Os bydd pwyllgor priodoldeb i ymarfer yn gosod gorchymyn disgyblu ar gofrestriad ymarferwr addysg, bydd hysbysiad yn ymddangos yma. Bydd yr hysbysiad yn parhau am gyfnod o 6 mis o’i ddiwrnod cyhoeddi.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg, fel y’i cyfansoddir o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, fel y’i diwygiwyd, trwy hyn yn hysbysu fod gorchymyn disgyblu wedi’i osod ar gofrestriad y canlynol, yn unol â Rheol 31 ei Weithdrefnau a Rheolau Disgyblu Gorffennaf 2024.
Ar gyfer ymholiadau'r wasg,
Leander Shaw – 24 Medi 2025
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol 22-24 Medi 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Leander Shaw.
Canfu'r Pwyllgor, tra ei bod wedi ei chyflogi fel cynorthwyydd addysgu yn Ysgol Bryn Deva, ar 25 Hydref 2023, fe wnaeth Mrs Shaw slapio llaw disgybl A.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mrs Shaw fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 24 Medi 2025 ac 24 Medi 2027). O'r herwydd bydd Mrs Shaw yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mrs Shaw yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Bethan Picton - 23 Medi
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 23 Medi 2025, wedi canfod bod honiadau o ‘droseddau perthnasol’ wedi’u profi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Bethan Picton.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod Miss Picton:
- ar 26 Medi 2023, wedi cael ei dyfarnu’n euog o’r canlynol:
- gyrru cerbyd modur ar 14 Ebrill 2023 gyda chyfran o gyffur B penodol a reolir (Benzoylecgonine) uwch na’r terfyn penodedig. O ganlyniad, anghymhwyswyd Miss Picton rhag gyrru am 12 mis a rhoddwyd dirwy o £250 iddi
- gyrru cerbyd modur ar 14 Ebrill 2023 gyda chyfran o gyffur penodol a reolir (Cocên) uwch na’r terfyn penodedig. O ganlyniad, anghymhwyswyd Miss Picton rhag gyrru am 12 mis
- Ar 20 Medi 2024, wedi cael ei dyfarnu’n euog o’r canlynol:
- meddu ar gyffur a reolir gyda bwriad o’i gyflenwi (Dosbarth A – LSD) rhwng 20 Medi 2022 a 28 Ebrill 2023. O ganlyniad, ar 18 Hydref 2024, dedfrydwyd Miss Picton i 3 blynedd o garchar (cydredol) a fforffedu a dinistrio’r arddangosion
- feddu ar gyffur a reolir (Dosbarth B – Canabis/resin Canabis) ar 27 Ebrill 2023. O ganlyniad, ar 18 Hydref 2024, dedfrydwyd Miss Picton i fforffedu a dinistrio’r arddangosion, dim cosb ar wahân
- ymwneud â chyflenwi cyffur a reolir (Dosbarth A – Arall) rhwng 18 Medi 2022 a 28 Ebrill 2023. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton ar 18 Hydref 2024 i fforffedu a dinistrio’r arddangosion a 3 blynedd o garchar (cydredol)
- feddu ar gyffuriau a reolir (Dosbarth A – MDMA) ar 27 Ebrill 2023. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton ar 18 Hydref i fforffedu a dinistrio’r arddangosion ac 1 mis o garchar (cydredol)
- ymwneud â chyflenwi cyffuriau a reolir (Dosbarth A – Cocên) rhwng 18 Medi 2022 a 28 Ebrill 2023. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton ar 18 Hydref 2024 i fforffedu a dinistrio’r arddangosion a 3 blynedd o garchar
- feddu ar gyffur a reolir (Dosbarth A – Cocên) ar 27 Ebrill 2023. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton ar 18 Hydref 2024 i fforffedu a dinistrio’r arddangosion ac 1 mis o garchar (cydredol)
- ymwneud â chyflenwi cyffur a reolir (Dosbarth B – Canabis) rhwng 18 Medi 2022 a 28 Ebrill 2023. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton ar 18 Hydref 2024 i fforffedu a dinistrio’r arddangosion a 9 mis o garchar (cydredol)
- feddu ar gyffur a reolir (Dosbarth A – LSD) ar 27 Ebrill 2023. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton ar 18 Hydref 2024 i fforffedu a dinistrio’r arddangosion ac 1 mis o garchar (cydredol)
