CGA / EWC

Accreditation banner
Ynghylch y Marc Ansawdd
Ynghylch y Marc Ansawdd

Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (y Marc Ansawdd) yn ddyfarniad cenedlaethol sydd ar gael i sefydliadau gwaith ieuenctid ar draws Cymru. Ac yntau’n offeryn unigryw ar gyfer hunanasesu, mae’n cefnogi ac yn cydnabod gwelliant mewn safonau darpariaeth, ymarfer a pherfformiad sefydliadau, gan arddangos a dathlu rhagoriaeth eu gwaith gyda phobl ifanc.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn gweinyddu’r Marc Ansawdd mewn partneriaeth â Safonau Hyfforddiant Addysg (ETS) Cymru, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Ieuenctid Cymru (CWVYS), Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid (PYOG) Cymru, a’r Grŵp Asiantaethau Hyfforddi (TAG), ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r Marc Ansawdd yn cynnwys dwy elfen ar wahân:

  • set o Safonau Ansawdd y gall sefydliadau gwaith ieuenctid eu defnyddio fel offeryn ar gyfer hunanasesu a gwella
  • marc ansawdd wedi’i asesu’n allanol sy’n ddyfarniad cenedlaethol sy’n dangos rhagoriaeth sefydliad

Mae 40 sefydliad gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi cyflawni’r Marc Ansawdd. I gofrestru eich diddordeb mewn asesiad allanol ar gyfer y marc ansawdd, llenwch ffurflen mynegiant o ddiddordeb.

Mae’r Marc Ansawdd yn cynnwys tair lefel.

Mae pob lefel yn cynnwys pedair safon sydd, yn eu tro, yn cynnwys cyfres o ddangosyddion. Mae gan y dangosyddion eu meini prawf neu ‘ddisgrifiadau gradd’ mesuradwy eu hunain, a ddatblygwyd i helpu sefydliadau i ddeall pa mor dda maen nhw’n ei wneud yn erbyn pob un o’r dangosyddion, a beth fyddai ei angen i’w helpu i symud yn eu blaen.

Am ragor o wybodaeth am holl lefelau’r marc ansawdd, gan gynnwys y safonau ansawdd, dangosyddion a disgrifiadau gradd, ewch i dudalen ein dogfennau safonau, adnoddau a chanllawiau.

Darllenwch y gwerthusiad o waith Cyngor y Gweithlu Addysg ar y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru a’i ddatblygiad yn y sector ieuenctid.  

Ydych chi’n ystyried gwneud cais am y Marc Ansawdd?

Os yw gwneud cais am y Marc Ansawdd o ddiddordeb i chi, mae cyfres o gamau i’w dilyn.

  1. Cysylltwch â CGA i gofrestru eich diddordeb drwy’r e-bost neu trwy lenwi ein Ffurflen mynegiant o ddiddordeb.
  2. Cwblhewch ein modiwl e-ddysgu a luniwyd i helpu adeiladu eich gwybodaeth am y Marc Ansawdd, pam mae’n bwysig a beth sydd ynghlwm ag ef. Hefyd, gallech fod eisiau ystyried rhywfaint o gymorth mentora os bydd hynny’n eich helpu chi, yn eich barn chi (mae rhagor o wybodaeth isod am yr hyn sydd ar gael).
  3. Cwblhewch hunanasesiad, sy’n cynnwys tystiolaeth o’r holl bethau da rydych chi’n eu gwneud (adroddiad ysgrifenedig yw hwn sy’n dangos sut rydych chi’n bodloni’r safonau ansawdd yn eich barn chi).
  4. Bydd CGA yn gwirio’r adroddiad a, phan fyddwch chi’n barod, bydd yn trefnu bod tîm asesu yn cynnal ymweliad marc ansawdd.
  5. Byddant yn trefnu i’ch grŵp, neu sefydliad, gymryd rhan mewn cyfres o gyfarfodydd gydag aseswyr fel rhan o ymweliad strwythuredig y marc ansawdd i weld a yw’r sefydliad wedi arddangos bod gradd ‘arfer dda’ wedi’i chyflawni ar gyfer pob dangosydd o fewn y lefel hon.

Ar ôl i chi gwblhau’r pum cam, ysgrifennir adroddiad yn argymell i Lywodraeth Cymru y dylent ddyfarnu’r Marc Ansawdd. Bydd statws eich marc ansawdd yn ddilys am dair blynedd; rhaid ei adolygu wedi hynny.

O safbwynt ieuenctid: proses asesiad y marc ansawdd

Mae’r fideo byr hwn, a gynhyrchwyd gan MAD Abertawe, yn tywys pobl ifanc sy’n ymgymryd â’r Marc Ansawdd drwy’r broses asesu.

Cymorth sydd ar gael gan CGA

Mae cymorth, gwybodaeth a chyngor ar gael yn rhwydd gan CGA trwy gydol y broses gyfan.

Er mwyn helpu sefydliadau i wneud cais a dysgu rhagor am y Marc Ansawdd, mae amrywiaeth o adnoddau ar gael gennym, sy’n cynnwys:

  • hyfforddiant ar sut i gwblhau’r adroddiad hunanasesu, a/neu fentor i gefnogi sefydliadau
  • cyfleoedd i ymgymryd â modiwl e-ddysgu, y gellir ei ddefnyddio i gyfarwyddo staff a gwirfoddolwyr gyda’r Marc Ansawdd
  • cymorth cymheiriaid gan ymgeiswyr blaenorol sy’n gallu rhoi awgrymiadau defnyddiol, ynghyd â chymorth a chyngor
  • cyfarfodydd ag aseswyr fel y gellir sefydlu perthynas ymarferol a chefnogol
  • adborth ar y ddogfen hunanasesu a rhoi cyngor ar gynnwys a strwythur
  • cyfres o astudiaethau achos ac enghreifftiau o arfer dda i ddysgu gan eraill ledled Cymru