CGA / EWC

About us banner
Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2025-26
Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2025-26

Lawrlwytho Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2025-26.

Cyflwyniad

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.

Fe’n sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ac rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn 13 o wahanol gategorïau cofrestru sy’n rhychwantu ysgolion, addysg bellach (AB), gwaith ieuenctid, ac addysg oedolion/dysgu seiliedig ar waith. Ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg (y Gofrestr) yw’r gofrestr gyhoeddus fwyaf o unrhyw broffesiwn yng Nghymru, a’r gofrestr ehangaf o weithwyr addysg proffesiynol yn y byd, gyda dros 91,000 o ymarferwyr wedi’u cofrestru.

Rydym wedi ein cynnwys yng nghategori pedwar Safonau’r Gymraeg (y safonau). Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni gydymffurfio â 148 o safonau sy’n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau, materion gweithredol, llunio polisïau, a chadw cofnodion.

Mae’r dudalen we, ‘Ein Hymrwymiad i’r Gymraeg’, yn cynnwys ein polisi safonau gwasanaeth sy’n cael ei adolygu bob dwy flynedd. Mae’r polisi hwn yn esbonio sut byddwn yn gweithredu yn unol â gofynion y safonau ac yn dilyn yr egwyddor bod y Gymraeg a’r Saesneg yn gydradd yn ein gwaith a’n trefniadau gweinyddol. Mae’r polisi, ynghyd â’n polisi ar ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn fewnol (sy’n cael ei adolygu’n flynyddol), yn amlinellu ein cyfrifoldeb i hyrwyddo a datblygu defnydd o’r Gymraeg o fewn ein gweithle ac yn y gweithlu addysg ehangach y mae ein cofrestreion yn ymarfer ynddo.

Ochr yn ochr â’r dogfennau hyn, mae’r adroddiad blynyddol hwn yn amlinellu sut rydym wedi cydymffurfio â’r safonau yn ystod 2025-26, gan mae’n amlygu’r camau’r ydym wedi’u cymryd i gryfhau’r defnydd o’r iaith yn fewnol, ac wrth ymgysylltu â chofrestreion a rhanddeiliaid allanol.

Ein safonau, cydymffurfiaeth a monitro

Mae holl staff CGA yn rhannu cyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r safonau. Mae’r rhain ar gael i bawb eu gweld ar ein gwefan (safon weithredu 149), ynghyd â gwybodaeth am sut rydym yn bodloni pob gofyniad.

Mae cydymffurfio â’r safonau yn eitem sefydlog ar agenda cyfarfodydd misol yr uwch dîm rheoli. Y Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi sy’n gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth. Mae’r adroddiad blynyddol hwn wedi cael ei adolygu gan ein Pwyllgor Gweithredol cyn cael ei drafod a’i gymeradwyo gan ein Cyngor. 

Pe bai Comisiynydd y Gymraeg (y Comisiynydd) yn gofyn am wybodaeth ynghylch unrhyw agwedd ar sut rydym yn cydymffurfio â’r safonau, mae’n ddyletswydd arnom i’w darparu. Rydym wedi parhau i ymgysylltu’n adeiladol â’r Comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd, nid yn unig ynglŷn â’n hymdrechion i hyrwyddo ac annog y defnydd o’r Gymraeg, ond hefyd i geisio ei gyngor ar gyflenwi gwasanaethau ac arfer da.

Ym mis Tachwedd 2025, roedd ein cydymffurfiaeth rheoleiddiol â’r safonau yn destun archwiliad mewnol annibynnol. Rhoddodd yr archwiliad sicrwydd sylweddol heb unrhyw argymhellion.

Eleni, cafodd dwy agwedd ar ein gwaith, sef ein postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a’n gwasanaeth ffôn, eu monitro gan y Comisiynydd, gan brofi agweddau ar y gwasanaeth a ddarparwn. Cawsom cadarnhad fod lefel uchel o gydymffurfiaeth i’w gweld yn y samplau a brofwyd yn y ddwy agwedd

Cydymffurfiaeth

Safonau cyflenwi gwasanaethau

Gohebiaeth ysgrifenedig

Pan na fydd dewis iaith yr unigolyn rydym yn cysylltu ag ef yn hysbys, neu pan fyddwn yn ysgrifennu at grwpiau o bobl (er enghraifft cylchlythyron trwy e-bost), mae ein gohebiaeth gychwynnol yn ddwyieithog bob amser, gyda’r Gymraeg ar y chwith neu ar y brig fel ei bod yn ymddangos yn gyntaf. Pan fyddwn yn gwybod y dewis iaith, cyfathrebir yn yr iaith honno. Pan fydd rhywun yn ysgrifennu atom yn y Gymraeg a’r Saesneg, rydym yn ymateb yn ddwyieithog.

Mae ein pennawd ar ohebiaeth a throedynnau e-bost yn cynnwys datganiad sy’n croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg ac yn cadarnhau na fydd defnyddio’r Gymraeg yn arwain at oedi cyn ymateb.

Mae pob llofnod e-bost a/neu droedyn e-bost yn cynnwys teitlau swydd a manylion cyswllt dwyieithog a logo Cymraeg yn y Gweithle ar gyfer staff sy’n dewis ei gynnwys. Mae pob ateb ‘allan o’r swyddfa’ yn Gymraeg a Saesneg, fel mater o drefn.

Galwadau ffôn

Mae ein prif rif ffôn yn cysylltu â system ffôn wedi’i hawtomeiddio sy’n cyfarch y galwr yn ddwyieithog (y neges Gymraeg yn gyntaf). Wedi hynny, mae’r system yn caniatáu i’r galwr ddewis siarad ag un o’n staff naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg. Rydym wedi hyfforddi staff ar sut i ymdrin â galwadau er mwyn sicrhau bod galwyr yn cael y gwasanaeth gorau yn eu dewis iaith.

Os bydd galwr sy’n dewis siarad Cymraeg yn dymuno siarad ag unigolyn ag arbenigedd penodol nad yw’n siaradwr Cymraeg, rhoddir gwybod i’r galwr a gofynnir iddo a yw’n fodlon bwrw ymlaen â’r sgwrs drwy gyfrwng y Saesneg, cyn cael ei drosglwyddo.

