CGA / EWC

About us banner
CGA yn croesawu cynlluniau i gryfhau gwaith ieuenctid yng Nghymru
CGA yn croesawu cynlluniau i gryfhau gwaith ieuenctid yng Nghymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru sy’n gofyn am safbwyntiau ar fframwaith statudol arfaethedig ar gyfer gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Yn ei ymateb, tynnodd y rheolydd annibynnol, proffesiynol sylw at y cysylltiad clir rhwng y diffiniad o waith ieuenctid, sy’n ffurfio rhan o’r ymgynghoriad, a chofrestru â CGA. Dilynodd hyn trwy alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n sail i gofrestriadau CGA yn adlewyrchu unrhyw ddiffiniad newydd, ac ymestyn y gofynion cofrestru i gynnwys ymarferwyr cyflogedig heb gymhwyster sy’n ymgymryd â gwaith ieuenctid.

O ran yr ail bwynt hwn, pwysleisiodd CGA risg diogelu posibl yn gysylltiedig ag ymarferwyr cyflogedig heb gymhwyster yn ymgymryd â gwaith ieuenctid, ond nad oes angen iddynt gofrestru. Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y pwnc hwn yn flaenorol, nid yw’r anomaledd hwn wedi’i ddatrys o hyd.

Yn ogystal â’r pwyntiau hyn, roedd yr ymateb hefyd:

  • yn cefnogi proffesiynoldeb a chynllunio strategol trwy groesawu’r pwyslais ar gymwysterau a datblygu’r gweithlu, yn ogystal â chyflwyno cynlluniau strategol gwaith ieuenctid i sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel
  • yn pwysleisio’r angen am gyllid sicr a chysondeb, gan amlygu bod sefydlogrwydd hirdymor y gweithlu yn dibynnu ar fuddsoddiad cynaliadwy a chynllunio a gwerthuso clir a chyson ar draws awdurdodau lleol
  • yn cymeradwyo dull sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc, gan gefnogi cyflwyno hawl i waith ieuenctid, cynnwys pobl ifanc wrth gynllunio gwasanaethau a phwysigrwydd teilwra darpariaeth i fodloni anghenion lleol
  • yn galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg gryfach, gan awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn ehangu gwasanaethau ieuenctid dwyieithog, yn recriwtio mwy o weithwyr ieuenctid Cymraeg eu hiaith ac yn cydweithio â sefydliadau’r iaith Gymraeg i gryfhau hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol

Daeth CGA â’i ymateb i ben trwy fynegi ei awydd i gydweithio â Llywodraeth Cymru i roi’r fframwaith ar waith, gan sicrhau bod gwaith ieuenctid yn parhau i fod yn wasanaeth hanfodol, cynhwysol a phroffesiynol i bobl ifanc ledled Cymru.

Am fwy o wybodaeth am rôl CGA mewn rheoleiddio gwaith ieuenctid yng Nghymru, ewch i'r wefan.