Cyflwyniad
A chithau’n weithiwr addysg proffesiynol cofrestredig, gall eich rôl greu effaith a bod yn foddhaus. Fodd bynnag, gall bod yn addysgwr fod yn heriol hefyd ac effeithio’n sylweddol ar eich lles eich hun ac ar les eich cydweithwyr. Felly, mae blaenoriaethu eich iechyd meddwl a’ch lles, a chefnogi’r bobl o’ch cwmpas chi, yn hanfodol.
Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ymarferol ar sut gallwch chi gefnogi eich iechyd meddwl a’ch lles chi, ac iechyd meddwl a lles eich cydweithwyr, yn unol â Chod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA (y Cod). Fe’i cynhyrchwyd mewn partneriaeth â chydweithwyr o Education Support, ac mae’n ategu ein canllaw ar wahân ar Gefnogi Iechyd meddwl a lles dysgwyr a phobl ifanc .
Gwybodaeth am Education Support
Mae Education Support yn elusen gofrestredig sydd wedi bod yn cefnogi lles y gweithlu addysg ers dros 148 o flynyddoedd. Mae ganddynt gyfuniad unigryw o arbenigedd mewn addysg ac iechyd meddwl. Mae hyn yn rhoi safbwynt ffres iddynt sy’n canolbwyntio’n llwyr ar eich anghenion chi, ac sydd wedi’i lywio gan yr heriau gwirioneddol yn ysgolion Cymru. Mae eu cylch gwaith yn cynnwys gweithio gydag ymarferwyr addysg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
A chithau wedi cofrestru gyda CGA, rydych chi’n ymrwymo i gynnal chwe egwyddor allweddol y Cod:
- cyfrifoldeb personol a phroffesiynol
- unplygrwydd proffesiynol
- cydweithio
- arweinyddiaeth
- gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol
- dysgu proffesiynol
O dan yr egwyddor allweddol gyntaf (cyfrifoldeb personol a phroffesiynol), datganir y dylai cofrestreion ‘reoli eu hiechyd, eu diogelwch a’u lles personol’ a bod yn ‘ymwybodol o gydweithwyr’.
Dylid darllen y canllaw hwn ochr yn ochr â’r polisïau lles penodol a fydd yn berthnasol yn eich gweithle (gan gynnwys polisïau’n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch, iechyd meddwl a lles, ac urddas yn y gwaith), y dylech fod yn gyfarwydd â nhw, hefyd.
Conglfeini iechyd meddwl a lles da
Mae tystiolaeth yn amlygu amrywiaeth o gamau ymarferol a all helpu i wella’ch iechyd meddwl a’ch lles. Rydym wedi ceisio amlygu rhai o’r conglfeini craidd a all eich helpu i deimlo’n hapusach ac yn iachach. Mae’r conglfeini hyn wedi’u seilio ar y ‘pum ffordd at les’, a nodwyd gan yr elusen iechyd meddwl, Mind.
- Cysylltu – meithrin perthnasoedd cadarn i’ch cefnogi eich hun ac i gefnogi’r bobl o’ch amgylch.
- Dewis ffyrdd iach o fyw – blaenoriaethu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, diet, ymarfer corff a gorffwys.
- Sylwi – bod yn ystyriol ac yn fyfyriol.
- Dysgu – cymryd rhan mewn dysgu gydol oes i hybu hunan-barch a gwydnwch.
- Rhoi – cefnogi pobl eraill i greu amgylchedd agored a chadarnhaol.
Cysylltu
Mae meithrin cysylltiadau â theulu, ffrindiau a chydweithwyr yn cryfhau eich rhwydwaith cefnogaeth. Mae bod yn agored am eich pryderon a’ch gwendidau eich hun yn annog pobl eraill i wneud yr un peth. Ni ddylech fyth deimlo ofn gofyn am gymorth, ac gall ceisio help mor gynnar â phosibl helpu heriau iechyd meddwl rhag gwaethygu.
I gael cymorth cyfrinachol neu arbenigol, mae tudalennau olaf y canllaw hwn yn cynnig dolenni i amrywiaeth o adnoddau defnyddiol.
