Rydym wedi lansio animeiddiad newydd i helpu sefydliadau ledled Cymru i archwilio buddion y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP).
Lluniwyd yr animeiddiad newydd i helpu i wella dealltwriaeth sefydliadau o sut gall y PDP gefnogi dysgu proffesiynol eu staff a’r gweithlu addysg ehangach.
Mae’r PDP yn e-bortffolio ar-lein dwyieithog a ddyluniwyd i wella datblygiad proffesiynol staff trwy eu cynorthwyo i gyfleu eu profiadau a’u dysgu proffesiynol, myfyrio arnynt, eu rhannu, a’u cynllunio. Mae’n rhad ac am ddim i sefydliadau perthnasol yng Nghymru, nid oes contract, ac mae’n cynnig opsiwn hyblyg o ystyried y pwysau parhaus ar gyllidebau.
Gellir teilwra’r PDP i fodloni anghenion penodol unrhyw sefydliad, gyda’r opsiwn i ddylunio templedi ac adroddiadau arbennig. Mae hefyd yn helpu staff i ymgysylltu â’u safonau proffesiynol, sy’n golygu ei fod yn adnodd amhrisiadwy i’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg yng Nghymru.
Trwy arddangos ei fuddion mewn ffordd glir a hygyrch, mae CGA yn gobeithio annog defnydd ehangach o’r PDP fel offeryn pwerus ar gyfer myfyrio, twf, a datblygiad.
Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi CGA, sef Bethan Holliday-Stacey “Mae’r PDP yn gynnyrch sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ac mae’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd i sefydliadau i’ch helpu i rymuso eich staff i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu a’u datblygiad proffesiynol.
“Mae’r animeiddiad hwn yn cynnig cyflwyniad cyflym i holl fuddion y PDP. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, neu os hoffech gael arddangosiad rhad ac am ddim, mae croeso i chi gysylltu â ni.”
Mae’r animeiddiad hwn yn rhan o gyfres o gyfryngau a grëwyd gan CGA i arddangos buddion y PDP i sefydliadau a chofrestreion, gan gynnwys amrywiaeth o fideos astudiaethau achos ac e-daflen.
Maen nhw i gyd ar gael nawr ar sianel YouTube CGA.
