Fel rheoleiddiwr, un o'n swyddogaethau craidd yw ymchwilio a gwrando ar honiadau a allai fwrw amheuaeth dros briodoldeb cofrestrai i ymarfer.
Mae ein hail Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer yn nodi sut rydym wedi ymgymryd â'r gwaith hwn i ddiogelu buddiannau dysgwyr, rhieni a'r cyhoedd.
Uchafbwyntiau'r adroddiad
Achosion a derfynwyd
Yn 2015, aildrefnwyd CyngACC yn sgil deddfwriaeth i greu Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ac ymestynnwyd y Gofrestr Ymarferwyr Addysg i gynnwys nid yn unig athrawon ysgol, ond hefyd athrawon addysg bellach (2015), staff cymorth mewn ysgolion a cholegau (2016), ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid (2017). Yn ôl y disgwyl, ers cwblhau cofrestru pob un o'r saith grŵp yn 2017, rydym wedi gweld cynnydd pob blwyddyn yn nifer yr achosion a derfynir.
Terfynwyd 85% o achosion o fewn 8 mis ac fe'u terfynwyd, ar gyfartaledd, o fewn 4.7 mis.
Demograffeg
Er mai menywod yn bennaf sydd yn y gweithlu addysg yng Nghymru (79%), mae ein hadroddiad yn dangos bod dosbarthiad y rhywiau yn ein gwaith achosion eleni bron yn gyfartal (50.5% dynion a 49.5% menywod), a phobl 40 i 49 oed oedd yn rhoi cyfrif am y categori oedran mwyaf cyffredin.
Categori
Mae amrywiad yn nifer y cyfeiriadau oddi wrth bob grŵp / sector o gofrestreion, gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn cael cyfran fwy o gyfeiriadau yn 2019/20 gan sectorau Addysg Bellach ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith o gymharu â sector yr ysgolion.
Ffynhonnell atgyfeiriadau
Caiff y rhan fwyaf o atgyfeiriadau eu gwneud gan gyflogwyr blwyddyn ar ôl blwyddyn. Fodd bynnag, mae'r rhaniad canrannol wedi newid eleni yn dilyn cynnydd o 10% yn yr atgyfeiriadau gan yr Heddlu.
Darllenwch ein Hadroddiad Priodoldeb i Ymarfer ar gyfer 2019-20