblygu polisïau sy’n effeithio ar y gweithlu addysg, gan sicrhau bod anghenion a phrofiadau ein cofrestreion yn parhau i lywio penderfyniadau.
Materion deddfwriaethol
Mae’r ddeddfwriaeth sy’n sail i’n swyddogaethau rheoleiddiol yn allweddol i gyflawni ein cylch gwaith craidd yn effeithiol. Fodd bynnag, credwn fod sawl anghysondeb deddfwriaethol yn parhau a fyddai, petaent yn derbyn sylw, yn gwella safonau proffesiynol a lleihau risgiau diogelu posibl. Mae’r rhain yn cynnwys:
- ystyried trefniadau diogelu ac atebolrwydd ar gyfer rhannau o’r gweithlu addysg nad ydynt wedi’u cofrestru â CGA nac yn cael eu rheoleiddio ganddo, gan gynnwys staff gweinyddol a gofalwyr ysgolion
- gwneud CGA yn gyfrifol am gadw safonau proffesiynol
- ymestyn gofynion cymwysterau lleiaf i’r holl gategorïau cofrestreion
- galluogi CGA i achredu a sicrhau ansawdd rhaglenni cymwysterau sy’n arwain at gofrestru
- rhoi annibyniaeth lwyr i CGA osod ffioedd cofrestru a phenodi aelodau ei Gyngor
Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi parhau i dynnu sylw Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill at yr anghysondebau hyn, gyda’r bwriad o gydweithio i ddatblygu’r newidiadau deddfwriaethol sy’n ofynnol.
Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (CACAC)
A ninnau’n darparu ysgrifenyddiaeth annibynnol i CACAC, rydym yn cyflawni rôl allweddol wrth hwyluso gwaith y bwrdd. Mae hyn wedi cynnwys cynorthwyo CACAC i gynhyrchu adroddiadau ar amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar y gweithlu addysgu, gan gynnwys adolygiad strategol o strwythur cyflog ac amodau athrawon ysgol ac arweinwyr, ac adroddiad yn ymwneud ag athrawon cyflenwi.
Ym mis Mai 2025, fe gynorthwyom CACAC i gyflwyno ei chweched adroddiad adolygu cyflogau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Cyhoeddwyd yr adroddiad, gan gynnwys argymhellion ynglŷn â diwygiadau i gyflog ac amodau athrawon yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2025. Ym mis Rhagfyr 2025, cynorthwyom CACAC i gyflwyno ei adroddiad ar amodau gwasanaeth arweinwyr ysgolion i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Cyhoeddwyd yr adroddiad a’i argymhellion gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2026.
Amcan 4: Bod yn sefydliad effeithlon, cydnerth, a chynaliadwy sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion.
Cyllid
Cyflwynwyd ein Hadroddiad Blynyddol a’n Cyfrifon ar gyfer 2024-25 gerbron y Senedd ym mis Awst 2025, a chawsom farn archwilio ddiamod ar eu cyfer unwaith eto.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026, adroddom ddiffyg o £2,133,000 (diffyg o £1,481,000 ar 31 Mawrth 2025) a chyfanswm asedau net o £3,140,000 (£4,329,000 ar 31 Mawrth 2025).
Mae cronfeydd wrth gefn yn cyflawni rôl bwysig yn ein dull rheoli ariannol cyffredinol ac maen nhw’n rhan annatod o gyflawni ein Cynllun Strategol. Maen nhw’n galluogi’r sefydliad i reoli risg yn effeithiol, sicrhau parhad busnes, a pharhau i allu cyflawni ein dyletswyddau statudol pan fyddwn yn wynebu materion annisgwyl na ellid eu rhagweld, boed hynny o natur ariannol neu wasanaeth.
Gwasanaethau cost-effeithiol
Gan fod ein swyddogaethau craidd, sef cofrestru a rheoleiddio, yn cael eu hariannu gan ffioedd cofrestru, mae’n hanfodol nad ydym yn gwario mwy na’n hincwm a’n bod yn defnyddio ein hadnoddau’n effeithlon. Rydym yn cynnal ymarferion meincnodi helaeth, gan ymchwilio i reoleiddwyr ar draws y byd i fonitro lefel ein ffioedd a sicrhau bod unrhyw gynigion ar gyfer modelau yn y dyfodol yn deg ac yn gyson â sefydliadau eraill sydd â chylch gwaith rheoleiddiol tebyg.
Drwy gydol 2025-26, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i uwchraddio ein cronfa ddata cofrestru a fydd yn gwella effeithlonrwydd perfformiad ymhellach, ein galluogi i gofnodi data manylach, a gwella taith y defnyddiwr ar gyfer ein cofrestreion. Dechreuwyd profi’r system newydd ym mis Chwefror 2026 a bydd yn parhau drwy gydol 2026–27. Disgwylir cwblhau’r gwaith uwchraddio yn ystod 2026-27, yn amodol ar brofion terfynol a gweithredu.
Sbotolau ar: Sicrwydd trwy archwilio mewnol
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad effeithlon, cydnerth, a chynaliadwy sy’n cynnig gwerth am arian i’n cofrestreion. I gefnogi hyn, mae gwasanaeth archwilio annibynnol yn cynnal adolygiadau archwilio mewnol rheolaidd, gan roi sicrwydd bod ein rheolaethau, prosesau, a threfniadau llywodraethu sefydliadol yn gadarn ac yn gweithredu’n effeithiol.
Mae Pwyllgor Archwilio a Chraffu CGA yn cyflawni rôl allweddol wrth oruchwylio’r gwaith hwn, gan archwilio pob adroddiad archwilio’n ofalus a dal y sefydliad i gyfrif er mwyn cynnal safonau llywodraethu a chydymffurfio cryf a chyson.
Yn 2025-26, roedd pum maes allweddol yn destun adolygiad archwilio mewnol:
- cynllunio parhad busnes
- llywodraethu – cydymffurfio rheoleiddiol
- rheolaethau ariannol allweddol
- sefydlu
- rheoli Adnoddau Dynol
Cafodd y pum maes y farn archwilio uchaf posibl, sef sicrwydd sylweddol, ac ni wnaed unrhyw argymhellion. Dyma’r nawfed flynedd yn olynol i bob archwiliad mewnol gyflawni sicrwydd sylweddol. Mae’r cysondeb hwn yn eithriadol ac yn adlewyrchu effeithiolrwydd parhaus ein rheolaethau mewnol.
Cefnogi a meithrin ein pobl
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac mae ein hagweddau at recriwtio, datblygu, a dyrchafu ein staff wedi hen ennill eu plwyf. Mae ein prosesau recriwtio’n cael eu monitro a’u profi’n barhaus i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a’n cyfrifoldebau cydraddoldeb. Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2026, cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr o’n prosesau recriwtio i wella ein gwasanaethau ymhellach, gyda’r nod o ddenu ystod ehangach a mwy amrywiol o ymgeiswyr mewn gweithgarwch recriwtio yn y dyfodol.
Yn ystod 2025-26, dechreuodd saith unigolyn mewn swyddi newydd, yr oedd tri ohonynt yn benodiadau mewnol.
Datblygiad staff
Ein staff yw ein hased mwyaf gwerthfawr. Rydym yn cefnogi eu twf parhaus trwy gyfleoedd hyfforddi a datblygu cynhwysfawr, sy’n cyd-fynd â’n hamcanion sefydliadol. Yn ystod 2025-26, roedd ein hyfforddiant ar gyfer yr holl staff yn cynnwys ymarfer gwrth-hilol, y Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), ac ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch.
Yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer y sefydliad cyfan, mae aelodau staff yn gallu gofyn am hyfforddiant penodol yn rhan o’r broses adolygu perfformiad a datblygiad. Mae’r ceisiadau hyn yn cael eu hystyried yn ofalus a'u cefnogi, lle bo’n briodol, i fodloni anghenion unigol a sefydliadol. Yn ystod y flwyddyn, cyflwynwyd 33 o ddigwyddiadau hyfforddi ychwanegol i ymateb i geisiadau a wnaed trwy’r broses adolygu perfformiad a datblygiad ac anghenion hyfforddi a amlygwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Lles staff
Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar greu diwylliant gwaith sy’n hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol cadarnhaol, a lles. Mae gan staff fynediad at wasanaeth cymorth cyfrinachol i gyflogeion sy’n cynnig llinell gymorth a chyfres o weminarau ar amrywiaeth o bynciau iechyd a lles. Mae hyn yn ychwanegol at hyb lles penodol sy’n darparu ystod o adnoddau sy’n hyrwyddo iechyd, ffitrwydd, a lles, gan gynnwys ap a gymeradwywyd gan y GIG i atal cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, eu canfod yn gynnar, a’u hunanreoli.
Mae ein rhaglen lles staff barhaus yn annog cydweithwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a ddyluniwyd i hyrwyddo eu hiechyd corfforol a meddyliol. Mae ein llety swyddfa’n cynnwys ystafell benodol i’r staff, yn ogystal ag ystafell dawel amlbwrpas sy’n cynnig lle tawel a phreifat ar gyfer gweddïo, myfyrio, a gweithgareddau eraill. Mae pedwar swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl o fewn y sefydliad hefyd sydd wedi’u hyfforddi i gynorthwyo eu cydweithwyr.
Cefnogi aelodau
Mae gan aelodau’r Cyngor wybodaeth a phrofiad helaeth ar draws y sector addysg, yn ogystal â phresenoldeb lleyg.
Rydym hefyd yn cynnal ac yn cefnogi cronfa o aelodau annibynnol y panel PiY, aelodau’r Bwrdd Achredu AGA, ac aseswyr y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi cynnal sawl ymarfer recriwtio i sicrhau bod gennym ddigon o aelodau sydd â’r wybodaeth a’r arbenigedd priodol.
Mae’r holl aelodau ac aseswyr yn ymgymryd â hyfforddiant sefydlu cyn dechrau eu rolau ac rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi ffurfiol yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys cyfraniad gan amrywiaeth o siaradwyr fel cyrff rheoleiddiol eraill, cynghorwyr cyfreithiol, ac arbenigwyr o fewn meysydd addysgol arbenigol. Anogir aelodau i amlygu unrhyw hyfforddiant ychwanegol y gallwn ei ddarparu i’w cynorthwyo i gyflawni eu rolau.
Diogelwch TG
Mae gennym fecanweithiau cadarn ar waith i sicrhau diogelwch ein rhwydwaith TG a’r data a gedwir ynddo. Adnewyddwyd ein hardystiad Cyber Essentials ym mis Mai 2025, ac rydym yn cynnal gwiriadau cydymffurfio â safonau diogelwch data’r diwydiant cardiau talu bob chwarter. Rydym hefyd wedi darparu hyfforddiant gorfodol ar-lein ar seiberddiogelwch i’r holl staff, ac wedi cynnal profion gwe-rwydo rheolaidd i gynnal ymwybyddiaeth staff o faterion seiber. Ym mis Mawrth 2026, mynychodd y Rheolwr TG a’r uwch dîm rheoli ddigwyddiad ymgysylltu ar gyfer uwch arweinwyr a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo sefydliadau i ddatblygu aeddfedrwydd eu Cynlluniau Rheoli Seiberddigwyddiad (CIMP). Rydym yn parhau i gymryd camau, a ddechreuodd yn ystod 2024-25, tuag at gyflawni Cyber Essentials Plus, a dechreuwyd gweithio tuag at gyflawni achrediad Lefel Un IASME yn ystod 2025-26.
Diogelu data a Rhyddid Gwybodaeth
Fel sefydliad, rydym yn cynnal trefniadau cadarn ar gyfer llywodraethu gwybodaeth, a gefnogir gan bolisïau a gweithdrefnau sy’n sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth diogelu data a gofynion Rhyddid Gwybodaeth.
Rydym yn darparu hyfforddiant ar ddiogelu data i’r holl staff ac aelodau. Mae’r hyfforddiant yn cael ei deilwra i adlewyrchu gwahanol ofynion pob rôl ac fe’i hadolygir yn flynyddol.
Yn 2025-26, ymatebom i dri chais am fynediad at ddata gan y testun a 15 o geisiadau rhyddid gwybodaeth.
Y Gymraeg
Rydym yn falch o weithredu fel sefydliad dwyieithog, gan hyrwyddo a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn weithredol. Rydym yn cynnig ein holl wasanaethau i gofrestreion yn Gymraeg a Saesneg ac yn gweithio’n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau y cydymffurfir yn llawn â Safonau’r Gymraeg.
Mae’n ofynnol i CGA gydymffurfio â 148 o Safonau’r Gymraeg, sy’n ymdrin â darparu gwasanaeth, materion gweithredol, llunio polisïau, a chadw cofnodion. Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r safonau hyn.
Yn 2025-26, parhaom i gefnogi ac ymgysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg, gan ymateb i alwadau am dystiolaeth, mynychu gweminarau a sesiynau gwybodaeth yn rheolaidd, a diweddaru sawl proses fewnol, gan gynnwys ein polisi ar ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn fewnol.
Ym mis Awst 2025, cyhoeddwyd ein Hadroddiad Monitro Blynyddol ar Safonau’r Gymraeg, sy’n amlinellu ein cydymffurfedd â’r safonau ac yn rhoi gwybodaeth fanwl am ein gwaith i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ymhlith ein staff, cofrestreion, a rhanddeiliaid eraill.
Cydraddoldeb
Mae hyrwyddo cynwysoldeb, cydraddoldeb, a thegwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i CGA. Rydym yn hyrwyddo’r egwyddorion hyn o fewn ein sefydliad ac ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru. Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant gweithle sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn cyfrannu at greu Cymru decach.
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn amlinellu ein hamcanion cydraddoldeb a sut byddwn yn gweithio i hyrwyddo cyfle cyfartal, yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol. Mae’r cynllun gweithredu cysylltiedig yn manylu ar sut bydd yr amcanion hyn yn cael eu cyflawni a sut bydd cynnydd yn cael ei fesur.
Ym mis Awst 2025, cyhoeddwyd ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf ar Gydraddoldeb, sy’n manylu ar ein cynnydd yn erbyn ein pum amcan cydraddoldeb. Mae’r adroddiad yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant ar draws ein holl feysydd gwaith, a chefnogi’r gweithlu addysg ehangach i wneud yr un peth.
Materion amgylcheddol a chymunedol
Fel sefydliad, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar leihau ein heffaith ar yr amgylchedd gymaint â phosibl yn unol â’n dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ym mis Ionawr 2026, cyhoeddwyd ein Hadroddiad ar y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau, a oedd yn ymdrin â’r cyfnod 1 Ionawr 2023 i 31 Rhagfyr 2025. Mae’r adroddiad yn amlinellu sut rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau statudol, gan amlygu cynnydd mewn meysydd fel hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith ein cofrestreion, lleihau allyriadau sy’n gysylltiedig â theithio, gwella ailgylchu, a chefnogi gweithgareddau cadwraeth ymarferol. Rydym hefyd wedi dechrau datblygu ein cynllun gweithredu cyntaf ar fioamrywiaeth a fydd, pan fydd wedi’i gwblhau, yn arwain ein gwaith i gryfhau ein hymagwedd amgylcheddol ymhellach yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Ymgynghori â staff a rhanddeiliaid
Staff
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu’n effeithiol â’r holl staff, gan sicrhau eu bod yn cael gwybod am ddatblygiadau mewnol ac allanol. Mae eu safbwyntiau a’u hadborth yn werthfawr ac yn cael eu defnyddio i lywio ein cynllunio ar gyfer y dyfodol. I gefnogi hyn, rydym yn cynnal dau gyfarfod gweithdy staff bob blwyddyn lle mae staff yn trafod ac yn helpu i lywio datblygiad ein cyfres o gynlluniau sefydliadol a thrafod materion perthnasol yn ymwneud â’r gweithle.
Mae ein fforwm cyflogeion yn cyfarfod bob chwarter i drafod amrywiaeth o faterion, gan gynnwys unrhyw bolisïau newydd neu sydd wedi’u hadolygu, y rhaglen les, y Gymraeg yn y gweithle, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, iechyd a diogelwch, a’r amgylchedd swyddfa.
