Gall ymddiddori mewn ymchwil chwarae rhan bwysig wrth eich helpu i ddatblygu eich syniadau a’ch ymarfer eich hun fel gweithiwr addysg proffesiynol. Dyna pam rydym ni wedi dechrau ‘Meddwl Mawr’, sef clwb llyfrau a chyfnodolion sydd â’r nod o’ch cefnogi chi ar eich taith ddysgu broffesiynol.
Byddwn yn cyhoeddi argymhellion rheolaidd ar y dudalen hon, yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau diddorol, gan eich cyfeirio at rywfaint o’r cynnwys gwych sydd ar gael yn eich llyfrgell ar-lein rhad ac am ddim.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio i’r rhestr bostio i gael yr argymhellion pan fyddant yn cael eu cyhoeddi.
Rydym yn awyddus i glywed am unrhyw lyfrau neu erthyglau mewn cyfnodolion ar EBSCO a oedd yn ddiddorol, yn cynnig mwynhad neu’n ddefnyddiol yn eich barn chi. Os hoffech rannu argymhelliad
Eich argymhellion
Hydref 2026
Let's Hear It From the Boys: What Boys Really Think About School and How to Help Them Succeed gan Gary Wilson

Mae bwlch cyson yn bodoli yn system addysg Cymru mewn cyrhaeddiad rhwng y rhywiau, gyda merched ar y cyfan yn perfformio’n well na bechgyn ar draws llawer o bynciau a chymwysterau ysgol craidd, er bod maint a natur y bwlch yn amrywio yn ôl pwnc a grŵp oedran.
Yn hytrach na chynnig trafodaeth ddamcaniaethol arall ar y bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng y rhywiau, mae Gary Wilson yn rhoi llais i fechgyn eu hunain. Gan fanteisio ar brofiadau a safbwyntiau bechgyn o ysgolion ar draws y Deyrnas Unedig, mae’n archwilio beth sy’n eu helpu i ffynnu yn yr ysgol a pha rwystrau all fodoli rhag llwyddiant.
Mae llais y dysgwr yn ganolog i’r llyfr hwn. Mae Wilson yn dadlau bod rhaid i ysgolion, os ydynt am wella deilliannau i fechgyn, wrando arnynt, yn y lle cyntaf. Trwy dystiolaeth go iawn, mae’n archwilio problemau sy’n cynnwys symbyliad, ymddygiad, darllen, gwaith cartref, asesu, pwysau cymheiriaid a pherthnasoedd ag athrawon.
Un o gryfderau pennaf y llyfr yw ei ffocws ar berthnasoedd. Mae’r bechgyn yn disgrifio’n gyson mai’r athrawon effeithiol yw’r rhai sy’n dangos parch, yn ymddwyn yn deg, yn meithrin ymddiriedaeth ac yn dangos diddordeb gwirioneddol yn eu bywyd. Mae Wilson yn dangos sut gall perthnasoedd cryf, ochr yn ochr ag addysgu diddorol a disgwyliadau uchel, gynyddu cyfranogiad, ymgysylltiad a chyflawniad bechgyn yn sylweddol.
Hefyd, mae’r llyfr yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â phryderon cyfoes am effaith y cyfryngau cymdeithasol, dylanwadau ar-lein a diwylliant cymheiriaid ar agweddau pobl ifanc at ddysgu, hunaniaeth a pherthnasoedd. Mae Wilson yn archwilio sut gall y dylanwadau allanol hyn lywio amgyffredion bechgyn o lwyddiant, gwrywdod ac addysg, gan annog ysgolion i greu lleoedd lle gall materion felly gael eu trafod yn agored ac yn feirniadol.
Trwy gydol y llyfr, mae’n annog myfyrdod proffesiynol gan gynnig strategaethau ymarferol y gall athrawon ac arweinwyr ysgol eu haddasu i’w lleoliad nhw. Mae ei gyfuniad o lais y dysgwr, cipolygon wedi’u llywio gan ymchwil, a dulliau y gellir gweithredu arnynt yn ei wneud, yn ddifyr ac yn berthnasol iawn i addysgwyr sy’n ceisio gwella cyflawniad a lles bechgyn.