Ar adegau pan fydd angen i alwad gan unigolyn sy’n dewis siarad Cymraeg gael ei throsglwyddo i adran benodol yn ystod adeg pan nad oes unrhyw staff sy’n siarad Cymraeg ar gael, rhoddir tri opsiwn i’r galwr: aros ar yr alwad, gadael ei fanylion cyswllt er mwyn cael galwad yn ôl cyn gynted â phosibl, neu gael ei drosglwyddo i aelod o staff i barhau â’i alwad drwy gyfrwng y Saesneg (sy’n dangos cydymffurfiaeth â safon weithredu 17).

Ceir isod grynodeb o nifer y galwadau a gafwyd yn ystod 2025-26, yn Gymraeg a Saesneg:

  CymraegSaesnegAnhysbys1Cyfanswm
  Nifer%Nifer%Nifer%
Chwarter 1 403 8.9% 4,064 89.8% 57 1.3% 4,524
Chwarter 2 325 9.9% 2,901 88.7% 45 1.4% 3,271
Chwarter 3 267 10.3% 2,273 88.0% 42 1.6% 2,582
Chwarter 4 284 8.0% 3,141 88.7% 115 3.2% 3,540
Cyfanswm 1,279 9.2% 12,379 88.9% 259 1.9% 13,917

 

Cyfarfodydd

Rydym yn darparu cefndiroedd corfforaethol pwrpasol i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, sy’n cynnwys logo Iaith Gwaith. Mae staff yn cael eu hannog i’w defnyddio mewn cyfarfodydd dros y we.

Wrth drefnu cyfarfodydd, rydym yn cadarnhau dewis iaith y rhai a fydd yn bresennol o flaen llaw ac yn cynnig cyfieithu ar y pryd, os oes angen.

Mae’r Cyngor yn cynnal ei gyfarfodydd cyhoeddus yn ddwyieithog, gyda chytundeb aelodau’r Cyngor, ac mae’n defnyddio gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i sicrhau bod yr holl gyfranogwyr ac arsylwyr yn gallu dilyn y trafodion. Mae cofnodion cyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor yn cael eu cymeradwyo gan y Cyngor a’u cyhoeddi’n ddwyieithog ar ein gwefan.

Digwyddiadau

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cynnal sawl digwyddiad i hyrwyddo ein gwaith ac i ymgysylltu â chofrestreion a rhanddeiliaid, sef:

Yn yr holl ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod adrodd, fe wnaeth cyflwynydd y digwyddiad annerch y gynulleidfa yn ddwyieithog wrth ei agor a’i gau. Mae siaradwyr Cymraeg wedi cyflwyno eu heitemau trwy gyfrwng y Gymraeg a darparwyd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer pobl ddi-Gymraeg. Mae’r holl ddigwyddiadau o’r fath yn ystod y flwyddyn adrodd wedi cael eu cynnal yn rhithwir, trwy Zoom, sy’n caniatáu ar gyfer darparu cyfieithu ar y pryd wrth siarad Cymraeg.

Ym mhob digwyddiad, roedd y gynulleidfa’n gallu cyflwyno cwestiynau yn Gymraeg neu Saesneg trwy’r swyddogaeth sgwrsio. Yn ein cyfres o ddigwyddiadau, gofynnwyd 11 cwestiwn fel hyn yn Gymraeg.

Darparwyd yr holl gyflwyniadau gweledol a ddefnyddiwyd yn y digwyddiadau hyn yn ddwyieithog, ac roedd y mynychwyr yn gallu dewis p’un ai gweld y sleidiau yn Gymraeg neu Saesneg. Mae’r holl ddigwyddiadau’n cael eu recordio a darperir isdeitlau ar eu cyfer yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r recordiadau hyn ar gael ar ein sianel YouTube.

Er bod ein holl ddigwyddiadau cyhoeddus yn rhad ac am ddim, rydym yn gofyn i bobl gofrestru eu presenoldeb trwy’r platfform tocynnau dwyieithog ar-lein, sef TicketSource. Yn rhan o’r weithdrefn gofrestru, rydym yn gofyn a yw’r mynychwyr yn siarad Cymraeg ai peidio.

Ym mis Mai 2025, bu CGA, gan gynnwys Addysgwyr Cymru, yn bresennol am wythnos yn Eisteddfod yr Urdd Margam. Ym mis Awst 2025, aethom i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam am yr wythnos lawn hefyd. Wrth drefnu staff i’r ddau ddigwyddiad, sicrhaom fod o leiaf un aelod staff sy’n siarad Cymraeg yn bresennol bob amser ac anogwyd staff sy’n dysgu Cymraeg i wirfoddoli. Cafodd ein presenoldeb yn y naill ddigwyddiad a’r llall eu hyrwyddo’n ddwyieithog ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r digwyddiadau eraill rydym wedi’u mynychu eleni, ledled Cymru (a thu hwnt), yn cynnwys:

  • y Sioe Addysg Genedlaethol (Llandudno a Chaerdydd)
  • Pride Cymru (Caerdydd)
  • Mela Caerdydd
  • Sioe Frenhinol Cymru (Llanelwedd)
  • Tafwyl (Caerdydd)
  • ‘marchnadleoedd’ cynadledda mewn lleoliadau amrywiol
  • diwrnodau agored Prifysgolion ledled Cymru
  • ffeiriau recriwtio ledled Cymru a Lloegr

Hefyd, gwnaethom bob ymdrech i sicrhau bod o leiaf un aelod staff yn y digwyddiadau hyn yn siarad Cymraeg fel bod cofrestreion, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn gallu ymgysylltu â ni yn eu dewis iaith.

Cyflwyniadau

Fel y crynhoir isod, rydym yn cynnig cyflwyniadau am nifer o’n meysydd gweithredol yn Gymraeg neu Saesneg, ar gais cyflogwyr neu randdeiliaid. Rydym yn ceisio darparu’r holl gyflwyniadau yn yr iaith y gofynnwyd amdani2.

