CGA / EWC

Fitness to practise banner
Astudiaethau achos priodoldeb i ymarfer
Astudiaethau achos priodoldeb i ymarfer

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi mewnwelediadau clir ac ymarferol i'r disgwyliadau a'r safonau a ddisgwylir gennych yn eich arfer proffesiynol, a'ch bywyd personol.

Yn seiliedig ar esiamplau go-iawn maent yn dangos yr heriau cyffredin a'r peryglon all arwain at wrandawiad priodoldeb i ymarfer. Drwy amlygu'r sefyllfaoedd hyn, ein bwriad yw cynnig pwyntiau dysgu gwerthfawr i'ch helpu i gynnal y safonau uchaf yn eich proffesiwn, a diogelu eich cofrestriad.

Methiant i hysbysu cyflogwr am drosedd

Yn yr astudiaeth achos hon, edrychwn ar enghraifft o gofrestrai a geryddwyd am fethu hysbysu ei gyflogwr am drosedd.

Crynodeb o’r achos

Cafodd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) atgyfeiriad gan gyflogwr ar ôl iddo ddiswyddo aelod o staff a oedd wedi’i gofrestru gyda CGA. Diswyddwyd y cofrestrai oherwydd daeth i’r amlwg nad oedd wedi hysbysu ei gyflogwr am ddau arestiad ar wahân am siopladrad.

Yn ystod y gwrandawiad hwn, gofynnwyd i’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer ystyried a oedd yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod y cofrestrai:

  1. wedi bod yn destun datrysiad y tu allan i’r llys (gorchymyn datrysiad cymunedol) ar gyfer dwy drosedd o siopladrad
  2. wedi methu datgelu’r datrysiad y tu allan i’r llys y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 1 i’w gyflogwr

Ystyriodd y Pwyllgor hefyd a oedd ymddygiad y cofrestrai’n anonest a/neu’n dangos diffyg unplygrwydd.

Roedd y cofrestrai’n bresennol yn y gwrandawiad, ond ni chafodd ei gynrychioli. Cyfaddefodd y cofrestrai’r honiadau’n llawn.

Canfyddiadau’r Pwyllgor

Ystyriodd y Pwyllgor (gyda chymorth cynghorydd cyfreithiol annibynnol drwy gydol y broses) y dystiolaeth a ddarparwyd iddo a ph’un a fyddai’r cyhoedd o’r farn bod yr honiadau’n gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol.

Nododd y Pwyllgor fod y cofrestrai wedi cael sawl cyfle i ddatgelu’r gorchymyn datrysiad cymunedol i’w gyflogwr. Roedd rhwymedigaeth arno hefyd i wneud datgeliad o’r fath yn unol â Pholisi Cod Ymddygiad ei gyflogwr, a’i delerau ac amodau cyflogaeth.

Canfu’r Pwyllgor fod ymddygiad y cofrestrai’n anonest ac yn dangos diffyg unplygrwydd. Penderfynwyd bod celu ymddygiad troseddol islaw’r safonau proffesiynol a ddisgwylir gan gofrestrai ac yn torri Cod Ymddygiad ac Ymarfer CGA.

Penderfynodd y Pwyllgor fod Cerydd yn gymesur yn yr achos hwn. Nododd y Pwyllgor fod ymddygiad y cofrestrai’n arwyddocaol; canfu y bu’r cofrestrai’n anonest. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor o’r farn bod risg gyfyngedig o ailadrodd a bod y cofrestrai wedi dangos ymwybyddiaeth o’i ymddygiad a chymryd camau cadarnhaol tuag at ei wella.

Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Yn yr achos hwn, roedd yr unigolyn yn torri sawl un o egwyddorion y Cod, gan gynnwys bod cofrestreion:

  • yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel delfryd ymddwyn a ffigur cyhoeddus, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo
  • yn ymddwyn yn onest, yn foesegol, gydag unplygrwydd, yn enwedig o ran:
    • eu cyflogwr, ac adrodd am unrhyw fater sy’n ofynnol yn ôl telerau ac amodau eu cyflogaeth
    • eu hymddygiad yn y gweithlu a thu allan iddo
  • yn glynu wrth safonau ymddygiad cyfreithlon, mewn modd sy’n cyd-fynd â’u statws fel aelod o’r proffesiwn addysg

Gwersi a ddysgwyd

Mae gonestrwydd ac unplygrwydd ymhlith yr uchaf ar y rhestr o nodweddion cymeriad a ddisgwylir gan weithwyr proffesiynol. Maen nhw’n egwyddorion sylfaenol yn syml oherwydd bod pob gweithred o onestrwydd a thryloywder yn creu argraff o rywun y gellir ymddiried ynddo a’i barchu, ac sy’n gallu dangos esiampl gadarnhaol.

Mae’n rhaid i gofrestreion fod yn agored ac yn onest gyda’u cyflogwr ynglŷn â materion a allai effeithio ar eu statws proffesiynol. Mae ceisio celu gwybodaeth, yn enwedig materion troseddol, yn debygol o gael ei ystyried yn weithred anonest sy’n dangos diffyg unplygrwydd.

Dylai cofrestreion sicrhau eu bod yn gyfarwydd â gofynion adrodd eu cyflogwr a’u bod yn cydymffurfio â nhw, gan gynnwys y rhwymedigaeth i ddatgelu arestiadau, cyhuddiadau, euogfarnau, rhybuddiadau, neu ganlyniadau eraill perthnasol, pan fydd angen.

Mae’r Cod hefyd yn egluro y disgwylir i gofrestreion hysbysu CGA am unrhyw euogfarnau neu rybuddiadau troseddol cofnodadwy, neu gyfyngiad a osodwyd ar eu hymarfer gan unrhyw gorff arall.

Darllen ac arweiniad ychwanegol

Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Canllaw arfer da: Bod yn weithiwr addysg proffesiynol agored a gonest