CGA / EWC

About us banner
Cynllun Strategol 2026-29
Cynllun Strategol 2026-29

Rhagair gan ein Cadeirydd

Mae’n anrhydedd bod yn Gadeirydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a chyflwyno ein Cynllun Strategol ar gyfer 2026–29. Mae’r cynllun hwn yn disgrifio sut byddwn yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, gan weithredu er budd y cyhoedd i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, chynnal proffesiynoldeb, a gwella safonau ar draws y gweithlu addysg yng Nghymru.

Mae ein hymrwymiad parhaus i ddiogelu yn ganolog i’r cynllun hwn. Mae CGA yn bodoli i amddiffyn dysgwyr a phobl ifanc trwy gynnal safonau uchel ymhlith y rhai sy’n eu haddysgu a’u cefnogi. Rydym yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwn gyda’r difrifoldeb mwyaf. Trwy reoleiddio teg, tryloyw a chadarn, rydym yn gweithio i gynnal hyder y cyhoedd ym mhroffesiynoldeb ac uniondeb y bobl  rydym yn ymddiried ynddynt o ran addysg a lles cenedlaethau’r dyfodol.

Wrth weithio mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith ac addysg oedolion, a lleoliadau gwaith ieuenctid ar draws Cymru, mae ein cofrestreion yn meddu ar wybodaeth ddofn a gwerthoedd moesegol cadarn. Trwy’r dydd, bob dydd, maent hefyd yn dangos ymrwymiad dwfn i’r dysgwyr, y bobl ifanc a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Byddwn yn parhau i fod yn lladmeryddion y gweithlu, gan ddefnyddio ein sefyllfa unigryw i gydnabod a dathlu eu harbenigedd a’r effaith a gânt ar draws Cymru. Hefyd, byddwn yn gweithio i sicrhau bod y gweithlu addysg yn parhau i ffynnu ac addasu mewn byd sy’n prysur newid.

Mae cydweithredu yn ganolog i gyflawni ein strategaeth. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol allweddol, gan gynnwys Cynllun Strategol y Gweithlu Addysg,  Cwricwlwm i Gymru, diwygio addysg gychwynnol athrawon i athrawon addysg bellach, datblygiad y corff cenedlaethol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid, a Chymraeg 2050. Wrth wneud hynny, byddwn yn cyfrannu deallusrwydd, data, mewnwelediadau ac arbenigedd i lywio penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Byddwn yn helpu i sicrhau bod lleisiau ein 91,000+ o gofrestreion i’w clywed yn glir a’u bod o bwys wrth lywio dyfodol addysg yng Nghymru.

Hefyd, byddwn yn parhau i weithio i gryfhau’r diwylliant hunanreoleiddio proffesiynol sy’n sylfaen i’n gwaith, gan sicrhau bod y fframwaith deddfwriaethol sy’n rheoli CGA yn aros yn gadarn, yn ymatebol ac yn addas at ei ddiben fel bod anghenion y gweithlu addysg a’r dysgwyr a’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw yn esblygu.

Yr un mor bwysig yw ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, sydd wedi’i amlinellu’n fanwl yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28. Mae hwn yn cynnwys ymrwymiad, trwy ein gwaith hyrwyddo gyrfaoedd, i helpu datblygu gweithlu addysg sy’n adlewyrchu amrywiaeth gyfoethog Cymru fodern yn agosach. Yn ehangach, byddwn yn parhau i gefnogi’r amcanion yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru.  

Edrychaf ymlaen at weithio gyda’n Prif Weithredwr, fy nghyd-aelodau Cyngor a staff CGA i gyflawni’r uchelgeisiau yn y cynllun hwn dros y blynyddoedd nesaf. Gyda’n cofrestreion a’n partneriaid, byddwn yn parhau i weithio i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, cynnal ffydd y cyhoedd, a sicrhau bod addysgwyr ar draws Cymru’n cael eu parchu, eu grymuso a’u gwerthfawrogi.

