CGA / EWC

About us banner
Adroddiad ar y ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau 2025
Adroddiad ar y ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau 2025

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 – Adran 62024/25 

Cyflwyniad a chyd-destun

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru. A ninnau wedi’n sefydlu gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn 13 o gategorïau cofrestru gwahanol sy’n rhychwantu ysgolion, addysg bellach (AB), gwaith ieuenctid ac addysg oedolion/dysgu’n seiliedig ar waith. Ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg yw’r gofrestr ehangaf o weithwyr addysg proffesiynol yn y byd, gyda thros 91,000 o ymarferwyr wedi’u cofrestru.

Mae CGA yn cydnabod bod bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau yng Nghymru o dan bwysau cynyddol amrywiaeth o ddylanwadau amgylcheddol. Er nad yw ein swyddogaethau rheoleiddio craidd yn uniongyrchol gysylltiedig â bioamrywiaeth, rheoli tir neu adfer natur, rydym yn deall y gall ein hymddygiadau sefydliadol, ein polisïau a’n penderfyniadau caffael gyfrannu’n ystyrlon at nodau amgylcheddol a chefnogi’r rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol (SMNR). Felly, mae ystyriaethau bioamrywiaeth wedi’u gwreiddio yn ein prosesau cynllunio busnes ac maent yn llywio ein gweithrediadau sefydliadol o ddydd i ddydd.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gofyn bod CGA yn adrodd ar yr hyn rydym ni, fel sefydliad, wedi’i wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau adran 6, bob tair blynedd. O fewn y ddeddfwriaeth, daw CGA yng nghategori adrodd gofynnol grŵp 1, ac felly mae’n ofynnol iddo adrodd ar Amcanion 1, 4, a 6 y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cenedlaethol (NRAP). Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg o’n cynnydd yn gysylltiedig â thri amcan hyn y NRAP ac mae’n ailgadarnhau ein hymrwymiad i wreiddio’r ddyletswydd Adran 6 ar draws holl feysydd perthnasol ein gwaith.

Uchafbwyntiau, deilliannau allweddol, a phroblemau

Ers 2022, rydym wedi cyflawni cynnydd ystyrlon ar draws nifer o feysydd:

Yn rhan o’n rôl fel rheoleiddiwr proffesiynol, mae CGA wedi cefnogi cynnydd mewn ymwybyddiaeth o broblemau amgylcheddol ymhlith cofrestreion. Ym mis Chwefror 2025, cyhoeddom rifyn o’n podlediad ‘Sgwrsio’ ar addysg a’r amgylchedd, gan rannu ymchwil a chipolygon seiliedig ar ymarfer i gefnogi llythrennedd amgylcheddol a’r hinsawdd ac i hyrwyddo dysgu awyr agored, sy’n canolbwyntio ar natur, ar draws Cymru.

Caiff cyfarfodydd dros y we eu hannog fel arfer safonol i leihau teithio ac allyriadau carbon cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys mwyafrif ein gwrandawiadau Priodoldeb i Ymarfer, gyda 48 o 53 gwrandawiad yn cael eu cynnal dros y we yn ystod 2024/25, a 39 o’r 41 o wrandawiadau a gynhaliwyd hyd yn hyn yn 2025/26 yn rhithiol hefyd (data ar 31 Rhagfyr 2025).

Rydym wedi gweithio i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023, ac rydym yn cefnogi polisi Tuag at Ddyfodol Diwastraff Llywodraeth Cymru yn weithgar trwy leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu adnoddau, lle bynnag y bo’n bosibl. Rydym yn mynd y tu hwnt i gydymffurfio hefyd trwy ddarparu cyfleusterau i staff ailgylchu plastigau meddal, a bwyd.

Ym mis Hydref 2025, fe wnaeth CGA bartneru â Chyngor Caerdydd i gynnig cyfle i staff wirfoddoli yng Ngwarchodfa Natur Leol Howardian yn rhan o’u rhaglen lles. Cefnogodd cydweithwyr fioamrywiaeth leol trwy weithgareddau cadwraeth ymarferol, gan gynnwys rheoli llystyfiant, clirio llwybrau, creu cynefinoedd a chasglu sbwriel.

