Lawrlwytho'r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2023-24 (PDF)
Cyflwyniad
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Fe’n sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ac rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn 11 o wahanol gategorïau cofrestru sy’n rhychwantu ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu seiliedig ar waith. Ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg yw’r gofrestr gyhoeddus fwyaf o unrhyw broffesiwn yng Nghymru, a’r gofrestr fwyaf pellgyrhaeddol o weithwyr addysg proffesiynol yn y byd, gyda dros 90,000 o ymarferwyr wedi’u cofrestru.
Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn hanfodol i CGA a’r ffordd rydym yn gweithio. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) yn amlinellu sut fyddwn yn bodloni’r ymrwymiad yma, yn ogystal â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, a dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus sy’n benodol i Gymru (dyletswydd cydraddoldeb).Ym mis Ebrill 2020, yn dilyn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, gwnaethom gyhoeddi ein CCS ar gyfer y cyfnod 2020-24. Eglurodd y cynllun ein hymrwymiad, fel sefydliad, i gyflawni cyfres o amcanion cydraddoldeb penodol a dangosodd ein hymroddiad i ymladd yn erbyn gwahaniaethu a hyrwyddo amrywiaeth. Roedd cyfres o gynlluniau gweithredu ac adroddiadau monitro blynyddol yn cyd-fynd â’r CCS.
Yn ystod cyfnod y cynllun, rydym wedi cynnal adolygiadau blynyddol a gwneud mân ddiwygiadau yn unig.
Mae’r adroddiad blynyddol hwn ar gydraddoldeb yn amlinellu’r cynnydd rydym wedi’i wneud tuag at gyflawni ein pedwar amcan cydraddoldeb yn ystod 2023-24.
Ein prosesau a’n gweithdrefnau cydraddoldeb
Mae cydymffurfio â’n dyletswyddau cydraddoldeb yn eitem sefydlog ar agenda cyfarfodydd misol yr uwch dîm rheoli, gan ddarparu fforwm ffurfiol i drafod diweddariadau neu faterion sy’n codi.
Ym mis Ebrill 2023, roedd ein prosesau a’n gweithdrefnau cydraddoldeb yn destun archwiliad Cydymffurfio Rheoleiddiol, a roddodd sicrwydd sylweddol a dim argymhellion.
Asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb
I sicrhau bod cydraddoldeb ar flaen ein gwaith, ac i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol, mae’n rhaid i bob polisi a gweithdrefn berthnasol gael asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb. Maent yn cael eu storio mewn llyfrgell ac yn rhan o’r broses datblygu a chymeradwyo ar gyfer unrhyw bolisi newydd (neu ddiwygiedig). Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod penderfyniadau wedi’u seilio ar dystiolaeth ac yn rhoi sylw penodol i gydraddoldeb. Yn ystod y cyfnod adrodd, rydym wedi dechrau adolygiad i ddatblygu’r broses o gwblhau asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb ymhellach. Byddwn yn parhau i weithio ar hyn yn ystod 2024-25, gyda’r nod o sicrhau bod ein prosesau’n effeithlon ac yn effeithiol.
Mae’r uwch dîm rheoli’n craffu ar grynodeb o asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn ei gyfarfodydd misol.
Caffael
A ninnau’n gorff cyhoeddus, mae’n gyfrifoldeb arnom i sicrhau bod cydraddoldeb yn ganolog i’n prosesau caffael. Mae ein Polisi Caffael yn cynnwys adran benodol am gydraddoldeb i sicrhau bod yr holl gontractwyr ac is-gontractwyr sy’n darparu gwasanaeth i ni yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau i’n helpu i gyflawni ein hymrwymiad i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig. Mae hefyd yn egluro’r gofyniad arnynt i hyrwyddo cyfle cyfartal a chysylltiadau da rhwng pob aelod o gymdeithas. Mae adran ar gydraddoldeb wedi’i chynnwys yn ein datganiad caffael hefyd sy’n cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.
Ymgysylltu
Drwy gydol y flwyddyn adrodd, rydym wedi cyfarfod â rhwydweithiau a rhanddeiliaid allweddol, lle rydym wedi trafod materion cydraddoldeb sy’n briodol i’n cylch gwaith. Rydym wedi tynnu sylw ein cofrestreion a rhanddeiliaid eraill at wybodaeth berthnasol am gydraddoldeb drwy gydol y flwyddyn (trafodir hyn yn fanylach isod).
- Rydym hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o rwydweithiau, grwpiau, a phartneriaethau cydraddoldeb, i gael mewnwelediad a gwersi gwerthfawr, gan gynnwys profiadau bywyd go-iawn sy’n hysbysu ein gwaith, mae’r rhain wedi cynnwys: Rhwydwaith Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
- Rhwydwaith Cydraddoldeb De-ddwyrain Cymru (SEWEN)
- Rhwydwaith BAMEed Cymru
- Grŵp Llywio Addysg Bellach Cymru Wrth-hiliol
- Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL)
- Rhwydwaith Cyfnewidfa Cydraddoldeb Hawliau Dynol Cymru
- Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Colegau Cymru
Cyflawni ein hamcanion
Amcan 1: Monitro ein harferion cyflogaeth i amlygu rhwystrau rhag recriwtio a dilyniant gyrfaol
Sut byddwn yn cyflawni’r amcan hwn?