Medi 2026
You Got This! Thriving as an early career teacher with Mr T gan Andrew Taylor

Canllaw ymarferol a chalonogol sy’n helpu athrawon newydd gymhwyso (ANG) i ffynnu wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfa fel athro. Yn llawn cyngor, strategaethau a chipolygon o’r byd go iawn, nod y llyfr yw helpu athrawon nid dim ond i oroesi, ond wir ffynnu.
Mae Andrew Taylor, yn adnabyddus iawn trwy ei bresenoldeb ar X (@MrTs_NQTs), yn dwyn ynghyd dros ddegawd o brofiad o fod yn fentor ANG, ochr yn ochr â’i rôl fel Uwch Ddarlithydd Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Caerwrangon. Trwy ei bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, mae wedi cefnogi miloedd o athrawon trwy rannu arweiniad hygyrch, wedi’i lywio gan brofiad, ac mae’r llyfr hwn yn dwyn yr arbenigedd hwnnw at ei gilydd mewn fformat strwythuredig a difyr.
Mae pob pennod yn archwilio cam allweddol o’r profiad addysgu cynnar, gan gynnwys sicrhau eich swydd addysgu gyntaf, paratoi eich ystafell ddosbarth ar gyfer mis Medi, sefydlu trefn, rheoli llwyth gwaith, a blaenoriaethu lles. Mae’r cynnwys wedi’i seilio ar realiti bywyd ysgol, gan gynnig camau ymarferol ochr yn ochr â chyngor myfyriol i helpu athrawon i feithrin hyder a gwydnwch.
Nod werthfawr o’r llyfr yw cynnwys myfyrdodau go iawn gan ANG ar ddiwedd pob pennod. Mae’r myfyrdodau hyn yn cynnig sicrwydd ac ymdeimlad o gymuned, a gellir uniaethu â nhw- gan amlygu nad yw athrawon newydd ar eu pen eu hunain yn eu heriau.
Mae’r llyfr yn anogol, yn hawdd mynd trwyddo ac mae wedi’i ysgrifennu mewn arddull blaen, felly mae’n gydymaith defnyddiol i unrhyw un sy’n dechrau yn y proffesiwn.
Cafodd y llyfr Ganmoliaeth Uchel yng nghategori Datblygiad Proffesiynol Parhaus Gwobrau Uwchradd Teach 2023, sy’n adlewyrchu ei effaith a’i werth fel adnodd datblygu proffesiynol.
Gorffennaf 2026
The Inclusive Classroom: A new approach to Differentiation gan Daniel Sobel a Sara Alston

Mae Sobel ac Alston yn cyflwyno gweledigaeth ddifyr o wahaniaethu cynhwysol, gan ei fframio nid ar ffurf creu fersiynau lluosog o’r un wers, ond fel dylunio profiadau dysgu yn fyfyriol sy’n hygyrch, yn ddifyr ac yn ystyrlon i bob dysgwr o’r cychwyn cyntaf. Yn y cyd-destun hwn, mae gwahaniaethu yn ganolog i addysgu o ansawdd uchel, gan sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gallu cymryd rhan, gwneud cynnydd a llwyddo heb greu cymhlethdod diangen i athrawon.
Gan fanteisio ar gyfuniad o ymchwil, profiadau ystafell ddosbarth ac enghreifftiau o fywyd go iawn, mae’r llyfr yn cynnig safbwynt hynod ymarferol ynghylch bodloni anghenion dysgwyr amrywiol. Mae’n archwilio sut gall athrawon leihau rhwystrau diangen rhag dysgu, gan gynnal disgwyliadau uchel i bawb, ac mae’n cynnig strategaethau syml ar gyfer cynllunio, asesu, trefniadaeth ystafell ddosbarth a chymorth i ddisgyblion. Mae’r pwyslais drwyddo draw ar symlrwydd ac effaith.
Mae’r llyfr yn arbennig o berthnasol i ni yng Nghymru gan fod ei ymagwedd yn cyd-fynd yn fanwl ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru, gan adlewyrchu ei bwyslais ar degwch, cynhwysiant, arfer sy’n canolbwyntio ar y dysgwr a chefnogi dilyniant i bob dysgwr.