Dewis ffyrdd iach o fyw
Mae ffordd iach o fyw yn hanfodol i les meddyliol. Mae meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt yn cynnwys:
Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
Gall gyrfa mewn addysg fod yn feichus, gan ofyn am wydnwch a dyfalbarhad i reoli heriau a blaenoriaethau sy’n cystadlu. I gynnal eich lles, mae’n hanfodol gosod ffiniau clir a neilltuo amser ar gyfer gweithgareddau rydych chi’n eu mwynhau. Gall blaenoriaethu hunanofal helpu i atal diffygiad a sicrhau eich bod yn gallu parhau i gael effaith gadarnhaol yn y gwaith.
Ymarfer corff
Mae ymarfer corff rheolaidd yn helpu i leihau straen, hybu hunan-barch a gwella ansawdd cwsg. Mae bod yn weithgar yn gorfforol yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb a gallai fod mor syml â mynd am dro bob dydd neu ailddarganfod gweithgaredd yr arferoch ei fwynhau ond rydych heb ei wneud ers tro. Gall gwneud ymarfer corff gyda phobl eraill hefyd helpu i gryfhau cysylltiadau cymdeithasol a helpu i gynnal eich symbyliad.
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, mae cymorth teilwredig ar gael i’ch helpu i fod yn actif.
Bwyta’n dda
Gall maeth da wella lefelau egni, hybu canolbwyntio a’ch helpu i gysgu’n dda. Gall deiet cytbwys, iach hefyd helpu i atal a lliniaru symptomau salwch meddwl, ynghyd â gwella’ch iechyd corfforol.
Awgrymiadau ar gyfer bwyta’n dda
- Cynllunio’ch prydau bwyd
Neilltuwch amser bob wythnos i gynllunio prydau, i sicrhau bod gennych amrywiaeth o opsiynau cyflym a hawdd sydd ar gael ar ddiwrnodau pan allech deimlo’n flinedig. Gall paratoi bwyd ymlaen llaw hefyd helpu i leihau straen, arbed amser a chefnogi bwyta’n iach.
- Yfed digon
Sicrhewch eich bod yn yfed yn rheolaidd drwy gydol y dydd. Mae’r GIG yn argymell yfed 6-8 gwydraid neu gwpaned o hylif (gan gynnwys dŵr, llaeth braster isel, diodydd heb siwgr, te a choffi) bob dydd.
- Bwyta diet cytbwys
Bydd diet sy’n cofleidio amrywiaeth o grwpiau bwyd yn hybu’ch maeth. Mae Canllaw Eatwell Llywodraeth y DU yn dangos sut i gyflawni diet cytbwys, iach trwy fwyta amrywiaeth o fwydydd gwahanol.
- Bwyta’n rheolaidd
Gall hepgor prydau bwyd darfu ar lefelau siwgr eich gwaed, gan arwain at amrywiaeth mewn hwyliau, blinder a blys am fwyd. Mae bwyta prydau bach a chytbwys neu fyrbrydau iach trwy gydol y dydd yn helpu i gynnal lefelau ynni ac mae’n cefnogi lles cyffredinol.
- Mwynhau bwyta gydag eraill
Defnyddiwch brydau bwyd fel cyfle i gysylltu. Does dim rhaid gwneud hyn bob dydd, ond mae eistedd gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr, hyd yn oed os yw’n digwydd unwaith yr wythnos yn unig, yn gallu hybu’ch hwyliau.
- Ceisiwch help os ydych chi’n meddwl y gallai fod gennych broblem gyda bwyd
Os ydych chi’n dibynnu ar fwyd, neu ar reoli neu gyfyngu bwyd, fel dull ymdopi, efallai bod gennych anhwylder bwyta. Os oes gennych bryder, holwch eich meddyg teulu am gymorth.
Patrymau cwsg iach
Mae’r GIG yn argymell bod ar oedolion angen rhwng 7 a 9 awr o gwsg bob nos. Mae ein cydweithwyr yn Education Support wedi llunio canllaw defnyddiol sy’n esbonio pam mae cwsg mor bwysig, ac mae’n amlinellu naw cam ymarferol i wella ein patrymau cwsg.
