Diogelu'r proffesiwn a'r cyhoedd
Amser edrych ar eich cofnod
Gallwch weld a diweddaru eich manylion unrhyw bryd yn eich cyfrif FyCGA. Mae hyn yn cynnwys eich enw, e-bost, cyfeiriad cartref, a'ch cyflogaeth bresennol. Os oes gyda chi unrhyw anawsterau'n cael mynediad at eich cyfrif FyCGA, neu os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am eich cofnod
Yn ein blog diweddaraf, rydym yn amlygu pum rheswm pam fod cadw eich cofnod yn gyfredol yn bwysig.
Astudiaethau achos PiY
Yn ein hastudiaeth achos Priodoldeb i Ymarfer (PiY) diweddaraf, ry'n ni'n edrych ar esiampl o lle cafodd gofrestrai gerydd ar ôl methu â datgan euogfarn wrth wneud cais i gofrestru gyda CGA. Mae'r astudiaethau achos yn seiliedig ar enghreifftiau go iawn, ac wedi eu creu i roi pwyntiau dysgu gwerthfawr i chi, i gynnal a chydymffurfio gyda'r Cod, a diogelu eich cofrestriad.
Diddordeb mewn dod i wrandawiad?
Caiff y mwyafrif o'n gwrandawiadau priodoldeb i ymarfer eu clywed yn gyhoeddus, sy'n golygu y gallwch ymuno fel arsyllwr. Mae gwybodaeth ar wrandawiadau i ddod a sut i fynychu ar ein tudalennau priodoldeb i ymarfer.
Diweddariadau'r Cyngor
Ein cynlluniau strategol
Ry'n ni wedi cyhoeddi ein Cynllun Strategol 2025-28 a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 wedi ei adnewyddu, gan osod ein blaenoriaethau a'n hymrwymiadau am y blynyddoedd nesaf.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Ymunwch â ni ar gyfer Dosbarth Meistr 2025
7 Mai 2025, 16:00-17:30
Gyda'r niwrowyddonydd, darlithydd, awdur, blogiwr, cyfathrebwr gwyddoniaeth, a'r comedïwr, Dr Dean Burnett, bydd digwyddiad arbennig yma yn archwilio sut mae'r ymennydd sy'n datblygu yn gweithio, a sut gall deall ei brosesau greu cyfleoedd gwerthfawr mewn addysg. Mynnwch eich tocyn am ddim nawr.
Datgloi 25 mlynedd a mwy o arbenigedd gwaith achos priodoldeb i ymarfer CGA
13 Mai 2025, 10:00-11:15
Mae dal amser gyda chi i gadw eich tocyn am ddim yn y digwyddiad yma ar gyfer uwch arweinwyr. Am y tro cyntaf, rydym yn rhannu gwybodaeth a chipolygon o fwy na 25 mlynedd o waith rheoleiddio, gan ddefnyddio ein profiad o fwy na 5,000 o achosion.
Addysgwyr Cymru
Wyddech chi, yn ogystal â chael y nifer fwyaf o swyddi ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, mae Addysgwyr Cymru yn darparu gwasanaeth recriwtio, eirioli, a chefnogi? Ewch i'r wefan i weld sut gall y tîm eich helpu chi.
Cymryd rheolaeth o'ch datblygiad proffesiynol gyda'r PDP
Mae'r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn adborth am ddim sydd ar gael i holl gofrestreion CGA. Mae'n eich galluogi i gynllunio, tracio, a myfyrio ar eich dysgu, unrhyw bryd, unrhyw le. I gael mwy o wybodaeth am sut gall y PDP eich helpu chi, gwyliwch ein hanimeiddiad byr.
Llongyfarchiadau i ddeiliaid newydd y Marc Ansawdd
Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael eu Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) efydd cyntaf, Gwasanaethau Ieuenctid Merthyr Tudful wedi cael eu gwobr arian cyntaf, a Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi eu hailachredu gyda’r wobr efydd. Mae cael MAGI yn gyrhaeddiad gwych, sy'n cydnabod gwella safonau o ran darpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid. Llongyfarchiadau i bawb.
Hysbysu polisi
Defnyddio ein data i gefnogi'r gweithlu
Rydym wedi cael gwahoddiad i rannu ein mewnwelediadau gydag ymchwiliad pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg i recriwtio a dargadw athrawon. Gyda mynediad at ddata'r gweithlu, rydym mewn sefyllfa unigryw i amlygu'r prif heriau sy'n wynebu'r proffesiwn yn y maes yma, ar eich rhan.
Rhag ofn i chi ei fethu
Wedi colli digwyddiad?
Mae gyda ni gyfoeth o recordiadau ar ein sianel YouTube o ddigwyddiadau'r gorffennol, gan gynnwys ein darlithoedd Siarad yn Broffesiynol, Dosbarthiadau Meistr, digwyddiadau Eich CGA, briffiadau polisi, a llawer mwy. Maent oll ar gael i'w gwylio ar alw, ar adeg sy'n gyfleus i chi.



