Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i ffurfioli darparu chwe diwrnod hyfforddiant mewn swydd (HMS) y flwyddyn i ysgolion yng Nghymru. Caeodd yr ymgynghoriad ar 2 Chwefror 2026.
Yn ein hymateb, croesawom y cynigion a phwysleisio hanfodol diwrnodau HMS o ran galluogi dysgu proffesiynol parhaus, o ansawdd uchel, ar draws y gweithlu ysgolion. Mae chwe diwrnod HMS y flwyddyn yn arfer hensefydledig yng Nghymru bellach ac mae wedi bod yn hanfodol wrth gynorthwyo ymarferwyr i ymateb i Gwricwlwm i Gymru, diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a blaenoriaethau tegwch ehangach.
I ategu datblygiad dull cenedlaethol cydlynus ac effeithiol, amlygodd ein hymateb nifer o bwyntiau allweddol:
- cefnogaeth ar gyfer ffurfioli chwe diwrnod HMS: mae diwrnodau HMS yn hanfodol ar gyfer dysgu proffesiynol o ansawdd uchel ac maent yn helpu’r gweithlu i ymateb i flaenoriaethau allweddol, gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru, ADY a thegwch.
- rhaid i’r gweithlu cyfan elwa o’r ddarpariaeth: dylai holl aelodau’r gweithlu allu cael mynediad teg at ddysgu proffesiynol ystyrlon sy’n cefnogi gwelliant parhaus, yn gwella’u sgiliau a’u gwybodaeth broffesiynol ac sy’n cyfrannu, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, at gynnal y safonau sydd wedi’u hamlinellu yng Nghod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA
- ymagwedd gytbwys at flaenoriaethau cenedlaethol a lleol: rydym yn cefnogi’r ffocws ar flaenoriaethau cenedlaethol, ond pwysleisiwn fod angen hyblygrwydd fel y gall ysgolion fynd i’r afael â chyd-destunau lleol ac anghenion eu staff eu hunain
- cydweithredu a chydlyniad cryfach: rydym yn croesawu cydweithredu parhaus rhwng Llywodraeth Cymru, Dysgu, consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, ac ysgolion i sicrhau bod dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, wedi’i lywio gan dystiolaeth a’i fod yn ymatebol i gyd-destunau ysgolion
- gwell cyfleoedd am adborth: dylai ymarferwyr gael cyfleoedd i fyfyrio ar effaith ac effeithiolrwydd diwrnodau HMS, a chyfleodd i roi adborth ar hynny, er mwyn llywio datblygiadau polisi yn y dyfodol
- gallai cyd-drefnu diwrnodau HMS yn well gynnig cymorth pellach: gall cysoni dyddiadau ar draws clystyrau neu ardaloedd awdurdodau lleol leihau tarfu i deuluoedd a chreu mwy o gyfleoedd am ddysgu proffesiynol cydweithredol
- cyfathrebu gwell â rhieni/gwarcheidwaid: bydd cyhoeddi dyddiadau HMS a’u diben ar ddechrau’r flwyddyn academaidd yn helpu i gryfhau dealltwriaeth y cyhoedd o bwysigrwydd dysgu proffesiynol ac yn amlygu’r safonau uchel a ddisgwylir o’r proffesiwn addysg
- cyfyngu ar glystyru a sesiynau gyda’r nos: mae lledaenu diwrnodau HMS ar draws y flwyddyn a lleihau’r gorddibynnu ar sesiynau gyda’r nos yn cefnogi dysgu proffesiynol mwy parhaus, myfyriol ac effeithiol, tra’n lleihau tarfu ar yr ystafell ddosbarth.
- cryfhau capasiti cyfrwng Cymraeg: mae diwrnodau HMS yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr am ddysgu proffesiynol yn y Gymraeg, gan gefnogi Deddf y Gymraeg mewn Addysg ac uchelgais ehangach Cymraeg 2050
Yn olaf, amlygom fod dysgu proffesiynol yn fwyaf effeithiol pan fydd yn barhaus ac yn cael ei wreiddio, a nodom werth y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Mae’r PDP yn e-bortffolio ar-lein hyblyg sydd ar gael i holl gofrestreion CGA. Mae’n llawn nodweddion sy’n anelu at gynorthwyo ymarferwyr â chipio a myfyrio ar eu dysgu, ei rannu a’i gynllunio, gyda’r nod yn y pen draw o lywio’u hymarfer a’u datblygiad proffesiynol parhaus.
Edrychwn ymlaen at barhau i gynorthwyo Llywodraeth Cymru a phartneriaid, fel y bo’n briodol i’n cylch gwaith, â datblygu ymagwedd genedlaethol effeithiol at ddysgu proffesiynol.
Mae ein hymateb llawn ar gael i’w ddarllen nawr ar ein gwefan.