Eleni, rydym wedi gwneud cryn gynnydd wrth gryfhau ein dulliau cyfathrebu mewnol trwy ddatblygu cynllun cyfathrebu mewnol ffurfiol, y disgwylir ei weithredu yn 2026-27. Cyfrannodd cyflogeion yn sylweddol at ei greu, gan helpu i ffurfio ei gyfeiriad a’i flaenoriaethau er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion y sefydliad. Mae’r cynllun yn darparu dull strwythuredig a chyson o rannu gwybodaeth ar draws y sefydliad, gan sicrhau bod cydweithwyr yn wybodus, yn ymgysylltiedig, ac yn cael eu cynorthwyo i ddeall blaenoriaethau a datblygiadau allweddol. Mae hefyd yn cefnogi diwylliant sefydliadol mwy cysylltiedig, gan helpu i sicrhau bod staff ar bob lefel yn teimlo’n gysylltiedig a’u bod yn gallu cyfrannu.
Ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid
Rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd â’n rhanddeiliaid a’n partneriaid yn y sector addysg, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau i ymgysylltu ac ymgynghori ynglŷn â gweithgareddau allweddol. Yn ystod 2025-26, arweiniwyd un ymgynghoriad ffurfiol a oedd yn ceisio safbwyntiau ar ein Cynllun Strategol 2026-29 drafft.
Rydym hefyd wedi ymgysylltu’n eang â chofrestreion a rhanddeiliaid, ar draws pob sector, gan fynychu a chyfrannu at ystod eang o ddigwyddiadau a mentrau a drefnwyd gan eraill ar hyd y flwyddyn.
Edrych tua’r dyfodol
Yn ystod y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau i ychwanegu at ein cynnydd a chyflawni’r blaenoriaethau a amlinellir yn ein Cynllun Strategol 2026-29 newydd. Bydd diogelu’n ganolog i’n gwaith o hyd, ochr yn ochr â’n hymrwymiad i gryfhau ein gwasanaethau, dyfnhau ein hymgysylltiad â’r gweithlu addysg, a sicrhau bod ein systemau a’n prosesau’n aros yn gadarn, yn gynhwysol, ac yn flaengar.
Byddwn yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol:
- parhau i ymgymryd â’n cyfrifoldebau statudol yn effeithiol, yn effeithlon, ac yn gynaliadwy trwy:
- darparu gwasanaeth cofrestru a rheoleiddio cadarn, sy’n sicrhau mai’r rhai hynny sy’n addas ac yn gymwys i ymarfer yn unig sy’n gallu gwneud hynny
- gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau model ffioedd cofrestru priodol ar gyfer y dyfodol, sy’n caniatáu i ni aros yn annibynnol ac yn ariannol gynaliadwy
- cynorthwyo cofrestreion i gynnal y Cod, a chyflawni’r safonau proffesiynol uchaf trwy ddarparu a hyrwyddo gwybodaeth ddefnyddiol, adnoddau, a gwasanaethau a ddyluniwyd i gynnig arweiniad a chyfarwyddyd
- cryfhau ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn dilyn etholiadau Senedd 2026
- amlygu i’r llywodraeth ac eraill fod angen cryfhau’r ddeddfwriaeth sy’n sail i’n gwaith er mwyn gwella diogelu, gan gynnwys trwy:
- sefydlu cymwysterau gofynnol ar gyfer pob categori cofrestru
- achrediad proffesiynol cymwysterau o’r fath
- gwarchod y safonau proffesiynol ar gyfer pob grŵp cofrestreion
- ffurfio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru, gan gynnwys rhoi a chyhoeddi cyngor ar addysgu a dysgu, a materion perthnasol yn ymwneud â’n gweithlu cofrestredig
- hyrwyddo gyrfaoedd ym myd addysg trwy ymgymryd â gwaith y tu hwnt i’r hyn a amlinellir yn Neddf Addysg (Cymru) 2014, trwy Addysgwyr Cymru, gan gynnwys gweithgarwch wedi’i dargedu gydag unigolion, sefydliadau partner, a grwpiau cymunedol mewn meysydd blaenoriaeth
- gwella ein gwasanaethau digidol, gan gynnwys lansio cronfa ddata cofrestru wedi’i huwchraddio
- parhau i gynyddu ymwybyddiaeth o’n rôl trwy gryfhau ein cyfathrebu â chofrestreion, rhanddeiliaid, a’r cyhoedd
- cyflawni gwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn unol â thargedau a graddfeydd amser cytunedig
Risgiau a heriau allweddol
Mae gennym weithdrefnau cadarn ar waith i reoli risg sefydliadol. Mae ein cofrestr risg yn sicrhau bod meysydd a amlygir yn cael eu harchwilio’n drylwyr a’u hadolygu’n rheolaidd gan reolwyr. Rydym yn darparu gwybodaeth bellach am reoli risg yn ein Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Mae mwyafrif y risgiau yn y gofrestr risg yn rhai parhaus, ond ystyrir bod y canlynol yn arbennig o berthnasol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Model cyllido ar gyfer y dyfodol
Nid yw ein ffioedd cofrestru wedi newid ers i ni gael ein sefydlu yn 2015, ac ers 2008 ar gyfer athrawon ysgol, pan oeddem yn gweithredu fel Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. A ninnau’n sefydliad sy’n cael ei ariannu gan ffioedd, mae’n bwysig bod lefel ein ffioedd yn parhau i gefnogi darparu gwasanaethau o ansawdd uchel a’n galluogi i gyflawni ein cyfrifoldebau statudol yn effeithiol. Er mwyn helpu i sicrhau bod ein hymagwedd yn aros yn deg ac yn gymesur, rydym yn adolygu’r ffioedd a godir gan reoleiddwyr eraill yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig, ac yn rhyngwladol yn rheolaidd, ac yn meincnodi yn erbyn arferion rheoleiddiol ehangach.
Ym mis Mawrth 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fyddai’n darparu cymhorthdal i gofrestreion tuag at eu ffioedd cofrestru blynyddol ar gyfer 2024/25. Er mwyn osgoi goblygiadau ariannol i’n cofrestreion, cytunodd ein Cyngor i dalu’r cymhorthdal o’n cronfeydd wrth gefn. Yn dilyn cadarnhad y byddai cymhorthdal rhannol yn unig ar gael i gofrestreion ar gyfer 2025-26 a 2026-27, cytunodd y Cyngor unwaith eto i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i dalu’r diffyg canlyniadol.
Yn ystod 2025-26, dechreuwyd trafodaethau cychwynnol â Llywodraeth Cymru ynglŷn ag ymgynghori ar fodelau ffioedd posibl yn y dyfodol. Bydd y trafodaethau hyn yn parhau yn 2026-27 gyda’r nod o gytuno ar fodel ffioedd priodol ar gyfer 2027-28 a thu hwnt.
Cronfa ddata cofrestru
Rydym wrthi’n uwchraddio ein cronfa ddata cofrestru er mwyn darparu system hunanwasanaeth gynhwysfawr ar gyfer cofrestreion, cyflogwyr, a’r cyhoedd. Byddwn yn monitro cynnydd y prosiect hwn yn ofalus i sicrhau nad oes unrhyw darfu ar y gwasanaeth.
Etholiadau’r Senedd
Yn dilyn etholiadau’r Senedd yn 2026, mae’n bosibl y bydd cyfnod addasu wrth i’r llywodraeth newydd sefydlu ei blaenoriaethau a threfnu ei thimau. Byddwn yn ymgysylltu â gweinidogion, cynghorwyr, a swyddogion mewn ffordd ragweithiol er mwyn sicrhau eu bod yn llwyr ddeall ein rôl a’n bod mewn sefyllfa dda i weithio gyda nhw ar flaenoriaethau cenedlaethol sy’n dod i’r amlwg.
Fframwaith llywodraethu
Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith llywodraethu sy’n gymesur â’n cylch gwaith ac yn briodol iddo. Gan fod ein gweithgareddau craidd yn cael eu hariannu trwy ffioedd cofrestru yn hytrach na grant gan y llywodraeth, rydym yn gweithredu o fewn cyfyngiadau ariannol tynn sy’n gofyn am drefniadau llywodraethu ariannol cryf. Felly, mae’n hanfodol bod ein fframwaith llywodraethu’n adlewyrchu natur arbennig ein sefydliad unigryw.
Lisa Winstone
Prif Weithredwr
9 Gorffennaf 2026
Adroddiad atebolrwydd
Adroddiad llywodraethu corfforaethol
Adroddiad y Cyfarwyddwyr
Y Cyngor
Mae gan y Cyngor 14 o aelodau, yn cynnwys saith aelod a benodir gan Weinidogion Cymru o enwebeion sefydliadau fel yr amlinellir yn Atodlen 2 Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014, a saith aelod a benodir yn uniongyrchol gan Weinidogion Cymru. Ymdrinnir â strwythur pwyllgorau a llywodraethu’r Cyngor yn fanylach yn yr adroddiad ar berfformiad.
Yr aelodau yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2026 oedd:
- Geraint Williams – Cadeirydd o 1 Rhagfyr 2025
- Eithne Hughes, Cadeirydd tan iddi ymddiswyddo o’r Cyngor ar 30 Tachwedd 2025
- David Edwards
- David Williams
- Gwawr Taylor
- Jane Jenkins
- Karl Jones
- Kathryn Robson
- Kelly Edwards
- Nicola Stubbins
- Sue Walker
- Theresa Evans-Rickards
- tair swydd wag ar 31 Mawrth 2026
Yn ogystal, mae’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu yn cynnwys un aelod lleyg (Alison Jarvis).
Uwch swyddogion
Yr uwch swyddogion ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2026 oedd:
- Prif Weithredwr - Hayden Llewellyn (tan 11 Awst 2025)
- Prif Weithredwr Dros Dro – Lisa Winstone (14 Gorffennaf 2025 tan 19 Hydref 2025)
- Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol - Lisa Winstone (fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr ar 20 Hydref 2025)
- Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Dros Dro – Kerry Price (1 Awst 2025 tan 4 Chwefror 2026)
- Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol – Christine Hellings (o 2 Chwefror 2026)
- Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi - Bethan Holliday-Stacey
- Cyfarwyddwr Rheoleiddio – David Browne
Mae’r Cyngor yn cynnal Cofrestr o Fuddiannau Aelodau, sydd ar gael ar y wefan, sy’n rhoi manylion unrhyw fuddiannau sy’n berthnasol i’w gwaith fel aelod o’r Cyngor, neu a allai fod yn berthnasol i hynny. Mae’n ofynnol i uwch swyddogion beidio â dal unrhyw swydd y cânt gydnabyddiaeth ariannol am ei chyflawni a fyddai’n gwrthdaro â’u dyletswyddau ar gyfer CGA, ac adroddir am unrhyw swyddi di-dâl eraill hefyd. Datgelir manylion trafodion â phartïon cysylltiedig, gan gynnwys aelodau’r Cyngor ac uwch swyddogion, yn nodyn 20 i’r cyfrifon.
Datganiad o gyfrifoldebau’r Cyngor a’r Prif Weithredwr
O dan Baragraff 21 Atodlen 1 Deddf Addysg (Cymru) 2014, mae’n ofynnol i CGA baratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol, ar y ffurf a’r sail a nodir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon. Caiff y cyfrifon eu paratoi ar sail croniadau ac mae’n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa CGA ar ddiwedd y flwyddyn a’i incwm a’i wariant, a’i lifoedd arian parod ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’n ofynnol i CGA gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth, ac yn benodol i:
- ddilyn y Cyfarwyddyd Cyfrifon a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson
- gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
- datgan a yw’r safonau cyfrifyddu perthnasol fel y’u nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth wedi’u dilyn, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriad o bwys yn y datganiadau ariannol
- paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol
Mae cyfrifoldebau’r Prif Weithredwr wedi’u hamlinellu yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru (a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru), ac maen nhw’n cynnwys cyfrifoldeb am y canlynol:
- priodoldeb a rheoleidd-dra’r cyllid cyhoeddus (y mae’r Prif Weithredwr yn atebol amdano)
- cadw cofnodion priodol
- diogelu asedau CGA
Fel Prif Weithredwr, cadarnhaf:
- hyd y gwn i, nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw archwilwyr CGA yn ymwybodol ohoni
- yr wyf wedi cymryd yr holl gamau gofynnol i ddod i wybod am unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a chadarnhau bod archwilwyr CGA yn ymwybodol o’r wybodaeth honno
- bod yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon hyn yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, ac fy mod yn cymryd cyfrifoldeb personol am yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon hyn a’r dyfarniadau gofynnol ar gyfer pennu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy
Datganiad llywodraethu blynyddol
Mae CGA wedi ymrwymo i gyflawni safonau uchel o lywodraethu wrth gyflawni ei amcanion corfforaethol, gan gynnwys rheoli ei adnoddau yn briodol. Mae’r datganiad hwn yn disgrifio’r trefniadau llywodraethu ar gyfer CGA yn 2025-26 a fframwaith risg a rheoli CGA, gan gloi gydag asesiad o’u heffeithiolrwydd yn ystod y flwyddyn.
Ac yntau’n rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol a chorff cyhoeddus, nid yw CGA wedi’i gyfrwymo’n ddeddfwriaethol gan God Llywodraethu Corfforaethol y llywodraeth ganolog, er ei fod yn dewis dilyn llawer o’i egwyddorion i gyfoethogi ei arferion. Yn rhan o’u telerau penodi a’r gyfres ddilynol o weithdrefnau llywodraethu, mae’n ofynnol i aelodau’r Cyngor fabwysiadu egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus trwy God Ymddygiad ac Ymarfer Gorau ar gyfer Aelodau CGA. Dylanwadir ar y Cod hwn gan y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Bwrdd Corff Cyhoeddus (a gyhoeddwyd gan swyddfa’r Cabinet yn 2011 ac a adolygwyd yn 2019), y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (Pwyllgor Nolan) a’r egwyddorion ychwanegol a amlinellir yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001.
Rôl Cyngor y Gweithlu Addysg
Prif nodau a swyddogaethau CGA yw:
- cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru
- cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon ac eraill sy’n cefnogi dysgu ac addysgu yng Nghymru
- diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg
Fframwaith llywodraethu
Mae’r fframwaith llywodraethu yn cynnwys y systemau a’r prosesau a ddefnyddir i gyflawni ei weithgareddau, ac mae’n seiliedig ar genhadaeth, gweledigaeth, a gwerthoedd CGA. Mae’n galluogi CGA i fonitro a rheoli ei weithrediadau.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gorff corfforaethol, a sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 a Rheoliadau amrywiol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015. Mae’n ofynnol i aelodau’r Cyngor (cyfeiriwch at adroddiad y cyfarwyddwyr gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Gorau ar gyfer Aelodau.
Mae’r aelodau yn aelodau o un o dri o bwyllgorau sefydlog y Cyngor: y Pwyllgor Gweithredol, y Pwyllgor Cofrestru a Rheoleiddio, a’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu. Mae’r Cyngor yn cyfarfod teirgwaith y flwyddyn (er y cynhaliwyd pedwar cyfarfod yn 2025-26 i ystyried eitemau ychwanegol), ac fel arfer bydd pob pwyllgor hefyd yn cyfarfod teirgwaith y flwyddyn, ac adroddir busnes y pwyllgor i gyfarfod nesaf y Cyngor. Yn ogystal, mae’r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Adolygu Perfformiad, yn cynnwys y Cadeirydd a dau aelod arall, sy’n cytuno ar yr asesiad o berfformiad y Prif Weithredwr, yn cadarnhau dyfarnu unrhyw gynyddran, ac yn gosod yr amcanion ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Caiff y fframwaith llywodraethu ei ffurfioli drwy Reolau Sefydlog CGA, sy’n nodi sut mae’r Cyngor a’r Pwyllgorau yn gweithredu. I gefnogi hynny, ceir cyfres o bolisïau a gweithdrefnau sy’n nodi sut mae CGA yn gweithredu a’r broses ar gyfer cyflawni amcanion corfforaethol. Y rhain sy’n ffurfio system reoli fewnol CGA.
Y Cadeirydd sy’n gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth strategol effeithiol ar faterion fel ffurfio strategaeth CGA ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau statudol, annog safonau uchel o briodoldeb, a hybu defnydd effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau eraill ym mhob rhan o CGA, a sicrhau bod CGA, wrth wneud penderfyniadau, yn rhoi ystyriaeth briodol i’w gyfrifoldebau statudol.