Ac yntau wedi’i ganmol yn helaeth gan addysgwyr, mae’r llyfr yn cael ei werthfawrogi am ei ffocws ar symleiddio ymarfer ond cryfhau effaith, gan barhau i fod wedi’i seilio ar brofiadau ysgol dilys. Mae’n adnodd dysgu proffesiynol gwerthfawr i athrawon, ymarferwyr ADY, cynorthwywyr addysgu ac arweinwyr ysgol ar draws lleoliadau cynradd ac uwchradd, gan anelu at gryfhau ymarfer cynhwysol a sicrhau bod pob disgybl yn gallu ffynnu.
Mehefin 2026
Creating Excellence in Primary School Playtimes: How to Make 20% of the School Day 100% Better gan Michael Follett

Wrth fanteisio ar brofiad ymarferol helaeth, mae Michael Follett yn arddangos sut gall amseroedd chwarae o ansawdd uchel gael effaith drawsnewidiol ar ddatblygiad cymdeithasol, rheoleiddio emosiynol a pharodrwydd plant i ddysgu. Ac yntau’n gyn-athro, ac yn arbenigwr blaenllaw yn y DU ar chwarae a dysgu yn yr awyr agored, Follet yw sylfaenydd y rhaglen Outdoor Play and Learning (OPAL), sy’n cynorthwyo ysgolion â gwella ansawdd amseroedd chwarae plant.
Mae’r llyfr yn herio ysgolion i ystyried bod amser chwarae yn fwy na saib rhwng gwersi. Yn hytrach, mae’n cyflwyno chwarae fel rhan hanfodol o ddatblygiad plant ac mae’n cynnig strategaethau realistig, wedi’u llywio gan dystiolaeth, i greu amgylchedd maes chwarae iachach a mwy diogel a difyr.
Yr hyn sy’n gwneud y llyfr hwn yn arbennig o werthfawr i ysgolion yng Nghymru yw ei gysondeb cadarn ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru a fframwaith Llywodraeth Cymru ar wreiddio dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol, y mae’r naill a’r llall ohonynt yn gosod pwyslais cryf ar bwysigrwydd chwarae. Mae’n atgyfnerthu’r syniad nad ychwanegiad dewisol yw chwarae, ond elfen ganolog o gefnogi datblygiad holistig plant.
Mae Follet yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys gwella ymddygiad disgyblion, cynyddu gweithgarwch corfforol, cefnogi cynhwysiant, datblygu sgiliau arwain a defnyddio gofod ac adnoddau maes chwarae yn well. Mae ei ffocws yn hynod ymarferol, gan nodi camau clir ar gyfer gweithredu newid cadarnhaol ac mae’n cynnig cyfle dysgu proffesiynol rhagorol i ymarferwyr ysgolion cynradd sydd am gyfoethogi profiadau pob dydd disgyblion.
Mai 2026
The Emotionally Intelligent Teacher: Enhance Teaching, Improve Wellbeing and Build Positive Relationships gan Niomi Clyde Roberts

Mae llyfr Niomi Clyde Roberts yn ddarlleniad amserol ac ymarferol lle mae hi'n tynnu ar ei phrofiad fel pennaeth cynorthwyol ac ymgynghorydd addysg i gynnig canllaw meddylgar ac ymarferol ar reoli'r ceryntau emosiynol sy'n rhedeg drwy ystafelloedd staff, ystafelloedd dosbarth a sgyrsiau arweinyddiaeth. Mae hi'n pwysleisio pa mor bwysig yw hi mewn addysg i ddelio mewn ffordd drugarog a chefnogol â phawb yr ydym yn dod i gysylltiad â nhw.
Mae'r llyfr yn cyfieithu deallusrwydd emosiynol i realiti addysgu bob dydd fel cyfarfodydd rhieni anodd, dynameg tîm, sgyrsiau arweinyddiaeth, a'r her dawelach o reoli eich ymatebion eich hun o dan bwysau.
Mae'n ddarlleniad gonest, calonogol, a pherthnasol, gan ei wneud yn addas i bawb - o weithwyr cymorth, athrawon dosbarth, arweinwyr canol, ac uwch dimau fel ei gilydd. Mae'n cynnig strategaethau ymarferol ar gyfer cryfhau lles, meithrin perthnasoedd cadarnhaol, a chreu cymuned a diwylliannau sy'n emosiynol iach. Mae'r llyfr yn darparu darlleniad ysbrydoledig sy'n siarad am realiti bob dydd gweithio ym myd addysg.