Byddwn yn monitro ein harferion cyflogaeth. Bydd hyn yn cynnwys archwilio cydnabyddiaeth ariannol staff ac edrych ar brosesau recriwtio a dilyniant gyrfaol staff, aelodau’r Cyngor ac aelodau pwyllgorau/paneli1, gyda’r nod o amlygu a mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau sy’n bodoli rhag datblygu gweithlu a strwythur llywodraethu amrywiol.
Byddwn yn:
- adolygu a, lle y bo’r angen, gwella prosesau recriwtio ar gyfer staff, aelodau’r Cyngor ac aelodau pwyllgorau/paneli[1], i helpu i gyflawni gweithlu amrywiol, gan sicrhau tegwch i’r holl grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol
- dadansoddi cydnabyddiaeth ariannol yr holl staff, er mwyn deall a oes bwlch cyflog yn bodoli, gan gymryd camau i gywiro unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg
- amlygu rhwystrau i staff, aelodau’r Cyngor ac aelodau pwyllgorau/paneli1 o ran mynediad at gyfleoedd datblygiad a hyfforddiant a chymryd camau i ddileu’r rhain
Cynnydd yn ystod 2023-24
Cesglir data ar gydraddoldeb staff yn flynyddol trwy arolwg ac fe’i defnyddir i lywio asesiadau effaith, datblygu polisïau, a chynlluniau hyfforddi. Yn ein harolwg diweddaraf, o’r 56 o aelodau staff a oedd mewn swydd ar y pryd, cafwyd 50 o ymatebion (cyfradd ymateb 89%). Gellir gweld ein proffil staff yn atodiad A.
Mae gennym raddfeydd cyflog tryloyw, ac mae cyflogeion yn derbyn cynyddrannau blynyddol nes byddant yn cyrraedd uchafswm y gyfradd ar gyfer eu band cyflog. Rydym yn dilyn graddfeydd cyflog Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cytuno ar gynnydd mewn cyflog, rydym yn adolygu hyn, ac os caiff ei dderbyn gennym ni fel y cyflogwr, rydym yn ei fabwysiadu’n ffurfiol. Rydym yn adolygu ein gwybodaeth am gyflogau yn ôl rhywedd yn flynyddol. Mae gwybodaeth ar gyfer 2023-24 ar gael yn atodiad A.
Fel sefydliad, rydym yn defnyddio’r broses adolygu perfformiad a datblygiad i amlygu anghenion hyfforddiant a datblygiad unigol, adolygu cynnydd, a thrafod unrhyw rwystrau rhag mynediad. Mae pob cyflogai’n cael cyfle cyfartal o ran hyfforddiant, pan ystyrir ei fod yn berthnasol i’r rôl. Rydym hefyd yn dadansoddi’r hyfforddiant a gwblhawyd bob blwyddyn at ddibenion monitro cydraddoldeb. Gan fod yr holl ddata cydraddoldeb cyflogeion yn ddienw, nid oes data penodol ar gael ynglŷn â nodweddion gwarchodedig cyflogeion a ddilynodd hyfforddiant unigol. Mae rhagor o fanylion am yr hyfforddiant a ddarparwyd yn 2023-24 ar gael o dan amcan dau.
Rydym yn adolygu ein prosesau recriwtio yn barhaus i amlygu unrhyw rwystrau posibl a mynd i’r afael â nhw. Hysbysebir pob swydd yn allanol i gyrraedd ystod eang o ymgeiswyr a chynhwysir datganiad cadarnhaol i annog ceisiadau gan ystod eang ac amrywiol o unigolion. Mae ein hanimeiddiad byr, hygyrch sy’n crynhoi CGA fel sefydliad, yn amlinellu gwerthoedd ein staff, ein diwylliant sefydliadol cadarnhaol, a’n prosesau recriwtio cynhwysol.
Rydym yn casglu gwybodaeth am amrywiaeth gan yr holl ymgeiswyr uniongyrchol, ond mae ein proses ymgeisio yn sicrhau bod yr holl gyfeiriadau at enwau, manylion cyswllt, neu arwyddion eraill posibl o nodweddion gwarchodedig yn ddienw cyn y broses sifftio. Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, gwnaethom hysbysebu 16 o swyddi a chawsom 80 o ffurflenni monitro amrywiaeth. Gellir gweld rhagor o fanylion am broffil yr ymgeiswyr yn atodiad A.
Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am gydraddoldeb yn ymwneud ag aelodau o’n Cyngor, o ran y naw nodwedd warchodedig. Penodir aelodau’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru trwy’r system penodiadau cyhoeddus. Er nad oes gennym unrhyw awdurdod dros y broses hon, gall y wybodaeth a gasglwn helpu i’w llywio. Yn dilyn proses recriwtio Llywodraeth Cymru yn 2023, penodwyd chwe aelod newydd ac ailbenodwyd chwe aelod. Gyda’i gilydd, gwnaethant ffurfio’r Cyngor newydd a ddechreuodd ei gyfnod ar 1 Ebrill 2023. Mae gweithgarwch recriwtio ychwanegol wedi parhau wrth i Lywodraeth Cymru geisio dod o hyd i unigolion addas i lenwi’r ddwy swydd wag sy’n weddill, gyda’r bwriad o ddefnyddio’r penodiadau hyn i wella amrywiaeth ethnig y Cyngor. Rydym wedi cynorthwyo Llywodraeth Cymru â’r gweithgarwch recriwtio hwn unwaith eto trwy gyfeirio ein cofrestreion, rhanddeiliaid, a rhwydweithiau at y swyddi gwag.
Pan fydd gennym yr awdurdod i benodi aelodau paneli[2], ceisiwn ddenu ystod eang o ymgeiswyr sy’n cynrychioli’r gweithlu addysg amrywiol yng Nghymru. Eleni, rydym wedi dechrau casglu gwybodaeth am gydraddoldeb gan aelodau ein paneli priodoldeb i ymarfer ac aelodau ein bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AAGA). Byddwn yn parhau i wneud hyn yn flynyddol i lywio ymarferion recriwtio yn y dyfodol ymhellach.
Yn ystod 2024-25, byddwn hefyd yn dechrau casglu gwybodaeth am gydraddoldeb yn ffurfiol gan ein cronfa o aseswyr y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Mae ein prosesau i fonitro ein harferion cyflogaeth i amlygu unrhyw rwystrau rhag recriwtio a dilyniant gyrfaol yn cael eu hadrodd i’n Cyngor.
[1] Yn cynnwys aelodau o’r pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer (PiY), y bwrdd achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), ac aseswyr y Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid (MAGI).
[2] Yn cynnwys aelodau o’r pwyllgor PiY, y bwrdd achredu AGA, ac aseswyr MAGI.
Amcan 2: Datblygu diwylliant cynhwysol o fewn gweithlu CGA
Sut byddwn yn cyflawni’r amcan hwn?
Byddwn yn gweithio i sicrhau bod ein sefydliad yn gynhwysol, yn groesawgar ac yn ystyriol tuag at yr holl gyflogeion, aelodau’r Cyngor ac aelodau pwyllgorau/paneli1, er mwyn iddynt allu bod yn nhw eu hunain a pherfformio hyd eithaf eu gallu.
Byddwn yn:
- cynorthwyo staff sydd â chyfrifoldebau gofalu
- hybu mwy o ymwybyddiaeth o gydraddoldeb ymhlith ein cyflogeion
- sicrhau bod ein polisïau ar fwlio ac aflonyddu yn aros yn gyfredol
- gweithio i fynd i’r afael â gwahaniaethu a stigma iechyd meddwl, yn unol â pholisïau iechyd meddwl a lles CGA, a’n hymrwymiad i’r Adduned Amser i Newid
Cynnydd yn ystod 2023-24
Ym mis Chwefror 2023, gwnaethom gyflwyno polisi gweithio hybrid ffurfiol sy’n caniatáu i staff gyfuno gweithio yn y swyddfa â gweithio gartref. Cafodd ei adolygu ym mis Chwefror 2024 ac ni wnaed unrhyw newidiadau o ran yr hyblygrwydd y mae’n ei gynnig. Rydym hefyd yn cynnig system oriau hyblyg i’r holl gyflogeion.
Ym mis Ebrill 2023, lansiwyd ein hail raglen les flynyddol a gynigiodd ystod eang o weithgareddau a chyfleoedd i gynorthwyo staff. Rydym yn ymgynghori â staff, yn gofyn am adborth ar y rhaglen bresennol, ac yn ceisio awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol yn rheolaidd trwy ein fforwm cyflogeion.
Ym mis Medi 2023, lansiwyd ein cylchlythyr cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant mewnol cyntaf a gyhoeddir i’r staff bob tri mis. Mae’r cylchlythyr yn offeryn allweddol i’n helpu i ymgorffori ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws y sefydliad. Mae’n cynnig gwybodaeth a chymorth i staff ynglŷn â phynciau cydraddoldeb, ac yn annog ymgysylltu â diwrnodau ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth.
Mae pawb yn CGA yn gallu cael at y llinell gymorth i gyflogeion, sef Care First, bob awr o’r dydd a’r nos. Mae’n cynnig cyngor cyfrinachol ar ystod o faterion. Rydym wedi rhannu gwybodaeth gyda’r staff am y gweminarau lles am ddim sydd ar gael iddynt trwy Care First.