Mae rolau’r aelodau yn strategol ac maent yn cynnwys canolbwyntio ar strategaeth gorfforaethol, amcanion a thargedau strategol allweddol, cymeradwyo dogfennau polisi o bwys, a phenderfyniadau o bwys sy’n ymwneud â defnyddio adnoddau ariannol ac adnoddau eraill. O dan y Rheolau Sefydlog, caiff y Cyngor ddirprwyo cyfrifoldebau am faterion penodol i bwyllgorau’r Cyngor, y Cadeirydd, neu’r Prif Weithredwr. Mae gan aelodau’r Cyngor a swyddogion CGA gyfrifoldebau sy’n ategu ei gilydd o ran ffurfio a gweithredu polisïau CGA.
Mae’r cyfrifoldeb am reolaeth o ddydd i ddydd wedi’i ddirprwyo i’r Prif Weithredwr ac uwch aelodau staff, o fewn fframwaith rheoli strategol clir gan aelodau’r Cyngor. Y Prif Weithredwr sydd â’r cyfrifoldeb, o dan y Cyngor, am brosesau trefnu, rheoli, a staffio cyffredinol CGA, gan gynnwys:
- sicrhau bod CGA yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol
- monitro cydymffurfedd â rheoliadau a pholisïau mewnol CGA
- ymddygiad a disgyblaeth staff
Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am lywodraethu corfforaethol priodol CGA, rheoli ei swyddogion gweithredol yn effeithiol, rheoli ariannol, a chyfathrebu â rhanddeiliaid. Mae’r Prif Weithredwr wedi sefydlu trefniadau dirprwyo os bydd yn absennol a bydd y Cyfarwyddwr Rheoleiddio yn ymgymryd â’r rôl.
Cefnogir y Prif Weithredwr gan yr uwch dîm rheoli, sy’n cynnwys tri chyfarwyddwr fel uwch swyddogion, a restrir yn adroddiad y cyfarwyddwyr. Mae’r Uwch Dîm Rheoli yn cyfarfod yn fisol. Ei gylch gwaith yw cynghori’r Prif Weithredwr ar gynnydd yn unol â’i brif weithgareddau, cadarnhau dyraniad adnoddau, monitro a rheoli cyfrifon rheoli yn seiliedig ar gyllidebau y cytunwyd arnynt, adolygu a diwygio’r gofrestr risg, ac adolygu a chymeradwyo polisïau newydd a diwygiedig sy’n effeithio ar bob agwedd ar weithrediadau CGA.
Yn 2025-26, ymrwymodd CGA i bedwar amcan corfforaethol, sef:
- bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol effeithiol sy’n gweithio er budd y cyhoedd a meithrin hyder yn y gweithlu addysg
- cefnogi proffesiynoldeb a dysgu, a hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg
- llywio, ffurfio, a dylanwadu ar bolisi addysgol a cheisio gwella rheoleiddio’r gweithlu addysg yng Nghymru
- bod yn sefydliad effeithlon, cydnerth, a chynaliadwy sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion
Dehonglir amcanion yn weithgareddau trwy’r Cynllun Strategol tair blynedd a chynlluniau gweithredol blynyddol. Goruchwylir perfformiad gweithredol ac ariannol gan y Pwyllgor Gweithredol trwy adolygiadau chwarterol, sy’n adrodd ar gyflawniadau yn unol ag amcanion ar gyfer y cyfnod adrodd. Cyflawnir atebolrwydd ariannol trwy’r prosesau pennu cyllideb flynyddol, yn seiliedig ar gynlluniau sydd wedi’u cymeradwyo, a chynhyrchir cyfrifon rheoli misol, y mae’r Uwch Dîm Rheoli yn craffu arnynt. Mae fformat y cyfrifon blynyddol wedi’i seilio ar Lawlyfr Adroddiadau Ariannol y Trysorlys. Mae hyn yn sicrhau eglurder ynghylch datgelu perfformiad ariannol. Yna, caiff y cyfrifon hyn, a’r systemau ariannol ategol, eu harchwilio’n allanol, i gadarnhau eu bod yn gywir a’u bod yn cydymffurfio â gofynion datgelu, a rheoleidd-dra trafodion ariannol.
Fframwaith risg a rheoli
Mae’r fframwaith risg a rheoli yn seiliedig ar y polisi rheoli risg, sy’n ffurfio haen allweddol o drefniadau rheoli mewnol a llywodraethu corfforaethol CGA. Mae’r polisi’n ategu’r prif egwyddorion a amlinellir yn Llyfr Oren Trysorlys EM, er nad yw hyn wedi cael ei fabwysiadu’n ffurfiol fel ymagwedd ar gyfer CGA. Mae’r polisi’n cydnabod nad yw’n bosibl dileu pob risg, ond, drwy’r gofrestr risg, mae’n cofnodi’r prosesau a ddefnyddir i leihau risg i lefel dderbyniol. Mae hefyd yn nodi bod yr holl staff yn chwarae rhan mewn nodi risgiau posibl newydd, er mai’r Uwch Dîm Rheoli sy’n gyfrifol am reoli’r risgiau. Mae’r polisi’n cael ei adolygu ddwywaith y flwyddyn, ac fe’i hadolygir nesaf ym mis Gorffennaf 2027.
Mae’r gofrestr risg yn rhoi manylion yr holl fygythiadau allweddol i gyflawni’r amcanion corfforaethol, y cytunwyd arnynt yn y cynllun strategol a’r cynllun gweithredol. Rhoddir sgôr i bob risg allweddol yn seiliedig ar ei heffaith bosibl ar fusnes CGA a’r tebygolrwydd y bydd yn digwydd. Mae’r strategaeth reoli yn cynnwys derbyn, osgoi, lleihau, neu drosglwyddo risgiau mewn ymateb i hynny. Mae camau penodol sy’n ofynnol yn cael eu hamlygu, eu dyrannu i uwch reolwr, a’u gweithredu yn unol â therfynau amser penodol. Mae’r gofrestr risg yn cynnwys gwerthusiad o lefel y ‘risg weddilliol’ ar ôl gweithredu’r dull rheoli. Caiff risgiau agoriadol a gweddilliol eu cynrychioli drwy ddefnyddio system rybuddio goleuadau traffig, ac mae iddynt liw sy’n unol â hynny (coch/melyn/gwyrdd). Ystyriwyd yr holl risgiau yn ystod adolygiad chwarterol yr Uwch Dîm Rheoli.
Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd y gofrestr risg yn cynnwys y prif risgiau canlynol:
| Prif risg | Mesurau lliniaru allweddol | |
|---|---|---|
|
Coch Ambr |
Methiant i fod â chronfa ddata cofrestru ar waith sy’n addas i’r diben, gan arwain at anallu i gyflawni ein cyfrifoldebau statudol. |
Contract ar waith i ddarparu’r gronfa ddata wedi’i huwchraddio. Cynllun prosiect wedi’i ddatblygu i fonitro a rheoli’r broses o gyflawni’r prosiect. Symud y system bresennol i’r amgylchedd a gynhelir gan weinydd a ddefnyddir i weithredu’r system wedi’i huwchraddio cyn diwedd y cyfnod cymorth ar gyfer Windows yn y system bresennol . |
|
Coch Ambr |
Methiant i gytuno ar ffioedd cofrestru diwygiedig gyda Llywodraeth Cymru o 2027-28 ymlaen, gan arwain at gyhoeddusrwydd negyddol i CGA a goblygiadau ariannol tymor hir. |
Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar lefelau ffioedd cofrestru diwygiedig o 2027-28 ymlaen |
|
Coch Ambr |
Os yw gweithgareddau gweithredol yn golygu bod gwariant CGA yn fwy na’r incwm o ffioedd cofrestru, mae’n bosibl na fydd digon o arian i gyflawni ein hamcanion. |
Pennu cyllidebau gochelgar. Monitro a chraffu’n fanwl ar niferoedd cofrestru a gwariant. Amlygu arbedion o ran costau ac effeithlonrwydd. Rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw bryderon. Datblygu cynigion ar gyfer model ffioedd sy’n sicrhau bod costau’n cael eu hadennill yn llawn. Cynnal lefelau digonol o gronfeydd ariannol wrth gefn. |
|
Coch Ambr |
Os nad ydym yn cofrestru a rheoleiddio grwpiau cofrestreion yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, byddai niwed yn cael ei achosi i’n henw da ac fe allai arwain at gymryd camau cyfreithiol. |
Monitro nifer y ceisiadau a’r achosion Priodoldeb i Ymarfer. Trefniadau ar waith i gefnogi gwiriadau cymhwysedd gan gyflogwyr. Sefydlu gweithdrefnau diffyg cydymffurfio gyda chyflogwyr. Gweithdrefnau ar waith ar gyfer aelodau a swyddogion |
|
Coch Ambr |
Os bydd Pwyllgor PiY yn gwneud penderfyniad sy’n cael ei herio yn yr Uchel Lys a’i golli, bydd goblygiadau i’r sefydliad o ran arian ac enw da. |
Cymwyseddau ar gyfer aelodau’r panel a recriwtio yn unol â’r rhain. Gweithdrefnau ar waith ar gyfer aelodau a swyddogion. Hyfforddiant blynyddol i aelodau’r panel a hyfforddiant chwe-misol i gadeiryddion. Cymorth cyfreithiol o ansawdd uchel ar gyfer paneli a gwasanaethau swyddog cyflwyno ac Apeliadau Uchel Lys. Protocolau ar waith ar gyfer cyfathrebu a thrin y cyfryngau |
Caiff y gofrestr risg ei hadolygu bob chwarter gan uwch swyddogion, ac mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu, sydd â chylch gwaith i oruchwylio polisi rheoli risg CGA. Mae unrhyw risgiau a rheolaethau newydd a amlygir o adolygiad yr Uwch Dîm Rheoli yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor.
Cyflwynir y gofrestr risg i’r Cyngor i’w hystyried unwaith y flwyddyn, pan fydd aelodau’n cadarnhau bod yr asesiad cyffredinol yn gyson â pharodrwydd cyffredinol y Cyngor i dderbyn risg. Ystyrir bod y Cyngor yn wrth-risg ar hyn o bryd, ac adolygwyd hyn ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2026.
Caiff risgiau ariannol eu rheoli gan gyfres fanwl o weithdrefnau rheoli ariannol sy’n nodi’r rheolaethau, ac yn pennu cyfrifoldebau, a lefelau dirprwyo. Mae cydymffurfio â’r gweithdrefnau hyn yn hyrwyddo safonau uchel o lywodraethu da. Cafodd y rhain eu hadolygu ddiwethaf ym mis Mawrth 2026 i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn addas i’r diben.
Mae CGA a’r Cyngor yn benderfynol o sicrhau na chaiff twyll ei dderbyn na’i oddef. Mae nifer o gamau ar waith i sicrhau bod twyll yn cael ei atal, gan gynnwys gwahanu’r swyddogaethau a nodir yn y gweithdrefnau rheoli ariannol, cysoni a monitro ariannol rheolaidd, Cod Ymddygiad Staff sy’n disgrifio’r safonau a ddisgwylir gan swyddogion CGA, systemau rheoli llinell clir, a pholisi chwythu’r chwiban. Ni fu unrhyw achosion o chwythu’r chwiban yn ystod y flwyddyn.
Mae’r system reoli fewnol wedi’i chynllunio i reoli risg i lefel resymol (yn hytrach na dileu pob risg o fethu) er mwyn cyflawni polisïau, nodau, ac amcanion. Felly, dim ond sicrwydd rhesymol o effeithiolrwydd y gall ei ddarparu, nid sicrwydd llwyr. Mae’r system reoli fewnol yn seiliedig ar broses barhaus sydd wedi ei chynllunio i:
- nodi a blaenoriaethu’r risgiau i gyflawni polisïau, nodau, ac amcanion CGA
- gwerthuso’r tebygolrwydd o wireddu’r risgiau hynny a’r effaith pe byddent yn cael eu gwireddu
- eu rheoli’n effeithlon, yn effeithiol, ac yn ddarbodus.
Mae’r system reoli fewnol wedi bod ar waith yn CGA yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026 a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon, ac mae’n cydymffurfio â chanllawiau’r Trysorlys.
Mae cynllun parhad busnes ac adfer yn sgil trychineb CGA yn ymdrin â’r risgiau allweddol i’r sefydliad pe byddai bygythiad i barhad y busnes o ran adeiladau neu systemau gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys cynnal prawf blynyddol ar y cynllun. Roedd senario eleni wedi’i seilio ar yr ymateb i ryddhau data personol o’r Gofrestr a pha gamau tymor byr, tymor canolig, a thymor hir y dylid eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater.
Mae CGA yn sefydliad sydd â llawer iawn o ddata ar y gweithlu addysg yng Nghymru. Caiff y data ei gynnwys yng nghronfeydd data CGA gyda’r mesurau diogelu priodol ar waith a, lle y bo’n berthnasol, caiff ei rannu â chofrestreion unigol, a chaiff gwybodaeth benodol ei rhannu â chyflogwyr/sefydliadau eraill. Cedwir data mewnol arall yn ddiogel ac fe’i rheolir yn unol â’r egwyddorion diogelu data. Ni fu unrhyw achosion tor-data adroddadwy i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ystod y flwyddyn, fel y cadarnhawyd yng nghyfarfodydd misol yr Uwch Dîm Rheoli.
Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ein seilwaith TG i sicrhau bod ein systemau mewnol ac allanol yn aros yn gadarn. Caiff diogelwch gwybodaeth ei ategu drwy gadw data CGA bob nos ar wasanaeth cadw data wrth gefn mewn cwmwl oddi ar y safle.
Mae CGA wedi cyhoeddi dogfen safonau gwasanaeth sydd â system ac amserlen ar gyfer ymdrin â chwynion. Cafwyd dwy gŵyn yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Ymatebwyd i’r ddwy yn unol â’r graddfeydd amser a nodir yn ein dogfen safonau gwasanaeth.
Mae CGA wedi ymrwymo i ddefnyddio ei adnoddau dynol i hybu llywodraethu corfforaethol cryf. Mae wedi ymrwymo i ddatblygu pobl gymwys sydd wedi’u hyfforddi’n dda i gyflawni’r swyddogaethau amrywiol. Yn ystod y flwyddyn, parhaodd â rhaglen hyfforddi’r holl staff, gan ymdrin â phynciau penodol a chyffredinol. Mae hyn yn ychwanegol at ddarparu hyfforddiant a nodwyd ar gyfer unigolion, gan gynnwys cymorth i astudio tuag at gymwysterau proffesiynol perthnasol.
Cynhaliwyd diwrnod hyfforddiant blynyddol gydag aelodau’r Cyngor ym mis Ebrill 2025 a ymdriniodd ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys mewnwelediadau gan y Sefydliad Rheoleiddio, sbarduno ansawdd, a safbwyntiau proffesiynol gan gyd-aelodau’r Cyngor.
Mae gan CGA ei raglen Adolygu Perfformiad a Datblygiad blynyddol ei hun, sy’n asesu perfformiad swyddogion yn ystod y flwyddyn flaenorol ac yn nodi amcanion penodol ac anghenion hyfforddi ar gyfer y flwyddyn ddilynol.
Mae’n rhaid i’r holl swyddogion gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer cyflogeion CGA. Mae gan CGA amrywiaeth o bolisïau adnoddau dynol i sicrhau bod lefelau cymorth a disgwyliadau cyson ar waith. Mae polisi chwythu’r chwiban ac aelodau penodedig o’r Cyngor ar gael i’r staff pe byddai angen yn codi. Ni chodwyd unrhyw faterion yn ystod 2025-26.
