Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi pennod ddiweddaraf ei bodlediad, Sgwrsio gyda CGA, sy’n archwilio rôl hollbwysig addysg amgylcheddol o ran ffurfio dyfodol dysgu yng Nghymru.
Mae’r bennod wedi’i llywyddu gan Bethan Stacey, Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi CGA ac mae’n cynnwys Dr Verity Jones (Prifysgol Gorllewin Lloegr) a Sharon Davies (Pennaeth, Ysgol Maenorbŷr), sy’n rhannu eu mewnwelediadau ar integreiddio’r amgylchedd a chynaliadwyedd mewn addysg.
Yn ystod y recordiad, mae’r gwesteion yn sôn am pam mae addysg amgylcheddol yn rhan allweddol o Gwricwlwm i Gymru, sut gall ysgolion ymwreiddio cynaliadwyedd mewn dysgu bob dydd, pwysigrwydd partneriaethau, rhwydweithiau a lles emosiynol mewn addysg am yr hinsawdd, ynghyd â strategaethau addysgu ymarferol, o ddysgu yn yr awyr agored i arloesi digidol.
Wrth gyhoeddi’r bennod, dywedodd Bethan Stacey, “P’un a yw eich lleoliad wedi’i leoli mewn ystafell ddosbarth ai peidio, mae’r bennod hon yn amlygu sut gall addysg amgylcheddol feithrin meddwl beirniadol, gwydnwch a chyfrifoldeb.
“Mae ein gwesteion yn archwilio ffyrdd creadigol i ymwreiddio’r amgylchedd mewn ymarfer o ddydd i ddydd, a sut gall hynny rymuso dysgwyr a phobl ifanc ledled Cymru â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus a llywio heriau’r hinsawdd mewn ffordd ystyrlon.”
Mae Dr. Verity Jones yn Athro Cyswllt mewn Addysg sy’n arbenigo mewn dyfodol cynaliadwy, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Yn ei phapur ymchwil, Environmental Education and the new curriculum for Wales, mae’n gwerthuso rhaglen addysg, gan archwilio rhwystrau a chyfleoedd mewn datblygiad proffesiynol, y gallu i fanteisio ar adnoddau arbenigol, defnyddio technoleg, a phartneriaethau o fewn fframwaith addysg Cymru. Mae hefyd wedi datblygu deunyddiau addysg ar gyfer, ymhlith eraill, y BBC, Nature England, CBAC, Canolfan y Dechnoleg Amgen a Fashion Revolution.
Sharon Davies yw pennaeth Ysgol Maenorbŷr, a oedd yn bartner arweiniol ym mhapur ymchwil Dr Jones. Mae’r ysgol wedi ennill nifer o wobrau amgylcheddol, gan gynnwys gwobr platinwm Eco‑sgolion a’r wobr efydd eduCCate Global gyntaf yng Nghymru ar gyfer llythrennedd hinsawdd. Mewn arolygiad Estyn yn 2023, nodwyd bod yr ysgol yn “gwneud defnydd da o’r ardal leol i ddarparu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu”.
Mae’r bennod hyn, ynghyd â phob pennod flaenorol o Sgwrsio gyda CGA, ar gael i wrando arnynt nawr drwy wefan CGA, neu drwy’r rhan fwyaf o ddarparwyr podlediadau.