Yn ogystal, rhoddir hyfforddiant rheolaidd i’r holl staff ynglŷn â’r ddyletswydd cydraddoldeb ac mae ein cynllun hyfforddiant blynyddol yn cynnwys o leiaf un sesiwn orfodol i bob aelod o staff ar faterion cydraddoldeb. Eleni, cwblhaodd staff fodiwl hyfforddiant ar-lein ar ymwybyddiaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant, yn ogystal â mynychu gweithdy niwrowahaniaeth a arweiniwyd gan Elusen yr Ymennydd. Pan benodir aelod newydd o staff, mae’r broses sefydlu’n cynnwys trosolwg o’r ddyletswydd cydraddoldeb.
Mae gennym dri aelod o staff sydd wedi’u hyfforddi’n swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ar hyn o bryd a bydd dau arall yn dilyn yr hyfforddiant yn 2024-25.
Rydym yn cynnwys mewnbynnau cydraddoldeb mewn hyfforddiant blynyddol ar gyfer aelodau’r Cyngor ac aelodau pwyllgorau/paneli[3], gan annog trafod gwahaniaethu a phrofiadau bywyd go-iawn yn agored er mwyn hybu cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu.
[3] Yn cynnwys aelodau o’r pwyllgor PiY, y bwrdd achredu AGA, ac aseswyr MAGI.
Amcan 3: Sicrhau bod ein gwasanaethau’n bodloni anghenion cofrestreion a rhanddeiliaid amrywiol (gan gynnwys y rhai hynny â nodweddion gwarchodedig) a chynorthwyo ein cofrestreion i weithredu ymarfer proffesiynol teg a chynhwysol
Sut byddwn yn cyflawni’r amcan hwn?
Mae rheidrwydd arnom, fel rheoleiddiwr annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru, i sicrhau ein bod yn adnabod unrhyw rwystrau y gallai ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid eraill eu hwynebu wrth ryngweithio â ni. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr a rhieni/gwarcheidwaid. Mae hefyd angen i ni gynorthwyo ein cofrestreion i weithredu ymarfer proffesiynol teg a chynhwysol.
Byddwn yn:
- ymgynghori ac ymgysylltu â chofrestreion a rhanddeiliaid ynglŷn â ph’un a yw ein gwasanaethau’n bodloni eu hanghenion amrywiol
- amlygu unrhyw rwystrau sy’n wynebu cofrestreion a rhanddeiliaid wrth ryngweithio â CGA a chymryd camau i’w dileu, fel y bo’n briodol ac yn gymesur
- adolygu a chyhoeddi data priodoldeb i ymarfer i fonitro priodoldeb canllawiau a llywio anghenion hyfforddiant
- hybu ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y gweithlu addysg, i wella ymarfer proffesiynol
Cynnydd yn ystod 2023-24
Rydym wedi ymrwymo i wneud ein gwybodaeth a’n cyfathrebu dwyieithog mor hygyrch â phosibl.
Yn dilyn adolygiad llawn, rydym wedi ailddylunio ein gwefan yn llwyr, gan ymgorffori nifer o welliannau ym meysydd fel hygyrchedd, taith y defnyddiwr, brandio, a gosodiad. Lansiwyd y wefan newydd ym mis Mai 2023 ac yna ceisiwyd adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth i lywio gwelliannau ychwanegol. Rydym yn sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir wedi’i lleoli’n rhesymegol ac yn gyson, ac yn syml i ddod o hyd iddi trwy gyfleuster chwilio.
Mae ein gwefan yn cydymffurfio â safon lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 ar hyn o bryd. Archwiliwyd hygyrchedd ein gwefan gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth ym mis Rhagfyr 2023. Amlygwyd rhai mân faterion, ond cawsant eu datrys yn gyflym. Rydym yn cynnig cyfle i ddefnyddwyr ein gwefan gael mynediad at y Bar Offer ReachDeck, sef meddalwedd hygyrchedd y we sy’n cynorthwyo pobl ag amhariadau gweledol ac anableddau cudd, yn ogystal â’r rhai hynny nad oes ganddynt sgiliau digidol sylfaenol a phobl sy’n dymuno darllen y wefan mewn iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg.
Mae capsiynau’n cael eu darparu ar gyfer yr holl gynnwys fideo (gyda sain) sy’n cael ei ychwanegu at ein gwefan yn Gymraeg a Saesneg. Mae unrhyw gynnwys sain yn unig (fel podlediadau) yn cael ei lanlwytho gyda thrawsgrifiad cysylltiedig yn Gymraeg a Saesneg. Er bod ein cyhoeddiadau ar gael mewn fformat electronig fel arfer, rydym yn cynnig fformatau eraill ar gais. Mae nifer gynyddol o’n cyhoeddiadau’n cael eu cyhoeddi mewn fformat HTML erbyn hyn hefyd, yn ogystal â fformatau eraill hygyrch. Rydym yn parhau i adolygu ein cyhoeddiadau i sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn gynhwysol i’n cofrestreion a’r cyhoedd.
Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ar-lein drwy gydol y flwyddyn. Hwyluswyd cofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn trwy Ticket Source. Mae’r platfform hwn yn caniatáu i fynychwyr nodi unrhyw addasiadau rhesymol a allai fod yn ofynnol ar gyfer digwyddiad. Rydym wedi gwneud addasiadau ar gyfer pedwar mynychwr yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys rhoi cyngor i fynychwr ar sut i gael at y cyfleuster isdeitlo byw ar blatfform y digwyddiad a darparu sleidiau cyflwyniad i un arall cyn y digwyddiad.
Rydym wedi darparu gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer gweithwyr proffesiynol neu gofrestreion byddar a thrwm eu clyw sydd wedi bod yn ymwneud â chyfarfodydd priodoldeb i ymarfer rhithwir.
Os yw defnyddwyr gwasanaeth eisiau cael copïau papur o unrhyw rai o’n dogfennau, rydym yn eu darparu ar gais trwy’r post.
Drwy gydol y flwyddyn adrodd, rydym wedi trafod materion cydraddoldeb sy’n briodol i’n cylch gwaith wrth gyfarfod â rhanddeiliaid allweddol a grwpiau buddiant. Mae’r rhain wedi cynnwys cynrychiolwyr o Rwydwaith BAMEed Cymru, DARPL, a Chylch Trefol Casnewydd a arweiniodd at nifer o brosiectau ar y cyd, gan gynnwys:
- ffurfio partneriaeth â DARPL i helpu i drefnu a hyrwyddo’r gynhadledd amrywiaeth ac arweinyddiaeth wrth-hiliol genedlaethol gyntaf yng Nghymru, a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2023
- recordio pennod o’n cyfres newydd o bodlediadau, ‘Sgwrsio gyda CGA’, yn canolbwyntio ar amrywiaethu gweithlu addysg Cymru
Rydym hefyd wedi mynychu cyfarfodydd Rhwydwaith Cydraddoldeb De-ddwyrain Cymru (SEWEN), Rhwydwaith PSED, a Grŵp Llywio Addysg Bellach Cymru Wrth-hiliol, yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau a gweminarau yn canolbwyntio ar faterion cydraddoldeb. Roedd hyn yn cynnwys cynhadledd flynyddol y Black Leadership Group, a gynhaliwyd yn y Senedd ym mis Mawrth 2024.
Rydym yn parhau i gasglu data am gydraddoldeb gan gofrestreion sy’n destun achosion priodoldeb i ymarfer, trwy ein system rheoli achosion. Ym mis Awst 2023, gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol priodoldeb i ymarfer, a oedd yn cynnwys data am gydraddoldeb ar gyfer yr holl grwpiau cofrestreion.
I gynorthwyo ein cofrestreion, a chynyddu ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, rydym wedi gwneud sawl argymhelliad trwy Meddwl Mawr (ein clwb llyfrau a chyfnodolion) ar gyfer adnoddau ar bynciau gan gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar, cynorthwyo dysgwyr â dyslecsia, cynllunio gwersi, ac addysg deg.
Ym mis Mehefin 2023, gwnaethom gyhoeddi canfyddiadau’r Arolwg o’r Gweithlu Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith 2023, a gynhaliwyd ar ran y grŵp llywio llwyth gwaith cenedlaethol (sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyd-undebau Llafur Cymru, a Cholegau Cymru). Gofynnodd yr arolwg gwestiynau am ganfyddiadau ymarferwyr o’u rôl a’u gyrfa, patrymau gwaith a llwyth gwaith, lles, a dysgu proffesiynol.
Amcan 4: Hybu datblygiad gweithlu addysg amrywiol yng Nghymru
Sut byddwn yn cyflawni’r amcan hwn?
Mae ein cyfrifoldebau rheoleiddiol yn cynnwys hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg a chynghori Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n gysylltiedig â’r gweithlu addysg ac addysgu a dysgu. Byddwn yn defnyddio ein dylanwad yn y maes hwn i helpu i hybu datblygiad gweithlu addysg mwy amrywiol.
Byddwn yn:
- defnyddio ein data i fonitro ac amlygu materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws ein holl grwpiau cofrestreion
- hybu amrywiaeth o fewn y gweithlu addysg yn rhan o ymgyrch ehangach i hybu gyrfaoedd o fewn y gweithlu
Cynnydd yn ystod 2023-24
Mae’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn cynnig sylfaen dystiolaeth o ansawdd uchel ynglŷn â materion cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym wedi cymryd nifer o gamau drwy gydol y flwyddyn i sicrhau ansawdd a chyflawnder y data a ddelir yn ein Cofrestr. Ym mis Medi 2023, gwnaethom gyhoeddi Ystadegau blynyddol y gweithlu addysg ar gyfer Cymru 2023. Roedd hyn yn cynnwys data cydraddoldeb am ymarferwyr ar draws pob un o’n 11 o grwpiau cofrestreion. Rydym hefyd wedi cyhoeddi datganiadau ystadegol eraill drwy gydol y flwyddyn sydd wedi cynnwys data cydraddoldeb, canlyniadau myfyrwyr AGA, a data am athrawon newydd gymhwyso.
Ym mis Awst 2023, gwnaethom lofnodi addewid Dim Hiliaeth Cymru Race Council Cymru, sy’n dangos ein hymrwymiad i hyrwyddo tegwch a chytgord hiliol trwy weithredu’r egwyddorion y mae’n eu hamlinellu.
Ym mis Tachwedd 2023, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, fe wnaethom ddyrannu niferoedd derbyn AGA i bartneriaethau AGA ar gyfer rhaglenni sy’n dechrau ym mis Medi 2024. Yn rhan o hyn, fe wnaethom ddarparu gofynion penodol i bartneriaethau ar gyfer recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg ac athrawon o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol (5% o’r cyfanswm sy’n cael eu recriwtio). Rydym yn monitro recriwtio i raglenni ac yn adrodd ar hyn i Lywodraeth Cymru.
Mae’r cynnwys ar gyfer Addysgwyr Cymru (y brand a’r wefan sy’n helpu i hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg yng Nghymru) wedi cael ei adolygu a’i ddatblygu ymhellach er mwyn sicrhau bod y tudalennau’n dangos gweithlu amrywiol.
Mae ein tîm eiriolaeth a chymorth wedi datblygu cynlluniau recriwtio ac ymgysylltu sy’n cynnwys gweithgarwch recriwtio targedig ar gyfer pobl o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Mae gennym Swyddog Recriwtio a Chymorth penodol i arwain y broses o weithredu’r cynlluniau targedig hyn (gwnaethom annog ceisiadau gan ymgeiswyr du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ar gyfer y rôl hon). Mae gwaith yn y maes hwn wedi cynnwys ymgysylltu’n barhaus â grwpiau amrywiol ledled Cymru, gan gynnwys Cymdeithas Affricanaidd Gogledd Cymru, Cymdeithas Ddiwylliannol Islamaidd Cymru, Tasglu Cydraddoldeb Hiliol Cyngor Caerdydd, Gwasanaeth Iechyd Meddwl BAME, Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, ac ysgolion uwchradd â chyfran uchel o fyfyrwyr sy’n ystyried eu bod yn ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
Atodiad A – gwybodaeth am gyflogaeth
Nifer y bobl a gyflogir yn ôl nodwedd warchodedig
Rydym yn casglu data am gydraddoldeb staff trwy ein harolwg staff blynyddol. Wrth ofyn am y wybodaeth, rydym yn rhoi gwybod i staff fod llenwi’r ffurflen yn wirfoddol, ond bydd gwneud hynny’n ein rhoi mewn sefyllfa well i ddeall cyfansoddiad ein gweithlu ac archwilio ein harferion yn llawn. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni dargedu ein gweithgareddau a’n blaenoriaethau lle y canfyddir unrhyw dangynrychiolaeth neu anghydraddoldeb. Defnyddir y data i lywio asesiadau o’r effaith, datblygu polisïau, a chynlluniau hyfforddi. Cynhaliwyd ein harolwg diweddaraf ym mis Mawrth 2024. O’r 56 o aelodau staff a oedd yn eu swydd ar y pryd, cafwyd 50 o ymatebion (cyfradd ymateb 89%). Oherwydd maint ein sefydliad, mae ffigurau sy’n cynrychioli 10% neu lai o’r ymatebion wedi cael eu cuddio (a gynrychiolir gan *) i atal unigolion rhag cael eu hadnabod.
Oedran
16-24 | * |
---|---|
25-34 | 19 |
35-44 | 10 |
45-54 | 11 |
55-64 | 7 |
65 a hŷn | * |
Ddim eisiau dweud | * |
Rhywedd/Rhyw
Gwrywaidd | 14 |
---|---|
Benywaidd | 36 |
Anneuaidd | * |
Rhyngryw | * |
Ddim eisiau dweud | * |
Ydych chi’n draws?