Adolygiad o effeithiolrwydd y Cyngor
Nodir presenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod 2025-26 yn y tabl canlynol (mae’r cyfanswm posibl mewn cromfachau):
| Aelod | Presenoldeb yn y Cyngor | Presenoldeb mewn Pwyllgorau Sefydlog | ||
|---|---|---|---|---|
| Gweithredol | Cofrestru a Rheoleiddio | Archwilio a Chraffu | ||
| Eithne Hughes | 3(3) | 2(2) | ||
| David Edwards | 3(4) | 2(3) | ||
| David Williams | 3(4) | 2(3) | ||
| Geraint Williams | 2(4) | 1(1) | 2(2) | |
| Gwawr Taylor* | 3(4) | 2(3) | ||
| Jane Jenkins | 2(4) | 3(3) | ||
| Karl Jones | 2(4) | 3(3) | ||
| Kathryn Robson | 2(4) | 2(3) | ||
| Kelly Edwards | 3(4) | 2(3) | ||
| Nicola Stubbins | 3(4) | 3(3) | ||
| Sue Walker | 3(4) | 2(3) | ||
| Theresa Evans-Rickards | 4(4) | 2(3) | ||
| Alison Jarvis (aelodlleyg) | - | - | - | 2(3) |
*Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Chraffu
Mae’r aelodau yn cymryd rhan mewn proses adolygu aelodau flynyddol sy’n cynnwys hunanasesiad blynyddol o berfformiad gan yr aelodau eu hunain, a hefyd asesiad o berfformiad yr holl aelodau gan y Cadeirydd. Mae hyn wedi ei gwblhau’n ddiweddar ar gyfer y flwyddyn 2025-26 ac mae’n parhau i fod yn llwyddiannus iawn.
Caiff cyflawniadau yn unol ag amcanion gweithredol eu hadrodd a’u hadolygu’n rheolaidd ar hyd y flwyddyn trwy adolygiadau chwarterol. Mae’r adolygiadau hyn yn nodi cyflawniad o ran canlyniadau tymor byr, ac yn amlygu unrhyw gamau gweithredu sy’n weddill. Ystyrir y ddogfen hon gan y Prif Weithredwr a’r Uwch Dîm Rheoli a chaiff ei goruchwylio gan y Pwyllgor Gweithredol. Rhoddir crynodeb o gyflawni amcanion CGA yn ystod 2025-26 yn yr adroddiad ar berfformiad.
Yn ogystal â hyn, o ran gweithgareddau a ariennir yn gyhoeddus, cynhelir cyfarfodydd rheolaidd â swyddogion Llywodraeth Cymru i fonitro cyflawniad yr amcanion gweithredol penodol hynny. Cyflawnwyd yr holl dargedau gweithredol.
Pwyllgor Archwilio a Chraffu
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu yn chwarae rhan bwysig yn y strwythur llywodraethu corfforaethol, a thrwy ei adolygiadau, mae’n cynghori’r Prif Weithredwr ar effeithiolrwydd polisïau, systemau a gweithdrefnau. Mae ei gylch gwaith wedi’i gynnwys yn rheolau sefydlog CGA.
Yn ystod y flwyddyn, mae wedi cael ac adolygu amryw adroddiadau gan archwilwyr mewnol ac allanol, wedi cwblhau asesiad o berfformiad archwilwyr mewnol ac allanol ac wedi adolygu’r gofrestr risg ym mhob cyfarfod. Mae’r pwyllgor hefyd wedi cael adroddiad blynyddol ar gydymffurfio â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Ddeddf Diogelu Data, ac adroddiad blynyddol ar wasanaethau TG.
Mae holl weithgareddau’r pwyllgor wedi cefnogi asesiad cadarnhaol o drefniadau llywodraethu CGA.
Archwilio mewnol
Gweithredodd TIAA fel archwilwyr mewnol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026. O fewn cynllun tair blynedd cyffredinol sy’n sicrhau bod pob maes yn cael sylw yn ei dro, cytunir ar raglen waith flynyddol cyn y flwyddyn ariannol. Wrth i adolygiadau gael eu cwblhau yn ystod y flwyddyn, cyflwynir adroddiadau i’r Pwyllgor Archwilio a Chraffu. Caiff canlyniadau’r flwyddyn eu crynhoi mewn adroddiad blynyddol.
Cwblhawyd cyfanswm o bum adroddiad yn 2025-26:
- llywodraethu – cydymffurfedd rheoleiddiol â Safonau’r Gymraeg
- cynllunio parhad busnes
- rheolaethau ariannol allweddol – y gyflogres, goramser, teithio, a chynhaliaeth
- sefydlu – ANG
- rheoli adnoddau dynol
Mae’r tabl canlynol yn crynhoi lefel y sicrwydd, ac argymhellion o bob adolygiad:
| Maes | Sicrwydd | Argymhellion: blaenoriaeth | ||
|---|---|---|---|---|
| Uchel | Canolig | Isel | ||
| Llywodraethu – cydymffurfedd rheoleiddiol â Safonau’r Gymraeg | Sylweddol | - | - | - |
| Cynllunio parhad busnes | Sylweddol | - | - | - |
| Rheolaethau ariannol allweddol – y gyflogres, goramser, teithio a chynhaliaeth | Sylweddol | - | - | - |
| Sefydlu – ANG | Sylweddol | - | - | - |
| Rheoli adnoddau dynol | Sylweddol | - | - | - |
Daeth yr adroddiad blynyddol i’r casgliad “…ar gyfer y meysydd a adolygwyd yn ystod y flwyddyn, mae prosesau rhesymol ac effeithiol gan Gyngor y Gweithlu Addysg ar waith ar gyfer rheoli risg, rheoli a llywodraethu.”
Archwilio allanol
Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd allanol statudol CGA, a benodwyd o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014. Cwblhawyd yr archwiliad o Gyfrifon Blynyddol 2025-26 ar ei ran gan Archwilio Cymru.
Roedd sylwadau ar yr archwiliad o Gyfrifon Blynyddol 2024-25 yn gadarnhaol, a chyflwynodd Archwilydd Cyffredinol Cymru farn archwilio ddiamod yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion o bwys wedi codi o ganlyniad i brofion yr archwiliad, a nodwyd nad oedd yr archwilwyr wedi dod o hyd i unrhyw achosion o bwys lle na ddefnyddiwyd a chyfrifwyd adnoddau yn briodol.
Materion llywodraethu o bwys
Nid yw’r Cyngor wedi nodi unrhyw faterion llywodraethu o bwys yn ystod y flwyddyn. Ni nodwyd ychwaith unrhyw feysydd sy’n peri pryder y mae angen eu cryfhau neu eu gwella.
Bu fy mhwyslais gweithredol ar:
- cofrestru a rheoleiddio pob un o’r 13 grŵp o gofrestreion a nodir mewn deddfwriaeth
- cyhoeddi Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig ar gyfer y proffesiynau addysg
- gweithredu prosesau achredu AGA fel y’u hamlinellir mewn deddfwriaeth
- cyflawni’r holl weithgareddau a ariennir gan grantiau Llywodraeth Cymru yn unol â’r safonau y cytunwyd arnynt
- adolygu a gweithredu’r effaith ar gronfeydd CGA o ganlyniad i leihau’r cymhorthdal ar gyfer ffioedd cofrestreion gan Lywodraeth Cymru ac adolygu opsiynau ar gyfer ymgynghori ar ffioedd yn y dyfodol
Ni fu unrhyw golledion na thaliadau arbennig yn ystod y flwyddyn.
Yn ogystal, fu unrhyw atgyfeiriadau i’r Comisiynydd Gwybodaeth o ran gweithgareddau yn ystod y flwyddyn, ac ni wnaed unrhyw gwynion.
Datganiad gan y Prif Weithredwr
I grynhoi, rwy’n fodlon bod fframwaith llywodraethu CGA yn ystod y flwyddyn wedi bod yn effeithiol, gan roi sicrwydd ei fod wedi stiwardio adnoddau’n briodol wrth gyflawni ei amcanion.
Lisa Winstone
Prif Weithredwr
9 Gorffennaf 2026
Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff
Polisi cydnabyddiaeth ariannol
Mae’r adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a staff yn nodi manylion yr arferion cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau a staff CGA.
Contractau gwasanaeth
Penodir staff yn unol â pholisi recriwtio a dethol CGA, sy’n mynnu bod penodiadau’n cael eu gwneud ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored, ond mae hefyd yn cynnwys yr amgylchiadau pan fo’n bosibl penodi mewn modd arall.
Mae penodiadau’r uwch staff a nodir yn yr adroddiad hwn yn rhai penagored, ac eithrio secondiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol dros dro. Pe byddai’r swydd yn cael ei dirwyn i ben yn gynnar, ac eithrio o ganlyniad i gamymddwyn, byddai’r unigolyn yn cael ei ddigolledu fel y nodir yng Nghynllun Digolledu y Gwasanaeth Sifil.
Ac eithrio’r Prif Weithredwr, mae cyflogau’r holl staff wedi’u seilio ar raddfeydd cyflog Llywodraeth Cymru. Mae cydnabyddiaeth ariannol y Prif Weithredwr wedi’i seilio ar raddfa gynyddrannol, a chaiff unrhyw gynnydd ei gymeradwyo gan y Cadeirydd a’i gadarnhau gan y Pwyllgor Adolygu Perfformiad. Nid oes unrhyw daliadau bonws yn daladwy.
Cydnabyddiaeth ariannol yr aelodau*
Y Cadeirydd yw’r unig aelod o’r Cyngor y ceir rhoi cydnabyddiaeth ariannol iddo. Nid oes gan ddeiliad y swydd yr hawl i fod yn aelod o gynllun pensiwn y Cyngor.
Etholwyd Geraint Williams yn Gadeirydd ar 1 Rhagfyr 2025, gan ddisodli Eithne Hughes a ymddiswyddodd fel Cadeirydd ar 30 Tachwedd 2025. Triniwyd penodiad Geraint Williams fel secondiad ac ad-dalwyd cyfran o’i gyflog i’w gyflogwr. Cafodd Eithne Hughes gydnabyddiaeth ariannol gan CGA am ei hymrwymiad o ddau ddiwrnod yr wythnos tan ddiwedd ei phenodiad.
Telir treuliau holl aelodau eraill y Cyngor, gan gynnwys ad-dalu’r costau a ysgwyddwyd wrth deithio i gyfarfodydd a thalu costau staff cyflenwi neu’r costau cyfatebol i’w cyflogwyr, fel sy’n briodol. Adroddir y gwariant hwn fel costau Aelodau yn nodyn 4.
| 2025-26 £000oedd |
2024-25 | |
|---|---|---|
| Eithne Hughes | ||
| Ad-dalu costau i’r cyflogwr (yn cynnwys TAW) | - | 15 |
| Cydnabyddiaeth ariannol i’r Cadeirydd (1 Ebrill 2025 – 30 Tachwedd 2025) | 26 | 24 |
| Geraint Williams | ||
| Ad-dalu costau i’r cyflogwr (yn cynnwys TAW) Cadeirydd (1 Rhagfyr 2025 – 31 Mawrth 2026) | 16 | - |
*Mae’r wybodaeth hon yn destun archwiliad
Cydnabyddiaeth ariannol uwch aelodau staff*
Roedd cyflog, hawliau pensiwn, a gwerth unrhyw fuddion cyfatebol trethadwy swyddogion uchaf CGA fel a ganlyn:
| Un ffigur cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannolx | ||||||||
| Cyflog £000oedd | Taliadau bonws £000oedd | Buddion pensiwn (£000oedd) [1] | Cyfanswm (£000oed) | |||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 2025-26 | 2024-25 | 2025-26 | 2024-25 | 2025-26 | 2024-25xx (wedi’i ailddatgan)2 | 2025-26 | 2024-25 | |
|
Hayden Llewellyn (G) Prif Weithredwrx |
40-45 | 110-115 | - | - | 16 | 76 | 55-60 | 185-190 |
|
Lisa Winstone (B) Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol (hyd at 13 Gorffennaf 2025) a Phrif Weithredwr (o 20 Hydref 2025)x |
95-100 | 90-95 | - | - | 38 | 36 | 135-140 | 125-130 |
|
Bethan Holliday-Stacey (B) Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi |
85-90 | 80-85 | - | - | 32 | 57 | 120-125 | 140-145 |
|
David Browne (G) Cyfarwyddwr Rheoleiddio |
85-90 | 75-80 | - | - | 34 | 30 | 120-125 | 105-110 |
|
Christine Hellings (B) Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethauxx |
5-10 | 0 | 7 | 0 | 15-20 | 0 | ||
| Kerry Price (G) Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Dros Droxxxx | 30-35 | 0 | - | - | - | - | 30-35 | 0 |
xYmddiswyddodd Hayden Llewellyn ar 11 Awst 2025 a daeth Lisa Winstone yn Brif Weithredwr o 20 Hydref 2025 (yn dilyn cyfnod fel Prif Weithredwr dros dro o 14 Gorffennaf 2025 tan 19 Hydref 2025).
xxMae’r wybodaeth a gynhwysir yn Atodiad 13a ar gyfer cymharu 2024-25 wedi cael ei hailddatgan ar gyfer Lisa Winstone a David Browne a’i lleihau gan £23,000 a £2,000, yn y drefn honno.
xxx Ymunodd Christine Hellings â CGA fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ar 2 Chwefror 2026, gan ddisodli Lisa Winstone.
xxxx Yn ystod y flwyddyn ariannol, secondiwyd Kerry Price i CGA o’u hadran gartref ar gyfer y cyfnod o 1 Awst 2025 hyd 4 Chwefror 2026, fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol dros dro. Roedd hyn yn darparu dilyniant tra bod ymarfer recriwtio yn mynd yn ei flaen ar gyfer person parhanol yn dilyn penodiad Lisa Winstone fel Prif Weithredwr o 20 Hydref 2025. Cafodd y cyflog a buddion contract o ran y secondiad eu had-dalu i CGA gan yr adran gartref. Gweinyddwyd cyfranidau pensiwn (y cyflogai a’r cyflogwr) gan yr adran gartref, yn unol â’r cytundeb secondio. Mae’r gydnabyddiaeth ariannol a ddatgelwyd yn yr adroddiad yma’n adlewyrchu’r costau gan CGA yn ystod cyfnod y secondiad.
Cyflog
Mae cyflog yn cynnwys cyflog gros, goramser, ac unrhyw lwfans arall i’r graddau y mae’n ddarostyngedig i drethi’r Deyrnas Unedig. Mae’r adroddiad hwn wedi’i seilio ar daliadau a wnaed gan CGA ac a gofnodir felly yn y Cyfrifon hyn.
Nid oes taliadau bonws yn daladwy gan CGA.
*Mae’r wybodaeth hon yn destun archwiliad
Datgeliadau tâl teg*
Mae’n ofynnol i gyrff sy’n adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf yn eu sefydliad a chydnabyddiaeth ariannol gweithlu’r sefydliad.
| 2025-26 | 2024-25 | |
|---|---|---|
| Band yr unigolyn sydd â’r gydnabyddiaeth ariannol uchaf (£000oedd) | 95-100 | 110-115 |
| % y newid o’r flwyddyn ariannol flaenorol ar gyfer y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf | (13.3%) | 4.65% |
| Cyflog a lwfansau cyfartalog (heblaw’r cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf) | £43,152 | £41,313 |
| % y newid o’r flwyddyn ariannol flaenorol ar gyfer yr holl gyflogeion | 4.45% | 6.43% |
Y gydnabyddiaeth ariannol wedi’i bandio ar gyfer y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf yn CGA yn ystod y flwyddyn ariannol 2025-26 oedd £95,000-£100,000 (2024-25 £110,000-£115,000). Canran y newid o’r flwyddyn ariannol flaenorol yw -13.3% % (2024-25 4.65%). Mae cyfanswm cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf ar gyfer y flwyddyn yn is na’r llynedd o ganlyniad i newid i’r radd gyflog yn dilyn newidiadau staffio yn ystod y cyfnod. Mae’r cyflog a’r lwfansau cyfartalog (heblaw’r cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf) wedi codi 4.45% (2024-25 6.43%) o ganlyniad i weithredu dyfarniad cyflog i’r holl staff o 1 Ebrill 2025.
| Cymarebau cyflog | 2025-26 | 2024-25 |
|---|---|---|
| Cyfanswm cyflog a buddion y 25ain ganradd | £34,997 | £33,748 |
| Cymhareb cyflog y 25ain ganradd | 2.8 | 3.3 |
| Cyfanswm cyflog a buddion canolrifol | £37,112 | £34,768 |
| Cymhareb cyflog canolrifol | 2.6 | 3.2 |
| Cyfanswm cyflog a buddion y 75ed canradd | £47,648 | £45,974 |
| Cymhareb cyflog y 75ed canradd | 2.0 | 2.5 |
Roedd cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf 2.8 gwaith (2024-25 3.3) cydnabyddiaeth ariannol 25ain canradd y gweithlu, sef £34,997 (2024-25 £33,748), 2.6 gwaith (2024-25 3.2) cydnabyddiaeth ariannol ganolrifol y gweithlu, sef £37,112 (2024-25 £34,768), a 2.0 gwaith (2024-25 2.5) cydnabyddiaeth ariannol 75ed canradd y gweithlu, sef £47,648 (2024-25 £45,974). Mae cymhareb cyflog y 25ain a’r 75ed wedi gostwng eleni, yn bennaf o ganlyniad i ostyngiad ym mand cyflog y Prif Weithredwr. Mae’r symudiadau rhwng 2024-25 a 2025-26 o ganlyniad i ddyfarniad cyflog 3.7% (2024-25 5%) i’r holl staff a weithredwyd o 1 Ebrill 2025 a effeithiodd ar yr holl staff, lle y proseswyd dyfarniadau cynyddrannol pan nad yw staff ar uchafswm eu graddfa, a hefyd lle mae cyflogeion newydd wedi ymuno â’r sefydliad ond maen nhw ar bwynt is ar y raddfa na’u rhagflaenwyr.
