CGA / EWC

Accreditation banner
Aseswyr y Marc Ansawdd
Aseswyr y Marc Ansawdd

Mae aseswyr y Marc Ansawdd yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu grwpiau a sefydliadau i nodi, mynegi a dathlu eu gwaith gyda phobl ifanc.

Beth mae asesydd y Marc Ansawdd yn ei wneud?

A chithau’n asesydd y Marc Ansawdd, byddwch yn rhan o dîm sy’n gwirio ansawdd ymarfer gwaith ieuenctid yn allanol.

Trwy fod yn fentor, byddwch yn cefnogi pobl eraill wrth iddynt weithio tuag at gyflawni’r Marc Ansawdd. Hefyd, byddwch yn cynorthwyo eraill wrth iddynt weithio tuag at gyflawni’r Marc Ansawdd. Byddwch yn chwarae rhan allweddol hefyd mewn nodi, hyrwyddo a dathlu arfer dda.

Mae aseswyr y Marc Ansawdd yn ymgymryd â’r rôl yn wirfoddol. Os cewch eich dewis i fod yn brif asesydd, cewch dâl am eich amser.

Beth i chwilio amdano mewn asesydd

Nid oes angen cymhwyster penodol arnoch i fod yn asesydd. Ond mae’n helpu os ydych chi’n angerddol am ddathlu gwaith ieuenctid yng Nghymru ac mae gennych ddiddordeb mewn sicrhau ansawdd.

Byddwch chi hefyd yn allblyg, yn gyfeillgar a bydd gennych:

  • o leiaf 5 mlynedd o brofiad o weithio gyda phobl ifanc
  • sgiliau arsylwi a dadansoddi rhagorol
  • natur gefnogol a chydweithredol

Buddion bod yn asesydd

Bydd bod yn asesydd yn caniatáu i chi:

  • rannu arfer dda a dysgu oddi wrth eraill
  • cyfrannu at ddatblygiad gwaith ieuenctid
  • gwella eich sgiliau arwain a chyfathrebu
  • adeiladu ar eich rhwydwaith presennol o berthnasoedd proffesiynol
  • cynyddu eich gwybodaeth am y sector gwaith ieuenctid, a’ch ymwybyddiaeth ohono

Yn y fideo isod, gallwch glywed gan rai o’n haseswyr y Marc Ansawdd, a fydd yn siarad am sut mae’r cyfle wedi effeithio ar eu hymarfer.

Sut i wneud cais

Os ydych chi wedi ymroi i wella gwaith ieuenctid yng Nghymru ac yn teimlo bod gennych chi’r gallu i fod yn asesydd, byddem yn eich annog i lenwi ein ffurflen gais fer.

Darllenwch yr arweiniad ar fod yn asesydd y Marc Ansawdd.

Canllaw i aseswyr

Canllaw asesu arsylwadol y Marc Ansawdd
Canllaw ar ysgrifennu adroddiadau