Darparwyd y cyflwyniadau canlynol ar ein sianel YouTube yn 2025-26 ac mae’r sleidiau a’r isdeitlau yn Gymraeg:

Priodoldeb i ymarfer

Mae’r tîm (ac uwch swyddogion) priodoldeb i ymarfer yn ymweld yn rheolaidd ag ysgolion, colegau addysg bellach, a lleoliadau addysgol eraill ledled Cymru i roi cyflwyniadau i gofrestreion presennol a darpar gofrestreion, cyflogwyr/asiantau ac eraill am y Cod. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, darparom 47 o’r sesiynau hyn, y cyflwynwyd 5 ohonynt yn Gymraeg.

Cofrestru

Bob blwyddyn, mae’r tîm cofrestru yn rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr addysgu (ysgolion ac addysg bellach) a gwaith ieuenctid yn eu blwyddyn olaf mewn sefydliadau ledled Cymru. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, rhoesom 35 o gyflwyniadau am gofrestru. Cafwyd cais i gynnal 11 o’r rhain yn Gymraeg a gwnaethpwyd hynny. Darparwyd copïau o’r holl sleidiau yn Gymraeg a Saesneg ar ôl pob cyflwyniad. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn yr holl gyflwyniadau yn gallu gofyn cwestiynau (a chael ymateb) yn Gymraeg neu Saesneg.

Datblygiad proffesiynol a chyllid

Mae’r tîm datblygiad proffesiynol a chyllid yn rhoi cyflwyniadau i athrawon newydd gymhwyso a rhanddeiliaid perthnasol am y proffil sefydlu, ac i’r holl gofrestreion a rhanddeiliaid am y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Yn ystod y cyfnod adrodd, darparom 80 sesiwn, y cyflwynwyd 20 ohonynt yn Gymraeg.

Hyrwyddo Gyrfaoedd

Yn ystod y cyfnod adrodd, cyflwynodd y tîm hyrwyddo gyrfaoedd (Addysgwyr Cymru) gyfanswm o 55 cyflwyniad. Cafwyd cais i gynnal 9 o’r rhain yn Gymraeg a gwnaethpwyd hynny.

Arwyddion, cyhoeddiadau, a ffurflenni

Rydym yn cynhyrchu holl ddeunyddiau CGA naill ai’n ddwyieithog (gyda’r Gymraeg ar y chwith neu ar y brig fel ei bod yn ymddangos yn gyntaf) neu mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Mae fersiynau uniaith Saesneg yn hysbysu’r darllenydd bod y deunydd ar gael yn Gymraeg (sy’n dangos cydymffurfiaeth â safonau gweithredu 136, 137, a 138). 

Y wefan a chyfryngau cymdeithasol

Mae ein gwefan a’r gwasanaethau gwe cysylltiedig yn gwbl ddwyieithog a gall defnyddwyr newid yn rhwydd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hyn yn wir am ein holl wasanaethau gwe, gan gynnwys y Gofrestr gyhoeddus, y gellir ei gwirio gan gyflogwyr, dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, ac aelodau o’r cyhoedd.

Y PDP

Mae’r PDP yn cael ei gefnogi gan ap gwbl ddwyieithog. Yn ystod 2025-26, o ran y PDP:

  • roedd 193 o athrawon newydd gymhwyso wedi creu eu proffiliau sefydlu gan ddefnyddio’r fersiwn Gymraeg (roedd 1,029 wedi’u creu yn Saesneg)
  • crëwyd 2,371 o dempledi profiad dysgu proffesiynol yn Gymraeg (14,263 yn Saesneg3)
  • crëwyd 437 o broffiliau dechrau gyrfa yn Gymraeg (gan fyfyrwyr Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ar ddiwedd eu hastudiaethau) ac fe’u defnyddiwyd i amlygu eu cryfderau a’u meysydd i’w datblygu ymhellach wrth symud ymlaen i’r cyfnod sefydlu (1,364 yn Saesneg) 

Addysgwyr Cymru

Rydym hefyd yn gyfrifol am wefan Addysgwyr Cymru, sy’n cynnig porth gyrfaoedd, hyfforddiant a recriwtio ar-lein ar gyfer addysgwyr presennol a darpar addysgwyr yng Nghymru. Mae’r wefan yn cydymffurfio’n llwyr â’r safonau, ac mae’r holl gynnwys ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Rydym yn darparu gwasanaeth gwe-sgwrs dwyieithog, sy’n cynnig ateb byw neu’r diwrnod wedyn gan swyddogion CGA, yn ogystal ag yn ymateb i ymholiadau sy’n dod i law trwy negeseuon e-bost uniongyrchol neu dros y ffôn. Cafwyd cyfanswm o 538 ymholiad yn ystod 2025-26, yr oedd 18 ohonynt yn Gymraeg.

Y cyfryngau cymdeithasol

Mae gan CGA ac Addysgwyr Cymru gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Mae gan CGA gyfrifon ar Facebook a LinkedIn, gyda chynnwys yn cael ei bostio yn Gymraeg a Saesneg ar un ffrwd.

Mae gan Addysgwyr Cymru gyfrifon ar wahân ar Facebook ac Instagram ar gyfer cynnwys Cymraeg a Saesneg. Mae cynnwys ar y cyfrif LinkedIn yn cael ei bostio yn Gymraeg a Saesneg ar un ffrwd.

Rydym yn ymateb i’r holl negeseuon a geir trwy gyfryngau cymdeithasol yn iaith yr ymholiad gwreiddiol.

Hefyd, mae gan CGA sianel YouTube. Mae’r holl fideos a bostiwn yno ar gael mewn fersiynau ar wahân gydag isdeitlau Cymraeg a Saesneg (darperir yr holl destun yn newis iaith y gwyliwr, ni waeth pa iaith a siaredir).

Y Rheolwr Cyfathrebu sy’n gyfrifol am yr holl allbwn ar sianeli CGA ar y cyfryngau cymdeithasol. Y Rheolwr Hyrwyddo Gyrfaoedd sy’n gyfrifol am yr holl allbwn ar sianeli Addysgwyr Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol.