Yn 2025-26, ni chafodd unrhyw gyflogeion (2024-25, dim) gydnabyddiaeth ariannol a oedd yn fwy na’r cyfarwyddwr â’r cyflog uchaf (y Prif Weithredwr). Roedd y gydnabyddiaeth ariannol yn amrywio o £29,292-£98,755 (2024-25, £28,246 i £111,359).
Mae cyfanswm cydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys cyflog, tâl sy’n gysylltiedig â pherfformiad anghyfunol, a buddion cyfatebol. Nid yw’n cynnwys cyfraniadau pensiwn cyflogwyr na gwerthoedd trosglwyddo sy'n gyfwerth ag arian parod pensiynau.
Buddion cyfatebol
Mae gwerth ariannol buddion cyfatebol yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarparwyd gan CGA ac y mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn eu trin fel enillion trethadwy. Ni thalwyd unrhyw fuddion cyfatebol yn ystod y flwyddyn.
Buddion pensiwn*
| Pensiwn a gronnwyd ar oedran pensiwn ar 31/3/2026 a'r cyfandaliad perthnasol £000oedd | Cynnydd gwirioneddol yn y pensiwn a’r cyfandaliad perthnasol ar oedran pensiwn £000oedd | Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV) ar 31/3/2026 £000oedd |
CETV ar 31/3/2025 | Cynnydd gwirioneddol mewn CETV £000oedd | |
|---|---|---|---|---|---|
| Hayden Llewellyn (G) Prif Weithredwr |
50-55 ynghyd â chyfandaliad o 120 - 125 |
0 – 2.5 ynghyd â chyfandaliad o 0 |
1,181 |
1,131 |
12 |
| Lisa Winstone (B) Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol/Prif Weithredwr |
30-35 |
0-2.5 |
450 |
407 |
23 |
|
Bethan Holliday-Stacey (B) Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi |
35 - 40 ynghyd â chyfandaliad o 90-95 |
0 – 2.5 ynghyd â chyfandaliad o 0 |
801 |
737 |
20 |
|
David Browne (G) |
5 -10 |
0 – 2.5 |
146 |
112 |
24 |
|
Christine Hellings (B) |
20-25 | 0-2.5 | 366 | 359 | 5 |
|
Kerry Price (G)x |
- | - | - | - | - |
x Gweinyddwyd cyfraniadau pensiwn (y cyflogai a’r cyflogwr) gan yr adran gartref yn unol â chytundeb y secondiad.
Mae unrhyw gostau pensiwn a ad-dalwyd i CGA yn ffurfio rhan o gyfanswm cost y secondiad, ond nid ydynt yn golygu mwy o ymrwymiadau pensiwn ar gyfer y sefydliad
Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil
Darperir buddion pensiwn trwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cyn 1 Ebrill 2015, yr unig gynllun oedd Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS), sydd wedi’i rannu’n ambell adran wahanol – mae classic, premium, a classic plus yn darparu buddion ar sail cyflog terfynol, tra bod nuvos yn darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. O 1 Ebrill 2015, cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd i weision sifil – y Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy’n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. Ymunodd yr holl weision sifil newydd eu penodi, a mwyafrif y rhai a oedd eisoes yn gwasanaethu, â’r cynllun newydd.
Mae’r PCSPS ac alpha yn gynlluniau statudol heb eu hariannu. Mae cyflogeion a chyflogwyr yn gwneud cyfraniadau (mae cyfraniadau cyflogeion yn amrywio rhwng 4.6% ac 8.05%, yn dibynnu ar gyflog). Mae balans costau’r buddion sy’n daladwy yn cael ei dalu gan arian a bleidleisir gan Senedd San Steffan bob blwyddyn. Cynyddir pensiynau sy’n daladwy bob blwyddyn yn unol â’r ddeddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Yn lle’r trefniadau buddion diffiniedig, caiff cyflogeion ddewis pensiwn cyfraniadau diffiniedig gyda chyfraniad gan y cyflogwr, sef y cyfrif pensiwn partneriaeth.
Yn alpha, mae pensiwn yn cronni ar gyfradd o 2.32% o enillion pensiynadwy bob blwyddyn, ac mae’r cyfanswm a gronnir yn cael ei addasu’n flynyddol yn unol â chyfradd a osodir gan Drysorlys EF. Caiff aelodau ddewis ildio (cymudo) pensiwn am gyfandaliad hyd at y terfynau a osodir gan Ddeddf Cyllid 2004. Cafodd buddion PCSPS yr holl aelodau a newidiodd i alpha o’r PCSPS eu ‘bancio’, a bydd y rhai hynny â buddion cynharach yn un o rannau cyflog terfynol PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha.
Y pensiynau cronedig a ddangosir yn yr adroddiad hwn yw’r pensiwn y mae gan yr aelod yr hawl i’w dderbyn pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn arferol, neu ar unwaith ar ôl peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun, os yw eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn arferol neu’n hŷn na hynny. 60 yw’r oedran pensiwn arferol ar gyfer aelodau classic, premium a classic plus, 65 ar gyfer aelodau nuvos, ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu 65, pa un bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau alpha. Mae’r ffigurau pensiwn yn yr adroddiad hwn yn dangos y pensiwn a enillwyd yn y PCSPS neu alpha, fel y bo’n briodol. Pan fydd gan aelod fuddion yn y PCSPS ac alpha, mae’r ffigurau’n dangos cyfuniad o werth ei fuddion yn y ddau gynllun, ond sylwer y gallai rhannau cyfansawdd y pensiwn hwnnw fod yn daladwy o wahanol oedrannau.
Pan gyflwynodd y Llywodraeth gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus newydd yn 2015, roedd trefniadau pontio a oedd yn trin aelodau presennol cynlluniau’n wahanol yn seiliedig ar eu hoedran. Arhosodd aelodau hŷn y PCSPS yn y cynllun hwnnw, yn hytrach na symud i alpha. Yn 2018, penderfynodd y Llys Apêl fod y trefniadau pontio yn y cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn aelodau iau.
O ganlyniad, mae camau’n cael eu cymryd i unioni diwygiadau 2015, gan wneud darpariaethau’r cynllun pensiwn yn deg i’r holl aelodau. Mae’r rhwymedi pensiynau gwasanaeth cyhoeddus yn cynnwys dwy ran. Caeodd rhan gyntaf y PCSPS ar 31 Mawrth 2022, a daeth yr holl aelodau gweithredol yn aelodau o alpha ar 1 Ebrill 2022. Mae’r ail ran yn dileu’r gwahaniaethu ar sail oed ar gyfer cyfnod y rhwymedi, rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, trwy symud aelodaeth aelodau cymwys yn ystod y cyfnod hwn yn ôl i’r PCSPS ar 1 Hydref 2023. Adwaenir hyn fel dirwyn yn ôl.
O ran aelodau sy’n gymwys ar gyfer y rhwymedi pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, mae’r cyfrifiad o’u buddion at ddiben cyfrifo eu Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod a chyfanswm unigol eu cydnabyddiaeth ariannol, ar 31 Mawrth 2023 a 31 Mawrth 2024, yn adlewyrchu’r ffaith bod aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 wedi cael ei dirwyn yn ôl i’r PCSPS. Er y bydd aelodau’n cael dewis p’un a ddylai’r cyfnod hwnnw gyfrif tuag at fuddion PCSPS neu alpha maes o law, mae’r ffigurau’n dangos y sefyllfa wedi’i dirwyn yn ôl h.y., buddion PCSPS ar gyfer y cyfnod hwnnw.
Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn galwedigaethol cyfraniad diffiniedig sy’n rhan o’r Legal & General Mastertrust. Mae’r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oedran yr aelod). Nid oes rhaid i’r cyflogai gyfrannu, ond pan fydd yn gwneud cyfraniadau, bydd y cyflogwr yn eu cyfateb hyd at derfyn o 3% o’r cyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Bydd cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% arall o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad o ganlyniad i salwch).
Ceir rhagor o fanylion am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar eu gwefan.
Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod
Gwerth Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalaf a aseswyd yn actiwaraidd y buddion cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a gaiff eu prisio yw’r buddion y mae’r aelod wedi eu cronni, ac unrhyw bensiwn gŵr neu wraig ddibynnol sy’n daladwy o’r cynllun. CETV yw taliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i sicrhau buddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddion a gronnwyd yn ei gynllun blaenorol. Mae’r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â’r buddion y mae’r unigolyn wedi eu cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth o’r cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swyddogaeth uwch y mae’r datgeliad yn berthnasol iddo.
Mae’r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi ei drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygio) 2008 ac nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i’r Dreth Lwfans Gydol Oes a allai fod yn ddyledus pan gymerir buddion pensiwn.
Cynnydd gwirioneddol mewn CETV
Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd mewn CETV a gyllidir gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys y cynnydd mewn pensiwn cronedig oherwydd chwyddiant, cyfraniadau a delir gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddir o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio’r farchnad gyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.
Digolledu am golli swydd
Ni wnaed unrhyw daliadau digolledu am golli swydd yn ystod y flwyddyn i’r staff hynny sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ar gydnabyddiaeth ariannol a staff hwn, nac unrhyw gyflogeion eraill.
Adroddiad staff
Nifer y bobl a gyflogir yn ôl math o gyflogaeth*
Yn ystod 2025-26, cyflogodd CGA 59.5 o staff ~ ar gyfartaledd (56.3, 2024-25) (gan gynnwys swyddogion ar gyfnod mamolaeth), fel a ganlyn:
| CGA | LlC | Cyfanswm 2025-26 | Cyfanswm 2023-24 | |
|---|---|---|---|---|
| Contract parhaol | 38.5 | 17.1 | 55.6 | 55.1 |
| Contract cyfnod penodol | 3.7 | 0.2 | 3.9 | 1 |
| Dros dro | 0 | 0 | 0 | 0 |
| Cyfanswm | 42.2 | 17.3 | 59.5 | 56.1 |
~Full time equivalents
Roedd cyfansoddiad y staff yn ôl rhywedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol fel a ganlyn:Yn ôl rhywedd| Yn ôl rhywedd | 31 Mawrth 2026 | 31 Mawrth 2025 | ||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| Staff | Gwryw | Benyw | Cyfanswm | Gwryw | Benyw | Cyfanswm |
| Uwch | 1 | 3 | 4 | 2 | 2 | 4 |
| Cyffredinol | 13 | 43 | 56 | 13 | 40 | 53 |
| Dros dro | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
| Total | 14 | 46 | 60 | 15 | 42 | 57 |
Oedran cyfartalog staff CGA ar 31 Mawrth 31 Mawrth 2026 oedd 43 oed (42 oed, ar 31 Mawrth 2025).
Absenoldeb oherwydd salwch
Mae CGA yn monitro absenoldeb oherwydd salwch yn barhaus, gan adolygu absenoldebau cronnol a hirdymor. Yn 2025-26, adroddodd cyflogeion gyfanswm o 355 o ddiwrnodau o absenoldeb oherwydd salwch (515 o ddiwrnodau, 2024-25) ac roedd 67% o’r rhain yn salwch hirdymor (74%, 2024-25).
Mae absenoldeb oherwydd salwch yn is na’r flwyddyn adrodd flaenorol ac yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 6 diwrnod fesul cyflogai ar gyfartaledd (9.2 diwrnod, 2024-25), ond yn is nag ar gyfer staff y gwasanaeth sifil. Y cyfartaledd cenedlaethol a adroddwyd yn fwyaf diweddar oedd 4.4 o ddiwrnodau fesul gweithiwr yn 2024 (y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Mehefin 2025), ac adroddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig mai’r cyfartaledd ar gyfer staff y gwasanaeth sifil yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025 oedd 8.2 diwrnod fesul gweithiwr (Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Rhagfyr 2025). Ni fu unrhyw ymddeoliadau ar sail iechyd gwael.
Costau staff*
| CGA | Gweithgareddau LlC | 2025-26 | 2024-25 | |||
|---|---|---|---|---|---|---|
| Staff parhaol £000oedd | Staff eraill £000oedd | Staff parhaol £000oedd | Staff eraill £000oedd | Cyfanswm £000oedd | Cyfanswm £000oedd | |
| Cyflogau | 1650 | 113 | 792 | 7 | 2,562 | 2,331 |
| Costau Nawdd Cymdeithasol | 222 | 14 | 106 | 1 | 343 | 252 |
| Costau pensiwn | 478 | 33 | 225 | 2 | 738 | 670 |
| Cyfanswm | 2,350 | 160 | 1,123 | 10 | 3,643 | 3,253 |
| Costau asiantaeth | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
| Cyfanswm | 2,350 | 160 | 1,123 | 10 | 3,643 | 3,253 |
Ni ddefnyddiwyd unrhyw staff asiantaeth yn ystod 2025-26 (2024-25, dim).
Cynlluniau buddion diffiniedig aml-gyflogwr nad ydynt yn cael eu cyllido yw Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) a Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ac Eraill (CSOPS) (a elwir yn alpha), ond ni all CGA nodi ei gyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol. Cynhaliwyd prisiad gan actiwari’r cynllun ar 31 Mawrth 2020. Mae manylion ar gael yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Pensiynau Sifil.
Ar gyfer 2025-26, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £728,536 yn daladwy i’r PCSPS (2024-25, £667,783) ar 28.97% o enillion pensiynadwy, ar sail bandiau cyflog. Yn ogystal, talwyd £9,439 yn rhan o’r costau secondiad yn ymwneud â’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Dros Dro i gyflogwr yr unigolyn ac nid yn uniongyrchol i’r PCSPS. Fel arfer, mae actiwari’r cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr bob pedair blynedd yn dilyn prisiad o’r cynllun cyfan. Gosodir cyfraddau cyfraniadau i dalu costau’r buddion sy’n cronni yn ystod 2025-26 i’w talu pan fydd yr aelod yn ymddeol, ac nid y buddion sy’n cael eu talu yn ystod y cyfnod hwn i bensiynwyr presennol. Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Ni ddewiswyd yr opsiwn hwn gan yr un o gyflogeion CGA, ac felly ni wnaed unrhyw gyfraniadau cyflogwr.
Trefniadau oddi ar y gyflogres
Ni wnaed unrhyw daliadau o dan drefniadau oddi ar y gyflogres yn ystod y flwyddyn (2024-25, dim).
Pecynnau ymadael
Ni fu unrhyw gostau dileu swydd na chostau ymadael eraill yn ystod y flwyddyn (2024-25, £dim).
*Mae’r wybodaeth uchod yn destun archwiliad.
Lisa Winstone
Prif Weithredwr
9 Gorffennaf 2026
Adroddiad archwilio
Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Senedd
Barn am y datganiadau ariannol
Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026 o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.
Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Incwm Cynhwysfawr, y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Lifoedd Arian Parod, y Datganiad o Newidiadau i Ecwiti Trethdalwyr, a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu arwyddocaol. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd gan y Deyrnas Unedig fel y’u dehonglwyd a’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.
Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r datganiadau ariannol:
- yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa Cyngor y Gweithlu Addysg ar 31 Mawrth 2026 a’i wariant net, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
- wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd gan y Deyrnas Unedig fel y’u dehonglwyd a’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF;
- wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a roddwyd o dan Ddeddf Addysg (Cymru)
Barn am reoleidd-dra
Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r incwm a’r gwariant a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Sail y farn
Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y Deyrnas Unedig (ISAs (UK)) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio datganiadau ariannol a rheoleidd-dra cyrff sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yn yr adran o’m tystysgrif ar gyfrifoldebau’r archwilydd ar gyfer archwilio’r datganiadau ariannol.
