CGA / EWC

Registration banner
Gwybodaeth cofrestru i gyflogwyr
Gwybodaeth cofrestru i gyflogwyr

Mae’n rhaid i gyflogwyr wneud yn siŵr bod eu gweithwyr wedi’u cofrestru yn y categori, neu’r categorïau, cofrestru cywir ar gyfer y gwaith maen nhw’n ei wneud.

Ystyriaeth allweddol i gyflogwyr wrth benderfynu p’un a oes rhaid i weithiwr fod wedi’i gofrestru, yw’r rôl y mae’r unigolyn yn ei wneud go iawn, yn hytrach na theitl ei swydd.

Mae’r cyflogwr yn gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau mai dim ond ymarferwyr cofrestredig sy’n cael eu cyflogi i wneud y gwaith sy’n benodol i’w categori cofrestru, ynghyd â’r cofrestrai ei hun. 

Ble mae eich gweithwyr yn gweithio?

Mynediad ar-lein i gyflogwyr i’r gofrestr

Mae gan gyflogwyr fynediad at y Gofrestr, fel y gallant gyflawni eu gwiriadau cofrestru eu hunain. Mae mwy o wybodaeth neu arweiniad ar ddefnyddio’r Gofrestr ar gael trwy This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Eich cyfrifoldebau fel cyflogwr

Wrth gydymffurfio â’r gofyniad cyfreithiol am sicrhau bod ymarferwyr wedi’u cofrestru yn y categori, neu’r categorïau, cofrestru ar gyfer y gwaith y maen nhw’n ymgymryd ag ef, dylai cyflogwyr:

  • wneud gwiriadau cyn-cyflogaeth i sicrhau bod ymarferwr wedi cofrestru cyn dechrau gweithio. Gellir gwneud hyn trwy fynediad ar-lein cyflogwyr i’r Gofrestr. Os na ellir gwirio statws cofrestru ymarferwr o fynediad cyflogwyr, dylid cysylltu â’r This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. yn uniongyrchol.
  • sicrhau bod pob gweithiwr yn talu’r ffi adnewyddu flynyddol trwy dynnu’r ffi ofynnol o gyflogau gweithwyr ym mis Mawrth bob blwyddyn.
  • gwirio’n flynyddol p’un a yw pob ymarferydd wedi cofrestru.
  • os bydd cyflogwr yn parhau i gyflogi ymarferwyr anghofrestredig yn fwriadol, bydd CGA yn cyfeirio’r mater at Lywodraeth Cymru, sydd â phwerau i gyhoeddi cyfarwyddyd i’r cyflogwr gydymffurfio â’i ddyletswydd statudol.

Mae’n bwysig cadw mewn cof fod rhaid i gofrestreion dalu ffi gofrestru flynyddol. Os nad yw ymarferwyr yn talu’r ffi flynyddol, byddant yn cael eu datgofrestru ym mis Mai bob blwyddyn. Dylai cyflogwyr wirio cofrestriad eu gweithwyr wedi hynny, oherwydd y posibilrwydd y bydd unigolion a oedd wedi’u cofrestru’n flaenorol wedi cael eu datgofrestru yn ystod y cyfnod hwn.

Yn anad dim, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i gyfeirio ymarferwyr at CGA.

Beth i’w wneud pan fydd rhywun sy’n gweithio i chi heb ei gofrestru

Mae’n bosibl y bydd cyflogwr yn canfod bod gweithiwr, neu ddarpar weithiwr, heb ei gofrestru, am resymau amrywiol.

Gall yr ymarferwr fod wrthi’n gwneud cais i gofrestru gyda CGA. Ni ddylai ddechrau gweithio hyd nes bod y broses hon wedi’i chwblhau. Gwrthodir cofrestru ymgeiswyr am amryw reswm, felly nid yw caniatáu i’r rhai sydd wedi gwneud cais i gofrestru ddechrau gweithio yn dderbyniol.

Efallai na fydd yr ymarferwr yn gymwys i gofrestru yn y categori rydych chi am ei gyflogi ynddo, neu ni all gael ei gofrestru oherwydd cyfyngiadau.

Os bydd yr ymgeisydd o’r farn ei fod wedi cofrestru ac mae’n anghytuno â chofnod CGA, byddwn yn adolygu’r mater. Ar ôl adolygu’r achos, bydd y cyflogwr a’r unigolyn yn cael eu hysbysu’n briodol.

Cyfrifoldeb i gyfeirio ymarferwyr at CGA

Yn unol â Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015, fel y’u diwygiwyd, mae holl gyflogwyr unigolion cofrestredig yng Nghymru yn gyfrifol am gyfeirio achosion o ymddygiad proffesiynol annerbyniol honedig, anghymhwysedd proffesiynol difrifol honedig a/neu gollfarnu am drosedd berthnasol at CGA.

Mae’n rhaid i’r cyflogwr gyfeirio’r cofrestrai at CGA pan fydd wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio gwasanaethau cofrestrai, neu pan y gallai fod wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio’i wasanaethau pe na bai’r cofrestrai wedi rho’r gorau i ddarparu ei wasanaeth. Nid yw’r cyfarwyddiadau canlynol yn gwrthwneud dyletswydd statudol cyflogwr i atgyfeirio. 

Setliad neu gytundebau dwyochrol lle’r oedd unrhyw bosibilrwydd y byddai’r unigolyn wedi cael ei ddiswyddo, pe na wnaed y cytundeb.

Diswyddo am ‘Ryw Reswm Sylweddol Arall’ pan derfynwyd cyflogaeth o ganlyniad i fater disgyblu (ymddygiad a/neu gymhwysedd).

Atgoffir pob gweithiwr fod atgyfeirio o dan yr amgylchiadau uchod yn ofyniad statudol, a’i fod yn gysylltiedig â honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol a/neu gollfarn am drosedd berthnasol. 

Os daw CGA i wybod bod cyflogwr heb atgyfeirio achosion ato, neu nad yw’n atgyfeirio achosion ato, yn unol â’r gofynion statudol, gallai atgyfeirio’r cyflogwr hwnnw i Lywodraeth Cymru a all roi Cyfarwyddyd i’r cyflogwr gydymffurfio.

Gweld Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA

Gweld y canllawiau arfer da

Ffurflen atgyfeirio cyflogwr ac asiant