CGA / EWC

About us banner
Adroddiad newydd yn amlygu cynnydd CGA ar fioamrywiaeth a chyfrifoldebau amgylcheddol
Adroddiad newydd yn amlygu cynnydd CGA ar fioamrywiaeth a chyfrifoldebau amgylcheddol

Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau, ar gyfer 1 Ionawr 2023 hyd 31 Rhagfyr 2025.

Mae'r adroddiad yn nodi sut yr ydym wedi bodloni ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r Ddeddf yn gofyn bod cyrff cyhoeddus yn adrodd bob tair blynedd ar y camau y maent wedi eu cymryd i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo ecosystemau cydnerth.

Dros y cyfnod adrodd, ry'n ni wedi gwneud cynnydd gwych, gan gynnwys hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol ymysg ein cofrestreion, lleihau allyriadau teithio, gwella ailgylchu, a chefnogi gweithgareddau cadwraeth ymarferol.

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr CGA, Lisa Winstone "Mae bioamrywiaeth ac ecosystemau cydnerth yn hanfodol i les cenedlaethau presennol a'r dyfodol yng Nghymru.

"Tra'n bod yn cydnabod yr heriau sy'n cynyddu i fioamrywiaeth yng Nghymru, ry'n ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan fel corff cyhoeddus cyfrifol, ac i gryfhau ein hymdriniaeth dros y blynyddoedd nesaf."

Mae'r adroddiad ar gael i'w ddarllen ar ein tudalen llywodraethu a chydymffurfio.