Rwyf innau a’m staff yn annibynnol ar y corff yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio a gefais yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i’m barn.
Casgliadau ynglŷn â busnes gweithredol
Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad fod y defnydd o’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.
Ar sail y gwaith a gyflawnais, nid wyf wedi amlygu unrhyw ansicrwydd perthnasol yn ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r corff i barhau i fabwysiadu sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeg mis o leiaf o’r dyddiad pan gaiff y datganiadau ariannol eu hawdurdodi i’w cyhoeddi.
Mae fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Prif Weithredwr mewn perthynas â busnes gweithredol wedi’u disgrifio yn yr adrannau perthnasol o’r dystysgrif hon.
Defnyddir y sail gyfrifyddu busnes gweithredol ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg gan ystyried y gofynion a amlinellir yn Llawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF, sy’n mynnu bod endidau’n defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol pan ddisgwylir y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau yn y dyfodol.
Gwybodaeth arall
Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys y wybodaeth a geir yn yr adroddiad blynyddol heblaw am y datganiadau ariannol, yr Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol a’m hadroddiad archwilydd arnynt. Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am y wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall a, heblaw i’r graddau a nodir yn benodol yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried p’un a yw’r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gafwyd wrth gynnal yr archwiliad, neu ei bod yn ymddangos fel arall ei bod wedi’i chamddatgan yn berthnasol. Os nodaf unrhyw anghysondebau perthnasol neu gamddatganiadau perthnasol ymddangosiadol, mae’n ofynnol i mi benderfynu p’un a yw hyn yn peri camddatgan perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os deuaf i’r casgliad, ar sail y gwaith a gyflawnais, fod camddatgan perthnasol o ran y wybodaeth arall hon, mae’n ofynnol i mi adrodd y ffaith honno.
Nid oes gennyf unrhyw beth i’w adrodd yn hyn o beth.
Barn am faterion eraill
Yn fy marn i, mae’r rhan o’r Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i’w harchwilio wedi cael ei pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.
Yn fy marn i, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad:
- mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd sydd i’w harchwilio wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014; ac
- mae’r wybodaeth a roddwyd yn y Rhagair, yr Adroddiad ar Berfformiad a’r Adroddiad Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.
Materion yr adroddaf arnynt drwy eithriad
Yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r corff a’i amgylchedd a gafwyd wrth gynnal yr archwiliad, nid wyf wedi canfod camddatganiadau o bwys yn y Rhagair, yr Adroddiad ar Berfformiad a’r Adroddiad Atebolrwydd.
Nid oes gennyf unrhyw beth i adrodd yn ei gylch mewn perthynas â’r materion canlynol yr adroddaf i chi, os, yn fy marn i:
- nad wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae arnaf eu hangen ar gyfer fy archwiliad;
- nad oes cofnodion cyfrifyddu priodol wedi cael eu cadw neu nad oes ffurflenni sy’n ddigonol i’m harchwiliad wedi cael eu derbyn gan ganghennau nad yw fy nhîm wedi ymweld â nhw;
- nad yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Atebolrwydd a archwiliwyd yn cytuno â’r cofnodion a’r datganiadau cyfrifyddu;
- nad yw gwybodaeth a bennwyd gan Weinidogion Cymru ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a thrafodion eraill wedi’i datgelu;
- na ddatgelir cydnabyddiaeth ariannol benodol a nodir yn Llawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF neu nad yw’r rhannau o’r Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i’w harchwilio yn cytuno â’r cofnodion a’r datganiadau cyfrifyddu; neu
- nad yw’r Datganiad Llywodraethu yn adlewyrchu cydymffurfedd â chanllawiau Trysorlys EF.
Cyfrifoldebau’r Prif Weithredwr am y datganiadau ariannol
Fel yr esboniwyd yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am:
- gynnal cofnodion cyfrifyddu priodol;
- paratoi’r datganiadau ariannol a’r Adroddiad Blynyddol yn unol â’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol a bod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg;
- sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
- sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol;
- y cyfryw reolaethau mewnol ag y mae’r Prif Weithredwr yn penderfynu eu bod yn angenrheidiol i allu paratoi datganiadau ariannol sy’n rhydd rhag camddatganiadau o bwys, boed hynny o ganlyniad i dwyll neu wall;
- asesu gallu Cyngor y Gweithlu Addysg i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo’n berthnasol, materion sy’n gysylltiedig â busnes gweithredol a defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni bai bod y Prif Weithredwr yn disgwyl na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.
Cyfrifoldebau’r Archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol
Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf Addysg (Cymru) 2014.
Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynglŷn â ph’un a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd rhag camddatgan perthnasol, p’un a achoswyd hynny trwy dwyll neu wall, a chyhoeddi adroddiad archwilydd sy’n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw’n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (UK) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau godi o dwyll neu wall ac ystyrir eu bod yn berthnasol pe gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu gyda’i gilydd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wnaed ar sail y datganiadau ariannol hyn.
Mae afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau. Rwyf yn dylunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a amlinellwyd uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll.
Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:
- Holi rheolwyr, darparwr archwilio mewnol yr endid a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol yn ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Cyngor y Gweithlu Addysg sy’n ymwneud â’r canlynol:
- nodi, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau a ph’un a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
- canfod ac ymateb i risgiau twyll a ph’un a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, amheuaeth o dwyll neu dwyll honedig; a’r
- rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau.
- Ystyried, fel tîm archwilio, sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Yn rhan o’r drafodaeth hon, amlygais bosibilrwydd ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: postio cyfnodolion anarferol.
- cael dealltwriaeth o fframwaith awdurdod Cyngor y Gweithlu Addysg yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith hanfodol ar weithrediadau Cyngor y Gweithlu Addysg;
- cael dealltwriaeth o’r berthynas â phartïon cysylltiedig.
Yn ogystal â’r uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:
- adolygu’r hyn a ddatgelwyd yn y datganiadau ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfedd â’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
- holi rheolwyr a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
- darllen cofnodion cyfarfodydd y rheiny sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Cyngor;
- wrth fynd i’r afael â risg twyll drwy ddiystyru rheolaethau gan reolwyr, profi pa mor briodol yw cofnodion dyddlyfrau ac addasiadau eraill; asesu a yw’r farn a luniwyd wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o ragfarn bosibl;
Roeddwn hefyd wedi cyfleu’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a nodwyd a’r risgiau posibl o ran twyll i holl aelodau’r tîm archwilio, ac roeddwn yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.
Effeithir ar y graddau y mae fy ngweithdrefnau’n gallu canfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, gan yr anhawster cynhenid i ganfod afreoleidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Cyngor y Gweithlu Addysg, a natur, amseriad a graddau’r gweithdrefnau archwilio a gyflawnir.
Mae disgrifiad pellach o gyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol ar gael ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o’m hadroddiad archwilydd.
Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd
Rwyf yn cael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.
Rwyf yn cyfathrebu â’r rhai hynny sy’n gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymhlith materion eraill, cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol a nodaf yn ystod fy archwiliad.
Adroddiad
Nid oes gennyf arsylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystrio’r cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg yw’r fersiwn hwn. Cyngor y Gweithlu Addysg sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.
Adrian Crompton
Archwilydd Cyffredinol Cymru
1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ
13 Gorffennaf 2026
Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am gynnal gwefan Cyngor y Gweithlu Addysg a sicrhau ei chyfanrwydd. Nid yw’r gwaith a gynhelir gan yr archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw’r archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd i’r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno ar y wefan yn y lle cyntaf.
Datganiadau ariannol
Datganiad o wariant net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026
| Nodyn | 2025-26 £000oedd | 2024-25 £000oedd | |
|---|---|---|---|
| Incwm | |||
| Grant gan Lywodraeth Cymru | 5,863 | 6,531 | |
| Ffioedd cofrestru | 2,728 | 2,741 | |
| Incwm arall | 3 | 101 | 139 |
| Arian a ryddhawyd o gronfeydd wrth gefn | 16 | 28 | 31 |
| Cyfanswm incwm | 8,720 | 9,442 | |
| Gwariant | |||
| Costau staff | * | 3,643 | 3,253 |
| Costau rhaglen uniongyrchol | 4 | 2,018 | 1,763 |
| Costau rhaglenni sefydlu | 5 | 4,443 | 5,097 |
| Costau gweithredu eraill | 6 | 494 | 486 |
| Dibrisiad | 8 | 22 | 26 |
| Amorteiddiad | 9 | 261 | 383 |
| Dibrisiad les Hawl Defnyddio | 10 | 122 | 122 |
| Taliadau cyllid – les | 18 | 3 | 4 |
| Cyfanswm gwariant | 11,006 | 11,134 | |
| Gwarged/(Diffyg) ar weithgareddau arferol | (2,286) | (1,692) | |
| Llog derbyniadwy | 7 | 153 | 211 |
| Gwariant net ar gyfer y flwyddyn a drosglwyddwyd i gronfeydd wrth gefn | (2,133) | (1,481) |
Mae’r holl weithgareddau a ariennir gan CGA yn parhau.
*Mae dadansoddiad o gostau staff wedi’i gynnwys yn yr adroddiad staff.
Mae’r nodiadau yn ffurfio rhan o’r cyfrifon hyn.
Datganiad o’r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2026
| Nodyn | 31 Mawth 2026 £000oedd | 31 Mawth 2025 £000oedd | |
|---|---|---|---|
| Asedau anghyfredol | |||
| Eiddo, offer, a chyfarpar | 8 | 34 | 42 |
| Asedau anniriaethol | 9 | 240 | 410 |
| Ased hawl defnyddio – les | 10 | 274 | 395 |
| Cyfanswm asedau anghyfredol | 548 | 847 | |
| Asedau cyfredol | |||
| Buddsoddiadau tymor byr | 2,503 | 2,503 | |
| Masnach a symiau derbyniadwy eraill | 11 | 458 | 304 |
| Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod | 12 | 3,329 | 4,397 |
| Cyfanswm asedau cyfredol | 6,290 | 7,204 | |
| Cyfanswm asedau | 6,838 | 8,051 | |
| Rhwymedigaethau cyfredol | |||
| Masnach a symiau taladwy eraill | 13 | (3,465) | (3,304) |
| Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau | 14 | - | - |
| Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol | (3,478) | (3,304) | |
| Asedau anghyfredol +/- asedau cyfredol net/rhwymedigaethau | 3,360 | 4,747 | |
| Rhwymedigaethau anghyfredol | |||
| Incwm grant gohiriedig | 13 | (54) | (125) |
| Rhwymedigaeth les hawl defnyddio | 13 | (166) | (293) |
| Cyfanswm rhwymedigaethau anghyfredol | (220) | (418) | |
| Asedau llai rhwymedigaethau | 3,140 | 4,329 | |
| Ariannwyd gan: | |||
| Ecwiti trethdalwyr | |||
| Cronfa wrth gefn gyffredinol | 1,832 | 2,993 | |
| Cronfa wrth gefn y gronfa ddata | 16 | 708 | 736 |
| Cronfa wrth gefn Priodoldeb i Ymarfer | 16 | 300 | 300 |
| Cronfa wrth gefn llety | 16 | 300 | 300 |
| Cyfanswm cyfalaf a chronfeydd wrth gefn | 3,140 | 4,329 |
Lisa Winstone
Prif Weithredwr
9 Gorffennaf 2026
Mae’r nodiadau yn ffurfio rhan o’r cyfrifon hyn.
Datganiad o lifoedd arian parod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026
| Nodyn | 2025-26 £000oedd | 2024-25 £000oedd | |
|---|---|---|---|
| Llifoedd arian parod o weithgareddau gweithredu | 15 | (1,957) | (980) |
| Llifoedd arian parod o weithgareddau buddsoddi | |||
| Llog a dderbyniwyd | 7 | 153 | 211 |
| Prynu eiddo, offer a chyfarpar | 8 | (14) | (34) |
| Prynu asedau anniriaethol | 9 | (91) | (145) |
| Cymorth Grant gan Lywodraeth Cymru | 2 | 972 | 238 |
| Ased hawl defnyddio: taliadau les | 18 | (131) | (130) |
| Cynnydd/(Gostyngiad) net mewn arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod | (1,068) | (840) | |
| Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod ar 1 Ebrill | 4,397 | 5,237 | |
| Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod ar 31 Mawrth | 3,329 | 4,397 |
Datganiad o newidiadau i ecwiti trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026
| Cronfa wrth gefn gyffredinol £000oedd | Cronfeydd wrth gefn dynodedig £000oedd | Cyfanswm £000oedd | |
|---|---|---|---|
| Newidiadau i ecwiti trethdalwyr 2024-25 | |||
| Balans ar 1 Ebrill | 4,536 | 1,067 | 5,603 |
| Cyllid Llywodraeth Cymru | 238 | - | 238 |
| Diffyg ar gyfer y flwyddyn | (1,481) | - | (1,481) |
| Trosglwyddiadau i/(o) gronfeydd wrth gefn dynodedig (Nodyn 17) | (300) | 269 | (31) |
| Balans ar 31 Mawrth 2025 | 2,993 | 1,336 | 4,329 |
| Newidiadau i ecwiti trethdalwyr 2025-26 | |||
| Balans ar 1 Ebrill | 2,993 | 1,336 | 4,329 |
| Cyllid Cymorth Grant Llywodraeth Cymru | 972 | - | 972 |
| Diffyg ar gyfer y flwyddyn | (2,133) | - | (2,133) |
| Trosglwyddiadau i/(o) gronfeydd wrth gefn dynodedig (Nodyn 16) | - | (28) | (28) |
| Balans ar 31 Mawrth 2026 | 1,832 | 1,308 | 3,140 |
Mae’r nodiadau yn ffurfio rhan o’r cyfrifon hyn..
Nodiadau i’r cyfrifon
1. Polisïau cyfrifyddu
1.1 Confensiwn cyfrifyddu
Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM) 2025-26, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Mae’r polisïau cyfrifyddu a gynhwysir yn y FReM yn cymhwyso Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y cânt eu haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus. Lle bydd y FReM yn caniatáu dewis o bolisi cyfrifyddu, dewiswyd y polisi cyfrifyddu y bernir mai ef yw’r mwyaf priodol i amgylchiadau penodol Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) er mwyn rhoi darlun cywir a theg. Caiff y polisïau penodol a fabwysiadwyd gan CGA eu disgrifio isod. Maent wedi’u cymhwyso’n gyson wrth ddelio ag eitemau yr ystyrir eu bod yn berthnasol i’r cyfrifon.
Mae CGA wedi ystyried IFRS 17 Contractau Yswiriant ac wedi dod i’r casgliad nad yw’n berthnasol i’r sefydliad, gan nad oes gennym unrhyw gontractau yswiriant.
1.2 Incwm ffioedd cofrestru
Mae’r flwyddyn gofrestru’n mynd o 1 Ebrill tan 31 Mawrth bob blwyddyn, ac mae’r ffi’n ddyledus ar 1 Ebrill bob blwyddyn. Mae’n ofynnol i’r ffi gael ei thalu’n llawn, ni waeth ar ba ddyddiad y mae ymarferydd yn cofrestru gyda CGA mewn gwirionedd. Ni roddir gostyngiad am gofrestru am ran o’r flwyddyn.
Cafodd incwm ffioedd ei gredydu i’r Datganiad o Incwm Cynhwysfawr ar sail gronnol, gydag unrhyw ffioedd a dderbyniwyd o flaen llaw ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol yn cael eu trin fel incwm wedi’i dalu o flaen llaw a’u cofnodi yn y Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol fel rhwymedigaeth.
1.3 Gwariant ar sefydlu
Caiff gwariant ar y rhaglen sefydlu ei gydnabod ar sail y tymor academaidd pan gwblhawyd y gweithgaredd hyfforddi. Caiff gwariant ac incwm grant sy’n ddyledus ar gyfer tymor y gwanwyn ei gynnwys o fewn croniadau (gwariant grant sy’n ddyledus i ysgolion) a symiau sy’n dderbyniadwy (grant sy’n ddyledus gan Lywodraeth Cymru), gan ddibynnu ar amser y taliad a derbyn grantiau perthnasol. Weithiau, gallai tymor y gwanwyn rychwantu dwy flynedd academaidd, er nad yw hyn bob amser yn wir gan fod dyddiad diwedd tymor y gwanwyn yn cael ei bennu gan y Pasg. Am y rheswm hwn, ac fel y cymeradwywyd gan archwiliadau blaenorol, cyfrifir am dymor y gwanwyn, ni waeth pryd y mae’n gorffen, yn y flwyddyn y mae’r holl sesiynau neu fwyafrif y sesiynau yn digwydd ynddi.
