Ar 1 Medi 2019, daeth Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig CGA i rym. Mae'r Cod yn penodi'r safonau a ddisgwylir gan holl gofrestreion CGA sy'n gweithio ym maes addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Bwriedir iddo cefnogi ac arwain eu hymddygiadau a dyfarniadau fel proffesiynolion.
Wrth ddilyn y Cod, mae cofrestreion yn ymrwymo i gynnal y pum egwyddor allweddol, sef:
- Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol
- Unplygrwydd Proffesiynol
- Cydweithio
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol
- Dysgu Proffesiynol