Geraint Williams, Cadeirydd

Rhagair gan ein Prif Weithredwr

A minnau’n Brif Weithredwr CGA, rwy’n falch o gyflwyno ein Cynllun Strategol 2026-29, sy’n amlinellu sut byddwn yn cyflawni ein swyddogaethau statudol a’n blaenoriaethau strategol allweddol dros y tair blynedd nesaf.

Yn ei hanfod, mae’r cynllun yn atgyfnerthu ein diben craidd: gweithio er budd y cyhoedd i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, trwy gynnal proffesiynoldeb a safonau.

Mae rheoleiddio cadarn wrth graidd ein gwaith, gan sicrhau mai dim ond y rhai sy’n addas ac wedi cymhwyso’n briodol i ymarfer sy’n gallu ymuno â’n Cofrestr. Hefyd, rydym yn cefnogi ein cofrestreion i gynnal yr egwyddorion yn y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, gan sicrhau bod safonau ymddygiad a phroffesiynoldeb uchel wedi gwreiddio yn eu hymarfer proffesiynol. Pan godir pryderon, rydym yn gweithredu’n brydlon, yn deg ac yn dryloyw i amddiffyn dysgwyr a phobl ifanc, diogelu’r cyhoedd a chynnal hyder yn y proffesiwn.

Hefyd, byddwn yn parhau i chwarae rhan allweddol mewn hyrwyddo safonau addysgu uchel ar draws Cymru trwy gyflawni ein dyletswydd statudol i achredu a monitro rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ar gyfer athrawon ysgol. Trwy’r gwaith hwn, rydym yn sicrhau bod darparwyr AGA yn bodloni’r meini prawf achredu sydd wrth wraidd paratoi athrawon o safon uchel ac y bydd safon drylwyr o hyfforddiant yn cael ei darparu i’r genhedlaeth nesaf o athrawon.

Y tu hwnt i’n cyfrifoldebau rheoleiddio, mae CGA yn chwarae rôl hanfodol o ran cefnogi a grymuso’r gweithlu addysg. Byddwn yn parhau â’n gwaith i hyrwyddo gyrfaoedd mewn addysg, annog dysgu proffesiynol o ansawdd uchel gydol gyrfa, a defnyddio’n data a’n mewnwelediadau unigryw i helpu llywio polisi’r gweithlu. Adeiladu a chynnal gweithlu addysg cadarn, cynaliadwy ac amrywiol yw un o’r heriau pennaf sy’n wynebu ein sector. Trwy gydweithredu â Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar draws Cymru, ein nod yw datblygu dulliau blaengar, seiliedig ar dystiolaeth, i ateb yr her honno.

Byddwn yn sicrhau bod pobl yn deall pwy ydym ni, beth rydym ni’n ei wneud a sut mae ein gwaith yn cyfrannu at ddiogelu a chodi safonau. Hefyd, byddwn yn parhau i foderneiddio ein systemau a’n prosesau, gan ddefnyddio technoleg i wella effeithlonrwydd a sicrhau gwerth am arian i gofrestreion.

O’i bobl y daw  cryfder CGA. Rwy’n hynod falch o’n staff, aelodau Cyngor ac aelodau panel ymroddedig sy’n byw ein gwerthoedd, sef tegwch, rhagoriaeth, cydweithredu ac annibyniaeth. Trwy weithio gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i gynnal y safonau gwasanaeth uchaf i’n cofrestreion ac i sicrhau bod ein gwaith yn dwyn buddion ystyrlon i ddysgwyr a phobl ifanc, ymarferwyr a’r cyhoedd yn ehangach, ar hyd a lled Cymru.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda’n cofrestreion a’n partneriaid i wireddu’r uchelgeisiau yn y cynllun hwn, er mwyn sicrhau bod CGA yn parhau i wneud cyfraniad cadarnhaol ac ystyrlon at addysg yng Nghymru.

Lisa Winstone, Prif Weithredwr

Ein rôl a’n cylch gwaith

Gweledigaeth

Bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, dibynadwy sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru.