Ebrill 2026
Good Autism Practice for Teachers: Embracing Neurodiversity and Supporting Inclusion gan Karen Watson

Wrth i ni gydnabod Mis Ymwybyddiaeth Awtistiaeth a dathlu pwysigrwydd dealltwriaeth, derbyn a chynhwysiant, mae Good Autism Practice for Teachers yn cynnig cyfraniad amserol a grymus i'r sgwrs.
Mae Karen Watson, sy’n addysgwr Anghenion Cymorth Ychwanegol profiadol wedi'i lleoli yn yr Alban, yn manteisio ar dros ddegawd o waith ymarferol gyda dysgwyr awtistig a niwroamrywiol. Mae ei dealltwriaeth ddwfn, ddilys o addysg gynhwysol yn disgleirio trwy gydol y llyfr, gan ddarparu strategaethau ymarferol, addasadwy i athrawon y gellir eu gwehyddu'n ddi-dor i ymarfer ystafell ddosbarth bob dydd. Gan gyfuno ymchwil, profiad yn yr ystafell ddosbarth, a myfyrio meddylgar, mae Watson yn rhoi i athrawon, hyfforddeion a Chydlynwyr AAA yr offer sydd eu hangen arnynt i greu amgylcheddau dysgu gwirioneddol gefnogol a grymusol.
Yn Good Autism Practice for Teachers, mae Watson yn archwilio elfennau craidd theori awtistiaeth, gan gynnwys cof gweithdrefnol a semantig, gweithredu gweithredol, integreiddio synhwyraidd, iaith fynegiannol a derbyniol, ac ymddygiad fel cyfathrebu. Mae hi hefyd yn tynnu sylw at rôl hanfodol llythrennedd emosiynol, cyd-reoleiddio a gwytnwch wrth feithrin mannau diogel ac anogol lle gall disgyblion ffynnu.
Yr hyn sy'n gosod y llyfr hwn ar wahân yw ei ffocws ar ddulliau hyblyg, gweithredadwy. Yn hytrach na chynnig atebion anhyblyg, mae Watson yn grymuso addysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus, ymatebol wedi'u teilwra i gryfderau ac anghenion unigryw eu disgyblion. Gydag esboniadau clir, enghreifftiau perthnasol, ac arweiniad ystyrlon, mae'r llyfr hwn yn cefnogi athrawon i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, gwella dysgu, a chwmpasu awtistiaeth yn eu hystafelloedd dosbarth.
Mawrth 2026
The Neurodiverse Classroom: A Teacher's Guide to Individual Learning Needs and How to Meet Them gan Victoria Honeybourne
I nodi Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth, sef amser sydd wedi’i neilltuo i gydnabod gwahaniaethau niwrolegol, mae The Neurodiverse Classroom yn cynnig cyfle i fyfyrio ar sut gall addysg fodloni anghenion pob dysgwr yn fwy effeithiol. Mae blynyddoedd lawer o ymarfer ym maes anghenion addysgol arbennig yn llywio cynnwys y llyfr, sydd wedi’i ysgrifennu gan Victoria Honeybourne, sy’n athrawes ymgynghorol a hyfforddwr profiadol. Caiff profiad yr awdur ei gyfoethogi hefyd gan ei phrofiad personol fel menyw niwroamrywiol, gan roi llais diffuant ac empathig i’r llyfr.
Thema gadarn a chyson trwy gydol y llyfr yw ei bwyslais ar les emosiynol, gan dalu sylw arbennig i brofiadau merched a phobl ifanc y mae eu hanghenion yn cael eu hesgeuluso yn aml. Trwy amlygu ffyrdd amrywiol o feddwl a herio rhagdybiaethau sy’n cael eu dal yn eang, mae’r llyfr yn eiriol ymagwedd fwy cynhwysol a myfyriol at addysgu a dysgu.