Derbynfa’r swyddfa

Yn ein tîm gwasanaethau corfforaethol, mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer dwy o’r pedair swydd, sy’n sicrhau bod gennym staff dwyieithog ar y dderbynfa bob amser. Ym mis Rhagfyr 2025, cyflwynwyd system apwyntiadau yn unig ar gyfer pob cyfarfod wyneb yn wyneb ac ymweliad â CGA. Mae hyn yn caniatáu i ymwelwyr sydd wedi trefnu cyfarfod â swyddog CGA i ddatgan eu dewis iaith ymlaen llaw.

Rhoddir laniard neu fathodyn pin Cymraeg ar Waith i’r holl aelodau staff sy’n siarad Cymraeg ac fe’u hanogir i’w wisgo (gan ddangos cydymffurfiaeth â safonau gweithredu 130 a 130A). Mae posteri sy’n cael eu harddangos yn y dderbynfa yn rhoi gwybod i ymwelwyr ein bod yn darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog. Mae’r llyfr ymwelwyr yn ddwyieithog, hefyd.

Gwybodaeth am gyflenwi gwasanaethau Cymraeg eraill

Achredu addysg gychwynnol athrawon (AGA)

Rydym yn gyfrifol am achredu a monitro rhaglenni AGA yng Nghymru. Rydym yn atgoffa’r holl ddarparwyr am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y broses achredu ac yn sicrhau bod yr holl drefniadau achredu yn gweithredu’n ddwyieithog. Yn ystod pob ymweliad â phartneriaethau, boed hynny’n rhithwir neu â’r safle, rydym yn croesawu cyflwyniadau a deialog broffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n ddwyieithog, ac yn cynnig gwasanaethau cyfieithu ar y pryd. 

Yn ystod y cyfnod adrodd, defnyddiwyd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer un ymweliad ailachredu (CaBan Bangor), a thri ymweliad monitro (Y Brifysgol Agored, Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA, a Phartneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa (PDPA)). Yn ogystal, fe’i defnyddiwyd yn y digwyddiad i randdeiliaid AGA hefyd, a gynhaliwyd ar y cyd gan CGA ac Estyn, ar-lein ym mis Mawrth 2026.

Ym mis Tachwedd 2025, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, dyrannom niferoedd derbyn AGA ar gyfer rhaglenni sy’n dechrau ym mis Medi 2026 i bartneriaethau AGA. Yn rhan o’r broses hon, cyfleom ddisgwyliadau clir i bartneriaethau, gan gynnwys targed y dylai o leiaf 30% o gyfanswm nifer y rhai sy’n cael eu recriwtio fod yn athrawon cyfrwng Cymraeg. Byddwn yn monitro recriwtio o gymharu â’r targedau hyn yn fisol, ac yn adrodd ar gynnydd i Lywodraeth Cymru. 

Rydym yn dirprwyo’r cyfrifoldeb am achredu rhaglenni AGA i’n bwrdd achredu AGA (y bwrdd). Ar 31 Mawrth 2026, roedd y bwrdd yn cynnwys 14 aelod a 2 aelod arsylwi o Estyn, gan gynnwys y cadeirydd a dau ddirprwy, bob un o feysydd addysg gwahanol. Ar hyn o bryd, mae pum aelod o’r bwrdd yn siaradwyr Cymraeg rhugl a dau aelod sy’n ddysgwyr; yn ogystal, mae un o aelodau arsylwi Estyn yn siaradwr Cymraeg rhugl.

Hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg i siaradwyr Cymraeg

Yn ystod 2025-26, parhaodd tîm Addysgwyr Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau cofrestredig yn unol â’n cylch gwaith statudol, yn ogystal â chyflawni gwaith ychwanegol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, y tu hwnt i’n swyddogaethau statudol. Mae ein hymagwedd yn gydnaws ag uchelgais Llywodraeth Cymru o ran datblygu sgiliau iaith yr holl ymarferwyr, gan gynnwys eu gallu i addysgu’r Gymraeg neu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd, mae’n ymateb i strategaeth Cymraeg 2050, sy’n nodi bod gan y sector addysg ran allweddol i’w chwarae er mwyn gwireddu nod miliwn o siaradwyr Cymraeg.   

Mae ein tîm eiriolaeth a chymorth wedi datblygu cynlluniau recriwtio ac ymgysylltu sy’n cynnwys recriwtio wedi’i dargedu ar gyfer ymarferwyr cyfrwng Cymraeg. Mae’r tîm hefyd yn cynnwys swyddog recriwtio a chymorth sydd â chyfrifoldeb penodol am gynllunio a chyflwyno digwyddiadau a gweithgarwch hyrwyddol ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Mae hyn wedi cynnwys:

  • cyfarfod yn rheolaidd â phartneriaethau AGA i gyflwyno nosweithiau gwybodaeth i’r rhai sy’n ystyried dod yn athrawon cyfrwng Cymraeg
  • cyflwyno gweithdai cyflogadwyedd a chyflwyniadau ar yrfaoedd ym maes addysg mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg
  • mynychu ffeiriau gyrfaoedd mewn colegau, prifysgolion ac ysgolion cyfrwng Cymraeg
  • cyflwyniadau i gynorthwywyr addysgu cyfrwng Cymraeg i gefnogi a’u hannog i symud ymlaen i’r proffesiwn addysgu
  • mynychu gwyliau cyfrwng Cymraeg yn y gymuned ar draws Cymru, mewn partneriaeth ag amrywiol fentrau iaith

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, parhaodd swyddogion CGA i weithio’n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar nifer o gamau gweithredu o fewn Cynllun Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun hwnnw bellach wedi’i ddisodli gan Gynllun Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gweithlu Addysg (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2026), y cyfrannom ato mewn cyfres o gyfarfodydd a thrwy ymhél â fersiynau drafft o’r cynllun.

Priodoldeb i ymarfer ac apeliadau sefydlu

Ar 31 Mawrth 2026, roedd gennym 57 o aelodau panel ar gael i eistedd ar bwyllgorau priodoldeb i ymarfer, yr oedd 14 ohonynt yn siaradwyr Cymraeg. O’r 57 aelod panel, roedd 16 ohonynt yn gadeiryddion, yr oedd 4 ohonynt yn siaradwyr Cymraeg.