Diben

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn nodi ein nodau a’n swyddogaethau yn ffurfiol.

Ein nodau

  • Cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru.
  • Cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon ac eraill sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.
  • Diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid a’r cyhoedd, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Ein swyddogaethau

  • Sefydlu a chynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg.
  • Cynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
  • Ymchwilio i honiadau a all fwrw amheuaeth am briodoldeb ymarferydd cofrestredig i ymarfer, a gwrando ar yr honiadau hyn.
  • Achredu a monitro rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
  • Darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ac eraill.
  • Monitro sefydlu a gwrando ar apeliadau sefydlu.
  • Hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg.
  • Ymgymryd â gwaith penodol wedi’i ariannu gan grant, ar wahoddiad Llywodraeth Cymru, mewn meysydd sy’n berthnasol i’n cylch gwaith ac sy’n cyd-fynd â’n hymrwymiad i wella safonau a deilliannau addysgol.

Y ffordd rydym ni’n gweithio

Mae ein diwylliant, ein galluoedd a’n seilwaith yn llunio sut rydym ni’n mynd ati i gyflawni’n rôl fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ac fel cyflogwr.

Ein gwerthoedd

Tegwch

Rydym yn gweithredu’n deg a gydag uniondeb i gynnal safonau a hybu proffesiynoldeb.

Cefnogaeth

Rydym yn grymuso’r gweithlu addysg i gynnal safonau uchel o ymddygiad ac ymarfer, a bod yn unigolion sy’n hunanreoleiddio ac yn cynnal uniondeb eu proffesiwn.

Rhagoriaeth

Rydym yn anelu at ragoriaeth ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gofrestreion, rhanddeiliaid, dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd.

Cydweithredu

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r gweithlu addysg a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu a hybu rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu.

Annibyniaeth

Rydym yn annibynnol, ac yn rheoleiddio mewn modd diduedd ac wedi’i seilio ar dystiolaeth.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Yn ganolog i’n gwaith y mae ymrwymiad dwfn i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn esbonio sut byddwn yn gweithio i annog newid cadarnhaol, o fewn ein sefydliad ac ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru. Mae pum amcan strategol yn ei lywio:

  1. Meithrin tîm CGA amrywiol a chynhwysol
  2. Monitro’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a nodi cyfleoedd i’w leihau
  3. Gweithle cynhwysol lle dethlir amrywiaeth
  4. Cyflwyno gwasanaethau hygyrch ar gyfer cofrestreion a rhanddeiliaid
  5. Helpu datblygu gweithlu addysg sy’n cynrychioli’r boblogaeth amrywiol yng Nghymru

Wrth wraidd ein hamcanion cydraddoldeb y mae cynllun gweithredu manwl a fydd yn amlinellu’r camau gweithredu a’r mesurau a ddefnyddiwn i olrhain cynnydd.

Y Gymraeg

Fel sefydliad dwyieithog balch, rydym yn ymrwymo i hyrwyddo a thyfu’r Gymraeg, a chefnogi uchelgeisiau cenedlaethol i’r iaith ar draws y system addysg.

Rydym yn cynnig ein holl wasanaethau yn Gymraeg a Saesneg, gan sicrhau bod pawb yn gallu ymgysylltu â ni yn eu dewis iaith. Trwy weithio’n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg, rydym nid yn unig yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, ond rydym hefyd yn ceisio ymgorffori arfer gorau o fannau eraill, gan sicrhau bod dwyieithrwydd yn gonglfaen i’n hunaniaeth sefydliadol.

Rydym yn cydnabod rôl ganolog y gweithlu addysg wrth gyflawni amcanion hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, gan gynnwys Cymraeg 2050, a gweithredu Bil y Gymraeg ac Addysg, sy'n cynnwys goblygiadau sylweddol ar gyfer cynllunio a datblygu'r gweithlu, a chyflenwi. Rydym yn gweithio i gefnogi hyn drwy ein gwaith rheoleiddiol, sy'n cynnwys darparu data a gwybodaeth y gweithlu, a chefnogi dysgu proffesiynol, yn ogystal â thrwy ein gwaith yn hyrwyddo gyrfaoedd mewn proffesiynau addysg.