Yn hytrach na chanolbwyntio ar gyfyngiadau neu gategorïau penodol, mae Honeybourne yn gosod yr unigolyn yn gwbl ganolog i addysg. Mae’n archwilio sut gall amgylchedd ystafelloedd dosbarth gael ei addasu i feithrin hyder, perthyn a hunan-gred, gan gynnig strategaethau ymarferol sy’n realistig i athrawon eu rhoi ar waith. Mae geirfa gymhleth yn cael ei hegluro trwy esboniadau clir, ac mae mythau cyffredin yn cael eu dadbacio’n systematig, gan gynorthwyo darllenwyr i symud y tu hwnt i ddealltwriaeth nodweddiadol.
Mae’r llyfr, sy’n dwyn ymchwil, profiadau bywyd a sylwebaeth fyfyriol ynghyd, yn cyflwyno arweiniad y gellir ei roi ar waith yn uniongyrchol mewn ymarfer o ddydd i ddydd. Mae’n pwysleisio’r neges bod gwahaniaeth niwrolegol yn rhan naturiol a gwerthfawr o addysg fodern, gan ei wneud yn adnodd hynod berthnasol a phwerus i addysgwyr.
Chwefror 2026
The Muddy Puddle Teacher: A playful way to create an outdoor Early Years curriculum gan Sarah Seaman
Gan fanteisio ar brofiad helaeth ym maes dysgu yn yr awyr agored, dan arweiniad plant, daw Sarah Seaman â safbwynt ymarferol, hynod wybodus, am addysg sy’n seiliedig ar fyd natur. A hithau’n gyn athrawes gynradd, yn arbenigwr ar ddysgu yn yr awyr agored, ac yn hyfforddwr DPP achrededig, mae Seaman yn gweithio’n agos gydag ysgolion i wreiddio dysgu yn yr awyr agored mewn ffyrdd ystyrlon. Nod ei hymagwedd gynhwysol, sydd wedi’i llywio gan ei phrofiad ei hun o ADHD a dyslecsia, yw cyrraedd dysgwyr ag anghenion amrywiol, gan gynnwys y dysgwyr hynny sy’n dysgu orau trwy symud, archwilio a phrofiadau ymarferol.
Mae The Muddy Puddle Teacher yn gyforiog o weithgareddau awyr agored llawn dychymyg sy’n cysylltu’n naturiol â meysydd y cwricwlwm fel Mathemateg, Llythrennedd, Gwyddoniaeth, ac Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd. Gan ddefnyddio deunyddiau naturiol a deunyddiau wedi’u hailgylchu, sydd ar gael yn hawdd, mae’r syniadau’n ddigon hyblyg i weithio mewn unrhyw leoliad awyr agored ac maent yn gynaliadwy a fforddiadwy. Mae pob gweithgaredd yn annog chwilfrydedd, creadigrwydd a dysgu gweithredol, gan helpu plant i gamu i ffwrdd oddi wrth sgriniau digidol ac ailgysylltu â byd natur.
Mae ymagwedd The Muddy Puddle Teacher eisoes wedi cael effaith arwyddocaol mewn cannoedd o ysgolion ar draws y DU a’r tu hwnt, gan gefnogi plant sy’n ffynnu y tu hwnt i ddulliau’r ystafell ddosbarth gonfensiynol, ac mae’r llyfr hwn yn cipio’i hegwyddorion craidd yn glir ac yn effeithiol. Wedi’i saernïo ar sail tri dull ‘Muddy’ – sef byd natur, iechyd meddwl a chael plant i symud, mae’n cynnig ysbrydoliaeth ochr yn ochr ag arweiniad ymarferol. Mae’r llyfr hwn, sy’n annog plant i archwilio, darganfod a chwarae gyda’i gilydd yn yr awyr agored, yn adnodd gwych i addysgwyr sy’n chwilio am brofiadau dysgu difyr a phwrpasol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Ionawr 2026
Teaching Rebooted: Using the science of learning to transform classroom practice gan Jon Tait
Mae Jon Tait yn addysgwr profiadol ac yn ddirprwy bennaeth ar hyn o bryd, gyda phymtheg mlynedd o brofiad o weithio mewn nifer o ysgolion uwchradd yn y DU. Wedi arwain ar ansawdd addysgu, datblygu staff, a gwella ysgol-gyfan, mae'n dod â phersbectif ymarferol a gwybodus i'r heriau o ddydd i ddydd sy'n wynebu athrawon.