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Miss Picton o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Miss Picton wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Miss Picton yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 23 Medi 2027, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Miss Picton hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Arthur Rowland Thomas – 17 Medi 2025
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 16 ac 17 Medi 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro addysg bellach ac ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Arthur Thomas.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel darlithydd yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe, fe wnaeth Mr Thomas afael mewn dysgwr wrth eu llaw neu eu harddwrn, a defnyddio iaith amhriodol ym mhresenoldeb dysgwyr.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Thomas fel athro addysg bellach ac ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 17 Medi 2025 a 17 Medi 2027). O'r herwydd bydd Mr Thomas yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro addysg bellach) sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu i sefydliad addysg bellach yng Nghymru ac (ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith), sy'n darparu gwasanaethau ar ran corff dysgu'n seiliedig ar waith (heblaw fel gwirfoddolwr) yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Thomas yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Rebecca Tucknott – 11 Medi 2025
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol 9-11 Medi 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Rebecca Tucknott.
Canfu'r Pwyllgor, tra ei bod wedi ei chyflogi fel cynorthwyydd addysgu cyflenwi gan Educate Group yn Ysgol Alexandra, fe wnaeth Mrs Tucknott binsio disgybl A.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mrs Tucknott fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 11 Medi 2025 ac 11 Medi 2027).
O'r herwydd bydd Mrs Tucknott yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mrs Tucknott yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Benjamin Dick - 10 Gorffennaf 2025
Publication date: 16 Gorffennaf 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 7-10 Gorffennaf 2025, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro addysg bellach, Benjamin Dick.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei fod wedi ei gyflogi yng Ngholeg Ceredigion, bod Mr Dick:
- rhwng tua 2023 a Chwefror 2024, wedi cyfeirio at ddysgwyr gan ddefnyddio iaith frwnt, ddifrïol, ac amhriodol ym mhresenoldeb staff arall, ac wedi gwneud sylwadau ynghylch dysgwyr i ddysgwyr eraill, neu lle gallai dysgwyr eraill glywed, oedd yn amhriodol a/neu'n ddifrïol, yn benodol geiriau gydag effaith:
- “little s**t”
- gawl dysgwyr yn "dwp"
- defnyddio'r gair “f**k”
- “they are a right c**t”
- galw dysgwyr yn “d**khead” a/neu “d**kheads”
- cyfeirio at grŵp lefel 1 fel “a f**king s**t group”
- dweud wrth grŵp lefel 2 bod dysgwyr lefel 1 yn mynd ar ei nerfau
- bod yn flin a thrallodus
- dweud bod dysgwr yn “f**king annoying”
- rhwng Medi 2022 a Chwefror 2024 wedi ymddwyn mewn modd amhriodol neu amhroffesiynol ym mhresenoldeb cydweithwyr a/neu ddysgwyr trwy ei fod wedi:
- gweiddi a/neu regi'n ddig
- wedi taflu un neu fwy o eitemau
- cicio drws
- cyfeirio at ei bartner fel "c**t", a/neu mewn modd difrïol
- ar un neu fwy achlysur wedi gadael dysgwyr heb oruchwyliaeth a/neu heb oruchwyliaeth ddigonol yn y gweithdy
- ar neu o gwmpas Ionawr a/neu Chwefror 2024 wedi caniatáu i ddysgwyr weithio ar gar dysgwr heb oruchwyliaeth ddigonol
- ar neu o gwmpas Rhagfyr 2023 wedi caniatáu i ddysgwyr weithio ar ei gar:
- heb oruchwyliaeth ddigonol
- heb wirio eu gwaith cyn gyrru ei gar
- caniatáu i'r car gael ei yrru heb oleuadau blaen yn gweithio
- rhwng o gwmpas Medi 2022 ac o gwmpas Chwefror 2024 yn cysgu yn y gwaith, yn ystod oriau gwaith, ac wedi chwarae gemau ar ei ffôn symudol yn ystod gweithdy a/neu wers theori a/neu oriau gwaith.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Dick oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategorïau athro addysg bellach a gweithiwr cymorth dysgu ysgol. Penderfynodd hefyd na fyddai Mr Dick yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 2 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Dick wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 10 Gorffennaf 2027, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Dick yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Alice Ashton - 4 Gorffennaf 2025
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 30 Mehefin, ac 1 a 2 Gorffennaf 2025, wedi canfod bod honiadau o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ a ‘throsedd berthnasol’ wedi’u profi yn erbyn yr athrawes ysgol, Miss Alice ASHTON.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod Miss Ashton:
- Ar 19 Medi 2023, yn Llys Ynadon Telford, wedi cael ei dyfarnu’n euog o yrru cerbyd modur gyda lefel alcohol a oedd yn uwch na’r terfyn ar 19 Awst 2023, yn groes i adran 5(1)(a) Deddf Traffig Ffyrdd 1988. O ganlyniad i’r drosedd hon, ar 19 Medi 2023, fe’i dedfrydwyd i orchymyn cymunedol 12 mis a 200 o oriau o waith di-dâl, ac fe’i datgymhwyswyd rhag dal neu gael trwydded yrru am 28 mis.
- Ar neu oddeutu 17 Ionawr 2024, yn ymddangos fel petai dan ddylanwad alcohol ac ag aroglau alcohol arni tra oedd yn y gwaith.
- Ar un neu fwy o ddyddiadau yn ystod neu oddeutu mis Ionawr 2024, wedi ymddwyn mewn modd amhriodol ac amhroffesiynol tuag at ddisgybl(ion) ac o’u blaen, yn yr ystyr bod Miss Ashton:
- wedi dweud “f***” a “s***”
- wedi dweud “s*** it” a/neu “f*** off” wrth ddisgybl(ion)
- wedi galw disgybl(ion) yn “divvys” a/neu’n “little s****”, a/neu’n “little b****”
- wrth ymateb i Ddisgybl G a ddywedodd y byddai’n “rhoi gwybod i rywun amdani”, dywedodd Miss Ashton “cer amdani, byddwn ni’n lladd arnat ti tra byddi di allan”, a “phaid â chario clecs”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Miss Ashton o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori athrawes ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Miss Ashton wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Miss Ashton yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 2 Gorffennaf 2027, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Miss Ashton hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Francois Hanson – 5 Mehefin 2025
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 3-5 Mehefin 2025 wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr ieuenctid, Mr Francois Hanson.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi, bod Mr Hanson:
- ar neu o gwmpas Ebrill a/neu Mai 2019, wedi anfon neges(euon) amhriodol i blentyn A
- ar ddyddiadau anhysbys yn 2018 a/neu 2019, wedi gwneud sylwadau amhriodol wrth blentyn A, a'i fod wedi:
- dweud "Wel byddai dim angen i ti boeni am hynny [cael plant] gyda fi, achos fi wedi cael y snip"
- wedi dweud wrtho am broblemau yn ei briodas
- wedi dweud wrthi y gallai symud mewn gyda fe
- ar ddyddiad anhysbys yn 2018 neu 2019, wedi rhoi ei law ar glun plentyn A.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, fe wnaeth y Pwyllgor benderfynu bod ymddygiad Mr Hanson ym mharagraff 1 uchod o natur rywiol. Penderfynodd y Pwyllgor hefyd, bod ymddygiad Mr Hanson ym mharagraffau 1, 2 a 3 uchod yn deillio o gymhelliant rhywiol.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Hanson oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr ieuenctid. Penderfynodd hefyd na fyddai Mr Hanson yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o bum mlynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Roberts wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 26 Mehefin 2026, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Hanson yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Tina Sherratt – 13 Mehefin 2025
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 10-13 Mehefin 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Tina Sherratt.