Yr amgylchedd

Rydym yn ymroi i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a chofleidio arferion cynaliadwy ym mhopeth a wnawn. Mae ein Hadroddiad ar y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau Adran 6 (a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2025) yn amlinellu’r camau  rydym wedi eu cymryd i helpu cynnal a gwella bioamrywiaeth. Dros gyfnod y cynllun hwn, byddwn yn parhau i wella yn y maes hwn ac amlygu camau gweithredu a mentrau pellach i gefnogi bioamrywiaeth a chynaliadwyedd.

Cynaliadwyedd ariannol    

A ninnau’n rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol a ariennir gan ffioedd cofrestru, mae’n hanfodol ein bod yn gynaliadwy yn ariannol, gan weithredu o fewn ein modd a defnyddio ein hadnoddau yn effeithlon. Byddwn yn parhau i ymdrechu i gadw ffioedd mor isel â phosibl, gan ddarparu’r lefel gwasanaeth uchaf wrth gyflawni ein dyletswyddau statudol.

Rydym ni’n arwain gweithgareddau penodol ar ran Llywodraeth Cymru os ystyrir mai ni yw’r corff mwyaf priodol i wneud gwaith o’r fath. Mewn achosion o’r fath, mae Llywodraeth Cymru’n talu ein costau trwy gyllid grant, gan ein galluogi i gyfrannu’n fwy effeithiol fyth at y tirlun addysg yng Nghymru. Mae’r dull hwn yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar feysydd sy’n cyd-fynd â’n cylch gwaith a’n hymrwymiad i wella safonau a deilliannau addysgol, gan barhau i sicrhau gwerth i’n cofrestreion.

Ein pobl

Un o gryfderau allweddol CGA yw’r bobl ymroddedig sy’n gweithio i wireddu ein gweledigaeth. Mae ein tîm o fwy na 55 o weithwyr, dan arweiniad ein Prif Weithredwr, yn cydweithio i sicrhau bod ein cyfrifoldebau craidd yn cael eu cyflawni’n effeithiol. Rydym yn buddsoddi yn ein pobl, gan ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle mae gan bob cydweithiwr gyfle i dyfu a datblygu  eu sgiliau.

Mae ein Cyngor yn cynnwys 14 aelod sy’n sefydlu cyfeiriad strategol CGA ac maent yn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau llywodraethu uchaf. Penodir pob aelod am gyfnod pedair blynedd ac, ar y cyd, mae gan ein Cyngor gyfoeth o brofiad a gwybodaeth, yn cwmpasu ein grwpiau cofrestreion. Penodir saith aelod yn uniongyrchol trwy system penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru, a phenodir saith yn sgil cael eu henwebu gan amrywiaeth o randdeiliaid.

Hefyd, rydym yn cynnal ac yn cefnogi:

  • grŵp o fwy na 50 o aelodau panel priodoldeb i ymarfer
  • Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) sy’n cynnwys 14 aelod
  • grŵp o fwy na 45 o aseswyr y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Sut byddwn ni’n monitro cynnydd

Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd yn erbyn amcanion a deilliannau’r cynllun hwn mewn pedwar adolygiad chwarterol, ac yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, a osodir gerbron y Senedd yn flynyddol a’u harchwilio gan Archwilio Cymru. Byddwn yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb ac Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg, yn disgrifio sut rydym yn cydymffurfio â’r meysydd allweddol hyn ac yn amlinellu ein cynnydd ynddynt. Bydd adroddiad blynyddol ar ein gwaith priodoldeb i ymarfer yn cael ei gyhoeddi hefyd, yn disgrifio sut rydym wedi delio â materion a gyfeiriwyd atom a darparu data am y mathau o achosion rydym yn delio â nhw. Yn ogystal, byddwn yn parhau i adrodd ar sut rydym yn cydymffurfio ag Adran 6 Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau, yn unol â’r gofynion yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (cyhoeddir ein hadroddiad nesaf yn 2028).