Yn Teaching Rebooted, mae'n cyfuno mewnwelediadau o ymchwil addysg a gwyddoniaeth gwybyddol mewn i ganllaw clir, hygyrch i athrawon sydd am wella eu harfer yn yr ystafell ddosbarth trwy ddeall sut mae myfyrwyr yn dysgu. Mae'r llyfr wedi ei strwythuro o gwmpas crynodebau byrion, syniadau i'r ystafell ddosbarth, a syniadau sy'n annog athrawon i feddwl yn ofalus am beth maen nhw'n ei wneud, ac yn bwysicach, pam eu bod yn ei wneud. Mae Tait yn edrych ar y prif egwyddorion fel arfer adalw, codio deuol, haenu, a metawybyddiaeth, gan baru pob un gyda strategaethau syml i'w defnyddio mewn gwersi.
Mae syniadau canolog ynghylch cof, arfer, a meddwl myfyrwyr yn cael ei esbonio mewn modd sy'n teimlo'n hylaw yn hytrach nag yn academaidd. Yn hytrach na gorlethu'r darllenydd gydag ymchwil, mae Tait yn canolbwyntio ar sut gall newidiadau bychain i gynllunio, cwestiynu, a dylunio gwersi arwain at welliannau ystyrlon i ddysgu.
Mae adlewyrchu yn thema gyson yn y llyfr, gan helpu darllenwyr i ailymweld ag arferion cyfarwydd, a gwerthuso p'un a eu bod wirioneddol yn cefnogi deall hirdymor. Mae'r ffocws adlewyrchol yma yn gwneud Teaching Rebooted yn arbennig o werthfawr ar gyfer datblygu proffesiynol, annog trafodaeth, a hunanwerthuso. Mae'r llyfr clir, cryno yma wedi seilio yn yr ystafell ddosbarth, ac yn addas ar gyfer athrawon ar unrhyw gam o'u gyrfa, sydd am fireinio a chryfhau eu harfer
Rhagfyr 2025
100 Ideas for Secondary Teachers: Revision gan John Mitchell
Gyda dros ugain mlynedd o brofiad o weithio mewn ysgol, mae John Mitchell yn cyflwyno canllaw adfywiol ac ymarferol gyda'r bwriad o wneud adolygu'n ystyrlon. Mae ei strategaethau creadigol wedi ennyn clod mawr iddo yn ei gymuned ysgol, ac yn 2014 fe'i enwyd gan The Guardian fel un o'r pum athro hanes gorau yn y DU.
Mae'r llyfr yn cynnig cymysgedd o syniadau arloesol, o weithgareddau newydd i adnewyddiadau clyfar o dechnegau clasurol. P'un a eich bod yn athro yn gynnar yn eich gyrfa yn datblygu arferion adolygu cryf, neu'n addysgwr profiadol sydd am adfywio eich arfer, bydd yma gyfoeth o strategaethau addasadwy i chi.
Mae Mitchell yn cyfuno theori addysgol gyda strategaethau sydd wedi eu profi mewn ystafell ddosbarth, gan helpu athrawon adeiladu diwylliant lle mae adolygu yn rhan o ddysgu yn hytrach nag wedi ei wasgu i'r wythnosau cyn arholiadau. Gydag addasiadau o gemau poblogaidd fel Connect Four a rhedeg, mae'r llyfr yma'n ailgyflwyno hwyl a chreadigrwydd i'r broses adolygu, adeiladu hyder a gwella canlyniadau. Mae hefyd yn helpu cynnal canolbwyntiad myfyrwyr tra'n rhwystro adolygu rhag bod yn ddifeddwl neu'n llethol.
Mae hwn yn adnodd gwych i unrhyw athro sydd am gryfhau eu technegau adolygu, gwella ymgysylltu myfyrwyr, a dod ag egni ffres i'r ystafell ddosbarth. Mae'r ymdriniaeth ymarferol a hawdd yn ei wneud yn ddefnyddiol i athrawon roi ar waith mewn unrhyw ystafell ddosbarth.
