Keith Towler - Cydnabod rhagoriaeth mewn gwaith ieuenctid trwy'r Marc Ansawdd
Mae Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, sef Keith Towler, yn taflu goleuni ar werth y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, ac yn amlinellu sut gall sefydliadau gwaith ieuenctid elwa ohono.
Pan fyddwn yn gweithio gyda phobl ifanc, mae ansawdd ein hymyriadau yn aml yn anodd ei ddiffinio. Mae’r eiliad hwnnw o ymgysylltu pan fydd person ifanc wedi troi cornel yn emosiynol, achub ar gyfle neu gael ateb i broblem yn uchafbwyntiau yng ngyrfa llawer o weithwyr ieuenctid.
Yn aml, mae’r eiliadau hyn yn deillio o oriau lawer o gynllunio, myfyrio, datblygu neu newid. Mae gwrando ar bobl ifanc ac ymateb iddynt yn hollbwysig. Anaml y bydd cydweithwyr yn cydnabod y rhain fel llwyddiannau arwyddocaol, ond maen nhw’n enghreifftiau o sut mae egwyddorion a gwerthoedd gwaith ieuenctid yn gwneud gwahaniaeth go iawn i berson ifanc. Weithiau, mae’r sector gwaith ieuenctid ei hun yn cyffredinoli hyn trwy ei gyfiawnhau fel bod “yn rhan o’r swydd yn unig”. Rhaid i ni beidio ag anghofio bod gweithwyr ieuenctid yn aml yn mynd gam ymhellach i helpu a chynorthwyo pobl ifanc. Dylai’r eiliadau hyn, a’r gwaith paratoi sy’n arwain atynt, gael eu dathlu.
Mae gan waith ieuenctid o ansawdd uchel rôl allweddol i’w chwarae wrth helpu llawer o bobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn. Trwy ddulliau addysgol anffurfiol a heb fod yn ffurfiol, mae arferion gwaith ieuenctid effeithiol yn cynyddu gallu a gwydnwch pobl ifanc ac yn gallu newid eu bywydau er gwell. Trwy gymryd rhan mewn gwaith ieuenctid, gall pobl ifanc ennill hyder a chymhwysedd, datblygu hunanhyder a chael cyfle i osod disgwyliadau a dyheadau uchel i’w hunain.
Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn galluogi sefydliadau i ddathlu’r eiliadau hyn a’r gwaith caled a’r ymdrech sy’n ofynnol i’w cyflawni. Mae ennill y Marc Ansawdd yn arwain at lawer o fuddion i sefydliadau. Cydnabyddiaeth yw’r mwyaf nodedig o’u plith; cael bathodyn rhagoriaeth sy’n dangos eich bod wir yn darparu gwasanaeth i bobl ifanc y gallwch chi, eich cymheiriaid a Chymru ymfalchïo ynddo.
Felly, beth yw buddion y Marc Ansawdd?
Mae’r Marc Ansawdd yn helpu sefydliadau i:
- amlygu eu cryfderau cyffredinol a’u meysydd i’w datblygu yn erbyn cyfres o Safonau Ansawdd a gydnabyddir yn genedlaethol;
- llunio cynlluniau ar gyfer gwella;
- sicrhau eu bod yn cynnig darpariaeth o ansawdd uchel i bobl ifanc;
- defnyddio safonau a/neu ddangosyddion penodol i wella meysydd perfformiad maen nhw’n gwybod eu bod yn wannach nag eraill;
- tynnu sylw rhanddeiliaid at bwysigrwydd sicrhau ansawdd, gan gynnwys staff, pobl ifanc, ymddiriedolwyr a chynghorwyr lleol;
- ffurfio barn wybodus ynglŷn â pha mor dda maen nhw’n cyflawni o gymharu â darparwyr eraill
- rhoi sicrwydd i bobl ifanc, eu rhieni a’u gwarcheidwaid, cyllidwyr, sefydliadau partner a rhanddeiliaid eraill eich bod yn darparu gwaith ieuenctid diogel o ansawdd uchel; a
- dangos eu parodrwydd i gael cymorth grant neu gael eu comisiynu i ddarparu gwaith ieuenctid o ansawdd uchel.
Mae’r Marc Ansawdd yn gam cadarnhaol tuag at sicrhau bod gan Gymru ddarpariaeth gwaith ieuenctid o ansawdd da i bobl ifanc a bod y ddarpariaeth yn eu cynorthwyo i gyrraedd eu potensial llawn.
Anogaf unrhyw sefydliad gwaith ieuenctid sydd eisiau herio ei arferion ei hun, a dathlu ei waith a’i gyflawniadau gyda phobl ifanc, i gymryd rhan yn y Marc Ansawdd.
Mae dros ugain o sefydliadau’n cymryd rhan yn y Marc Ansawdd ar hyn o bryd, ac mae llawer ohonynt wedi gwneud cynnydd rhagorol yn ystod cyfnod heriol iawn. Hoffwn eu llongyfarch ar eu llwyddiant, a dymuno pob lwc iddynt wrth symud ymlaen â’r Marc Ansawdd.
Darllenwch fwy am y Marc Ansawdd a sut gall eich sefydliad gymryd rhan
Keith Towler
Keith Towler yw cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Bu Keith yn Gomisiynydd Plant Cymru (2008 – 2015) ac mae nawr yn Ymgynghorydd Annibynnol. Mae’n arbenigwr uchel ei barch ar hawliau plant gyda thros 30 mlynedd o brofiad mewn swyddi gwaith cymdeithasol, gwaith ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid.