Mae data ar ethnigrwydd a gyhoeddwyd gan Stats Cymru yn 2023 yn dangos bod 5.2% o bobl yng Nghymru yn nodi eu bod yn ddu, Asiaidd neu ethnig leiafrifol, sy’n uwch na’r 4.3% o gofrestreion sy’n datgan hynny ar ein Cofrestr. Mae amrywiaeth o fewn y gweithlu addysg, yn ogystal ag o fewn ein sefydliad, yn hynod bwysig i ni, fel eu bod yn adlewyrchu cyfansoddiad amrywiol ein cymunedau yng Nghymru.
Rydym yn gadarn yn ein hymdrechion i helpu creu gweithlu mwy amrywiol, ond yn cydnabod bod peth ffordd i fynd. Dros y blynyddoedd diwethaf, ar y cyd gyda cofrestreion a phartneriaid, rydym wedi cymryd nifer o gamau bach ond pwrpasol. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP) uchelgeisiol sy’n atgyfnerthu ein hymrwymiad at wrth-hiliaeth, bod ar grŵp llywio i oruchwylio gweithredu cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol Llywodraeth Cymru (sy’n cynnwys camau gweithredu penodol wedi’u neilltuo i ni), a llofnodi Addewid Dim Hiliaeth Cymru Cyngor Hil Cymru. Ymhlith pethau eraill, mae’r addewid hwn yn golygu ein bod yn ymrwymo i sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol i bawb.
Ym mis Tachwedd 2021, croesawom y gwesteion uchel eu parch, yr Athro Charlotte Williams a Sathnam Sanghera, i’r cyntaf yn ein cyfres o weminarau ar symud o Gymru anhiliol i Gymru wrth-hiliol. Roedd y digwyddiad yn boblogaidd iawn, gan danio’r angen am dri digwyddiad tebyg arall, gyda chyfraniadau gan amrywiol ysgolion ar draws Cymru yn siarad am eu profiadau o ddod yn wrth-hiliol, a rhannu arfer da. Gallwch wylio pob un o’r pedwar gweminar ar ein sianel YouTube.
O’r gyfres o weminarau daeth cyfle i weithio gydag amrywiol grwpiau a sefydliadau i eiriol dros ein cofrestreion du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Un o’r partneriaid hynny yw DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol), yr ydym wedi parhau i weithio’n agos â nhw dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi cynnwys cyfraniad amhrisiadwy gan Gyfarwyddwr a sylfaenydd DARPL, Chantelle Houghton, yn ein podlediad ar amrywio’r gweithlu, a chynorthwyo â chyflwyno eu cynadleddau blynyddol.
Hefyd, fe wnaeth DARPL, ochr yn ochr â nifer o bartneriaid allweddol eraill, ein helpu i lunio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28. Mae’n cynnwys dau gam gweithredu allweddol yn seiliedig ar gynyddu amrywiaeth o fewn ein gweithlu ni, a’r gweithlu addysg yn ei gyfanrwydd, trwy recriwtio a hyrwyddo.
I gynorthwyo â chyflawni amcan pump ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, ‘helpu datblygu gweithlu addysg sy’n cynrychioli’r boblogaeth amrywiol yng Nghymru’, creom swydd newydd o fewn y tîm hyrwyddo gyrfaoedd (y tîm sy’n gyfrifol am ddarparu Addysgwyr Cymru a gyllidir gan Llywodraeth Cymru). Mae ganddynt gyfrifoldeb penodol am hyrwyddo gyrfaoedd mewn addysg a chefnogi pobl o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i ymuno â’r gweithlu. Daw’r sawl a benodwyd o’r cymunedau hyn, ac maent wedi bod yn hollbwysig wrth gael mwy o bobl i ymuno â’r proffesiynau addysg yng Nghymru. Maent wedi mynychu dros 50 o wahanol ddigwyddiadau wedi’u targedau at gymunedau ethnig leiafrifol ers 2022, gan gynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau cymunedol bach, digwyddiadau cenedlaethol mawr, a sesiynau galw heibio unigol. Hefyd, maent wedi trefnu nosweithiau agored poblogaidd gydag amrywiol raglenni addysg gychwynnol athrawon (AGA) ar draws Cymru, gan dyfu o un digwyddiad yn 2022 i darged o saith eleni.
Yn ogystal â’r gweithgareddau hyn, rydym wedi creu nifer o adnoddau gwahanol i gynorthwyo ein holl gofrestreion i hyrwyddo amrywiaeth ethnig, mynd i’r afael â hiliaeth a gweithio tuag at Gymru wrth-hiliol. Un o’r adnoddau yw canllaw arfer da ar fynd i’r afael â hiliaeth, wedi’i gymeradwyo gan Rwydwaith BAMEed Cymru a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Cafodd ei greu i’n holl gofrestreion a’i nod yw eu helpu i sicrhau bod eu hymddygiadau a’u harfer yn gynhwysol, a chreu amgylchedd lle mae dysgwyr, pobl ifanc a chydweithwyr yn teimlo bod croeso iddynt, ni waeth beth yw eu hil neu ethnigrwydd.
Ac eto, er ein bod yn falch iawn o’r camau yr ydym wedi eu cymryd, rydym yn cydnabod bod gwir newid yn cymryd cefnogaeth ymroddedig a chyson gan y sector addysg i gyd. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, a’n cydweithio gyda phartneriaid, yn dangos ein hymrwymiad i barhau i wneud yn well, ac rydym wastad yn croesawu syniadau ac adborth, a phartneriaethau all gefnogi cynnydd.
Drwy gydweithio, credwn y gallwn adeiladu gweithlu addysg sy’n wirioneddol gynhwysfawr, sy’n grymuso cofrestreion, dysgwyr, a phobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn ddiogel ac yn cael eu parchu.
Os hoffech ddysgu mwy am yr hyn rydym ni wedi sôn amdano yma, neu os hoffech gyfrannu at ein gwaith mewn rhyw fodd, ewch i’n gwefan, neu