Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Gynllun Strategol 2024-27 a’i Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28.
Mae’r ddwy ddogfen yn amlinellu sut bydd rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru’n cyflawni ei swyddogaethau statudol craidd yn effeithiol, yn effeithlon ac yn gynaliadwy, gan sicrhau cydraddoldeb a thegwch drwyddi draw.
Caiff blaenoriaethau ac amcanion CGA ar gyfer y tair blynedd nesaf, yn unol â’i rôl a’i gylch gwaith statudol, eu cynnwys yng Nghynllun Strategol 2024-27. Hefyd, mae’n pwysleisio gweledigaeth CGA, sef bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, dibynadwy, sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau o fewn y gweithlu addysg yng Nghymru.
Yn cyd-fynd â hyn yn agos, nod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw adeiladu ar y cynnydd a gyflawnwyd hyd yn hyn ac mae’n esbonio sut bydd CGA yn gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth trwy bum amcan strategol uchelgeisiol.
Adeg lansio’r ddau gynllun, dywedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA, “Gyda thros 90,000 o ymarferwyr addysg wedi’u cofrestru gyda ni erbyn hyn, mae’n hanfodol mai cofrestru a rheoleiddio cadarn yw ein blaenoriaeth o hyd.
“Fodd bynnag, mae’r cynlluniau hyn yn mynd ymhellach. Maent yn amlinellu sut byddwn yn parhau i hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg trwy fentrau fel Addysgwyr Cymru, darparu arweiniad ac adnoddau i’n cofrestreion, a chynnal a chryfhau ymhellach ein presenoldeb mewn grwpiau a phwyllgorau cenedlaethol allweddol, gan gynnig tystiolaeth a chyngor cadarn.
“Mae’r cynlluniau hyn yn deillio o gydweithredu, ymgynghori a myfyrio helaeth, ac amlinellant ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn glir, gan amlygu amcanion a mentrau allweddol a fydd yn llywio ein hymdrechion.”
Datblygwyd y cynlluniau hyn mewn ymgynghoriad â chofrestreion, rhanddeiliaid ar draws y sector addysg ehangach, y cyhoedd, ac aelodau Cyngor a staff CGA.
Maent ar gael i’w darllen ar wefan CGA ynghyd â chyfres lawn o ddogfennau corfforaethol.