1.4 Asedau anghyfredol
Diffinnir asedau anghyfredol fel unrhyw ddarn unigol o offer sy’n costio mwy na £1,000 (gan gynnwys TAW) sydd ag oes economaidd/weithredol amcangyfrifedig o fwy na blwyddyn. Pan fydd yn fwy cyffredin ystyried cydrannau unigol fel grŵp, caiff y rhain eu trin fel asedau cyhyd â bod eu gwerth at ei gilydd yn fwy na’r trothwy cyfalafu.
Mae asedau anghyfredol wedi’u prisio ar sail cost hanesyddol ar ddiwedd y flwyddyn gan nad yw unrhyw addasiadau ailbrisio’n berthnasol ym marn CGA.
1.5 Dibrisiad
Darperir dibrisiad ar bob ased anghyfredol ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu’r gost, llai gwerth gweddilliol amcangyfrifedig pob ased, yn gyfartal dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig fel a ganlyn:
- caiff yr holl offer trydanol, gan gynnwys cyfrifiaduron ac offer swyddfa, ei ddibrisio ar sail linol dros dair blynedd
- caiff dodrefn a gosodiadau a ffitiadau eu dibrisio ar sail linol dros bum mlynedd
Ym mhob achos, bydd dibrisiad yn dechrau o'r mis ar ôl prynu.
1.6 Asedau anniriaethol
Cyfalafir gwaith datblygu meddalwedd, cynnwys y wefan a thrwyddedau sy’n costio mwy na £1,000 (gan gynnwys TAW) ac sydd ag oes economaidd/weithredol amcangyfrifedig o fwy na blwyddyn.
Darperir amorteiddiad ar asedau anniriaethol ar gyfraddau a gyfrifir i ddileu cost pob ased dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig:
- caiff y gwaith o ddatblygu'r gronfa ddata a’r wefan ei amorteiddio ar sail linol dros dair blynedd
- caiff trwyddedau meddalwedd eu hamorteiddio ar sail linol dros eu hoes.
Yn y ddau achos, bydd yr amorteiddio'n dechrau o’r mis ar ôl prynu.
1.7 Grantiau’r Llywodraeth
Mae CGA yn cael incwm grant ar gyfer prosiectau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y meysydd canlynol:
- gweinyddu dyfarnu SAC
- gweinyddu trefniadau cyllido, olrhain, a chofnodi ar gyfer sefydlu
- datblygu a chynnal y PDP
- cyhoeddi tystysgrifau sefydlu
- datblygu gwefan Addysgwyr Cymru
- gweithredu fel ysgrifenyddiaeth i CACAC
- dadansoddi data
- arwain ystod o fentrau cenedlaethol a phrosiectau ymchwil ar faterion addysgu a dysgu penodol
Yn ogystal â chyllid grant ar gyfer prosiectau, mae CGA hefyd yn cael cymorth grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y meysydd canlynol:
- hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg
- cymhorthdal ffioedd cofrestru
Caiff yr holl grantiau ar gyfer prosiectau a dderbynnir eu credydu i'r datganiad o incwm cynhwysfawr yn y flwyddyn y maent yn dod i law (ar sail croniadau), a chaiff unrhyw falansau sy'n weddill eu credydu i incwm cronedig neu ohiriedig ar ddiwedd y flwyddyn yn unol â hynny.
Lle y ceir cyllid mewn perthynas â phrynu asedau anghyfredol ac anniriaethol, ymdrinnir ag incwm grant fel incwm gohiriedig (rhwymedigaeth hirdymor), ac fe'i rhyddheir yn gymesur â gwerth yr ased a ddefnyddir bob blwyddyn.
Ystyrir cyllid cymorth grant fel cyllido ac fe’i credydir i’r gronfa wrth gefn gyffredinol wrth ei dderbyn.
1.8 Costau pensiwn
Past and present employees are covered by the provisions of the Civil Service Pension Schemes which are described within the remuneration and staff report. The defined benefit elements of the schemes are unfunded. The EWC recognises the expected costs of these elements on a systematic and rational basis over the period during which it benefits from employees’ services by payment to the Principal Civil Service Pension Schemes (PCSPS) of amounts calculated on an accruing basis. Liability for payment of future benefits is a charge on the PCSPS and the Civil Servant and Other Pension Scheme (CSOPS). In respect of the defined contribution elements of the schemes, the EWC recognises the contributions payable for the year.
1.9 Treth ar Werth (TAW)
Mae’r rhan fwyaf o weithgareddau CGA y tu hwnt i gwmpas TAW ac, yn gyffredinol, nid yw treth wrth werthu yn berthnasol ac ni ellir adennill treth wrth brynu ar bryniannau. Codir TAW na ellir ei hadennill i’r categori gwariant perthnasol neu caiff ei chyfalafu os yw’n ymwneud ag ased sefydlog. Pan godir treth wrth werthu neu pan ellir adennill TAW wrth brynu, caiff y symiau eu datgan heb gynnwys TAW.
1.10 Asedau hawl defnyddio
Yn unol ag IFRS 16, ar ddechrau contract, rydym yn asesu p’un a yw’r contract yn les ai peidio, neu b’un a yw’n cynnwys les ai peidio. Mae contract neu rannau o gontract sy’n trosglwyddo’r hawl i ddefnyddio ased yn gyfnewid am ystyriaeth yn cael eu dosbarthu’n lesoedd a chyfrifir amdanynt yn unol ag IFRS 16.
Mae contract yn les, neu’n cynnwys les:
- os yw’r contract yn cynnwys defnyddio ased a nodwyd
- os oes gennym yr hawl i gael yr holl fudd economaidd, i raddau helaeth, o ddefnyddio’r ased drwy gydol y cyfnod defnyddio
- os oes gennym yr hawl i ddefnyddio’r ased yn uniongyrchol
Pan gydnabyddir les mewn contract, cydnabyddwn ased hawl defnyddio a rhwymedigaeth les ar y dyddiad dechrau. Mesurir yr ased hawl defnyddio ar gost i ddechrau, sy’n cynnwys swm cychwynnol y rhwymedigaeth les wedi’i addasu ar gyfer costau uniongyrchol cychwynnol, rhagdaliadau, a chymhellion.
Mae’r ased hawl defnyddio’n cael ei ddibrisio gan ddefnyddio’r dull llinol o’r dyddiad dechrau i ddiwedd oes ddefnyddiol yr ased hawl defnyddio neu ddiwedd cyfnod y les, pa un bynnag sydd cynharaf. Pennir oes ddefnyddiol amcangyfrifedig asedau hawl defnyddio ar yr un sail ag oes ddefnyddiol asedau eiddo, offer a chyfarpar.
Mesurir y rhwymedigaeth les i ddechrau yn ôl gwerth presennol y taliadau les nad ydynt yn cael eu talu ar y dyddiad dechrau, wedi’i ddisgowntio gan ddefnyddio’r gyfradd llog sydd ymhlyg yn y les neu, os na ellir pennu’r gyfradd honno’n rhwydd, gan ddefnyddio’r gyfradd fenthyca gynyddrannol a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF.
Rydym wedi eithrio contractau ar gyfer eitemau gwerth isel sy’n costio llai na £5,000 a chontractau â chyfnod byrrach na deuddeg mis.
1.11 Rhagdaliadau
Mae CGA wedi mabwysiadu trothwy de minimis o £1,200 (cost sy’n gyfwerth â £100 bob mis) ar gyfer cydnabod rhagdaliadau. Ac eithrio ar gyfer rhagdaliadau mis llawn, bydd y tâl a amlinellwyd yn dechrau o’r mis ar ôl y taliad.
1.12 Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau
Mae CGA yn darparu ar gyfer yr holl rwymedigaethau cyfreithiol neu ffurfiannol na ellir eu rhagnodi o ran amser na swm ar ddyddiad y datganiad o’r sefyllfa ariannol ar sail yr amcangyfrif gorau o’r gwariant y mae ei angen i setlo’r rhwymedigaeth. Yn unol ag IAS 37, cydnabyddir darpariaethau dim ond lle bydd mantais economaidd yn debygol o gael ei throsglwyddo, a lle gellir amcangyfrif y swm yn rhesymol.
1.13 Buddsoddiadau tymor byr
Yn unol â’i bolisi ar reoli arian parod, mae CGA yn dal buddsoddiadau tymor byr, am hyd at 12 mis, ar adnau gydag un o brif fanciau’r stryd fawr.
1.14 Buddion cyflogeion
Yn ôl y gofyn, mae CGA yn cydnabod cost buddion cyflogeion, gan gynnwys:
- buddion cyflogeion tymor byr, sef ‘cost’ gwyliau blynyddol heb eu cymryd ar ddiwedd y flwyddyn
- buddion ôl-gyflogaeth, o ran buddion terfynu
1.15 Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod
Mae swyddogaethau craidd CGA yn cael eu cyllido gan incwm o ffioedd cofrestru blynyddol statudol ymarferwyr, ac mae gweithgareddau eraill a gwblheir ar ran Llywodraeth Cymru yn cael eu cyllido gan grant. Derbynnir incwm ffioedd o flaen llaw bob blwyddyn a chaiff cymorth grant ei dynnu i lawr bob tri mis ac yna bob mis, yn ôl yr angen. Oherwydd natur anfasnachol y gweithgareddau hyn a'r ffynonellau cyllid hyn, nid yw CGA yn agored i unrhyw risg ariannol.
Cedwir ei falansau arian mewn cyfrifon banc masnachol. Mae CGA yn agored i risg leiafsymiol o ran cyfraddau llog. Er bod CGA yn gallu cael benthyg arian, ni fu angen iddo wneud hynny yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
1.16 Cyfnewid tramor
Mae trafodion mewn arian tramor yn cael eu newid i sterling ar y gyfradd gyfnewid ar ddyddiad y trafodyn.
2. Cyllid Llywodraeth Cymru
| 2025-26 £000oedd | 2024-25 £000oedd | |
|---|---|---|
| Cymorth grant a gafwyd gan Lywodraeth Cymru | 972 | 238 |
| Y swm a gredydwyd i’r gronfa wrth gefn gyffredinol | 972 | 238 |
Fel yr amlinellir yn nodyn 1.7 uchod, mae cymorth grant o £972,000 (£238,000, 2024-25) yn cael ei gredydu i’r gronfa wrth gefn gyffredinol bellach wrth ei dderbyn.
3. Incwm arall
| 2025-26 £000oedd | 2024-25 £000oedd | |
|---|---|---|
| Incwm amrywiol | 39 | 65 |
| Contract y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid gyda Llywodraeth Cymru | 62 | 74 |
| Cyfanswm | 101 | 139 |
Mae CGA dan gontract i Lywodraeth Cymru i weinyddu a datblygu ymhellach y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Mae’r contract wedi cael ei ymestyn i fis Mawrth 2027.
4. Costau rhaglenni uniongyrchol
| 2025-26 | 2024-25 | |||
|---|---|---|---|---|
| CGA £000oedd | LlC £000oedd | Cyfanswm £000oedd | Cyfanswm £000oedd | |
| Costau aelodau | 61 | 6 | 67 | 67 |
| Costau aelodau paneli | 139 | - | 139 | 127 |
| Costau’r bwrdd achredu AGA | 48 | - | 48 | 44 |
| Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) | - | 164 | 164 | 158 |
| Ysgrifenyddiaeth CACAC | - | 118 | 118 | 106 |
| Hyrwyddo gyrfaoedd/Addysgwyr Cymru | - | 124 | 124 | 121 |
| Cynnal a datblygu’r gronfa ddata | 36 | 3 | 39 | 17 |
| Ffioedd cyfreithiol a phroffesiynol – Priodoldeb i Ymarfer | 1,260 | - | 1,260 | 1,075 |
| Costau cyfieithu | 36 | - | 36 | 18 |
| Costau argraffu, postio, hyrwyddo, a ffioedd proffesiynol | 23 | - | 23 | 30 |
| Cyfanswm | 1,603 | 415 | 2,018 | 1,763 |
Mae costau aelodau paneli Priodoldeb i Ymarfer a ffioedd cyfreithiol yn uwch eleni oherwydd bod mwy o waith achos wedi cael ei gwblhau yn 2025-26. Mae costau cynnal a datblygu’r gronfa ddata wedi cynyddu o ganlyniad i ffioedd ffurfweddu a chynnal ar gyfer y gronfa ddata newydd sydd wrthi’n cael ei datblygu ar hyn o bryd. Mae costau cyfieithu’n uwch hefyd oherwydd bod mwy o waith cyfieithu’n cael ei gwblhau’n allanol.
5. Costau rhaglenni sefydlu
| Holl wariant Llywodraeth Cymru | 2025-26 £000oedd | 2024-25 £000oedd |
|---|---|---|
| Gweinyddu | 82 | 82 |
| Gwariant grant sefydlu | 4,361 | 5,015 |
| Cyfanswm | 4,443 | 5,097 |
Ar ran Llywodraeth Cymru, mae CGA yn gweinyddu cyllid sy’n gysylltiedig â sefydlu i ysgolion, consortia rhanbarthol, ac awdurdodau lleol. Mae hyn yn cynnwys cyllid i ysgolion sy’n cefnogi athrawon newydd gymhwyso (ANG) yn ystod sefydlu, yn ogystal â chyllid i gyflawni’r rolau Mentor Sefydlu a Dilyswr Sefydlu.
Mae pob ANG sy’n ymgymryd â chyfnod sefydlu yn cael cymorth gan Fentor Sefydlu. O ran y rhai sy’n cwblhau’r cyfnod sefydlu trwy waith cyflenwi o ddydd i ddydd, mae’r Mentor Sefydlu’n cyflawni’r rôl a fu gynt yn gysylltiedig â mentoriaid allanol. Telir £400 y tymor ar gyfer y rôl Mentor Sefydlu.
Mae’r Dilyswr Sefydlu’n gyfrifol am sicrhau ansawdd y broses sefydlu a chynorthwyo Mentoriaid Sefydlu. Mae’n ofynnol i Ddilyswyr Sefydlu ddilysu sampl o 50% o ANG, a thelir £400 y tymor ar gyfer y rôl hon hefyd. Oherwydd bod maint y sampl yn llai, bu gostyngiad nodedig yng nghyfanswm y cyllid a ddarparwyd i gonsortia, awdurdodau lleol, ac ysgolion ar gyfer y rôl Mentor Sefydlu/Dilyswr Sefydlu.
Mae ysgolion sy’n cynorthwyo ANG yn ystod y cyfnod sefydlu yn cael £900 y tymor i gyfrannu tuag at ryddhau amser ANG a £400 y tymor ar gyfer rôl y Mentor Sefydlu. Bu gostyngiad parhaus yn nifer yr ANG sy’n ymgymryd â sefydlu, sydd wedi effeithio ar lefel gyffredinol y cyllid grant a ddosbarthwyd.
6. Costau gweithredu eraill
| 2025-26 | 2024-25 | |||
|---|---|---|---|---|
| CGA £000oedd | LlC £000oedd | Cyfanswm £000oedd | Cyfanswm £000oedd | |
| Treuliau swyddogion | 8 | - | 8 | 12 |
| Hyfforddi a recriwtio | 56 | - | 56 | 32 |
| Rhent ac ardrethi | 74 | - | 74 | 64 |
| Taliadau gwasanaeth a chyfleustodau | 104 | - | 104 | 111 |
| Ffioedd proffesiynol | 23 | - | 23 | 23 |
| Yswiriant | 14 | - | 14 | 14 |
| Argraffu a deunydd ysgrifennu | 2 | - | 2 | 4 |
| Postio | 10 | - | 10 | 12 |
| Costau cyfrifiadurol | 102 | - | 102 | 103 |
| Hurio lleoliadau | 1 | - | 1 | 4 |
| Ffioedd archwilio | 26 | - | 26 | 24 |
| Cynnal a chadw | 3 | - | 3 | 5 |
| Costau eraill | 71 | - | 71 | 78 |
| Cyfanswm | 494 | - | 494 | 486 |
Mae costau hyfforddi a recriwtio wedi codi yn ystod y flwyddyn yn sgil penodi Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn barhaol, a defnyddio asiantaeth chwilio am swyddogion gweithredol ar gyfer y penodiadau hyn. Mae rhent ac ardrethi’n uwch eleni o ganlyniad i gynnydd mewn taliadau ardrethi. Mae costau eraill yn is o ganlyniad i lai o waith cynnal a chadw ac atgyweirio swyddfeydd yn 2025-26 o gymharu â 2024-25.