Rydym yn cynnal pob gwaith achos priodoldeb i ymarfer yn newis iaith y cofrestrai, sef Cymraeg neu Saesneg. Pan dderbynnir achos, byddwn yn cysylltu â’r cofrestrai dan sylw i gadarnhau ei ddewis iaith. Os bydd y mater yn symud ymlaen i wrandawiad, byddwn yn cadarnhau’r dewis hwn eto i sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio, ac fel y gall y cofrestrai gadarnhau p’un a yw’n dymuno i’r gwrandawiad gael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae tystion yn rhydd i ddarparu datganiadau yn Gymraeg, a gallant gyflwyno tystiolaeth yn Gymraeg, ni waeth beth yw iaith y gwrandawiad.

Yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2026, clywsom ddau wrandawiad yn Gymraeg ar gais y cofrestrai.

Y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (y Marc Ansawdd)

Ar 31 Mawrth 2026, roedd gennym 54 o aseswyr ar gyfer y Marc Ansawdd. O’r rhain, mae naw yn siaradwyr Cymraeg (ar wahanol lefelau).

Caiff sefydliadau sy’n gwneud cais am y Marc Ansawdd gyflwyno dogfennau yn Gymraeg, yn Saesneg, neu’n ddwyieithog. Rydym yn cynnal asesiadau’r Marc Ansawdd yn newis iaith yr ymgeisydd. Yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2026, cefnogwyd dau asesiad Marc Ansawdd gan aseswyr cymheiriaid Cymraeg eu hiaith i sicrhau hygyrchedd i bobl ifanc a staff Cymraeg eu hiaith o fewn y sefydliadau hynny yn ystod eu hasesiadau.

Safonau llunio polisïau

Polisïau a gweithdrefnau

Yn ystod y flwyddyn adrodd, cynhaliom adolygiad cynhwysfawr o’n polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol a’i hyrwyddo (safon 92). Cafodd yr adolygiad ei lywio gan arweiniad a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd, mynychu gweminarau a gynhaliwyd gan swyddfa’r Comisiynydd, ac ymgynghori â staff CGA trwy ein Fforwm Gweithwyr. Sicrhaodd hyn fod y polisi diwygiedig yn adlewyrchu arfer gorau a bod ganddo gefnogaeth y staff i’w ddefnyddio bob dydd yn y gweithle.

Yn rhan o’n proses ar gyfer yr Asesiad Effaith Integredig, rydym yn asesu cydymffurfiaeth â’r safonau, ac yn gwerthuso sut gallai polisïau effeithio ar staff, cofrestreion, a rhanddeiliaid sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg. Mae’r broses hefyd yn annog swyddogion i geisio cyfleoedd i hyrwyddo statws y Gymraeg a defnydd ohoni yn y gweithle, a chynyddu defnydd o’n gwasanaethau Cymraeg.

Mae materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg, gan gynnwys cydymffurfiaeth, defnyddio a mentrau i hyrwyddo’r defnydd ohoni, yn eitem sefydlog ar agenda cyfarfodydd chwarterol fforwm y gweithwyr. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod yr iaith wedi’i gwreiddio yn niwylliant ein sefydliad ac yn ein gwaith.

Ymgynghoriadau, ymchwil, ac ystadegau

Cyhoeddom un ymgynghoriad yn ystod y flwyddyn adrodd, yn gysylltiedig â’n Cynllun Strategol 2026-2029. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad yn ddwyieithog, ac roedd yn ceisio barn am y Gymraeg yn unol â safonau 86-88. O ganlyniad uniongyrchol i’r ymgynghoriad, diweddarom y Cynllun Strategol i sicrhau ei fod yn cipio ehangder ein rôl yn cefnogi uchelgeisiau cenedlaethol ar gyfer yr iaith ar draws y system addysg yn llawnach, gan gynnwys yn gysylltiedig â Chymraeg 2050 a gweithredu Bil y Gymraeg mewn Addysg, gan gydnabod goblygiadau sylweddol y rhain i gynllunio, datblygu a chyflenwi’r gweithlu.

Eleni, rydym wedi ymateb i ymgynghoriadau a galwadau am dystiolaeth Comisiynydd y Gymraeg ynglŷn â’r canlynol:

  • pecyn cymorth monitro cydymffurfiaeth
  • holiadur hunanasesu

Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddom ein Hystadegau Blynyddol ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghymru. Rhoddodd yr adroddiad hwn fanylion am y Gymraeg ar gyfer y gweithlu addysg cyfan yng Nghymru, ledled ysgolion, addysg bellach, addysg oedolion/dysgu seiliedig ar waith, a lleoliadau gwaith ieuenctid. Ar ôl ei gyhoeddi, cynhaliom sesiwn friffio i randdeiliaid ym mis Hydref 2025, a roddodd drosolwg o’r data ac amlygu tueddiadau allweddol, gan gynnwys ystadegau yn ymwneud â nifer yr ymarferwyr sy’n gallu siarad Cymraeg a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Fe wnaeth Rheolwr Data CGA, a arweiniodd y digwyddiad, gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg ac ateb tri chwestiwn Cymraeg gan fynychwyr.

Ym mis Tachwedd 2025, cynhaliom ddigwyddiad briffio yn ymwneud â data a pholisi ar recriwtio a dargadw o fewn y gweithlu addysg, gan ddefnyddio ein data i amlygu tueddiadau, heriau a llwybrau polisi, gan gynnwys yn gysylltiedig â’r Gymraeg. Fe wnaeth y digwyddiad gynnwys dau gyflwyniad, un ohonynt yn Gymraeg, yna gwybodaeth gan banel o arbenigwyr i ddilyn, gan gloi gyda sesiwn holi ac ateb. Cyfrannodd 2 o’r 5 panelwr eu gwybodaeth yn Gymraeg a holwyd un cwestiwn yn Gymraeg.