Amcan 1 NRAP: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn gwreiddio bioamrywiaeth yn y broses benderfynu ar bob lefel

Mae ein Cynllun Strategol (2025–28) yn cyflwyno ein bwriad i leihau ein heffaith amgylcheddol a chofleidio arferion cynaliadwy ar draws holl feysydd ein gweithgareddau. Mae’r ymrwymiad hwn yn cael ei bwysleisio yn ein cynlluniau gweithredol blynyddol, gyda chynaliadwyedd amgylcheddol wedi’i integreiddio’n is-amcanion perthnasol.

Er bod cyfleoedd am weithredu uniongyrchol ynghylch bioamrywiaeth yn gyfyngedig, mae’r camau y mae CGA yn eu cymryd wedi’u gwreiddio o fewn gwaith beunyddiol swyddogaeth y Gwasanaethau Corfforaethol, gan sicrhau bod cyfrifoldeb amgylcheddol yn llunio rhan o benderfyniadau gweithredol rheolaidd.

Trwy ein cyfathrebiadau mewnol, rydym wedi gweithio i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fioamrywiaeth ymhlith staff, gan helpu i gefnogi dewisiadau gwybodus yn amgylcheddol ar draws y sefydliad. Mae hyn wedi cynnwys rhannu gwybodaeth sy’n annog ailgylchu a gosod cynnwys ar fewnrwyd y staff, sy’n cynnig awgrymiadau ymarferol er mwyn annog arferion cynaliadwy a lleihau gwastraff.

Cynigir hyfforddiant perthnasol yn rhan o’r rhaglen hyfforddiant i’r holl staff, gyda modiwl Ymwybyddiaeth Amgylcheddol ar gael trwy ein darparwr hyfforddiant allanol (iHasco). Gall staff gael ato unrhyw bryd, ar gais, ac rydym yn annog staff i’w ddefnyddio.

A ninnau’n rheoleiddiwr proffesiynol, mae CGA hefyd wedi gweithio i ehangu dealltwriaeth broffesiynol o faterion amgylcheddol ymhlith ein cofrestreion. Ym mis Chwefror 2025, rhyddhaom rifyn o’n podlediad (Sgwrsio) ar addysg a’r amgylchedd, gan archwilio ymagweddau effeithiol at lythrennedd amgylcheddol a’r hinsawdd. Fe wnaeth y rhifyn, sydd ar gael am ddim i’n 91,000 o gofrestreion, amlygu ffyrdd ymarferol y gall addysgwyr yng Nghymru integreiddio dysgu awyr agored, sy’n canolbwyntio ar natur.

Amcan 4 NRAP: Mynd i'r afael â'r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd

Mae CGA yn ceisio lliniaru’r newid hinsawdd, defnyddio llai o ynni, a chynyddu datgarboneiddio trwy:

  • ddefnyddio gofod swyddfa sydd wedi’i leoli’n gynaliadwy gerllaw canol dinas Caerdydd, gan gynnig mynediad cyfleus i gysylltiadau cludiant cyhoeddus
  • mabwysiadu trefniadau gweithio hybrid sy’n lleihau allyriadau cymudo
  • defnyddio goleuadau sensitif i symudiadau, i helpu sicrhau bod trydan yn cael ei ddefnyddio dim ond pan fydd ei angen
  • anfon gohebiaeth allanol drwy’r e-bost, gan leihau’r defnydd o bapur
  • defnyddio cludiant cyhoeddus, pryd bynnag y bo’n bosibl, gan helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy ddewis opsiynau cludiant effaith is
  • darparu gofod i storio beiciau’n ddiogel y tu allan i adeilad y swyddfa, a chyfleusterau cawodydd a newid, i’r staff niferus sy’n beicio i’r gwaith yn rheolaidd eu defnyddio

Caiff cyfarfodydd dros y we eu hannog fel arfer safonol i leihau teithio, ac i gefnogi gweithrediadau carbon isel. Mae hyn yn cynnwys mwyafrif helaeth ein gwrandawiadau priodoldeb i ymarfer (sy’n cynnwys cofrestreion o bob cwr o Gymru), a fyddai fel arfer yn cynhyrchu allyriadau carbon sylweddol yn gysylltiedig â theithio. Yn ystod 2024/25, cynhaliwyd 48 o 53 gwrandawiad priodoldeb i ymarfer dros y we, ac mae’n debygol y bydd y tueddiad yma’n parhau yn 2025/26.

