CGA / EWC

About us banner
Cyfle i ddweud eich dweud am y diwygiadau arfaethedig i’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
Cyfle i ddweud eich dweud am y diwygiadau arfaethedig i’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio ymgynghoriad ar ddrafft diweddaredig o’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.

Mae’r Cod yn ddogfen allweddol. Mae’n datgan yn glir i gofrestreion CGA y prif safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol da y mae disgwyl i bob un ohonynt eu cynnal er mwyn parhau i gofrestru. Hefyd, mae’n galluogi dysgwyr a phobl ifanc, a phawb sy’n ymwneud â’u haddysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn enwedig rhieni/gwarcheidwaid, i wybod beth y gallant ei ddisgwyl gan gofrestreion.

Wrth lansio’r ymgynghoriad, dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn, “Mae disgwyl teg bod addysgwyr yng Nghymru’n cynnal y safonau uchaf. Ers ei gyflwyno, mae’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol wedi rhoi arweiniad clir i ymarferwyr ac i’r cyhoedd ar beth yw’r safonau hynny.

“Yn rhan o’n gofyniad deddfwriaethol i adolygu’r Cod, rydym ni wedi gwneud rhai mân ddiwygiadau, ac rydym yn croesawu adborth ar y newidiadau arfaethedig hyn.

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i CGA, dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gyhoeddi cod. Hefyd, mae’r Ddeddf yn gofyn bod CGA yn adolygu ac yn diwygio’r Cod o fewn tair blynedd i’w gyhoeddi, neu bryd bynnag y mae categori cofrestru newydd yn cael ei ychwanegu. Adolygwyd fersiwn bresennol y Cod ddiwethaf ym mis Mai 2024 yn sgil cyflwyno categorïau newydd i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg.

I weld y Cod drafft ac i gyflwyno ymateb, ewch i wefan CGA.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 16:00 ddydd Gwener, 28 Mawrth 2025.