CGA / EWC

About us banner
Pam y mae ansawdd yn hanfodol i ddysgu rhyngwladol
Pam y mae ansawdd yn hanfodol i ddysgu rhyngwladol

Pam y mae ansawdd yn hanfodol i ddysgu rhyngwladol

Yn ein blog diweddaraf, mae Howard Williamson, Athro Polisi Ieuenctid Ewropeaidd ym Mhrifysgol De Cymru, a’r rapporteur-genéral blaenorol ar gyfer y tri Chonfensiwn Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd a gynhaliwyd rhwng 2010 a 2020, yn rhoi ei farn a’i ddirnadaeth ar waith ieuenctid rhyngwladol ac yn esbonio sut mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar ansawdd nawr bod drysau teithiau cyfnewid rhyngwladol yn ailagor.

 Untitled design 10Gan Howard Williamson, Athro Polisi Ieuenctid Ewropeaidd ym Mhrifysgol De Cymru

 

Mae llawer o fwrlwm ym myd gwaith ieuenctid ar hyn o bryd, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. A’r pandemig  COVID fel petai’n cilio, mae teithiau cyfnewid gwaith ieuenctid rhyngwladol, neu ‘symudedd dysgu’ fel mae gwledydd eraill yn dueddol o’i alw, yn bendant yn ôl ar yr agenda, er â mwy o ofal efallai o gofio ein bod yn fwy ymwybodol o oblygiadau teithio i’r hinsawdd.  

Rwy’n ysgrifennu’r blog hwn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi enw ei Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu ei hun, sef Taith. Y gobaith yw y bydd hon yn llenwi’r bylchau a adawyd wrth i’r Deyrnas Unedig adael cynllun Erasmus+ (rhaglen symudedd gynhwysfawr yr Undeb Ewropeaidd) ar ôl Brexit.

 Bydd Taithyn rhoi cyfle i ddysgwyr o bob oed ac o bob cefndir ledled Cymru elwa ar y cyfleoedd rhyngwladol i deithio a dysgu a all newid bywydau’. Bydd yn ‘ymgorffori ymagwedd ryngwladol ym mhob lefel o'n system addysg’. Mae hyn yn cynnwys addysg a dysgu heb fod yn ffurfiol (yn arbennig gwaith ieuenctid) a’r bwriad yw y bydd y sector gwaith ieuenctid yn cael cyfran deg o’r cyllid sydd ar gael, at ddibenion cysylltu a dysgu rhyngwladol yn ddigidol ac wyneb yn wyneb.

Mae’n galonogol gwybod y bydd y rhaglen newydd yn datblygu ochr yn ochr â mentrau gwaith ieuenctid cyfoes eraill yng Nghymru, yn enwedig gweithredu strategaeth gwaith ieuenctid newydd, dan faner Mae’n Bryd Cyflawni, a’r gwaith i ddatblygu ymhellach y Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid trwy Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA).

Yn gyntaf, ychydig o hanes. Rwyf newydd fynychu, ar lein, y cyfarfod cyntaf yn 2022 o rwydwaith ymchwil a ‘gwybodaeth’ Partneriaeth Ieuenctid Ewropeaidd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd. Ar hyn o bryd, mae’r Bartneriaeth yn gweithio ar olygon ar ‘ddatblygu strategaethau gwaith ieuenctid’. Nodais fy mod, yng Nghymru, wedi bod yn gysylltiedig â saith strategaeth o’r fath mewn ychydig llai na 40 mlynedd. Yn ddi-ffael, maent yn pwysleisio rhethreg ‘ansawdd’; wedi’r cyfan, at beth arall y dylem ni anelu?

Mae'r strategaethau wedi cynnwys dimensiwn traws-genedlaethol yn llai aml. Yn wir, yr unig beth amlwg am swyddogaeth cyfnewid ieuenctid Ewropeaidd i Asiantaeth Ieuenctid Cymru yn 1991 oedd ei absenoldeb. Dim ond trwy drafodaethau tringar gyda’r British Council ac ad-drefnu adnoddau’n ofalus y llwyddwyd i gynnwys cyfnewidiadau ieuenctid yng ngwaith yr Asiantaeth. 

Nododd Grant Poiner, Prif Swyddog Gweithredol Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, mewn blog blaenorol i Sôn, fod y sector ieuenctid yng Nghymru wedi coleddu gwerth profiadau rhyngwladol i bobl ifanc yng Nghymru, a ariannwyd yn sylweddol trwy’r Undeb Ewropeaidd, o ddyddiau cynnar Youth for Europe i ymbarél mwy diweddar Erasmus+. Trwy gydol 2021, wrth i brosiectau olaf Erasmus+ ddirwyn i ben, roedd pryder enfawr ar draws y sector ynghylch colli posibiliadau symudedd o’r darlun ehangach o gyfleoedd a phrofiadau mae gwaith ieuenctid yn eu darparu.  

Wrth gwrs, daeth y pandemig COVID-19 â chyfnewidiau ffisegol i ben cyn amser, ond erbyn hyn mae symudedd dysgu yn Ewrop a’r tu hwnt ar fynd unwaith yn rhagor. Bydd y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru o leiaf yn gallu elwa ar fenter ryngwladol ar gyfer dysgu benodol Llywodraeth Cymru. Bydd Taith yn creu “cyfleoedd i deithio, dysgu a chael profiadau all newid bywydau”, wedi’u bwriadu i fynd â Chymru i’r byd, a dod â’r byd i Gymru.