Trwy gydol hydref 2025, cyhoeddom gyfres o fewnwelediadau data ar nifer o’n grwpiau cofrestreion, gan gynnwys proffil manwl o’r gweithlu’n amlinellu gallu Cymraeg athrawon ysgol.

Safonau gweithredu

Hyrwyddo’r iaith Gymraeg

Ochr yn ochr â’n polisi ar ddefnyddio a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, mae ymwybyddiaeth o’r safonau yn rhan o’n rhaglen sefydlu, gyda staff newydd yn dysgu am y safonau, sut maen nhw’n berthnasol i ni, a’n hagwedd sefydliadol at gofleidio’r Gymraeg. Anogir cyflogeion newydd sy’n siarad Cymraeg i ddefnyddio’r iaith ar gyfer gwaith ac wrth sgwrsio’n anffurfiol â chydweithwyr. Tynnir sylw cyflogeion newydd at gyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau Cymraeg, yn ogystal ag ymarfer siarad Cymraeg gyda chydweithwyr.

Mae tudalen we ein hymrwymiad i’r Gymraeg yn adlewyrchu’r gwaith a wnawn i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn ein gweithlu ac yn safon ein gwasanaeth i’n cofrestreion a rhanddeiliaid. Yn ogystal, mae gennym fideo hyrwyddol ar ein sianel YouTube ac sy’n cael ei hyrwyddo trwy ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol, sy’n dangos sut rydym yn hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle, a sut rydym yn sicrhau bod ein holl wasanaethau’n ddwyieithog.

Anfonir ein e-gylchlythyr dwyieithog, sef Cymraeg ar Waith, at yr holl staff bob tri mis. Ein nod yw hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ar draws ein sefydliad a rhoi cyngor ac awgrymiadau ymarferol ar gydymffurfio, er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn gweithredu’r safonau yn gyson.

Mae ein mewnrwyd staff, sef Eddie, yn ddwyieithog, sy’n galluogi staff i gael yr holl gyfathrebiadau mewnol, a mynediad at wybodaeth sefydliadol a llenyddiaeth gorfforaethol, yn eu dewis iaith. Rydym hefyd yn defnyddio Eddie i rannu gwybodaeth am ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a dathliadau diwylliannol amrywiol. Eleni, trwy Eddie, hyrwyddwyd ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg’ Comisiynydd y Gymraeg, Dydd Miwsig Cymru a nifer o ddigwyddiadau Cymraeg gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, a Tafwyl.   

Mae ein canllaw arddull Gymraeg sy’n benodol i CGA, sef yr Arddulliadur, yn rhoi arweiniad i’r holl staff ar gyfathrebu yn Gymraeg.

Rydym hefyd yn parhau i ddarparu mynediad at y pecyn meddalwedd Cysgliad, sy’n cynnwys geiriadur a gwirydd sillafu Cymraeg, ar gyfrifiaduron staff Cymraeg eu hiaith (safon 114). Mae’r rhaglen 'To Bach', sy’n cynorthwyo â defnyddio’r acen grom sy’n ymddangos yn aml yn y Gymraeg, wedi’i gosod ar bob cyfrifiadur. Hefyd, mae pecyn Cymraeg Microsoft yn gallu cael ei osod ar gyfrifiadur personol unrhyw aelod staff sy’n dymuno hynny, gan ganiatáu i’r defnyddiwr weld cwymplenni, blychau deialog, ac apiau a gwefannau a gefnogir, yn Gymraeg.

Polisïau a gweithdrefnau

Rydym yn cyhoeddi holl bolisïau CGA, gan gynnwys y rhai a restrir yn y safonau, yn Gymraeg a Saesneg ar fewnrwyd y staff. Mae unrhyw ffurflenni neu ddogfennau sy’n gysylltiedig â’r polisïau ar gael i staff yn Gymraeg a Saesneg neu’n ddwyieithog.

Mae ein polisïau disgyblu a chwynion cyflogaeth yn nodi hawliau cyflogeion, yn unol â’r safonau, i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn ystod unrhyw weithdrefn.

Cwynion

Os daw unrhyw gwynion i law, mae gennym brosesau ar waith i sicrhau ein bod yn eu nodi’n fanwl a’u cadw’n electronig. Mae cwynion yn cael eu hadrodd i’r uwch dîm rheoli hefyd. Mae gennym adran benodol ar ein gwefan sy’n amlinellu ein hymrwymiad i’r Gymraeg ac yn darparu gwybodaeth am sut i gwyno ynghylch y Gymraeg. Mae ein polisi ar safonau gwasanaeth ar gael ar y wefan hefyd. Nid ydym wedi cael unrhyw geisiadau am gopïau o’r polisi hwn yn ystod y cyfnod adrodd.

Yn ystod 2025-26, ni chawsom unrhyw gwynion ffurfiol am yr iaith Gymraeg na’n cydymffurfiaeth â’r safonau.

Ar un achlysur, atebom yn Saesneg i gais a gyflwynwyd yn Gymraeg. Ar ôl i ni sylwi ar y camgymeriad, ymddiheurom a rhoi ymateb yn Gymraeg o fewn yr awr. Ni wnaed cwyn ffurfiol, ond rydym yn cofnodi’r digwyddiad yma er mwyn bod yn dryloyw.

Hyfforddiant o ran y Gymraeg

Rydym yn parhau i feithrin amgylchedd anogol ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg yn y sefydliad. Rydym yn cefnogi staff i ddysgu a siarad Cymraeg ac mae siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn gefnogol iawn o’u cydweithwyr sy’n datblygu eu sgiliau.

Y broses Adolygiadau Datblygu Perfformiad, ynghyd â’r arolwg staff y cyfeirir ato isod, yw’r prif fodd o amlygu anghenion hyfforddiant a datblygiad y Gymraeg ar gyfer ein holl staff. Rydym yn llwyr gefnogi hyfforddiant Cymraeg perthnasol i’r holl staff. Yn ystod y flwyddyn adrodd, parhaodd un aelod o staff i ymgymryd â hyfforddiant Cymraeg ffurfiol pellach.