Amcanion allweddol ar gyfer 2026-29

Mae ein hamcanion yn amlinellu sut rydym ni’n anelu at wireddu ein gweledigaeth yn ystod cyfnod y cynllun hwn. Bydd y rhain yn cyfrannu at gamau gweithredu mesuradwy, penodol a osodir fel rhan o’n proses cynllunio gweithredol flynyddol.

Amcan 1

Bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, sy’n gweithio er budd y cyhoedd ac yn meithrin hyder yn y gweithlu addysg.

  1. Cynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg sy’n gywir ac yn hygyrch.
  2. Diogelu dysgwyr a phobl ifanc trwy reoleiddio trylwyr, teg, a thryloyw.
  3. Llunio ymarfer cofrestreion trwy hyrwyddo’r safonau uchaf o ymddygiad, proffesiynoldeb ac uniondeb.
  4. Achredu a sicrhau ansawdd rhaglenni a darpariaeth addysg yng Nghymru.
  5. Bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, gan gyfathrebu’n effeithiol fel bod cofrestreion, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn ehangach yn deall ac yn gwerthfawrogi ein gwaith.

Amcan 2

Cefnogi proffesiynoldeb a dysgu, a hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg.

  1. Darparu cyfres o ganllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol, wedi ffocysu ar gefnogi ein cofrestreion i gynnal egwyddorion allweddol y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
  2. Hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg yng Nghymru.
  3. Arwain a chefnogi mentrau i hyrwyddo ac annog dysgu proffesiynol effeithiol i gofrestreion.
  4. Cefnogi cofrestreion i ymgysylltu ag ymchwil addysg a lledaenu arfer gorau i helpu llywio polisi a chodi safonau.

Amcan 3

Llywio, llunio, a dylanwadu ar bolisi addysgol a gweithio i gryfhau diogelu trwy reoleiddio’r gweithlu addysg yng Nghymru yn well.

  1. Sicrhau bod y ddeddfwriaeth sydd wrth wraidd ein swyddogaethau rheoleiddio yn ddigon cadarn i’n galluogi i gynnal proffesiynoldeb, a gwella safonau o fewn y gweithlu addysg, ym mudd y cyhoedd.
  2. Darparu cyngor, ymchwil, a dadansoddi annibynnol gyda’r nod o wella safonau, a llywio a dylanwadu ar ddatblygu a chyflwyno polisi addysg yng Nghymru.
  3. Cydweithredu â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i lywio a dylanwadu ar bolisi addysg, ac ehangu dealltwriaeth o gyfraniadau a safbwyntiau ein cofrestreion.
  4. Cynnig cipolygon yn seiliedig ar dystiolaeth ar dueddiadau recriwtio a chadw yn y gweithlu addysg, gan ategu penderfyniadau strategol a chynllunio’r gweithlu yn strategol yng Nghymru.

Amcan 4

Bod yn sefydliad effeithlon, gwydn, a chynaliadwy, sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion.

  1. Rheoli adnoddau’n effeithiol ac yn gynaliadwy er mwyn bodloni anghenion presennol a’r dyfodol, gan wneud defnydd priodol o dechnoleg i yrru effeithlonrwydd a gwella’n gwasanaethau.
  2. Meddu ar brosesau cynllunio, rheoli perfformiad a monitro effeithiol, gan sicrhau eu bod yn ymgorffori arfer gorau.
  3. Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol (gan gynnwys yn gysylltiedig â’r Gymraeg, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, diogelu data a chynaliadwyedd amgylcheddol), gan ymgorffori arfer gorau.
  4. Bod yn gyflogwr rhagorol gan feithrin diwylliant cefnogol a chynhwysol lle bydd yr holl staff, y Cyngor ac aelodau Pwyllgor/panel yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn gallu cyfrannu’n llawn.