Eto i gyd, mae’n bwysig gochel rhag mynd yn rhy hiraethus ynghylch rhyfeddodau rhyng-genedlaetholdeb, er nad oes llawer o amheuaeth bod cyfnewidiadau ieuenctid yn gallu trawsnewid pobl ifanc. Weithiau roedd rhai prosiectau wedi’u cynllunio’n wael ac, am lawer o resymau, wedi cael eu cyflawni mewn ffordd lai na dymunol. Taflwyd grwpiau ieuenctid o fathau gwahanol iawn at ei gilydd yn anfwriadol, gyda chanlyniadau llai na ffafriol. Weithiau roedd yn ymddangos bod y gweithwyr ieuenctid wedi cael amser llawer gwell na’r bobl ifanc yn y grwpiau. Nid wyf yn sôn am hyn er mwyn dibrisio’r syniad o gyfnewidiadau, ond i alw am bwyll. Yn wir, mae’n alwad am ‘ansawdd’.

Ac yn awr, yng Nghymru, fel diffyg anfynych ar yr haul neu’r lleuad, mae tri dimensiwn o waith ieuenctid – strategaeth, ansawdd a rhyng-genedlaetholdeb – wedi’u halinio, ac mae gobaith y byddan nhw’n cyfuno mewn modd creadigol ac adeiladol ar gyfer ei phobl ifanc. Beth bynnag yw seilwaith yr ymrwymiad polisi a’r dyraniad adnoddau, mae ar y rhai sydd ar reng flaen y gwaith cyflenwi, y gweithwyr ieuenctid sy’n cyflawni ymarfer o’r fath, angen dealltwriaeth fanwl o’r cerrig camu mae angen eu creu er mwyn i weithgareddau traws-genedlaethol sicrhau’r llwyddiant mwyaf posibl.    

Mae angen gwaith paratoi sylweddol - yn enwedig deialog gyda’r bobl ifanc sy’n debygol o gymryd rhan, eu cysylltiadau (ar-lein) a’u cyfathrebiadau â’r rhai y byddan nhw’n cyfarfod â nhw, ac efallai mwy o deithio lleol domestig, cyfarfod â grwpiau eraill o bobl ifanc, a phrofiad preswyl. Wedi’r cyfan, mae plwyfoldeb rhai pobl ifanc yn amlwg. Er mai’r rhain, gellir dadlau, yw’r rhai sydd â’r ‘angen mwyaf’ am ryng-genedlaetholdeb, mae’n bosibl y bydd angen meithrin chwilfrydedd am gyd-destunau, diwylliannau a bwydydd eraill yn eithaf gofalus. Mae dimensiynau haenog dysgu rhyng-ddiwylliannol, parchu gwahaniaeth a’i werthfawrogi yn ganolog i gyfnewidiadau ieuenctid.

Felly mae’n hollbwysig sicrhau bod arferion rhyngwladol gweithwyr ieuenctid o ansawdd da. Mae gan waith ieuenctid o ansawdd da ran hanfodol i’w chwarae wrth gynorthwyo pobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn. Trwy ddulliau addysg anffurfiol a heb fod yn ffurfiol, mae ymarfer gwaith ieuenctid effeithiol yn meithrin gallu a gwydnwch pobl ifanc ac yn gallu newid eu bywydau er gwell. Trwy gymryd rhan mewn gwaith ieuenctid rhyngwladol, mae pobl ifanc yn magu hyder a chymhwysedd, yn datblygu hunanhyder ac yn cael y cyfle i bennu disgwyliadau a dyheadau uchel iddynt eu hunain.

Mae Partneriaeth Ieuenctid Ewropeaidd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd ar fin adolygu ei dogfen Handbook on Quality in Learning Mobility (Kristensen et al 2019). Mae tystiolaeth ddiamheuol ynghylch gwerth gwthio pobl ifanc i ymchwilio i fywydau a safbwyntiau pobl eraill. Mae rhyng-genedlaetholdeb wedi bod yn un o nodweddion sefydliadau ieuenctid blaengar erioed. Mae cydweithredu a chyfnewid rhyng-genedlaethol wedi’u gwreiddio yn yr Agenda Gwaith Ieuenctid Ewropeaidd (y mae Cymru a’r Deyrnas Unedig yn dal i fod yn rhan ohono). Mae’r rhan fwyaf o strategaethau gwaith ieuenctid, ar draws Ewrop ac yn wir ledled y byd, yn ymgorffori ymrwymiadau i hyrwyddo symudedd, nid yn unig i fyfyrwyr ond i bob person ifanc.

Heddiw gall y broses ddefnyddio adnoddau ar-lein ac all-lein. Mae’r amrywiaeth fwy honno o adnoddau yn caniatáu ar gyfer ymagwedd hyd yn oed fwy ystyriol o amrywiaeth at nodweddion gwaith ieuenctid rhyngwladol, sydd eisoes yn amrywiol iawn. Rhaid inni wneud defnydd da ohoni yn ysbryd athroniaeth flaenllaw ‘ymestyn hawliau’ er mwyn cefnogi pobl ifanc yng Nghymru. Fel yr ysgrifennais unwaith, yn fwy cyffredinol am waith ieuenctid mewn trafodaethau obsesiynol ynghylch mesur y canlyniadau mae’n eu cynhyrchu, ‘mae ansawdd y cyfleoedd a’r profiadau a gynigir i bobl ifanc yn hollbwysig ac yn aml, er nid bob tro, yn bwysicach na phenodoldeb canlyniadau’. Nid oes unrhyw le, ar draws sbectrwm polisïau ac arferion gwaith ieuenctid, y gallai hynny fod yn fwy priodol nag mewn perthynas â chyfnewid rhyngwladol.

Kristensen, S. (gol.) (2019), Handbook on Quality in Learning Mobility, Strasbourg:Cyngor Ewrop a’r Comisiwn Ewropeaidd