Rydym hefyd wedi cynorthwyo ein staff sydd eisiau adeiladu ar eu hyfforddiant ffurfiol trwy gynnig sesiynau mentora mewnol. Mae un aelod o staff sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg, gyda’n cefnogaeth, ers 2018, yn cyfarfod â’n swyddog cyfathrebu sy’n siarad Cymraeg bob wythnos i gael sgwrs anffurfiol er mwyn helpu i fagu hyder a meithrin ei sgiliau sgwrsio. 

Darparwyd hyfforddiant dwyieithog ar iechyd a diogelwch, fel yr amlinellir yn safon weithredu 122. Ni ddarparwyd hyfforddiant pellach yn y meysydd a amlinellir yn safonau gweithredu 122 a 123 yn ystod y flwyddyn adrodd. Os darperir hyfforddiant pellach yn y meysydd hyn, caiff ei ddarparu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg.

Sgiliau Cymraeg

Staff

Rydym yn cynnal arolwg o sgiliau a galluoedd Cymraeg ein staff bob blwyddyn ac yn gofyn i bawb sy’n dechrau gweithio i CGA lenwi holiadur yn ystod y broses sefydlu. Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth am hyfedredd staff wrth siarad, gwrando/deall, ac ysgrifennu yn Gymraeg. Eleni, fe wnaethom adolygu a diweddaru’r holiadur fel bod y matrics sgiliau yn cyd-fynd â Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd (CEFR), yn unol â chyflwyno Deddf y Gymraeg ac Addysg 2025.

Cafwyd cyfradd ymateb o 98.3% i arolwg 2026. Rydym wedi crynhoi’r ymateb gan yr holl staff yn y tabl isod ac wedi atodi dadansoddiad manwl o’r ymatebion (yn ôl adran) yn atodiad 1.

Arolwg Cymraeg staff – crynodeb o’r canlyniadau4

 

  Sgôr gymhwysedd
12345Heb ymatebCyfanswm
Siarad 26 5 5 8 8 5 57
Deall/darllen 23 5 4 7 10 8 57
Ysgrifennu 22 2 7 7 7 12 57

Roedd arolwg y Gymraeg hefyd yn gofyn i staff am eu gofynion hyfforddiant o ran y Gymraeg. Gofynnodd cyfanswm o 17 o unigolion am hyfforddiant Cymraeg. Roedd gan 12 ddiddordeb mewn hyfforddiant cyflwyniadol/lefel dechreuwr, gofynnodd pump am hyfforddiant ymestynnol, ac roedd un eisiau cael hyfforddiant adolygu/sgiliau arbennig (ar gyfer siaradwyr Cymraeg hyderus).

Aelodau’r Cyngor, aelodau’r bwrdd achredu AGA, aelodau’r panel priodoldeb i ymarfer, ac aseswyr y Marc Ansawdd

Yn rhan o’n gwaith casglu data, gofynnir i holl aelodau’r Cyngor, aelodau’r bwrdd achredu AGA, aelodau panel, ac aseswyr y Marc Ansawdd nodi eu galluoedd Cymraeg trwy arolwg gwirfoddol. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i fonitro sgiliau Cymraeg yr aelodau a llywio gweithgarwch recriwtio yn y dyfodol.

Aelodau’r Cyngor

O’r 11 o aelodau a oedd yn eu swyddi ar 31 Mawrth 2026, cawsom chwech ymateb:

  Sgôr gymhwysedd
12345Cyfanswm
Siarad 3 2 0 0 1 6
Deall/darllen 3 2 0 0 1 6
Ysgrifennu 5 0 0 0 1 6
 

Aelodau’r bwrdd achredu AGA

O’r 14 aelod Bwrdd a oedd yn eu swyddi ar 31 Mawrth 2026, cawsom wyth ymateb:

  Sgôr gymhwysedd
12345Cyfanswm
Siarad 2 2 1 0 3 8
Deall/darllen 2 2 0 1 3 8
Ysgrifennu 2 2 1 0 3 8
 

Aelodau’r panel priodoldeb i ymarfer

O’r 57 o aelodau panel ar 31 Mawrth 2026, cawsom 205 o ymatebion:

  Sgôr gymhwysedd
12345Cyfanswm
Siarad 7 2 3 1 6 19
Deall/darllen 7 2 2 4 4 19
Ysgrifennu 7 2 4 3 3 19
 

Aseswyr y Marc Ansawdd

O’r 54 o aseswyr ar 31 Mawrth 2026, cawsom 6 o ymatebion: 

  Sgôr gymhwysedd
12345Cyfanswm
Siarad 1 4 0 0 1 6
Deall/darllen 1 2 0 0 1 46
Ysgrifennu 0 2 0 0 1 37
 

Recriwtio

Cyn dechrau ar broses recriwtio, bydd y rheolwr llinell a’u cyfarwyddwr, yn defnyddio ein ffurflen gofyniad recriwtio i asesu’r angen am y swydd ac i bennu a oes angen sgiliau Cymraeg. Bydd hysbyseb y swydd, yr holl wybodaeth ategol, y ffurflen gais, yr arweiniad i ymgeiswyr a’r holl ohebiaeth gydag ymgeiswyr (hyd nes byddwn yn gwybod beth yw eu dewis iaith) yn ddwyieithog.

Wrth hysbysebu swyddi y mae’r Gymraeg yn hanfodol ar eu cyfer, defnyddiwn wefannau recriwtio Cymraeg. Ar y cam cyfweld, wrth gyfweld ag ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith, rydym yn sicrhau bod o leiaf un aelod o’r panel dethol yn siarad Cymraeg yn rhugl. Yna, gofynnir o leiaf un cwestiwn i’r ymgeiswyr hyn yn Gymraeg, y bydd angen iddynt ei ateb yn Gymraeg.

