I nodi 10fed Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, mae CGA wedi cyhoeddi pennod arbennig o’i bodlediad, yn archwilio’r rhwystrau, y cyfleoedd a’r cymorth sydd ar gael i fenywod a merched sy’n dilyn gyrfaoedd mewn STEM.
Er gwaethaf perfformiad cynnar cryf mewn pynciau STEM, mae ymchwil yn dangos dirywiad mewn ymgysylltiad ymhlith merched mewn TGAU a Safon Uwch, yn enwedig mewn ffiseg a chyfrifiadura. Yn y bennod ddiweddaraf o Sgwrsio gyda CGA, mae’r panel yn ymchwilio i’r rhesymau y tu ôl i’r duedd hon ac yn trafod atebion i addysgwyr, diwydiant ac unigolion yn yr un modd.
Mae Dr Anita Shaw (Prosiect Peirianneg y Cymoedd), Vera Ngosi-Sambrook (STEM Cymru), a Lydia Davies (Addysgwyr Cymru) yn ymuno â’r cyflwynydd, Bethan Stacey. Gyda’i gilydd, maent yn archwilio’r heriau sy’n wynebu menywod a merched mewn STEM, yn amlygu rôl hanfodol modelau rôl gweladwy mewn ffurfio dyheadau gyrfa, ac yn trafod y llwybrau amrywiol i yrfaoedd STEM, yn cynnwys addysgu, a’r cymorth sydd ar gael i’r rheiny sy’n ystyried dilyn y llwybr hwn.
Ochr yn ochr â phwysigrwydd cynrychiolaeth, mae’r panel hefyd yn archwilio camau ymarferol i gynnal ymgysylltiad merched mewn STEM, fel meithrin partneriaethau diwydiant a darparu amlygrwydd cynnar i gymwysiadau byd go iawn. Maent hefyd yn trafod sut gall ysgolion a busnesau gydweithio i bontio’r bwlch rhwng addysg a diwydiant, gan sicrhau bod pobl ifanc yn gweld perthnasedd pynciau STEM mewn bywyd pob dydd.
Wrth i’r bennod gael ei rhyddhau, dywedodd Bethan Stacey, “Thema amlwg trwy gydol y sgwrs oedd y syniad am ‘ddod o hyd i bobl sy’n debyg i chi’, gan glymu ynghyd bwysigrwydd mentoriaeth, cymorth gan gymheiriaid a chynrychiolaeth mewn STEM. I lawer o ferched ifanc, bydd y rôl hanfodol honno’n cael ei llenwi gan eu hathrawon.
“Yn y bennod hon, rydyn ni’n rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i’n cofrestreion i sut gallan nhw gefnogi eu dysgwyr i dyfu a chynnal diddordeb mewn STEM, yn ogystal â chynnig ysbrydoliaeth a chyngor ymarferol i ddysgwyr a phobl ifanc ar lywio’u teithiau eu hunain hefyd”.
Mae’r bennod hon, ynghyd â holl benodau blaenorol Sgwrsio gyda CGA ar gael i wrando arnynt nawr trwy wefan CGA, neu drwy’r rhan fwyaf o ddarparwyr podlediadau.