Rhian Williams – 15 Ionawr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ionawr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 14 ac 15 Ionawr 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athrawes ysgol, Mrs Rhian Williams.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel athrawes cemeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, bod Mrs Williams ar 9 Mai 2023, wedi mynychu'r ysgol, yfed alcohol, a chychwyn dysgu dosbarth tra ei bod o dan ddylanwad alcohol.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mrs Williams oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori athro ysgol. Penderfynodd hefyd na fyddai Mrs Williams yn cael gwneud cais i'w hadfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 2 flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mrs Williams wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 15 Ionawr 2027, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mrs Williams yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.