Yn ystod y flwyddyn adrodd, cynhaliom adolygiad cynhwysfawr o’n prosesau recriwtio, gan gynnwys sut rydym yn penderfynu ar ofynion iaith ar gyfer swyddi gwag a sut bydd y sgiliau hyn yn cael eu hasesu yn ystod y broses ymgeisio. O fis Ebrill 2026 ymlaen, byddwn yn cyflwyno matrics sgiliau Cymraeg newydd sy’n cyd-fynd â CEFR, gan ddisodli’r dosbarthiad deuol blaenorol a ddefnyddiwyd ar gyfer swyddi, sef bod y Gymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol. Bydd dulliau asesu’n cael eu haddasu hefyd i adlewyrchu’r lefelau sgiliau Cymraeg penodol sy’n ofynnol i bob rôl.

Mae ein ffurflen gais yn cynnwys lle i ymgeiswyr nodi a ydynt eisiau defnyddio’r Gymraeg mewn cyfweliad neu unrhyw ddull asesu arall. Mae hefyd yn esbonio y byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu, os bydd angen. 

Pan fyddwn yn cynnig swydd newydd, gofynnwn i’r unigolyn a yw eisiau cael unrhyw ohebiaeth ffurfiol, gan gynnwys y contract cyflogaeth, yn Gymraeg.

Yn ystod y flwyddyn adrodd, hysbysebwyd 6 o swyddi newydd a/neu wag, fel y manylir isod:

  Swyddog gweinyddolSwyddog GweithredolSwyddog Gweithredol UwchUwch-swyddog Gweithredol Gradd 7UDRhCyfanswm
Hanfodol 0 1 0 0 0 0 1
Dymunol 0 1 1 0 0 3 5
Arall 0 0 0 0 0 0 0
Cyfanswm 0 2 1 0 0 3 6

 

Safonau cadw cofnodion

Rydym yn cadw’r holl gofnodion yn unol â’r safonau a byddwn yn eu rhoi i Gomisiynydd y Gymraeg ar gais.

Atodiad 1: Arolwg Cymraeg staff: crynodeb o’r canlyniadau yn ôl adran8

Siarad

  Sgôr gymhwyseddCyfanswm
12345Heb ymateb
Uwch reolwyr 2 1 0 1 0 0 4
Data 0 0 0 3 1 0 4
Cyllid a gwasanaethau corfforaethol 4 2 2 0 0 1 9
Priodoldeb i ymarfer 10 0 0 0 0 2 12
Polisi a chynllunio, a chyfathrebu 1 0 0 1 1 1 4
Datblygiad proffesiynol a chyllid 2 0 1 2 1 0 6
Cofrestru 4 2 0 0 4 0 10
Achredu AGA 0 0 1 0 0 1 2
Hyrwyddo gyrfaoedd 2 0 1 1 1 0 5
Marc Ansawdd 1 0 0 0 0 0 1
Cyfanswm 26 5 5 8 8 5 57
 

Deall/darllen
  Sgôr gymhwyseddCyfanswm
12345Heb ymateb
Uwch reolwyr 2 1 0 1 0 0 4
Data 0 0 0 2 2 0 4
Cyllid a gwasanaethau corfforaethol 4 2 2 0 0 1 9
Priodoldeb i ymarfer 8 0 0 0 0 4 12
Polisi a chynllunio, a chyfathrebu 2 0 0 0 2 0 4
Datblygiad proffesiynol a chyllid 2 0 1 2 1 0 6
Cofrestru 3 2 0 0 4 0 10
Achredu AGA 0 0 1 0 0 1 2
Hyrwyddo gyrfaoedd 1 0 0 2 1 1 5
Marc Ansawdd 1 0 0 0 0 0 1
Cyfanswm 23 5 4 7 10 8 57

 
Ysgrifennu

  Sgôr gymhwyseddCyfanswm
12345Heb ymateb
Uwch reolwyr 2 1 0 1 0 0 4
Data 0 0 0 3 1 0 4
Cyllid a gwasanaethau corfforaethol 5 1 2 0 0 1 9
Priodoldeb i ymarfer 7 0 0 0 0 5 12
Polisi a chynllunio, a chyfathrebu 2 0 1 0 1 0 4
Datblygiad proffesiynol a chyllid 1 0 1 1 2 1 6
Cofrestru 3 0 1 0 3 3 10
Achredu AGA 0 0 1 0 0 1 2
Hyrwyddo gyrfaoedd 1 0 1 2 0 1 5
Marc Ansawdd 1 0 0 0 0 0 1
Cyfanswm 22 2 7 7 7 12 57

 

[1] Mae anhysbys yn ymwneud â galwadau a drosglwyddwyd yn fewnol gan nad yw’r system ffôn yn gallu cofnodi’r data hwn.

[2] Pan ofynnir i gyflwyniad gael ei roi ar ddyddiad penodol, mae’n bosibl na fydd modd darparu siaradwr bob tro (naill ai yn Gymraeg neu Saesneg). Pan nad oes siaradwr Cymraeg ar gael, byddwn yn falch o gynnig dyddiadau amgen pan y gellir rhoi’r cyflwyniad yn Gymraeg.

[3] Yn unol â pholisi cadw a dileu cyfrif PDP CGA, rydym wedi dileu 9,802 o gyfrifon ac asedau cysylltiedig defnyddwyr y PDP nad ydynt wedi’u cofrestru â CGA mwyach yn ystod y cyfnod adrodd..

[4] Sylwer bod nifer yr ymatebion i’r arolwg (57) dri yn brin o gyfanswm nifer y staff a oedd yn gweithio i CGA ar 31 Mawrth 2026. Mae hyn oherwydd bod dau aelod staff i ffwrdd ar absenoldeb mamolaeth ac ni ymatebodd un aelod o staff i’r arolwg.

[5] Gadawodd un aelod y ffurflen yn wag, felly’n arwydd o ddim sgiliau Cymraeg.

[6] Ni atebodd dau aseswr y Marc Ansawdd y cwestiwn hwn.

[7] Ni atebodd un aseswr y Marc Ansawdd y cwestiwn hwn.

[8] Sylwer bod nifer yr ymatebion i’r arolwg (57) dri yn brin o gyfanswm nifer y staff a oedd yn gweithio i CGA ar 31 Mawrth 2026. Mae hyn oherwydd bod dau aelod staff i ffwrdd ar absenoldeb mamolaeth ac ni ymatebodd un aelod o staff i’r arolwg.