Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Cyflog: £76,716 – £88,023
Lleoliad: Caerdydd (Trefniant hybrid – o leiaf 3 diwrnod yr wythnos yn y swyddfa)
Ydych chi'n arweinydd strategol sy’n frwdfrydig dros wasanaeth cyhoeddus a rhagoriaeth weithredol? Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol deinamig i ymuno â'n Uwch Dîm Rheoli a helpu i lunio dyfodol addysg yng Nghymru.
Fel y rheoleiddiwr statudol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, rydym yn hyrwyddo proffesiynoldeb a safonau uchel ar draws y sector. Mae hwn yn gyfle unigryw i chwarae rhan ganolog o ran llywodraethiant ariannol a chorfforaethol sefydliad sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Ynglŷn â'r Rôl
Gan adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr, byddwch yn arwain gweithrediadau ariannol, gwasanaethau corfforaethol, adnoddau dynol a systemau gwybodaeth CGA. Byddwch yn gyfrifol am gynllunio strategol, adrodd ariannol, archwilio, rheoli risg ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, tra hefyd yn goruchwylio gweithrediadau o ddydd i ddydd mewn swyddogaeth ymarferol.
Mae cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
- Cynllunio ariannol strategol a rheoli cyllideb
- Goruchwylio swyddogaethau Adnoddau Dynol, cyfleusterau, TG a gweinyddol
- Arwain prosesau archwilio mewnol ac allanol
- Datblygu cyfleoedd cynhyrchu incwm a ffrydiau gwaith newydd
- Sicrhau cydymffurfiaeth ag amodau ariannol Llywodraeth Cymru a gofynion deddfwriaethol ehangach
Am beth ydyn ni'n chwilio?
Rydym yn chwilio am weithiwr cyllid proffesiynol cymwys (e.e. ACCA, CIPFA, CIMA, ACA) gyda:
- Hanes clir o ran rheolaeth ariannol a llywodraethu
- Profiad o arwain ar lefel uwch mewn rôl amlswyddogaethol
- Meddwl strategol cryf a sgiliau cyflawni gweithredol
- Sgiliau cyfathrebu, datrys problemau a rhyngbersonol rhagorol
Mae sgiliau iaith Gymraeg a phrofiad o ran adnoddau dynol a rheoli gwasanaethau corfforaethol yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Am drafodaeth anffurfiol a chopi o’r Briff Ymgeisydd, cysylltwch â Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu
Dyddiad cau: 12pm, 1 Rhagfyr 2025
Cyfweliadau Panel Terfynol: 17 Rhagfyr 2025
