Aeth cryn amser heibio ers arolygu gwaith ieuenctid yn ffurfiol. Mae gwaith i ddatblygu ffurf ar ei phen ei hun o arolygu gwaith ieuenctid yn Estyn yn mynd rhagddo a bydd arolygu Gwaith Ieuenctid yn cael ei ailgyflwyno ar ddiwedd 2024. Mae ailgyflwyno arolygu yn dilyn cyflwyno’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Yn y blog hwn, byddwn yn esbonio beth yw arolygu a sut mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn ei ategu.
Mae gwaith ieuenctid wedi cael ei ystyried yn rhan o arolygiadau awdurdodau lleol, ond bydd cyflwyno arolygiad ar ei ben ei hun ar gyfer y cyfan o Waith Ieuenctid yn amlygu cyfraniad pwysig y maes addysg hwn at fywyd pobl ifanc yng Nghymru. Hefyd, bydd yn helpu i bwysleisio’r sail ddeddfwriaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid, gan gynnwys ei sail statudol, a phwysigrwydd cynnal sector gwaith ieuenctid gwirfoddol bywiog.
Mae cydweithwyr yn Estyn, ynghyd â chynrychiolwyr o’r maes gwaith ieuenctid cyfan, wrthi’n mireinio manylion arolygiadau’r maes hwn. Bydd proses yn parhau hyd nes bod yr arolygiadau peilot wedi’u cwblhau ar ddechrau 2024. Bydd yr ymagwedd golegol hon yn sicrhau bod y broses arolygu yn gefnogol, yn ystyrlon ac yn yrrwr allweddol o ran gwella gwasanaethau.
Pan fyddwn yn gweithio gyda phobl ifanc, mae ansawdd ein hymyriadau yn aml yn anodd ei ddiffinio. Yr adeg honno o ymgysylltu, pan fydd person ifanc wedi troi cornel emosiynol, achub cyfle neu gael ateb i broblem, yw’r uchafbwyntiau yng ngyrfa llawer o weithwyr ieuenctid.
Mae’r adegau hyn yn aml yn deillio o oriau lu o gynllunio, myfyrio, datblygu neu newid. Mae gwrando ar bobl ifanc ac ymateb iddynt yn holl bwysig. Mae’r datblygiadau hyn yn enghreifftiau o egwyddorion a gwerthoedd gwaith ieuenctid yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i berson ifanc. Weithiau, mae’r sector gwaith ieuenctid ei hun yn cyffredinoli hyn trwy gyfiawnhau ei fod ‘ond yn rhan o’r gwaith’. Ni ddylem golli golwg ar y ffaith bod gweithwyr ieuenctid yn aml yn mynd y filltir ychwanegol honno i helpu a chefnogi pobl ifanc. Dylid dathlu’r adegau hyn, a’r paratoi ar eu cyfer. Mae deall a gwerthuso’r gwaith rydym ni’n ei wneud yn rhan hanfodol o hunanwerthuso ac mae’n cynorthwyo sefydliadau i wella’u gwaith ieuenctid ymhellach.
Mae gan waith ieuenctid o ansawdd uchel ran hanfodol i’w chwarae wrth gynorthwyo llawer o bobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn a llywio trawsnewidiadau allweddol rhwng 11 a 25 oed yn llwyddiannus. Trwy ddulliau addysgol ffurfiol a dulliau nad ydynt yn rhai ffurfiol, mae ymarfer gwaith ieuenctid effeithiol yn meithrin gallu a gwydnwch pobl ifanc a gall newid eu bywyd er gwell. Trwy gymryd rhan mewn gwaith ieuenctid, mae pobl ifanc yn ennill hyder a chymhwysedd, yn datblygu hunanhyder, a chânt gyfle i sefydlu disgwyliadau a dyheadau uchel iddyn nhw eu hunain.
Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn galluogi sefydliadau i ddathlu’r adegau hyn a’r gwaith caled a’r ymdrech sydd eu hangen i’w cyflawni. Mae’n helpu i wella gwasanaethau trwy fyfyrdod ac adolygu. Mae natur wirfoddol y broses hon yn dangos ymrwymiad i ragoriaeth trwy lwybr hunanasesu ac asesu gan gymheiriaid. Mae cyflawni’r Marc Ansawdd yn dwyn llawer o fuddion i sefydliadau, yn anad dim, cael bathodyn rhagoriaeth sy’n dangos eich bod wir yn darparu gwasanaeth i bobl ifanc y gallwch chi, eich cymheiriaid a Chymru fod yn falch ohono.
Bydd arolygu Gwaith Ieuenctid yn gwella cydnabyddiaeth Gwaith Ieuenctid yn llygaid y rhai sydd â dylanwad arwyddocaol, fel Llywodraeth Cymru, uwch reolwyr sefydliadau, cyrff cyllido allanol ac eraill. Nod arolygu yn benodol yw cael y math hwn o ddylanwad ar addysg, o fewn awdurdodau lleol, ysgolion, y sector addysg bellach (AB), cyflogwyr eraill, llywodraeth, undebau a chyllidwyr. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy hyrwyddo statws Gwaith Ieuenctid ochr yn ochr â phroffesiynau addysg eraill.
