CGA / EWC

Fitness to practise banner
Apeliadau sefydlu
Apeliadau sefydlu

Mae'n rhaid i athrawon ysgol newydd gymhwyso yng Nghymru sydd wedi cofrestru gyda CGA fodloni'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn ystod eu cyfnod sefydlu. Mae CGA yn gwrando ar apeliadau gan athrawon ysgol sydd wedi methu â bodloni'r Safonau, neu y mae angen mwy o amser arnynt i wneud hynny. 

Mae gan CGA God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol sy’n ganllaw i’r safonau y gall dysgwyr, pobl ifanc, rhieni, a’r cyhoedd eu disgwyl gan bersonau cofrestredig, ac mae’n helpu ymarferwyr addysg i ddeall yr hyn mae eraill yn ei ddisgwyl ganddynt fel gweithwyr proffesiynol. 

Gall awdurdod lleol (a gaiff ei ddisgrifio fel ‘y Corff Priodol’ at ddibenion Sefydlu) benderfynu bod athro ysgol wedi methu â bodloni'r Safonau Proffesinol ar gyfer Addysg ac Arweinyddiaeth hyn yn briodol, neu fod angen mwy o amser i'w bodloni yn ystod eu cyfnod sefydlu.

Os bydd Corff Priodol yn penderfynu bod Athro Newydd Gymhwyso (ANG) wedi methu cwblhau ei gyfnod sefydlu statudol yn foddhaol, gall yr ANG gyflwyno apêl i ni yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

Mae CGA yn gyfrifol am wrando aepliadau sefydlu athrawon ysgol.

Gall CGA benderfynu:

  • caniatáu apêl
  • gwrthod apêl
  • rhoi mwy o amser i’r athro ysgol fodloni’r Safonau Proffeiynol ar gyfer Addysg ac Arweinyddiaeth

Os caiff yr apêl ei wrthod, bydd cofrstriad yr athro ysgol yng Nghymru yn cael ei dynnu’n barhanol. Mae hyn yn golygu na allant bellach weithio fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru.

Mae gan ANG 20 diwrnod gwaith i apelio yn erbyn penderfyniad i’w methu.

Darllenwch y canllawiau a’r gweithdrefnau ar apeliadau sefydlu.

Apeliadau sefydlu i ddod

Does dim gwrandawiad i ddod ar hyn o bryd.