Rydym yn falch o gydymffurfio â Rheoliadau Gofynion Gwahanu Gwastraff (Cymru) 2023, ac rydym yn ceisio lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu adnoddau, lle bo’n bosibl, e.e. trwy ailgylchu gwastraff yn briodol, newid cwpanau plastig tafladwy am wydrau, rhoi cyfarpar swyddfa diangen i achosion da, defnyddio nwyddau wedi’u hailgylchu ac annog defnyddio cyn lleied o ddeunydd ysgrifennu â phosibl.

Rydym wedi bod yn cefnogi polisi Tuag at Ddyfodol Diwastraff Llywodraeth Cymru – bodloni gofynion gwahanu gwastraff y gweithle trwy ddarparu biniau ailgylchu wedi’u marcio’n glir a sicrhau bod gwastraff yn cael ei ddidoli’n iawn ar draws y swyddfa. Gan adeiladu ar hyn, ers Mehefin 2025, mae bin bwyd wedi’i osod yn y gegin er mwyn gwaredu gwastraff bwyd a bagiau te, a chafodd nifer y biniau o gwmpas y swyddfa eu lleihau’n sylweddol i annog ailgylchu.

Ers haf 2025 hefyd, mae bin ychwanegol wedi’i osod yng nghegin y staff i waredu plastigau meddal. Mae un o’n haelodau staff yn mynd â’r rhain i’w hailgylchu, gan nad oes darpariaeth gan y Llywodraeth Leol ar hyn o bryd i ailgylchu’r deunyddiau.

Mae CGA yn blaenoriaethu cadwyni cyflenwi moesegol wrth brynu nwyddau a gwasanaethau swyddfa, gan gynnwys cyflenwadau glanhau. Mae’n ofynnol i cyflenwyr CGA ddefnyddio arferion rheoli cynaliadwy a nwyddau ecogyfeillgar yn rhan o’n prosesau caffael.

Pan fyddwn yn prynu cyfrifiaduron a gliniaduron newydd, rydym yn cymryd rhan yng nghynllun CO₂ Offset Lenovo. Mae'r cynllun yn amcangyfrif allyriadau carbon ar gyfer oes arferol pob dyfais, ac yn ein galluogi i brynu credydau carbon i gydbwyso yn erbyn yr allyriadau hyn. Mae'r credydau yn cefnogi prosiectau wedi eu dilysu sy'n gweithredu ar yr hinsawdd, gan gynnwys y rhai wedi eu hachredu o dan y Mecanwaith Datblygu Glân, Safon Aur®, Climate Action Reserve, a rhaglenni'r Cenhedloedd Unedig, sydd wedi eu creu i leihau allyriadau CO₂ sy'n cael eu rhyddhau i'r amgylchedd.

Rydym wedi lleihau nifer yr argraffyddion ar draws ein swyddfeydd, yn rhannol er mwyn defnyddio llai o egni ac i leihau’r ôl troed carbon sy’n gysylltiedig â rhedeg a chynnal a chadw dyfeisiau lluosog. Mae cael llai o argraffyddion hefyd yn annog arferion argraffu mwy ystyrlon, sy’n defnyddio llai o bapur ac inc, gan helpu i ddiogelu adnoddau a chyfyngu effeithiau anuniongyrchol cynhyrchu a gwastraff ar ecosystemau.

