Yn ein Dosbarth Meistr 2025 fe gawsom gwmni y niwrowyddonydd, darlithydd, awdur, blogiwr, cyfathrebwr gwyddoniaeth, a'r comedïwr, Dr Dean Burnett.
Yn y digwyddiad arbennig yma, fe wnaeth Dean archwilio sut mae'r ymennydd sy'n datblygu yn gweithio, a sut gall deall ei brosesau greu cyfleoedd gwerthfawr mewn addysg.
Fe fu’n trafod sut mae'r ymennydd yn datblygu ar oedrannau gwahanol, a sut mae'r datblygiad yma'n llywio ymddygiad, meddwl, mynegiant emosiynol, a gallu gwybyddol.
Edrychodd Dean hefyd ar y ffactorau allweddol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad yr ymennydd mewn lleoliad addysgol, yn bennaf presenoldeb yn yr ysgol, effeithiau hirdymor pandemig COVID-19 a chyfnodau clo, effaith chwaraeon ac anafiadau i'r pen, a rôl technoleg, a'r cyfryngau cymdeithasol.
Daeth y digwyddiad i ben gyda sesiwn holi ac ateb lle. Rydym wedi rhyddhau podlediad gyda Dr Dean Burnett yn cynnwys y cwesitynau na chafodd eu hateb yn ystod y digwyddiad.
Lawrlwythwch y cyflwyniad a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad.
Bydd fideo o’r digwyddiad ar gael cyn hir.