Canfu’r Pwyllgor bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel athro cerdd peripatetig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, bod Ms Sherratt o gwmpas Hydref 2020 a Mai 2023:
- wedi methu ag ymateb i ohebiaeth gan un neu fwy o gydweithwyr yn rheolaidd
- heb gyflwyno ffurflenni ymweld/taflenni amser yn fisol, fel y gofynnwyd iddi gan un neu fwy o gydweithwyr
- heb roi gwybod i ysgol na fyddai hi'n dod i wers gyda disgybl, gan eu bod wedi gwneud trefniadau eraill
- wedi methu â darparu data o ran ymgysylltu dysgwyr
- heb ddarparu data prydau ysgol am ddim
- wedi methu â chwblhau'r holl fodiwlau hyfforddi fel oedd gofyn
- wedi methu â chael caniatâd ymlaen llaw am absenoldeb
- wedi methu â rhoi gwybod i reolwyr a/neu gydweithiwr A am eu habsenoldeb o'r gwaith
- wedi methu â rhoi gwybod i'r ysgolion yr oedd hi fod i fynd iddynt yn ystod y cyfnod yma o absenoldeb
Canfu'r pwyllgor bod yr ymddygiad o ran yr absenoldebau o'r gwaith yn dangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Ms Sherratt fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 13 Mehefin 2025 ac 13 Mehefin 2027).
O'r herwydd bydd Ms Sherratt yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Ms Sherratt has a right of appeal to High Court within 28 days.
Abigail Jayne Scrivens – 6 Mehefin 2025
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 2-6 Mehefin 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu ysgol, Abigail Jayne Scrivens.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu yn Ysgol Gynradd Monnow, bod Miss Scrivens:
- ar 9 Tachwedd 2022, cymrodd fraich neu arddwrn disgybl A:
- pan nad oedd yn rhesymol neu'n angenrheidiol i wneud hynny o dan yr amgylchiadau
- wedi defnyddio mwy o rym nag oedd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Miss Scrivens fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o flwyddyn (rhwng 6 Mehefin 2025 a 6 Mehefin 2026). O'r herwydd ni fydd Miss Scrivens yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y gorchymyn.
Mae gan Miss Scrivens yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Sophie Cahill – 28 Mai 2025
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 19 a 28 Mai 2025, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi eu profi yn erbyn athro addysg bellach a gweithiwr cymorth dysgu, Sophie Cahill.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi:
- ar neu o gwmpas 6 Medi 2024, fe wnaeth Miss Cahill gyflwyno cais i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel athro addysg bellach, a nododd yn y datganiad nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau, pan nad oedd hyn yn gywir
- ar 2 Tachwedd 2023, cafodd Miss Cahill euogfarn yn Llys yr Ynadon Casnewydd am y drosedd o fethu â darparu sampl i'w ddadansoddi (gyrru neu geisio gyrru) ar 1 Tachwedd 2023, drwy fynd yn erbyn adran 7(6) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988. O'r herwydd cafodd Miss Cahill ddedfryd ar 17 Tachwedd 2023 o waharddiad gyrru o 14 mis, a dirwy o £200
- ar 17 Tachwedd 2023, cafodd Miss Cahill euogfarn yn Llys yr Ynadon Casnewydd am y drosedd o fethu â darparu sampl i'w ddadansoddi (gyrru neu geisio gyrru) ar 31 Hydref 2023, drwy fynd yn erbyn adran 7(6) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988. O'r herwydd cafodd Miss Cahill ddedfryd o waharddiad gyrru o 14 mis, a dirwy o £200.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, fe wnaeth y Pwyllgor benderfynu bod ymddygiad Miss Cahill yn dangos diffyg hygrededd o ran paragraff 1 uchod.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Cahill fel athro addysg bellach a gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 28 Mai 2025 a 28 Mai 2027).