Cefnogi Pob Plentyn gol. Nanna Ryder

I ddathlu ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg' Comisiynydd y Gymraeg, ry'n ni'n falch o argymell llyfr Cymraeg ychwanegol Cefnogi Pob Plentyn. Wedi ei olygu gan Nanna Ryder, mae'r cyhoeddiad yma'n dod ag arbenigedd, ymchwil, a phrofiadau nifer o academyddion sy'n arbenigo mewn addysg gynradd, cynhwysiant cymdeithasol, ac astudiaethau plentyndod ifanc ynghyd. Mae'r llyfr yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o bolisïau, athroniaeth, ac arfer mewn cyd-destun Cymreig, gan edrych ar bynciau penodol, gan gywnnsy datblygiad dysgwyr, hawliau plant, anghenion dysgu ychwanegol, a phwysigrwydd chwarae a chreadigrwydd.
Mae nifer o'r themâu hyn yn alinio'n agos gyda'r safonau a ddisgwylir gan gofrestreion CGA yn y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, yn arbennig mewn perthynas â diogelu, gwerthoedd ac egwyddorion proffesiynol, lles dysgwyr, a chydweithio.
Mae pob pennod yn gorffen gyda phynciau trafod, astudiaethau achos, a dolenni i fwy oddarllen ac adnoddau, gan roi'r cyfle i ddarllenwyr fyfyrio ar y prif faterion a'u harchwilio'n fanylach.
Mae Cefnogi Pob Plentyn wedi ei gymeradwyo am ei gynnwys, ac am gefnogi datblygiad terminoleg Cymraeg addas ar gyfer ymarferwyr addysg sy'n gweithio drwy gyfrwng Cymraeg. Fel sefydliad dwyieithog balch, mae CGA wedi ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg ac yn chwilio am gyfleoedd i wneud hynny drwy ein gwaith. Darllen mwy am ein hymrwymiad.
Tachwedd 2025
Getting the Buggers to Behave gan Sue Cowley

Mae Getting the Buggers to Behave gan Sue Cowley, awdur ac athro byd-enwog, yn ganllaw ymarferol i feistroli rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth. Gan dynnu ar ei phrofiad helaeth mewn addysg blynyddoedd cynnar, cynradd, ac uwchradd, mae Cowley yn rhoi cyngor ymarferol yn seiliedig ar brofiad sy'n dangos realiti dysgu o ddydd-i-ddydd.
Mae'r feriswn hon wedi ei diweddaru, yn llawn strategaethau wedi eu profi yn helpu athrawon i greuy amgylcheddau tawel, â ffocws, a chadarnhaol. P'un a eich bod yn paratoi ar gyfer eich dosbarth cyntaf, neu'n llywio heriau ymddygiad anodd, mae Cowley yn cynnig technegau y gellir gweithredu arnynt y gellid eu rhoi ar waith yn syth, heb gynllunio diangen.
Trwy esiamplau o fywyd go-iawn ac astudiaethau achos, mae hi'n archwilio sut i osod disgwyliadau clir, llunio eich dull addysgu personol, a ffynnu yn y lleoliadau mwyaf heriol. Mae Cowley hefyd yn edrych yn ofalus ar ddefnyddio ysgogiadau, buddion ymdriniaethau cyfiawnder adferol, a'r ffyrdd gorau o ddelio gyda'r deg math mwyaf cyffredin o gamymddwyn yn yr ystafell ddosbarth heddiw.
Mae hi'n cyfuno hiwmor, empathi, a mewnwelediad proffesiynol i helpu athrawon i fod yn fwy parod. Mae'r llyfr yma'n hanfodol i athrawon, addysgwyr blynyddoedd cynnar, ac unrhyw un sy'n ceisio adeiladu eu hyder ac effeithiolrwydd o ran rheoli ymddygiad. Mae'n adnodd gwych ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus athrawon.
Beth oedd eich barn chi am argymhellion y mis hwn? Sut gwnaethant helpu i ddatblygu’ch ymarfer?
Beth am ddefnyddio’r offerynnau sydd o fewn y PDP i fyfyrio ar y syniadau a amlygwyd gan argymhellion y mis hwn, a sut gallwch eu cymhwyso i’ch ymarfer eich hun?
A yw ein hargymhellion wedi’ch ysbrydoli ac rydych felly am rannu’r hyn a ddysgoch gyda’ch cydweithwyr? Beth am ddarllen ein canllaw ar sefydlu clwb cyfnodolion.