Ydw | * |
---|---|
Nac ydw | 49 |
Ddim eisiau dweud | * |
Ddim wedi ymateb | * |
Cyfeiriadedd rhywiol
Deurywiol | * |
---|---|
Hoyw/lesbiaidd | * |
Heterorywiol | 43 |
Ddim eisiau dweud | * |
Statws perthynas
Priod neu mewn partneriaeth sifil | 19 |
---|---|
Wedi ysgaru | * |
Sengl | 13 |
Byw gyda phartner mewn perthynas hirdymor | 13 |
Partner | * |
Wedi gwahanu | * |
Gweddw | * |
Ddim eisiau dweud | * |
Crefydd neu gred
Dim crefydd | 27 |
---|---|
Anffyddiwr | * |
Cristion | 19 |
Bwdhydd | * |
Hindŵ | * |
Dyneiddiwr | * |
Iddew | * |
Mwslim | * |
Pagan | * |
Sikh | * |
Ddim eisiau dweud | * |
Ethnigrwydd
Gwyn – Cymro/Cymraes/Sais/Saesnes/Albanwr/Albanes/Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon/Prydeinig | 45 |
---|---|
Gwyddel/Gwyddeles | * |
Cymysg – Gwyn a Du Caribïaidd | * |
Cymysg – Gwyn ac Asiaidd | * |
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig – Indiaidd | * |
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig – Bangladeshaidd | * |
Arall | * |
Dim ymateb | * |
Hunaniaeth genedlaethol
Cymro/Cymraes | 41 |
---|---|
Sais/Saesnes | * |
Albanwr/Albanes | * |
Gwyddel/Gwyddeles | * |
Prydeinig | 7 |
Arall | * |
Dim ymateb | * |
Cyfrifoldebau gofalu
Dim | 26 |
---|---|
Prif ofalwr plentyn/plant (o dan 18 oed) | 17 |
Prif ofalwr plentyn/plant anabl | * |
Prif ofalwr oedolyn anabl (18 oed a hŷn) | * |
Prif ofalwr person/pobl hŷn (65 oed a hŷn) | * |
Gofalwr eilaidd | * |
Ddim eisiau dweud | * |
Anabledd – A ydych chi’n ystyried bod gennych anabledd?
Ydw, cyfyngir llawer ar fy ngweithgareddau dydd i ddydd | * |
---|---|
Ydw, cyfyngir ychydig ar fy ngweithgareddau dydd i ddydd | * |
Nac ydw | 47 |
Ddim yn siŵr | * |
Ddim eisiau dweud | * |
Anabledd – Ticiwch yr amhariadau neu’r cyflyrau iechyd hynny sy’n berthnasol i chi
Amhariad neu anabledd dysgu (er enghraifft dyslecsia, syndrom Down, awtistiaeth, ac ati) | * |
---|---|
Cyflwr iechyd hirdymor (er enghraifft epilepsi, diabetes neu ganser) | * |
Iechyd meddwl gwael (er enghraifft iselder, gorbryder, neu sgitsoffrenia) | * |
Amhariad symudedd | * |
Ddim eisiau dweud | * |
Anabledd – A oes gennych anabledd, fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010? [4]
Oes | * |
---|---|
Nac oes | 47 |
Ddim eisiau dweud | * |
Data recriwtio
Lle y bo’n bosibl, rydym yn casglu a dadansoddi gwybodaeth am gydraddoldeb yn ymwneud â recriwtio staff. Mewn rhai achosion, pan dderbynnir nifer gyfyngedig o geisiadau ac mae angen defnyddio asiantaeth recriwtio, nid yw gwybodaeth am gydraddoldeb yn cael ei darparu bob amser. Yn ogystal, pan fydd aelodau staff mewnol yn ymgeisio am swyddi, nid oes rhaid iddynt lenwi ffurflen monitro amrywiaeth.
Yn ystod y cyfnod adrodd, hysbysebwyd 16 o swyddi ar gyfer recriwtio’n allanol. Rhoddwyd cyfle i’r holl ymgeiswyr uniongyrchol lenwi ffurflen monitro amrywiaeth ar yr adeg ymgeisio. Cawsom 90 o geisiadau uniongyrchol, ac roedd 80 o’r rhain wedi llenwi ffurflenni monitro amrywiaeth. Nid yw categorïau na ymatebwyd iddynt wedi cael eu cynnwys yn y data a adroddir isod.
Nifer y ceisiadau a gafwyd yn ôl nodwedd warchodedig (lle y llenwyd ffurflen monitro amrywiaeth)
Rhywedd/Rhyw
Gwrywaidd | 18 |
---|---|
Benywaidd | 61 |
Anneuaidd | 1 |
Ydych chi’n draws?