O'r herwydd bydd Miss Cahill yn gallu gweithio fel:
- athro addysg bellach, sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru
- gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru.
am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Miss Cahill yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Luke Probert - 27 Mai 2025
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 19, 20, 22, 23 a 27 Mai 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Luke Probert.
Canfu'r Pwyllgor ddau achos o fethu ag adrodd am faterion diogelu.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Mr Probert fel athro ysgol am gyfnod o 1 flwyddyn (rhwng 27 Mai 2025 a 27 Mai 2026). O'r herwydd ni fydd Mr Probert yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Gorchymyn.
Mae gan Mr Probert yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Lois Bennett – 7 Mai 2025
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 6 a 7 Mai 2025, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi eu profi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Lois Bennett.
Canfu'r Pwyllgor bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel Gweithiwr Cymorth Dysgu yn Ysgol Gynradd Gymunedol y Graig, fe wnaeth Miss Bennett:
- ar neu o gwmpas 23 Hydref 2023, mewn perthynas â disgybl A:
- wedi hisio yn a/neu wrth ymyl eu hwyneb
- wedi gwneud ystum gyda'i llaw yn a/neu yn agos i'w hwyneb
- o ran ei hymddygiad ym mharagraff 1, fe wnaeth recordio'r digwyddiad ar ei ffôn symudol
- o ran ei hymddygiad ym mharagraff 2, fe rannodd y recordiad a/neu fideo o ddisgybl A gydag o leiaf un person nad oedd wedi eu cyflogi gan yr ysgol.
- o ran eu hymddygiad ym mharagraff 2 a 3:
- rhannwyd y fideo ar gyfryngau cymdeithasol
- roedd hi'n gwybod, neu dylai fod wedi gwybod bod risg y gallai'r fideo fod wedi ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol
- wedi torri polisi cyfryngau cymdeithasol yr ysgol
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Atal (gydag amodau) ar gofrestriad Miss Bennett fel gweithiwr cymorth dysgu am gyfnod o 12 mis (o 7 Mai 2025 hyd 7 Mai 2026), cyn belled â'i bod yn bodloni'r amodau a nodir o fewn y terfyn amser.
O'r herwydd ni fydd Miss Bennett yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y gorchymyn.
Mae gan Miss Bennett yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Richard Evan Davies – 8 Mai 2025
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 8 Mai 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Richard Evan Davies
Canfu'r Pwyllgor bod Mr Davies:
Ar 6 Hydref 2023, wedi ei gael yn euog o ymosodiad yn achosi gwir niwed corfforol, yn erbyn adran 47 Deddf Troseddau yn Erbyn Person 1861.
O ganlyniad i'r drosedd cafodd ddedfryd o:
- gorchymyn dedfryd ohiriedig - carchar am 15 mis, wedi ei ohirio am 18 mis
- gofyniad ymataliad rhag alcohol
- gofyniad o weithgarwch adsefydlu
- 90 diwrnod o ofyniad tagio electronig preswyl
Ar ôl gwneud y canfyddiad yma, penderfynodd y Pwyllgor hefyd bod yr ymddygiad yn drosedd berthnasol.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Mr Davies fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 18 mis (rhwng 8 Mai 2025 a 8 Tachwedd 2026). O'r herwydd ni fydd Mr Davies yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y gorchymyn.