Ym mis Hydref 2025, unodd CGA â Chyngor Caerdydd, yn rhan o’n rhaglen lles, i gynnig cyfle i staff gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli yng Ngwarchodfa Natur Leol Howardian. Fe wnaeth cydweithwyr helpu i glirio a thorri ardaloedd â gordyfiant yn ôl er mwyn gwneud y llwybrau’n fwy hygyrch. Yna, defnyddiwyd y toriadau i adeiladu ‘clawdd marw’, gan greu cynefin gwerthfawr i bryfed a bywyd gwyllt arall. Hefyd, cymerodd y tîm gymryd ran mewn amrywiaeth o dasgau cadwraeth eraill, gan gynnwys rheoli llystyfiant, cribinio gwelyau cyrs, a chasglu sbwriel. Helpodd y gweithgareddau hyn i gefnogi bioamrywiaeth leol, a hefyd annog cydlyniad a lles tîm trwy ganiatáu i gydweithwyr dreulio amser gyda’i gilydd mewn amgylchedd naturiol, bod yn actif a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r amgylchedd lleol.

Amcan NRAP 6: Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion

Mae gan CGA fframwaith clir o bolisïau, amcanion, dangosyddion perfformiad a threfniadau monitro sy’n cefnogi ein hymrwymiadau amgylcheddol:

  • caiff cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredol ei fonitro trwy adroddiadau adolygiadau chwarterol sy’n cael eu rhannu gydag aelodau’r Cyngor, gan sicrhau tryloywder ac atebolrwydd
  • adrodd ar gynnydd yn gysylltiedig ag amcanion sy’n berthnasol i gynaliadwyedd amgylcheddol yn ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol bob blwyddyn, gan gynnig trosolwg sefydliadol o berfformiad a gwelliant
  • mae Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol CGA yn gyfrifol am roi camau gweithredu ar fioamrywiaeth ar waith a nodi cyfleoedd am gamau pellach
  • mae’r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn adolygu a monitro cydymffurfedd â’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 yn flynyddol
  • mae staff yn cael eu hannog a’u cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth trwy Bolisi Gwirfoddoli CGA

Adolygiad o’r ddyletswydd a6

Mae Cynllun Strategol 2025-28 CGA, ynghyd â’r cynlluniau gweithredol ategol a gynhyrchir yn flynyddol, yn darparu fframwaith clir ar gyfer gwreiddio’r ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau Adran 6 mewn blaenoriaethau sefydliadol. Er nad yw swyddogaethau rheoleiddio craidd CGA yn ymwneud yn uniongyrchol â rheoli tir, mae’r ddyletswydd wedi cryfhau ein ffocws ar gynaliadwyedd amgylcheddol ar draws gwasanaethau corfforaethol, caffael, ymgysylltu â staff, a gwneud penderfyniadau gweithredol.

Mae’r ddyletswydd Adran 6 hefyd wedi atgyfnerthu ein dealltwriaeth sefydliadol o’r rôl y gall sefydliad swyddfa ei chwarae wrth gefnogi bioamrywiaeth trwy ei ymddygiadau, ei bolisïau a’i bartneriaethau. Adlewyrchir hyn mewn gweithredoedd i leihau gwastraff a gwella ailgylchu, datgarboneiddio a gyflawnir trwy weithio hybrid a gwrandawiadau dros y we, cymhwyso egwyddorion caffael moesegol a chynaliadwy, gweithgareddau codi ymwybyddiaeth staff, a chymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth, fel yr amlinellir mewn mannau eraill yn yr adroddiad hwn.

Er gwaethaf y cynnydd yma, rydym yn cydnabod bod angen parhau i wella i gynnwys ystyriaethau bioamrywiaeth yn fwy cyson mewn penderfyniadau a wnaed ar draws y sefydliad, ac i gryfhau sut mae effeithiau amgylcheddol, cadarnhaol a negyddol, yn cael eu mesur a'u hadrodd.

Byddwn hefyd yn atgoffa staff o'r hyfforddiant sydd ar gael iddynt ar ymwybyddiaeth amgylcheddol, a'u hannog i gymryd rhan.

Byddwn yn parhau i nodi unrhyw gamau ychwanegol y gall CGA eu cymryd, wedi eu hysbysu gan arfer gorau o lefydd eraill, a gwella ein dealltwriaeth o (a'n gallu i dystiolaethu) ein heffaith ar fioamrywiaeth, gan gydnabod y rôl mae'n chwarae yn llunio diwylliant y sefydliad, a chefnogi cynaladwyedd amgylcheddol yn yr hirdymor.