Nac ydw | 78 |
---|---|
Ddim yn siŵr | 1 |
Ddim wedi ymateb | 1 |
Oedran
16-24 | 10 |
---|---|
25-34 | 23 |
35-44 | 21 |
45-54 | 19 |
55-64 | 7 |
Cyfeiriadedd rhywiol
Deurywiol | 1 |
---|---|
Hoyw/lesbiaidd | 4 |
Heterorywiol | 72 |
Ddim eisiau dweud | 2 |
Ddim wedi ymateb | 1 |
Statws perthynas
Priod | 30 |
---|---|
Wedi ysgaru | 5 |
Sengl | 13 |
Byw gyda phartner mewn perthynas hirdymor | 26 |
Partner | 3 |
Ddim eisiau dweud | 3 |
Crefydd neu gred
Dim crefydd neu gred | 41 |
---|---|
Anffyddiwr | 3 |
Cristion (pob enwad) | 28 |
Hindŵ | 1 |
Mwslim | 1 |
Ddim eisiau dweud | 6 |
Grŵp ethnig [5]
Gwyn – Cymro/Cymraes | 49 |
---|---|
Gwyn – Sais/Saesnes | 5 |
Gwyn - Prydeinig | 13 |
Cefndir gwyn arall | 6 |
Grŵp ethnig cymysg/lluosog – gwyn ac Asiaidd | 2 |
Grŵp ethnig cymysg/lluosog arall | 2 |
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig – Indiaidd | 2 |
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig – Pacistanaidd | 1 |
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig - Tsieineaidd | 1 |
Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig – Caribïaidd | 1 |
Cefndir Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig Arall | 1 |
Hunaniaeth genedlaethol [6]
Cymro/Cymraes | 53 |
---|---|
Sais/Saesnes | 6 |
Prydeinig | 17 |
Arall | 7 |
Ddim wedi ymateb | 3 |
A oes gennych unrhyw gyfrifoldebau gofalu? [7]
Dim | 58 |
---|---|
Prif ofalwr plentyn/plant (o dan 18 oed) | 19 |
Prif ofalwr plentyn/plant anabl | 1 |
Gofalwr eilaidd | 2 |
Ddim eisiau dweud | 1 |
Ddim wedi ymateb | 1 |
Anabledd – A ydych chi’n ystyried bod gennych anabledd?
Ydw, cyfyngir llawer ar fy ngweithgareddau dydd i ddydd | 2 |
---|---|
Ydw, cyfyngir ychydig ar fy ngweithgareddau dydd i ddydd | 2 |
Nac ydw | 73 |
Ddim eisiau dweud | 1 |
Ddim wedi ymateb | 2 |
Anabledd – A oes gennych anabledd, fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?
Oes | 7 |
---|---|
Nac oes | 73 |
Gweithdrefnau Cwynion Cyflogaeth
Nid oedd unrhyw gyflogeion yn ymwneud â gweithdrefnau cwynion cyflogaeth naill ai fel achwynydd, neu unigolyn y gwnaed cwyn yn ei erbyn, yn ystod 2023-24.
Gweithdrefnau Disgyblu
Nid oedd unrhyw gyflogeion yn destun gweithdrefnau disgyblu yn ystod 2023-24.
Ymadawyr
Gan fod yr holl ddata cydraddoldeb am gyflogeion yn ddienw, nid oes unrhyw ddata penodol ar gael ynglŷn â nodweddion gwarchodedig cyflogeion a adawodd y sefydliad.
Gwybodaeth ychwanegol am gyflog yn ôl rhywedd ar 31 Mawrth 2024
Cyflog | Gradd | Gwrywaidd | Benywaidd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|
£23,258 - £26,901 | Cymorth tîm | 0 | 2 | 2 |
£28,245 - £32,141 | Swyddog Gweithredol | 8 | 19 | 27 |
£34,083 - £41,675 | Swyddog Gweithredol Uwch (HEO) | 6 | 8 | 14 |
£43,785 - £51,839 | Uwch-swyddog Gweithredol (SEO) | 2 | 6 | 8 |
£56,112 - £67,095 | Gradd 7 | 0 | 1 | 1 |
£70,455 - £80,840 | Gradd 6 | 1 | 2 | 3 |
£90,696 - £106,056 | Prif Weithredwr | 1 | 0 | 1 |
Cyfanswm | 18 | 38 | 56 |
Math o gontract | Gwrywaidd | Benywaidd | Cyfanswm |
---|---|---|---|
Parhaol | 17 | 38 | 55 |
Cyfnod penodol | 1 | 0 | 1 |
Dros dro | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm | 18 | 38 | 56 |
Patrwm gweithio | Gwrywaidd | Benywaidd | Cyfanswm |
---|---|---|---|
Amser llawn | 16 | 34 | 50 |
Rhan-amser | 2 | 4 | 6 |
Cyfanswm | 18 | 38 | 56 |
Sylwer: Mae’r dadansoddiad yn cynnwys swyddogion ar gyfnod absenoldeb mamolaeth
[4] Rydych chi’n anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 os oes gennych amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ‘sylweddol’ a ‘hirdymor’ ar eich gallu i wneud gweithgareddau pob dydd arferol.
[5] Roedd rhai ymgeiswyr wedi nodi eu bod yn perthyn i fwy nag un grŵp ethnig.
[6] Roedd rhai ymgeiswyr wedi nodi bod ganddynt fwy nag un hunaniaeth genedlaethol.
[7] Roedd rhai ymgeiswyr wedi dewis mwy nag un opsiwn ar gyfer eu cyfrifoldebau gofalu.