Mae gan Mr Davies yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Aled Medwyn Jones - 1 Mai 2025
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 23 Ebrill - 1 Mai 2025, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro addysg bellach, Aled Medwyn Jones.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi, bod Mr Jones:
- rhwng Awst 2019 a Mawrth 2020, wedi cofnodi arsylwadau o ymweliadau safle ar gyfer 7 prentis NVQ ar Learning Assist , ac na wnaeth un neu fwy o'r ymweliadau ddigwydd
- wedi gwneud un neu fwy o hawliadau treuliau ar Proactis pan na wnaeth yr ymweliadau cyfatebol ddigwydd, ar ddyddiadau rhwng Awst 2019 a Hydref 2019
Canfu'r pwyllgor bod yr ymddygiad a brofwyd yn anonest a heb hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Jones oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori athro addysg bellach, gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, ac ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith. Penderfynodd hefyd na fyddai Mr Jones yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Jones wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 1 Mai 2027, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Jones yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Mark Peter Casey – 10 Ebrill 2025
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 10 Ebrill 2025, wedi canfod bod honiad o drosedd berthnasol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Mark Peter Casey.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi, bod Mr Casey:
- ar 5 Mawrth 2024, wedi ei gael yn euog o ymosod drwy guro, yn erbyn adran 39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988
Canfu'r pwyllgor bod yr euogfarn a'i profwyd yn gyfystyr â throsedd berthnasol.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Atal (gydag amodau) ar gofrestriad Mr Casey fel gweithiwr cymorth dysgu am gyfnod o ddwy flynedd (o 10 Ebrill 2025 hyd 10 Ebrill 2027), cyn belled â'i bod yn bodloni'r amodau a nodir o fewn y terfyn amser.
O'r herwydd ni fydd Mr Casey yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y gorchymyn.
Mae gan Mr Casey yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Nicola Cullen – 27 Mawrth 2025
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 27 Mawrth 2025 wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Mrs Nicola Cullen.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi, bod Mrs Cullen:
- Ar 23 Tachwedd 2022, wedi derbyn rhybudd amodol gan Heddlu Gogledd Cymru am ddwyn gan gyflogai ar 1 Gorffennaf 2021 hyd 1 Hydref 2021, yn erbyn adran 1 Deddf Dwyn 1968.
- ar neu o gwmpas 26 Ionawr 2024, wedi cyflwyno cais i gofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol, a nododd yn y datganiad nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau na/neu rhybudd, pan nad oedd hyn yn gywir.
- Roedd ymddygiad Mrs Cullen ym mharagraff 2 uchod yn:
- anonest
- heb hygrededd
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mrs Cullen oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu ysgol. Penderfynnodd hefyd na fyddai Mrs Cullen yn cael gwneud cais i'w hadfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Cullen wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 27 Mawrth 2027, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mrs Cullen yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Gaio Ze Kouyate – 14 Mawrth 2025
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol rhwng 11 ac 14 Mawrth 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, Mr Gaio Ze Kouyate.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel Arbenigwr Dysgu Byd Rhithiol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro (y Coleg), bod Mr Kouyate:
- ar neu o gwmpas 18 Hydref 2022, wedi defnyddio eu gliniadur y Coleg i:
- gael mynediad at gynnwys oedd yn amhriodol a/neu o natur rywiol
- anfon negeseuon o natur rywiol
- rhwng 2021 a 2022:
- wedi creu avatar rhywiol (sexualised) o fewn campws rhithiol y Coleg
- wedi rhoi dolen i gydweithiwr A i daenlen gydag enwau defnyddwyr a chyfrineiriau ar gyfer campws rhithiol y Coleg, gan roi mynediad heb reolaeth i'r wybodaeth.
- wedi awgrymu'n amhriodol i un neu fwy o gydweithwyr, y gallai dysgwyr newid eu dyddiad geni i'w galluogi i gael mynediad at ddeunydd ar system Second Life fyddai fel arall wedi ei gyfyngu ar gyfer pobl o dan 18 oed.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Kouyate oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach. Penderfynodd hefyd na fyddai Mr Kouyate yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 2 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Kouyate wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 14 Mawrth 2027, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Kouyate yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.