CGA / EWC

About us banner
Yr Athro Mick Waters: Paratoi ar gyfer parhau â'r dysgu
Yr Athro Mick Waters: Paratoi ar gyfer parhau â'r dysgu

Yr Athro Mick Waters: Paratoi ar gyfer parhau â'r dysgu

 Mick WatersPan gaeodd y llywodraeth ein hysgolion, y pryderon naturiol oedd am arholiadau a’r gobaith na fyddai disgyblion ar eu colled.

Clywyd llai o bryder am y pethau eraill y gallai plant fod yn colli allan arnynt o ran eu haddysg. Bydd colli cymaint o addysg ysgol yn cael effaith. I rai, mae gwyliau’r haf sy’n para chwe wythnos yn tarfu bob blwyddyn ar eu cynnydd. Sut bydd bwlch o gymaint o wythnosau yn effeithio ar ddysgu plant o bob oedran?

Felly, beth yw’r golled bosibl o safbwynt dysgu?

Yn gyntaf, bydd colli dysgu yn yr ystyr colli allan ar y cynnwys oedd wedi’i fwriadu a pha mor bell i lawr yr ysgol y bydd plant wedi llithro mewn perthynas â’r dysgu bwriadedig. Gallwn weld, yn amlwg, drwy edrych ar siart y pethau na fyddant wedi cael eu cyflwyno na’u hesbonio i’r plant. Gellid mynd i’r afael â hyn drwy rywfaint o ailstrwythuro cynllunio.

Yn ail, ac yn hanfodol, bydd yr agweddau llawer mwy cyfannol sy’n gysylltiedig â dysgu; y pethau sy’n cael eu dysgu’n aml yng nghyd-destun ysgol drwy’r profiad o wneud. Mae datblygu agweddau dysgu, cydweithio a magu hyder mewn rhai ffyrdd yn agweddau mwy anodd eu hadennill.

Yn drydydd, mae’r posibilrwydd o golli gwahanol fathau o ymddygiad cymdeithasol i gefnogi dysgu sy’n amrywio ymysg plant. Mae’n mynd i fod yn anodd iawn yn yr hydref eleni ar y rhai hynny sy’n cael trafferth setlo ar ôl penwythnos neu’n waeth, ar ôl cyfnod o wyliau.

Mae’r tri maes hyn lle profir colled, ynghyd ag eraill, yn mynd i gael eu teimlo mewn ffyrdd gwahanol gan blant gwahanol dros pan fydd trefn bywyd ysgol yn cael ei hadfer. I rai plant, bydd y cyfnod o fod dan gyfyngiadau symud wedi bod yn gyfnod rhyfedd ond eithaf cyfoethog; lle mae dau riant gartref a chyfle am sgyrsiau estynedig nad ydynt fel arfer yn rhan o fywyd beunyddiol yn ystod wythnosau prysur o waith. Rhieni sydd wedi creu strwythur bob dydd ac chydbwyso ysgogiad profiadau dethol ar y we â rhywfaint o ‘waith ysgol’ arferol a pharhau i fwynhau llyfrau da, bod allan yn yr ardd yn ystod y gwanwyn a’r haf, siarad am flodau ac ieir bach yr haf a’r cymylau.

I rai plant, mae’r cartref yn cynrychioli set gyfan gwbl wahanol o amgylchiadau. Rydyn ni’n gwybod bod tlodi yn dilyn rhai plant drwy wyliau’r haf; pa mor agos gall ddod mewn nifer o fisoedd? Bydd rhai plant wedi cael diffyg ysgogiad am wythnosau diddiwedd, yn gaeth i gartref bach heb unrhyw le tu allan a rhieni heb fawr ddim syniad sut i strwythuro’r dydd heb sôn am eu helpu gyda’u dysgu. Bydd rhai wedi cael y profiad o fod ‘yn yr ysgol’ ond mewn amgylchedd tra gwahanol, gyda phryder yng nghefn eu meddyliau oherwydd bod ganddynt riant sy’n weithiwr iechyd. 

Ffaith drist am y sefyllfa sydd ohoni yw y bydd llawer o blant yn ymwybodol o farwolaeth yn eu teulu neu’n gyfagos mewn ffordd na welwyd mo’i thebyg ers cenedlaethau.

Mae’r rhan fwyaf yn meddu ar wytnwch a’r teimlad yw y byddant yn ymaddasu ac yn bownsio nôl. Er hyn, bydd effaith arnynt yn sgil yr hyn maent ei synhwyro o’u hamgylch: y ddrama, yr annifyrrwch, y trafod di-baid am niferoedd a’r tensiwn a’r tristwch.

Bydd angen i’r system ysgol feddwl sut orau i gael dysgu plant ar waith eto a sut orau i adennill y llu o golledion. Fwy nag y gallem fod wedi’i ddychmygu, bydd angen profiad ysgol gwirioneddol gyflawn ar ein plant a’n pobl ifanc.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru’n diffinio pedwar diben. Mae angen ystyried yn ddwys yr ansoddeiriau sy’n disgrifio’r rhain wrth i ni helpu i greu momentwm dysgu pan fyddwn ar ben y ffordd eto. Fwy nag erioed, mae angen i ni feddwl yn ofalus am oblygiadau geiriau fel ‘iach’, ‘hyderus’, ‘mentrus’ ac ‘egwyddorol’ yn ein hymagwedd at ddysgu a chreu ymdeimlad o wir bwrpas yn ein pobl ifanc.

Mae ymateb ysgolion eisoes yn destun gwerthfawrogiad. Beth gallwn ni ei wneud wrth i ni ailddechrau addysgu ac adennill y golled ddysgu allai gronni?

Sut ydyn ni’n unioni’r golled ddysgu o ran cyflwyno ac esbonio cynnwys? Ddylem ni symud i fyny sawl gêr yn ein haddysgu a, thrwy wneud hynny, peryglu colli cyfran sylweddol o frwdfrydedd plant? I’r plant ieuengaf yn y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1, allem ni greu rhyw fath o gyfuniad sy’n dechrau eto gyda rhai o’r elfennau sylfaenol?

Yng Nghyfnod Allweddol 2, allwn ni ddod o hyd i ffyrdd o helpu plant i ddysgu ‘hanfodion’ rhai themâu fel bod syniadau mawr yn gallu datblygu? Mae’r Eifftiaid yn bwysig fel pwnc sy’n cyd-fynd ag astudiaethau am y Groegiaid neu’r Rhufeiniaid i helpu plant i ddirnad y syniad mawr am ‘wareiddiadau’.

Mae’r cyfnod pontio rhwng y cynradd a’r uwchradd, sy’n her bob amser i gyfran o bobl ifanc, yn faes y bydd angen meddwl drwyddo o’r newydd eleni. Mae plant wedi ymadael â’u hysgolion cynradd, wedi’u rhyddhau i ffeindio’u lle yn eu hysgolion newydd heb y ffarwelio a’r ymgyfarwyddo arferol. Bydd cyrraedd i wynebu profion gwaelodlin neu awyrgylch o angenrheidrwydd i ddal i fyny ar fyrder yn siwtio rhai ond yn peri i eraill ddifreinio.

Oes angen i ni ystyried dechrau Blwyddyn 7 yn wahanol? Oes pethau y gallem ni eu gwneud dros yr haf i fraenaru’r tir?

Allai plant ym Mlwyddyn 6 dderbyn ‘pecyn croeso’ gan eu hysgol uwchradd sy’n cynnwys fideos o daith o amgylch yr ysgol a rhai o’r staff yn siarad â nhw am eu rôl? Allem ni gynnwys rhai pethau iddyn nhw eu gwneud cyn y flwyddyn ysgol newydd y gellid wedyn eu defnyddio yn yr wythnosau cyntaf? Mae llawer o ysgolion uwchradd yn defnyddio ymagwedd ‘dysgu gwrthdro’; allem ni esblygu hynny ar raddfa fwy gyda mwy o ddychymyg?

Ellid anfon ‘gorchwyl’ at blant gyda rhai gweithgareddau y gellid eu cyflawni yn ystod eu hamser gartref? Gallai gwahanol ddisgyblaethau pwnc weithio gyda’i gilydd a gofyn i blant gynhyrchu pethau i ddod gyda nhw ym mis Medi. Byddai angen i restr y gweithgarwch fod yn hygyrch i bawb, gan gynnwys rhywbeth i’w wneud, pethau i’w hymchwilio, eu hastudio, ysgrifennu amdanynt a thynnu llun ohonynt. Gallem gynnwys dau lyfr o blith ystod o ugain iddynt eu darllen a’u hadolygu gyda golwg ar drafod hynny mewn grwpiau pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol. Gallem ychwanegu tasgau mathemateg ymarferol i’w gwneud o amgylch y tŷ: rhywfaint o fesur, defnyddio unedau safonol neu fympwyol, ffracsiynau neu geometreg efallai… y mathau o bethau lle mae angen cymhwyso cysyniadau. Gallai fod arbrofion gwyddoniaeth; mae cwcer a thegell yn y rhan fwyaf o gartrefi, ynghyd â dŵr a ffenestr. Byddai cymharu canlyniadau’n rhoi cyfle i ddisgyblion greu’r berthynas ddysgu honno y bydd ei hangen arnynt gydag eraill. Bydd hefyd yn rhoi syniad i athrawon o’r ‘gwaelodlinau’ heb asesiad.

Bydd gan athrawon lawer o syniadau. Byddai gweithgarwch o’r fath yn rhoi blas i ddysgwyr o’r profiad astudio preifat sydd mor anodd i lawer yn y chweched dosbarth neu’r brifysgol. Gallai prosiect o’r fath osod y disgwyliad mai hunanreoli yw sail dysgu ac mai rôl yr athro yw darparu llwybr a gwneud synnwyr o’r meddwl sy’n datblygu yn sgil hynny.

Mae angen ystyriaeth bellach ond gallai’r ‘broblem’ sydd ynghlwm wrth fynd ati eto gyflwyno cyfle, yn arbennig o ran y cwricwlwm ac addysgeg. Beth am wneud yr hyn rydyn ni’n ei bregethu wrth blant a mynd amdani gyda’r meddylfryd twf sydd mor hanfodol bwysig?

Yr Athro Mick Waters

Mae Mick Waters yn gweithio gydag ysgolion yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr wrth godi safonau. Mae hefyd wedi bod gweithio ar lefel genedlaethol gyda Llywodraeth Cymru gan gynnig cyngor a chefnogaeth i'r agenda diwygio addysg ac mae wedi chwarae rhan hanfodol yn natblygiad y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu.