Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi mewnwelediadau clir ac ymarferol i'r disgwyliadau a'r safonau a ddisgwylir gennych yn eich arfer proffesiynol, a'ch bywyd personol.
Yn seiliedig ar esiamplau go-iawn maent yn dangos yr heriau cyffredin a'r peryglon all arwain at wrandawiad priodoldeb i ymarfer. Drwy amlygu'r sefyllfaoedd hyn, ein bwriad yw cynnig pwyntiau dysgu gwerthfawr i'ch helpu i gynnal y safonau uchaf yn eich proffesiwn, a diogelu eich cofrestriad.
Ffugio gwaith dysgwyr
Yn yr astudiaeth achos hon, edrychwn ar enghraifft o wahardd cofrestrai yn sgil profi achos o ymddygiad proffesiynol annerbyniol yn gysylltiedig â ffugio gwaith dysgwyr.
Crynodeb o’r achos
Cafodd CGA atgyfeiriad gan gyflogwyr yn sgil diswyddo aelod cofrestredig o staff. Diswyddwyd y cofrestrai gan eu bod wedi ffugio gwaith dysgwyr trwy ei gwblhau eu hun. Hefyd, roeddent wedi lanlwytho’r gwaith fel tystiolaeth yn y broses gymhwyso.
Ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, gofynnwyd i’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer benderfynu p’un a brofwyd yr honiadau canlynol ai peidio, sef bod y cofrestrai:
- wedi cwblhau gwaith ar ran nifer o ddysgwyr gwahanol
- wedi llwytho’r gwaith i e-bortffolios y dysgwyr i’w hasesu, gan gyflwyno gwaith fel petai’n waith y dysgwyr, er nad dyna’r achos
- wedi cwblhau cofnod arsylwi a wnaeth ddatgan eu bod wedi arsylwi dysgwyr, er nad dyna’r achos
Ni fynychodd y cofrestrai y gwrandawiad na chael eu cynrychioli.
Ar ôl ystyried y Gweithdrefnau a Rheolau Disgyblu Priodoldeb i Ymarfer a chyngor gan gynghorydd cyfreithiol annibynnol, roedd y Pwyllgor yn fodlon y gallai’r gwrandawiad fynd yn ei flaen yn absenoldeb y cofrestrai.
Canfyddiadau’r Pwyllgor
Ystyriodd y Pwyllgor (gyda chefnogaeth cynghorydd cyfreithiol annibynnol drwyddi draw) y dystiolaeth a ddarparwyd iddo a ph’un a oedd yr honiadau, os cawsant eu profi, yn gyfystyr â chamymddwyn.
Canfu’r Pwyllgor fod ymddygiad y cofrestrai wedi torri polisïau a phrosesau eu cyflogwr ac wedi cael effaith andwyol ar ddysgwyr. Effaith hyn oedd bod eu hasesiadau wedi’u peryglu. Canfu’r Pwyllgor fod y cofrestrai wedi methu ymddwyn mewn ffordd ddibynadwy a’u bod wedi ymddwyn mewn ffordd anonest a heb unplygrwydd.
Penderfynodd y Pwyllgor osod Gorchymyn Gwahardd. Mae hyn yn golygu bod y cofrestriad yn cael ei ddileu am gyfnod amhenodol ac ni all yr unigolyn ymarfer mwyach yng Nghymru yn ei gategori cofrestru. Penderfynodd y Pwyllgor na fyddai’r cofrestrai’n gallu gwneud cais i’w ailystyried yn gymwys i’w gofrestru am gyfnod o 5 mlynedd.
Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
Yn yr achos hwn, roedd yr unigolyn wedi torri egwyddorion canlynol y Cod.
Mae cofrestreion:
1.1 yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel model rôl a ffigur cyhoeddus, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo
1.4 yn meddu ar ddyletswydd gofal dros lesiant moesol ac addysgol dysgwyr
2.1 yn atebol am eu hymddygiad
2.2 yn ymddwyn yn onest, a chydag unplygrwydd, yn arbennig mewn perthynas ag asesu a thasgau’n gysylltiedig ag arholiadau
4.1 yn gwybod, yn defnyddio, ac yn cymryd cyfrifoldeb dros safonau proffesiynol perthnasol yn eu proffesiwn penodol drwy gydol eu gyrfa
4.2 yn gwybod, yn deall, ac yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau, a chanllawiau cyfredol sy’n berthnasol i’w hymarfer
Gwersi a ddysgwyd
Mae mesur cynnydd addysgol dysgwyr a phobl ifanc yn rhan bob dydd o fywyd ym mhob sector addysg a hyfforddiant. Felly, mae’n debygol y bydd mwyafrif helaeth y cofrestreion yn ymwneud rywsut â’r maes hwn yn ystod eu gyrfa.
Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, ceisiwch gyngor a chymorth ar y cyfle cyntaf posibl gan eich rheolwr llinell, undeb llafur, cymdeithas broffesiynol neu, ar y lleiaf, rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo os cewch eich hun mewn unrhyw rai o’r sefyllfaoedd canlynol.
Rydych chi:
- yn methu ymdopi â’ch cyfrifoldebau a/neu eich llwyth gwaith yn gysylltiedig ag arholi neu asesu
- yn ystyried cymryd camau a all eich peryglu fel gweithiwr proffesiynol
- yn teimlo dan bwysau i dorri corneli wrth gwblhau unrhyw ran o ddogfen swyddogol, gan gynnwys llofnodion
- yn teimlo na allwch chi, neu na ddylech chi, lofnodi unrhyw fath o ddatganiad yn ymwneud ag arholiadau ac asesiadau
- o’r farn bod y canllawiau gorfodol y mae disgwyl i chi a’ch cydweithwyr eu dilyn wedi’u torri
- yn meddwl bod unplygrwydd cofnodion sy’n gysylltiedig ag arholi neu asesu wedi cael eu peryglu
Mae dweud wrth rywun yn gynnar fod problem yn hanfodol.
Deunydd darllen a chanllawiau pellach
Camliwio cymwysterau
Yn yr astudiaeth achos hon, rydym yn bwrw golwg ar enghraifft o wahardd cofrestrai ar ôl profi achos o ymddygiad proffesiynol annerbyniol yn gysylltiedig â chamliwio’u cymwysterau.
Crynodeb o’r achos
Cafodd CGA atgyfeiriad gan gyflogwr ar ôl diswyddo aelod cofrestredig o staff. Diswyddwyd y cofrestrai oherwydd darganfuwyd eu bod wedi camliwio eu cymwysterau wrth wneud cais am waith. Wedi hynny, daeth i’r amlwg fod y cofrestrai wedi camliwio yn yr un ffordd i gyn-gyflogwyr eraill, ac wedi darparu gwybodaeth anghywir, wedi’i ffugio, i CGA.
Ar ôl clywed yr holl dystiolaeth, gofynnwyd i’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer benderfynu p’un a brofwyd yr honiadau canlynol ai peidio, sef bod y cofrestrai:
- wedi darparu gwybodaeth anghywir i gyflogwyr a CGA wrth wneud cais am waith/cofrestru
- wedi cyflwyno llythyr canlyniad disgyblu wedi’i ddiwygio i ddarpar gyflogwr i awgrymu eu bod wedi cael cosb ddisgyblu lai difrifol ar gyfer ymddygiad blaenorol, nad oedd yn wir
- wedi cyflwyno tystysgrifau cymwysterau annilys i CGA
Nid oedd y cofrestrai wedi mynychu’r gwrandawiad, ac ni chynrychiolwyd ef ychwaith.
Ar ôl ystyried y Gweithdrefnau a Rheolau Disgyblu Priodoldeb i Ymarfer a chyngor gan gynghorydd cyfreithiol annibynnol, roedd y Pwyllgor yn fodlon y gallai’r gwrandawiad symud ymlaen yn ei absenoldeb.
Canfyddiadau’r Pwyllgor
Ystyriodd y Pwyllgor (gyda chefnogaeth cynghorydd cyfreithiol annibynnol drwyddi draw) y dystiolaeth a ddarparwyd iddo a ph’un a oedd yr honiadau, os cawsant eu profi, yn gyfystyr â chamymddwyn.
Nododd y Pwyllgor fod ymddygiad y cofrestrai’n cynnwys tair ysgol wahanol a’r CGA fel eu rheoleiddiwr, a’i fod wedi digwydd dros gyfnod o nifer o flynyddoedd. Penderfynodd fod eu hymddygiad yn gamarweiniol, yn anonest ac yn dangos diffyg unplygrwydd.
Penderfynodd y Pwyllgor fod angen Gorchymyn Gwahardd i amddiffyn dysgwyr, i gynnal safonau ymddygiad proffesiynol cywir, ac i gynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiwn addysg.
Mae Gorchymyn Gwahardd yn golygu bod y cofrestriad yn cael ei ddileu am gyfnod amhenodol ac ni all yr unigolyn ymarfer mwyach yng Nghymru yn ei gategori cofrestru. Penderfynodd y Pwyllgor na fyddai’r cofrestrai’n gallu gwneud cais i’w ailystyried yn gymwys i’w gofrestru am gyfnod o 5 mlynedd.
Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
Yn yr achos hwn, roedd yr unigolyn wedi torri egwyddorion canlynol y Cod.
Mae cofrestreion:
1.1 yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel model rôl a ffigur cyhoeddus, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo
2.1 yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol
2.2 yn ymddwyn yn onest, a chydag unplygrwydd, yn arbennig mewn perthynas â’r canlynol:
- rhinweddau, profiad, a chymwysterau personol
- geirdaon, datganiadau a wneir, ac wrth lofnodi dogfennau
- cyfathrebu gyda CGA, gan ei hysbysu am unrhyw euogfarn droseddol gofnodadwy, neu gyfyngiad a osodir ar eu hymarfer gan unrhyw gorff arall
- eu cyflogwr, ac adrodd unrhyw fater sy’n ofynnol gan delerau ac amodau eu cyflogaeth
4.1 Yn gwybod, yn defnyddio, ac yn cymryd cyfrifoldeb dros safonau proffesiynol perthnasol yn eu proffesiwn penodol drwy gydol eu gyrfa
Gwersi a ddysgwyd
Fel cofrestrai, nid yw eich ymrwymiad i unplygrwydd proffesiynol yn agored i drafodaeth. Mae ffugio gwybodaeth, neu gamliwio cymwysterau, yn fwriadol, yn dor ymddiriedaeth ddifrifol sy’n tanseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn ac yn peryglu eich gyrfa.
- Mae gonestrwydd yn hanfodol: gall camarwain cyflogwyr, cyrff rheoleiddio neu randdeiliaid eraill arwain at ganlyniadau difrifol, gan gynnwys gwaharddiad parhaol rhag ymarfer.
- Materion unplygrwydd: mae cynnal eich enw da proffesiynol yn golygu cyflwyno eich cymwysterau a’ch profiadau yn onest. Mae unrhyw wyro o’r safonau hyn yn peryglu ymddiriedaeth, a all effeithio ar y proffesiwn addysg cyfan.
- Canlyniadau anonestrwydd: mae’r achos hwn yn dangos bod anonestrwydd yn gallu arwain at dynnu rhywun o’r proffesiwn am gyfnod amhenodol, gan effeithio ar eich bywoliaeth a’ch enw da. Mae ymddwyn gydag unplygrwydd yn hanfodol i amddiffyn eich gyrfa a’r dysgwyr/pobl ifanc rydych chi’n eu gwasanaethu.
Darllen ychwanegol a chanllawiau
- Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
- Canllaw arfer da: Bod yn weithiwr proffesiynol agored a gonest
Rhagor o wybodaeth am ein gwaith priodoldeb i ymarfer.
Cyfathrebu amhriodol gyda dysgwr
Yn yr astudiaeth achos hon, edrychwn ar enghraifft o achos lle rhoddwyd cerydd i gofrestrai yn dilyn achos a brofwyd o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, yn ymwneud â’i ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol.
Crynodeb o’r achos
Cafodd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) atgyfeiriad gan gyflogwr ar ôl i aelod o staff cofrestredig gael ei ddiswyddo. Diswyddwyd y cofrestrai oherwydd y bu’n rhannu negeseuon personol, trwy Facebook Messenger, gyda chyn-ddysgwr.
Yn ystod y gwrandawiad hwn, gofynnwyd i’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer ystyried p’un a oedd yr honiadau canlynol wedi’u profi:
- bod yr unigolyn wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn amhriodol ac yn amhroffesiynol gyda chyn-ddysgwr sy’n blentyn o hyd
- o ganlyniad i’w ymddygiad, nad oedd yr unigolyn wedi cydymffurfio â hyfforddiant diogelu
Nid oedd y cofrestrai wedi mynychu’r gwrandawiad, ac ni chynrychiolwyd ef ychwaith.
Ar ôl ystyried y Gweithdrefnau a Rheolau Disgyblu Priodoldeb i Ymarfer a chyngor gan gynghorydd cyfreithiol annibynnol, roedd y Pwyllgor yn fodlon y gallai’r gwrandawiad symud ymlaen yn ei absenoldeb.
Canfyddiadau’r Pwyllgor
Ystyriodd y Pwyllgor (gyda chymorth cynghorydd cyfreithiol annibynnol drwy gydol yr achos) y dystiolaeth a ddarparwyd iddo a ph’un a fyddai’r cyhoedd o’r farn bod yr honiadau’n gyfystyr â chamymddwyn, o ystyried natur agored i niwed y dysgwyr dan sylw.
Canfu fod yr holl honiadau wedi’u profi a gosododd Gerydd ar gofrestriad yr unigolyn am gyfnod o ddwy flynedd. Roedd hyn yn golygu y byddai’n gallu parhau i weithio fel cofrestrai ar hyd cyfnod y Cerydd, ond y byddai’r Cerydd yn weladwy’n gyhoeddus i unrhyw un a fyddai’n chwilio’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg.
Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
Yn yr achos hwn, roedd yr unigolyn yn torri sawl un o egwyddorion y Cod, gan gynnwys:
1.1 yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel model rôl a ffigur cyhoeddus, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo
1.2 yn cynnal perthnasoedd â dysgwyr a phobl ifanc mewn modd proffesiynol, drwy:
- gyfathrebu â dysgwyr a phobl ifanc yn barchus, mewn ffordd sy’n briodol iddynt
- defnyddio pob math o ddull cyfathrebu mewn modd priodol a chyfrifol, yn arbennig y cyfryngau cymdeithasol
- cynnal ffiniau proffesiynol
2.1 yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol
2.4 yn glynu wrth safonau ymddygiad cyfreithlon, mewn modd sy’n cyd-fynd â bod yn aelod o’r proffesiwn addysg
4.2 yn gwybod, yn deall ac yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cyfredol sy’n berthnasol i’w hymarfer
4.3 yn gwybod, yn deall ac yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau diogelu cyfredol sy’n berthnasol i’w hymarfer
Gwersi a ddysgwyd
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn arf pwerus ac mae llawer ohonom yn eu defnyddio bob dydd i ffurfio a chynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol, rhannu newyddion, a chefnogi datblygiad proffesiynol. Ond i addysgwyr, mae cyfrifoldebau a risgiau penodol yn gysylltiedig.
Mae’r Cod yn amlinellu’n glir yr hyn a ddisgwylir gennych fel ymarferydd addysg ac mae yno i helpu i arwain eich crebwyll a’ch penderfyniadau.
Dyma rai pwyntiau pwysig i’w cofio wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
- Gwiriwch bolisïau a gweithdrefnau eich sefydliad – defnyddiwch sianeli cyfathrebu swyddogol a chytunedig yn unig.
- Parchwch gyfrinachedd – peidiwch â thrafod dysgwyr, pobl ifanc, rhieni, cydweithwyr, na’ch gweithle. A pheidiwch byth â rhannu gwybodaeth bersonol na chyfrinachol ar-lein, p’un a yw’n ymwneud â chi neu bobl eraill.
- Cynhaliwch ffiniau – weithiau, gall natur anffurfiol cyfryngau cymdeithasol gymylu’r ffiniau rhwng ein bywydau proffesiynol a phersonol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnal yr un ffiniau ag y byddech wrth ryngweithio all-lein.
- Byddwch yn barchus ac yn garedig – mae’r hyn rydych yn ei ddweud ar-lein yn adlewyrchu arnoch chi, eich cyflogwr, a’ch proffesiwn. Dylech drin pobl eraill â’r un cwrteisi ag y byddech petaech yn ymgysylltu wyneb yn wyneb.
- Ceisiwch osgoi cynnwys amhriodol – cofiwch, gall eich ymddygiad ar-lein arwain at ganlyniadau difrifol, gan gynnwys camau gweithredu troseddol neu sifil.
Nid yw’r safonau a ddisgwylir gennych yn newid ar-lein. Gall gweithredu’n broffesiynol bob amser helpu i sicrhau nad yw’ch cofrestriad yn destun amheuaeth.
Darllen ychwanegol a chanllawiau
- Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
- Canllaw arfer da: Defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol
- Gweminar Cyfryngau Cymdeithasol a’r Cod
- Animeiddiad: Y cod ar waith: cyfryngau cymdeithasol a’r Cod
Rhagor o wybodaeth am ein gwaith priodoldeb i ymarfer.