Mae’r diweddaraf, sy’n rhan o gyfres o ganllawiau, wedi’i anelu at bobl mewn rolau arwain uwch a chanolig, ac mae’n amlygu rhai awgrymiadau defnyddiol i helpu llywio barnau a phenderfyniadau proffesiynol cofrestreion o ddydd i ddydd.
Yn ogystal â’r canllawiau ymarfer da, mae CGA hefyd yn cynnig hyfforddiant mewnol yn uniongyrchol i gofrestreion a chyflogwyr ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys y Cod, cofrestru a defnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol, yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau a digwyddiadau cymorth.
Heddiw (26 Awst), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2021-22, yn amlinellu sut mae’r sefydliad wedi gweithio i ddiogelu buddiannau dysgwyr a phobl ifanc, rhieni, gwarcheidwaid a’r cyhoedd.
Fel rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru, un o swyddogaethau craidd CGA yw ymchwilio i’r nifer bach o honiadau a allai fwrw amheuaeth ynghylch priodoldeb cofrestrai i ymarfer, a chynnal gwrandawiad iddynt.
Mae’r adroddiad diweddaraf yn cynnwys data ar y mathau o achosion y mae CGA yn delio â nhw (gan gynnwys pobl sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd a phobl sy’n gwneud cais i gofrestru), tueddiadau o flwyddyn i flwyddyn a phroffiliau’r bobl sy’n gysylltiedig ag achosion.
Heddiw (19 Awst 2022), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ffigurau ar gyfer yr athrawon dan hyfforddiant a enillodd Statws Athro Cymwysedig (SAC) yng Nghymru y mis Awst hwn.
Mae’r ffigurau’n dangos bod cyfanswm o 1,236 o unigolion wedi cymhwyso fel athrawon yn 2021-22, naill ai ar ôl cwrs addysg gychwynnol athrawon amser llawn yng Nghymru a gyflwynwyd gan bartneriaeth prifysgol neu, am y tro cyntaf, trwy raglen ran-amser neu raglen â chyflog a gyflwynwyd gan Bartneriaeth y Brifysgol Agored.
Dyma rai ffeithiau a ffigurau allweddol am athrawon newydd gymhwyso eleni:
Rhaglenni amser llawn
Cymhwysodd 1,131 o hyfforddeion yn athrawon newydd trwy raglenni addysg gychwynnol athrawon amser llawn
Cafodd 55.4% ohonynt hyfforddiant cynradd
Cafodd 44.6% ohonynt hyfforddiant uwchradd
Roedd 72.6% yn fenywaidd
Roedd 86.0% o dan 30 oed
Rhaglenni rhan-amser neu raglenni â chyflog
Enillodd 105 o hyfforddeion statws athro cymwysedig trwy raglenni addysg gychwynnol athrawon rhan-amser neu â chyflog
Cafodd 72.4% ohonynt hyfforddiant cynradd
Cafodd 27.6% ohonynt hyfforddiant uwchradd
Roedd 81.0% yn fenywaidd
Roedd 37.2% o dan 30 oed
Mae’r holl raglenni addysg gychwynnol athrawon sydd ar waith yng Nghymru yn cael eu hachredu gan CGA.
Heddiw, mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022.
Mae’r ddogfen, a osodwyd gerbron y Senedd, yn manylu ar y gwaith a wnaed gan CGA trwy gydol blwyddyn ariannol 2021-22 ac yn amlinellu ei gyflawniadau allweddol.
Er gwaethaf effaith barhaus pandemig COVID-19, parhaodd CGA i weithredu yn ôl safon uchel, gan gyflawni ei rôl fel rheoleiddiwr annibynnol yn diogelu dysgwyr er budd rhieni/gwarcheidwaid a’r cyhoedd.
Mae uchafbwyntiau yn yr adroddiad eleni yn cynnwys:
y nifer uchaf o geisiadau i gofrestru yn ein hanes ac, yn ei dro, cynnydd yn y nifer sydd wedi cofrestru gyda ni, yn enwedig ymhlith staff cymorth dysgu
Enillodd Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen gydnabyddiaeth am eu darpariaeth gwaith ieuenctid o ansawdd uchel yr wythnos hon, trwy ennill y Marc Ansawdd Arian ac Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA)), yn ddyfarniad cenedlaethol sy’n dangos rhagoriaeth sefydliad. Er mwyn ennill yr achrediad, rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid asesu eu hunain yn erbyn cyfres o safonau ansawdd a phasio asesiad allanol.
Yn dilyn eu hasesiad a barodd wythnos, dangosodd Torfaen fod eu gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan weithlu profiadol a chymwys, a oedd yn dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn defnyddio cysylltiadau cadarn â phartneriaid, yn defnyddio adnoddau yn greadigol ac yn cynnwys pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau.
Meddai David Williams, Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen, “Mae derbyn y dyfarniad hwn yn gymaint o anrhydedd ac rydym mor ddiolchgar i bawb sy’n sefyll ochr yn ochr â ni i’w wireddu.
“Mae’n anrhydedd i mi gael gweithio ochr yn ochr â thîm mor anhygoel o weithwyr ieuenctid ymroddedig, sy’n gweithio’n ddiflino ac yn ymrwymo i gynnig y gwasanaeth gorau y gallwn ni. Yn anad dim, serch hynny, mae’r dyfarniad hwn i’r bobl ifanc sy’n ein hysbrydoli, ein herio, yn gwneud i ni chwerthin a chrio ac sy’n caniatáu i ni fyw bywyd gyda nhw.”
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen, a arferai fod â Marc Ansawdd Arian ar gyfer Gwaith Ieuenctid, yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ac yn cynnig darpariaeth agored a darpariaeth dargedig. Mae dros 2,000 o bobl ifanc wedi troi at y ddarpariaeth yn y 12 mis diwethaf, gyda llawer ohonynt yn mynd ymlaen i ddatblygu eu hyder a’u dyheadau, cyflawni cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, rhoi cynnig ar brofiadau newydd sy’n anghyfarwydd iddynt a gwneud ffrindiau oes.
Meddai Andrew Borsden, Swyddog Datblygu’r Marc Ansawdd, “Mae Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen wedi ennill y Marc Ansawdd Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn gwbl haeddiannol ar ôl cyfnod asesu trylwyr. Roedd ansawdd y gwaith ieuenctid sy’n cael ei gynnig yn rhagorol ac roedd ymdrech, brwdfrydedd a symbyliad staff y tîm yn heintus ac ysbrydoledig fel ei gilydd.
“Fe wnaeth yr hyn a welont ac a glywont gan bobl ifanc a phartneriaid argraff fawr ar yr aseswyr. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”