7. Llog derbyniadwy
Derbyniwyd £153,142 (£211,393, 2024-25) o log yn ystod y cyfnod mewn perthynas â chyfrifon banc CGA, gan gynnwys croniad o £12,166 (£6,854, 2024-25).
8. Asedau anghyfredol
| Offer swyddfa £000oedd | Offer cyfrifiadurol £000oedd | Dodrefn a ffitiadau £000oedd | Cyfanswm £000oedd | |
|---|---|---|---|---|
| Cost neu brisiad | ||||
| Ar 1 Ebrill 2025 | 44 | 253 | 329 | 626 |
| Ychwanegiadau | - | 14 | 0 | 14 |
| Gwarediadau | - | - | - | - |
| Ar 31 Mawrth 2026 | 44 | 267 | 329 | 640 |
| Dibrisiad | ||||
| Ar 1 Ebrill 2025 | 43 | 219 | 322 | 584 |
| Tâl am y flwyddyn | 1 | 19 | 2 | 22 |
| Gwarediadau | - | - | - | - |
| Ar 31 Mawrth 2026 | 44 | 238 | 324 | 606 |
| Gwerth net ar bapur ar 31 Mawrth 2026 | - | 29 | 5 | 34 |
| Gwerth net ar bapur ar 1 Ebrill 2025 | 1 | 34 | 7 | 42 |
O’r gwerth net ar bapur ar 31 Mawrth 2026, roedd £dim i gefnogi gweithgareddau a ariennir gan Lywodraeth Cymru (£dim ar 31 Mawrth 2025).
9. Asedau anniriaethol
| Datblygiadau’r gronfa ddata £000oedd | Gwariant datblygu £000oedd | Cyfanswm £000oedd | |
|---|---|---|---|
| Cost neu brisiad | |||
| Ar 1 Ebrill 2025 | 3,150 | - | 3,150 |
| Ychwanegiadau | 5 | 91 | 96 |
| Trosglwyddo o ddatblygu | - | - | - |
| Gwarediadau | - | - | - |
| Ar 31 Mawrth 2026 | 3,155 | 91 | 3,246 |
| Amorteiddiad | |||
| Ar 1 Ebrill 2025 | 2,745 | - | 2,745 |
| Tâl ar gyfer y flwyddyn | 261 | - | 261 |
| Gwarediadau | - | - | - |
| Ar 31 Mawrth 2026 | 3,006 | - | 3,006 |
| Gwerth net ar bapur ar 31 Mawrth 2026 | 149 | 91 | 240 |
| Gwerth net ar bapur ar 1 Ebrill 2025 | 405 | 5 | 410 |
O’r gwerth net ar bapur ar 31 Mawrth 2026, roedd £133,000 i gefnogi gweithgareddau a ariennir gan Lywodraeth Cymru (£346,000, ar 31 Mawrth 2025), yn ymwneud yn bennaf â pharhau i ddatblygu platfform Addysgwyr Cymru a’r PDP.
Mae gwariant cronfa ddata’n ymwneud â chostau profi derbynioldeb i’r cwsmer a gafwyd yn ystod y flwyddyn.
Ni amharwyd ar asedau anghyfredol nac anniriaethol, sydd wedi’u dangos yn unol â’u cost wedi’i dibrisio/amorteiddio ac sy’n cael eu hystyried yn ‘werth teg’.
10. Ased hawl defnyddio – les
| Les swyddfa £000oedd | Cyfanswm £000oedd | |
|---|---|---|
| Cost neu brisiad | ||
| Ar 1 Ebrill 2025 | 760 | 760 |
| Ychwanegiadau | - | - |
| Ar 31 Mawrth 2026 | 760 | 760 |
| Dibrisiad | ||
| Ar 1 Ebrill 2025 | 364 | 364 |
| Tâl am y flwyddyn | 122 | 122 |
| Ar 31 Mawrth 2026 | 486 | 486 |
| Gwerth net ar bapur ar 31 Mawrth 2026 | 274 | 274 |
| Gwerth net ar bapur ar 1 Ebrill 2025 | 395 | 395 |
Daeth IFRS16: Lesoedd i rym ar 1 Ebrill 2022. Mae CGA wedi cydymffurfio â’r safon hon ac wedi cyflwyno asedau hawl defnyddio yn unol â gofynion y FReM. Yr unig ased hawl defnyddio yw’r les swyddfa ar gyfer lloriau 9 a 10 Tŷ Eastgate. Daw’r les i ben ar 30 Mehefin 2028.
11. Symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill
| 31 Mawrth 2026 £000oedd | 31 Mawrth 2025 £000oedd | |
|---|---|---|
| Symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn | ||
| Symiau derbyniadwy eraill | 341 | 129 |
| Rhagdaliadau | 117 | 175 |
| Cyfanswm | 458 | 304 |
Mae’r cynnydd mewn symiau derbyniadwy eraill i’w briodoli’n bennaf i amseriad a gwerth dyledwr diwedd y flwyddyn Llywodraeth Cymru.
12. Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod
| 2025-26 £000oedd | 2024-25 £000oedd | |
|---|---|---|
| Balans ar 1 Ebrill | 4,397 | 5,237 |
| Newid net mewn balansau arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod | (1,068) | (840) |
| Balans ar 31 Mawrth | 3,329 | 4,397 |
Cadwyd balansau arian parod CGA mewn banc masnachol ar ddiwedd y flwyddyn. Ni chadwyd unrhyw falansau gyda Swyddfa Tâl-feistr Cyffredinol EF
13. Symiau masnach a symiau taladwy eraill
| 31 Mawrth 2026 £000oedd | 31 Mawrth 2025 £000oedd | |
|---|---|---|
| Symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn | ||
| Ffioedd cofrestru a ragdalwyd | 802 | 723 |
| Symiau taladwy eraill | 697 | 456 |
| Rhwymedigaethau les hawl defnyddio | 128 | 127 |
| Treth arall a nawdd cymdeithasol | 84 | 72 |
| Pensiwn | 75 | 67 |
| Incwm gohiriedig: grant Llywodraeth Cymru | 108 | 251 |
| Croniadau | 1,584 | 1,608 |
| Cyfanswm | 3,478 | 3,304 |
| Symiau sy’n ddyledus ar ôl mwy na blwyddyn | ||
| Incwm gohiriedig: grant Llywodraeth Cymru | 54 | 125 |
| Rhwymedigaethau les hawl defnyddio | 166 | 293 |
| Cyfanswm | 220 | 418 |
Mae symiau masnach a symiau taladwy eraill wedi cynyddu eleni yn sgil derbyn mwy o ffioedd cofrestru a ragdalwyd, taliadau mantoli ychwanegol ar gyfer gwasanaethau llety, a chostau cynnal a chadw’r gronfa ddata.
Derbyniodd CGA incwm grant gan Lywodraeth Cymru tuag at gost asedau anghyfredol. Oherwydd y bydd yr asedau hyn yn cael eu dibrisio dros eu hoes economaidd ddefnyddiol, cydnabyddir rhwymedigaeth ohiriedig ar yr adeg prynu, a ryddheir ar hyd oes yr asedau.
14. Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau
Cydnabyddir darpariaethau yn y datganiadau ariannol pan fydd CGA yn ystyried bod ganddo rwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol a fydd, yn ôl pob tebyg, yn arwain at drosglwyddo budd economaidd ac y gellir ei amcangyfrif yn ddibynadwy
| Adnewyddu adeiladau £000oedd | Cyfanswm £000oedd | |
|---|---|---|
| Balans ar 1 Ebrill | - | - |
| Darparwyd yn y flwyddyn | - | - |
| Rhyddhawyd yn y flwyddyn | - | - |
| Balans ar 31 Mawrth | - | - |
15. Nodiadau i’r datganiad o lifoedd arian parod
Cysoni gwarged ar weithgareddau cyffredin â mewnlif arian net o weithgareddau cyffredin
| 2025-26 £000oedd | 2024-25 £000oedd | |
|---|---|---|
| (Diffyg) ar weithgareddau cyffredin | (2,286) | (1,692) |
| Dibrisiad | 22 | 26 |
| Amorteiddiad | 261 | 383 |
| Dibrisiad ased hawl defnyddio | 122 | 122 |
| Llog ased hawl defnyddio | 3 | 4 |
| Cynnydd/(Gostyngiad) mewn symiau masnach a symiau taladwy eraill | 174 | 160 |
| (Cynnydd)/Gostyngiad mewn symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill | (154) | 165 |
| Cynnydd/(Gostyngiad) mewn rhwymedigaeth ohiriedig | (71) | (117) |
| Cynnydd/(Gostyngiad) mewn darpariaethau | - | - |
| Rhyddhau i/o gronfeydd wrth gefn | (28) | (31) |
| Cynnydd/(Gostyngiad) mewn Rhwymedigaeth ohiriedig | (1,957) | (980) |
Dadansoddiad o newidiadau mewn cronfeydd net yn ystod y cyfnod
| 2025-26 £000oedd | 2024-25 £000oedd | |
|---|---|---|
| Cronfeydd net ar 1 Ebrill | 4,397 | 5,237 |
| Mewnlif/(all-lif) arian net | (1,068) | (840) |
| Cronfeydd net at 31 Mawrth | 3,329 | 4,397 |
Cafodd yr holl falansau ar 31 Mawrth 2026 eu dal gyda banc masnachol (gan gynnwys swm o £2,503,279 a gadwyd mewn cyfrif â 95 diwrnod o rybudd), ac mewn arian parod.
16. Cronfeydd wrth gefn dynodedig
Yn unol â strategaeth ariannol CGA, mae’r cronfeydd wrth gefn dynodedig canlynol wedi cael eu sefydlu:
Cronfa wrth gefn Priodoldeb i Ymarfer
I leihau effaith amrywiad yn nifer yr achosion a atgyfeirir ar sefyllfa ariannol CGA i’r eithaf, ac i ddarparu ar gyfer costau unrhyw her gyfreithiol uwchben a thu hwnt i’r costau hynny a delir gan Yswiriant Indemniad Proffesiynol.
Cronfa wrth gefn y gronfa ddata
I ariannu amnewid y gronfa ddata Cofrestr Ymarferwyr Addysg.
Cronfa wrth gefn llety
I gefnogi costau CGA yn y dyfodol o ran ei anghenion llety.
|
Cronfa wrth gefn y gronfa ddata | Cronfa wrth gefn PiY £000oedd | Cronfa wrth gefn llety £000oedd | Cyfanswm £000oedd | |
|---|---|---|---|---|
| Balans ar 1 Ebrill | 736 | 300 | 300 | 1,336 |
| Rhyddhau o’r cronfeydd wrth gefn | (28) | - | - | (28) |
| Ychwanegu at y cronfeydd wrth gefn | - | - | - | - |
| Balans ar 31 Mawrth | 708 | 300 | 300 | 1,308 |
17. Ymrwymiadau cyfalaf
Ar 31 Mawrth 2026, roedd gan CGA ymrwymiadau cyfalaf gwerth £441,292 (£528,315, 2024-25). Mae hyn yn ymwneud â gwaith parhaus i uwchraddio’r gronfa ddata cofrestru.
18. Rhwymedigaethau les hawl defnyddio
| 31 Mawrth 2026 £000oedd | 31 Mawrth 2025 £000oedd | |
|---|---|---|
| Balans ar 1 Ebrill | 420 | 546 |
| Ad-daliadau | (131) | (130) |
| Taliadau cyllid | 3 | 4 |
| Cyfanswm | 292 | 420 |
| Ymrwymiad blynyddol ar lesoedd adeiladau yn ôl blwyddyn: | ||
| O fewn blwyddyn | 129 | 127 |
| Rhwng blwyddyn a phum mlynedd | 163 | 293 |
| Mwy na phum mlynedd | - | - |
| 163 | 293 | |
| Cyfanswm | 292 | 420 |
19. Deilliannau ac offerynnau ariannol eraill
Nid oes gan CGA unrhyw fenthyciadau, ac mae’n lliniaru’r posibilrwydd o fod yn agored i risg hylifedd trwy reoli ei adnoddau.
Caiff pob ased a rhwymedigaeth ei nodi mewn arian sterling, felly nid yw’n agored i risgiau arian cyfred.
20. Trafodion â phartïon cysylltiedig
Ystyrir Llywodraeth Cymru yn barti cysylltiedig. Yn ystod y flwyddyn, derbyniodd CGA grant a ddaeth i gyfanswm o £6,835,000 wedi’i rannu rhwng cyllid grant ar gyfer prosiectau o £5,863,000 a chyllid cymorth grant o £972,000 (£6,769,000, 2024-25 - £6,531,000 o gyllid grant ar gyfer prosiectau a £238,000 o gymorth grant). Mae hyn yn cynnwys balans dyledwyr ar ddiwedd y flwyddyn o £285,648 (£77,383, 2024-25) ar gyfer swm terfynol y grant a dynnir i lawr ar gyfer 2025-26, a gyflwynir i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin. Yn ogystal, yn unol â nodyn 3, mae gan CGA gontract gyda Llywodraeth Cymru i weinyddu’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru a’i ddatblygu ymhellach. Yn ystod y flwyddyn, derbyniodd CGA £62,000 (£74,380, 2024-25) gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith hwn dan gontract. Ni fu unrhyw drafodion gwariant gyda Llywodraeth Cymru yn ystod 2025-26 (£dim, 2024-25).
Caiff aelodau o'r Cyngor hefyd fod â swyddogaethau mewn sefydliadau y mae CGA yn ymdrin â nhw. Fodd bynnag, nid oes gan aelodau o'r Cyngor unrhyw ddylanwad ar y trafodion hyn gan eu bod yn digwydd yn rhan o weithgareddau arferol CGA. Lle y bu trafodion, roeddent yn ymwneud ag achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) a daethant i gyfanswm o £8,400.
Yn ystod 2025-26, nid oedd aelodau’r Cyngor, uwch swyddogion CGA, nac unrhyw aelodau o’u teuluoedd yn gysylltiedig ag unrhyw drafodion gyda CGA, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, ar wahân i dalu treuliau a chyflogau fel arfer.
21. Rhwymedigaethau digwyddiadol
Nid oes unrhyw rwymedigaethau digwyddiadol (£dim, 2024-25).
22. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd
Nid oes unrhyw ddigwyddiadau i’w hadrodd ar ddyddiad llofnodi’r cyfrifon hyn.
Awdurdododd y Prif Weithredwr y cyfrifon hyn i’w cyhoeddi ar 9 Gorffennaf 2026
[1] Cyfrifir gwerth buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel y cynnydd gwirioneddol yn y pensiwn wedi’i luosi ag 20, ynghyd â’r cynnydd gwirioneddol mewn unrhyw gyfandaliad, gan dynnu’r cyfraniadau a wnaed gan yr unigolyn. Nid yw’r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd o ganlyniad i chwyddiant nac unrhyw gynnydd neu ostyngiad o ganlyniad i drosglwyddo hawliau pensiwn
[2] Mae’r darparwr pensiwn newydd, Capita, wedi ailddatgan ffigyrau 2024-25. Mae Capita wedi derbyn gwybodaeth fanylach na wnaeth MyCSP mewn blynyddoedd blaenorol wrth gyfleu ffigurau pensiwn.
[3] Mae’r darparwr pensiwn newydd, Capita, wedi ailddatgan ffigyrau 2024-25. Mae Capita wedi derbyn gwybodaeth fanylach na wnaeth MyCSP mewn blynyddoedd blaenorol wrth gyfleu ffigurau pensiwnMae’r darparwr pensiwn newydd, Capita, wedi ailddatgan ffigyrau 2024-25. Mae Capita wedi derbyn gwybodaeth fanylach na wnaeth MyCSP mewn blynyddoedd blaenorol wrth gyfleu ffigurau pensiwn.
