CGA / EWC

About us banner
Pam mae cofrestru a rheoleiddio yn hanfodol i ddiogelu dysgwyr, pobl ifanc a’r cyhoedd
Pam mae cofrestru a rheoleiddio yn hanfodol i ddiogelu dysgwyr, pobl ifanc a’r cyhoedd

Mae Wythnos Ryngwladol Diogelu Plant (20-24 Hydref 2025) yn ein hatgoffa’n amserol am ein cyfrifoldeb cyfunol i amddiffyn dysgwyr a phobl ifanc. I’r rhai ohonom sy’n gweithio ym maes rheoleiddio addysg, nid dim ond gofyniad cyfreithiol yw diogelu – mae’n sylfaen ymddiriedaeth y cyhoedd yn y sector.

Yng Nghyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mae ein gwaith yn darparu’r strwythurau hanfodol y mae eu hangen i sicrhau bod y rhai y mae gofal ac addysg dysgwyr a phobl ifanc wedi’u hymddiried ynddynt yn cyrraedd y safonau ymddygiad, cymhwysedd ac atebolrwydd uchaf (os hoffech chi ddysgu mwy am ein rôl, darllenwch blog ‘Pwy yw CGA’).


Pam mae cofrestru a rheoleiddio yn bwysig ar gyfer diogelu

Gan David Browne, Cyfarwyddwr Rheoleiddio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg

Ein blaenoriaeth yn CGA, fel y mae’n rhaid iddi fod bob amser, yw cofrestru a rheoleiddio trylwyr.

Pan fyddwn yn siarad am gofrestru, rydym ni’n golygu’r broses ffurfiol o wirio, cymeradwyo a monitro addasrwydd y bobl hynny sy’n gweithio gyda dysgwyr a phobl ifanc yn barhaus. Rheoleiddio, ar y llaw arall, yw’r rheolau, y safonau a’r oruchwyliaeth glir sy’n rheoli ymddygiad ac ymarfer proffesiynol ar draws lleoliadau addysg. Gyda’i gilydd, maent yn creu rhwyd diogelwch sy’n atal niwed ac yn magu hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg, gan sicrhau mai dim ond y rhai sy’n cynnal safon uchel o ymddygiad, ac sy’n gymwys, yn wybodus ac yn fedrus, sy’n gallu gweithio mewn rolau penodol.

Felly, beth mae hyn wir yn ei olygu ar gyfer diogelu yn ymarferol? Dyma sut mae cofrestru a rheoleiddio trylwyr yn amddiffyn dysgwyr a phobl ifanc, ac yn cryfhau ymddiriedaeth ar draws addysg.

Gosod safonau clir

Mae cofrestru’n sicrhau mai dim ond y rhai sydd wedi cymhwyso, yn gymwys ac yn addas i ymarfer sydd â chaniatâd i weithio gyda dysgwyr a phobl ifanc, ac mae rheoleiddio’n diffinio’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan ymarferwyr. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn creu meincnod cyson ar draws y sector ar gyfer ymarfer diogel a moesegol.

Darparu rhwyd diogelu ar gyfer uwchgyfeirio

Mae rheoleiddio yn caniatáu am uwchgyfeirio pryderon yn ffurfiol, gan sicrhau bod unigolion anniogel yn gallu cael eu cyfyngu neu eu hatal rhag ymarfer.

Sicrhau atebolrwydd

Os oes pryderon nad yw cofrestrai wedi bodloni’r safonau sy’n ddisgwyliedig ohonynt, rydym ni’n ymchwilio trwy ein gwaith priodoldeb i ymarfer a, lle bo’r angen, yn cymryd camau priodol. Y gwir yw mai dim ond canran fach iawn o’n cofrestreion a welwn trwy ein gwaith priodoldeb i ymarfer bob blwyddyn.

Ein helpu i ddysgu

Mae ymchwiliadau a chamau gweithredu rheoleiddiol yn helpu’r system i wella trwy amlygu risgiau a phwyntiau dysgu i gryfhau trefniadau diogelu at y dyfodol.

Darparu hyder i’r cyhoedd

Mae teuluoedd a chymunedau yn ymddiried mwy mewn addysg pan fyddant yn gwybod bod staff wedi’u cofrestru a’u bod yn destun goruchwyliaeth.

Heb gofrestru a rheoleiddio effeithiol, ni fyddai system gyson ar gyfer pennu addasrwydd parhaus unigolyn i weithio, nac atal unigolion anaddas rhag parhau i ymarfer. Yn fyr, byddai dysgwyr, pobl ifanc a’r cyhoedd yn ehangach yn cael eu hamlygu i risg annerbyniol. 

Ein rôl fel rheoleiddiwr

Fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y sector addysg yng Nghymru, rydym ni’n gweithio’n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod diogelu’n aros yn ganolog i addysg. Mae hyn yn golygu ein bod ni:

  • yn monitro ac yn gorfodi cydymffurfio â safonau diogelu
  • yn gweithredu’n gyflym ac yn bendant pan gaiff risgiau eu hamlygu
  • yn cefnogi cofrestreion i ddeall a bodloni eu cyfrifoldebau
  • yn cynnal cofrestr o’r rhai sy’n addas ac yn gymwys i ymarfer, ac yr ydym wedi ymddiried ynddynt i ymarfer

A allwn ni wneud rhagor?

Mae diogelu yn gyfrifoldeb i bawb, a bydd felly bob amser. Wrth edrych tua’r dyfodol, mae mwy y gallwn ei wneud gyda’n gilydd i gryfhau’r trefniadau diogelu sy’n amddiffyn dysgwyr, pobl ifanc a’r cyhoedd.

Un cam allweddol yw i barhau i godi ymwybyddiaeth o unrhyw amwysterau deddfwriaethol o ran y gofyniad i gofrestru, allai o bosib achosi risg diogelu. Byddwn ni’n parhau i amlygu’r anghysondebau hyn i’r llywodraeth ac i eraill, gan anelu at gryfhau’r ddeddfwriaeth sy’n sylfaen i CGA. Bydd hyn yn caniatáu i ni barhau i gynnal safonau’n gadarn ymhlith ymarferwyr addysg, a diogelu dysgwyr a phobl ifanc – yn union fel y cawsom ein sefydlu i’w wneud.