Cymryd saib
Mae cymryd seibiannau yn hybu iechyd meddwl, yn gwella creadigrwydd ac yn lleihau straen. Mae Education Support wedi cynhyrchu adnodd defnyddiol ar sut i fagu nerth o'r newydd mewn 3 munud, sy’n rhoi rhai syniadau gwych am sut i ddefnyddio seibiannau i gefnogi’ch lles.
Sylwi
Talwch sylw i’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas chi, eich amgylchfyd, eich ymatebion, a sut mae gwahanol brofiadau yn effeithio ar eich lles. Gall myfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar, gan gynnwys technegau fel delweddu, eich cynorthwyo â phrosesu eich meddyliau a chynnal cydbwysedd. Mae Education Support wedi llunio canllaw defnyddiol yn amlinellu amrywiaeth o dechnegau myfyrio.
Hefyd, efallai byddwch am ddefnyddio eich Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) i fyfyrio ar sut mae eich iechyd meddwl a’ch lles yn dylanwadu ar eich ymarfer a’ch dysgu proffesiynol. Gall hyn gefnogi hunanymwybyddiaeth ddyfnach a chyfrannu at eich datblygiad parhaus fel ymarferydd myfyriol.
Dysgu
Mae dysgu rhywbeth newydd, boed yn broffesiynol neu’n bersonol, yn hybu hunan-barch, ymgysylltiad a gwydnwch. Gall amsugno gwybodaeth newydd a datblygu sgiliau newydd rymuso, gan felly effeithio’n gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles.
Rhoi
Mae cymryd amser i ddeall a chefnogi iechyd meddwl a lles pobl eraill yn hanfodol er mwyn creu amgylchedd dysgu agored, diogel a chynhyrchiol, lle mae pobl yn teimlo’n gyfforddus i siarad am eu hiechyd meddwl. Gadewch i bolisïau eich sefydliad eich arwain wrth nodi’r ffordd fwyaf priodol o gefnogi cydweithwyr, gan gynnwys unrhyw un a all fod yn cael trafferth â’u hiechyd meddwl a lles, yn eich barn chi.
Mae help pellach ar gael trwy Education Support
Mae Education Support yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella lles staff ysgolion ar draws Cymru, gan gynnig y gwasanaethau canlynol:
Gwasanaeth lles staff: Darparu mynediad i arweinwyr ysgol ac arweinwyr lles at gyngor arbenigol am ddim ar ymagweddau at iechyd meddwl a lles staff, gan Gynghorydd Lles Staff.
Gwasanaeth cynghori lles: Fe’i hariennir i ysgolion ar draws Cymru ac mae’n darparu adnoddau ymarferol ac arweiniad arbenigol i’ch helpu i flaenoriaethu iechyd meddwl a lles staff yn eich ysgol.
Goruchwyliaeth broffesiynol i arweinwyr ysgolion: Mae gan oruchwyliaeth ffocws proffesiynol ac mae’n gwbl gyfrinachol. Mae’n amser sydd wedi’i neilltuo i’ch rôl fel arweinydd addysg a bydd yn eich helpu i wella eich lles.
Mae gwefan Education Support yn gartref i gyfoeth o wybodaeth a chyngor defnyddiol i gefnogi’ch iechyd meddwl a’ch lles, gydag adnoddau defnyddiol i arweinwyr, gan gynnwys bringing wellbeing into the everyday, ac offeryn archwilio lles staff.
Os oes arnoch angen siarad…
Mae Education Support hefyd yn darparu llinell gymorth bwrpasol i staff sy’n gweithio mewn unrhyw fath o sefydliad addysgol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gan ganiatáu i chi siarad â chwnselydd cymwysedig a all gynnig cymorth emosiynol cyfrinachol i chi ar unwaith. Gallwch ffonio’r llinell gymorth yn rhad ac am ddim ar 08000 562561
Dolenni ac adnoddau defnyddiol eraill
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - Talking Toolkit. Atal straen yn gysylltiedig â gwaith
Mentally Healthy Schools – adnoddau ar gyfer deall a hyrwyddo iechyd meddwl a lles disgyblion
MindOUT – gwybodaeth iechyd meddwl LHDTC+
Llywodraeth Cymru – Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol