Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (y Pwyllgor) ar Fil Iaith Gymraeg ac Addysg (Cymru).
Rhoddwyd cyfraniadau yn ysgrifenedig, a thrwy dystiolaeth lafar a gyflwynwyd yn uniongyrchol i'r Pwyllgor.
Yn ei ymateb, fe wnaeth y rheoleiddir annibynnol, proffesiynol gefnogi amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer dwyieithrwydd a'r targed uchelgeisiol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fodd bynnag fe wnaeth gydnabod maint yn her, o ystyried data CGA (o'r Gofrestr o Ymarferwyr Addysg), sy'n nodi bod y gyfran o'r gweithlu sy'n gallu addysgu drwy'r Gymraeg wedi aros yn gyson dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, mae CGA yn gofyn bod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o ddadansoddi ar yr effeithiau posibl (gan gynnwys i lwyth gwaith addysgwyr), ac i roi cefnogaeth ariannol ac ymarferol i gefnogi recriwtio a dysgu proffesiynol. Heb y mesurau hyn, mae risg y byddai'r Bil yn gorlethu'r system heb gyflawni'r amcanion.
Fe wnaeth CGA hefyd atgyfnerthu ei ymrwymiad i gefnogi amcanion dwyieithrwydd Llywodraeth Cymru trwy ei rôl statudol gan gynnwys casglu a dadansoddi data o'r Gofrestr, achredu a monitro darpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), hyrwyddo gyrfaoedd mewn addysg Gymraeg, a darparu cyngor strategol i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid.
Darllen yr ymateb yn llawn, ar wefan CGA.