Y bwriad yw y bydd ailgyflwyno arolygu yn cynnig craffu a chydnabyddiaeth gyhoeddus ac, yn ei dro, y gobaith yw y bydd hyn yn codi proffil gwaith ieuenctid, gan roi platfform ar gyfer gwella a chyfle i’r maes cyfan. Mae’n ofynnol bod pob gwasanaeth addysg statudol a’u cyrff llywodraethu yn atebol yn gyhoeddus trwy’r broses arolygu, gan gynnwys Gwasanaethau Ieuenctid awdurdodau lleol. Bydd grwpiau gwaith ieuenctid y sector gwirfoddol yn cael eu cynnwys, hefyd.
Mae arolygu hefyd yn rhoi adborth i’r cyhoedd ar waith ieuenctid i bobl ifanc ac i’r gymuned ehangach am y gwaith ieuenctid sy’n digwydd yn eu hardal. Nid yw asesiad y Marc Ansawdd yn arwain at gyhoeddi adroddiad, ond bydd arolygu’n gwneud hynny. Fodd bynnag, bydd y ddau’n canolbwyntio ar amlygu arloesi ac arfer dda. Bydd unrhyw bryderon sy’n codi yn cael eu hamlygu mewn ffordd gefnogol a grymusol er mwyn helpu sefydliadau i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i bobl ifanc.
Mae gan y Marc Ansawdd elfen o hunanasesu sydd ar gael i holl sefydliadau Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ei defnyddio, ni waeth beth yw eu maint nac o ble y cânt eu cyllid, nac a fyddant wedyn yn mynd ati i gael eu gwirio’n allanol ai peidio. Bydd Estyn yn defnyddio’r prosesau hunanasesu a chynllunio ar gyfer gwella sydd eisoes ar waith gan sefydliadau fel y man cychwyn ar gyfer arolygu ac ni fydd disgwyl i ddarparwyr gynhyrchu unrhyw ddogfennau ychwanegol cyn arolygiad.
Oherwydd y gofyniad deddfwriaethol i arolygu gwaith ieuenctid, y prif wahaniaeth allweddol rhwng y Marc Ansawdd ac arolygu yw bod sefydliadau’n gwneud cais gwirfoddol am y Marc Ansawdd, ond mae arolygu’n orfodol.
Yn yr un modd â’r Marc Ansawdd, bydd y broses arolygu’n cynnwys lanlwytho tystiolaeth i ardal rithwir. Bydd Estyn hefyd yn darparu nifer o ddogfennau arweiniad gyda’r darparwr yn yr un ffordd. Nid oes disgwyl bod darparwyr yn paratoi dogfennau yn benodol ar gyfer arolygiad, dim ond rhannu eu hadroddiadau adrodd a sicrhau ansawdd mewnol. Mae’r broses ar gyfer asesu’r Marc Ansawdd a’r broses arolygu yn helpu i ganolbwyntio ar bwysigrwydd hunanwerthuso effeithiol. Gall arolygu gael ei ystyried yn ffordd o ddilysu’r mathau o welliannau i wasanaethau a gafodd eu hysgogi a’u hannog gan asesiad y Marc Ansawdd. Yn ystod arolygiad, daw sylfaen dystiolaeth wreiddiol arolygwyr o gyfarfodydd â phobl ifanc, gweithwyr ieuenctid, a phartneriaid allweddol eraill, ac arsylwi gwaith ieuenctid yn mynd rhagddo’n uniongyrchol.
Yn yr un modd â’r Marc Ansawdd, bydd timau arolygu Estyn yn cynnwys ymarferwyr gwaith ieuenctid profiadol sydd wedi’u hyfforddi’n arolygwyr cymheiriaid. Mae ymarferwyr yn gwerthfawrogi’r rôl hon yn fawr a dywed arolygwyr cymheiriaid bod eu profiadau mewn arolygiad yn ddatblygiad proffesiynol defnyddiol iawn. Bydd cyfleoedd i ymarferwyr hyfforddi’n arolygwyr cymheiriaid yn cael eu hysbysebu ar wefan Estyn.
Gall y Marc Ansawdd a phrosesau arolygu gefnogi prosesau hunanwerthuso a gwella ansawdd sefydliad i ddangos effeithiolrwydd ac ymrwymiad ein Gweithwyr Ieuenctid a’n gwirfoddolwyr. Gallant helpu i sicrhau bod gwaith ieuenctid yng Nghymru o ansawdd uchel a’i fod yn cael effaith ar fywyd pobl ifanc a bywyd eu cymunedau.