Anthony Priest - Iechyd meddwl, lles a Covid-19: cymorth am ddim i ysgolion yng Nghymru
Wrth i argyfwng Covid-19 barhau i 2021, mae’r gweithlu addysg wedi bod yr un mor benderfynol o sicrhau bod myfyrwyr yn gallu parhau i ddysgu, gan ymgodymu hefyd â mwy a mwy o alwadau proffesiynol a phersonol. Mae athrawon a staff wedi addasu yn wyneb cyfundrefnau newydd ac wedi ymdrin â newidiadau cyson i ganllawiau, gan barhau i gyflwyno gwersi dyddiol i fyfyrwyr ar yr un pryd. O ganlyniad, mae llawer o’n gweithwyr proffesiynol wedi ymlâdd, yn naturiol.
Eto, clywn o hyd am weithwyr addysg proffesiynol yn mynd y filltir ychwanegol i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw. Mae hyn yn arbennig o wir wrth i’r pandemig amlygu pryderon sydd eisoes yn bodoli, fel anghydraddoldeb dysgu, tlodi plant a mynediad at dechnoleg.
Mae canfyddiadau diweddar o ymchwil Mynegai Lles Athrawon 2020 Education Support yn dweud wrthym fod lles staff addysg yn is o lawer na lles y boblogaeth gyffredinol. Mae symptomau lles gwael, fel anhawster canolbwyntio, methu cysgu a theimlo’n ddagreuol, ar gynnydd hefyd.
Os nad eir i’r afael â’r symptomau hyn, gallant arwain at ddiagnosis posibl o gyflyrau iechyd meddwl, fel iselder a gorbryder. Mae lefelau straen yn parhau’n uchel ar draws gweithwyr addysg proffesiynol (62%) ac uwch arweinwyr (77%), gydag oriau hir a baich gwaith yn gyfrannwr mawr at hyn.
Dyma pam mae Education Support yn parhau i alw am sicrhau bod lles staff yn ganolog i bolisi addysg ac i arferion ysgolion. Mae cymorth i athrawon wedi dod yn fater o gyfleoedd cymdeithasol ac adferiad cenedlaethol. Bydd profiad o bandemig byd-eang yn ystod eu haddysg orfodol yn effeithio’n sylweddol ar y genhedlaeth hon o blant. Mae’n hanfodol bob y bobl sy’n gyfrifol am roi’r cyfle gorau iddynt yn ddigon iach i barhau i fod yn bresennol - yn gorfforol ac yn emosiynol.
Gwasanaeth Lles Ysgolion Education Support – cymorth am ddim i ysgolion
Yn Education Support, mae dewrder a thrugaredd y gweithlu addysg yn codi’n calon ni, ac rydym yn falch o allu cynnig cymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Bellach, gall Education Support, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, gynnig cymorth i ysgolion ledled Cymru, gyda ffocws ar gefnogi iechyd meddwl a lles meddyliol staff. Trwy’r Gwasanaeth Lles Ysgolion, rydym yn cynnig gwasanaethau lles yn y gweithle, yn rhad ac am ddim. Gallwn ddarparu adnoddau i’ch ysgol, gweithdai i staff a chyngor ar bolisïau ac arferion sy’n seiliedig ar arfer gorau, sy’n cefnogi lles staff yn ystod y cyfnod hwn.
Caiff Cynghorydd Lles ei neilltuo i chi, a gall weithio gyda chi i greu cynllun cymorth pwrpasol wedi’i addasu i anghenion eich ysgol.
Hefyd, gall y cynghorydd eich galluogi i gael at wasanaethau eraill, trwy Education Support, gan gynnwys cymorth i benaethiaid yng Nghymru drwy raglen cymorth cymheiriaid rydym ni’n ei threfnu a chynnig goruchwyliaeth un-i-un gan gwnselwyr hyfforddedig. Eto, mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i ysgolion yng Nghymru.
Beth mae ysgolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn ei ddweud
Rydym wedi cael ymateb hynod gadarnhaol gan staff sydd eisoes wedi manteisio ar y Gwasanaethau Lles Ysgolion yng Nghymru. Dyma ddim ond ychydig o’r adborth gwych gawson ni:
“Mae cael arbenigwr ‘wrth law’ fel chi, sydd bob amser ar gael ac sy’n gallu’n cyfeirio ni at wahanol lefelau o gymorth ar gyfer senarios amrywiol wedi bod yn amhrisiadwy… Bu cael cymorth ar y cyd fel grŵp ac yna myfyrio ar sut mae wedi cael effaith yn ôl yng nghyd-destunau gwahanol ein hysgol yn arbennig o fuddiol… rydym yn ddiolchgar iawn i Education Support a’r rhan rydych chi’n ei chwarae yn ystod y pandemig."
"Roeddwn i’n teimlo mod i wedi cael fy ysbrydoli pan adawais i’r ysgol! Mae wir mor bwysig siarad a rhannu, ac mae’n dda siarad â phobl y tu hwnt i ’nghylch cymorth arferol, hefyd."
“Cofrestru ar gyfer y grŵp cymorth hwn oedd un o’r pethau gorau i mi erioed eu gwneud. Rwy’n gwerthfawrogi cymaint y cyfle i ymuno â chriw mor glên!"
Os hoffech gysylltu i ddysgu rhagor am sut gallwn ni helpu (neu i drefnu galwad), cysylltwch ag Anthony.
Llinell gymorth gyfrinachol ar gael, yn rhad ac am ddim
Yn ogystal â’r Gwasanaeth Lles Ysgolion i ysgolion, mae llinell gymorth gyfrinachol a rhad ac am ddim Education Support ar gael hefyd i’r holl staff addysg yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys athrawon, darlithwyr a staff cymorth neu weithwyr ieuenctid sy’n gweithio mewn ysgolion a cholegau.
Os ydych chi’n brwydro â theimladau anodd, gallwch gael cymorth emosiynol gan gwnselydd hyfforddedig drwy ffonio 08000 562561. Mae cymorth ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Ffoniwch ni. Fe wnawn ni wrando.
Anthony Priest
Anthony Priest yw Cynghorydd Lles yn y Gweithle yn Education Support.




Mae’n ymddangos bod feirws Covid-19 wedi gweithredu fel rhagflaenydd i’r defnydd cynyddol o’r term ‘dysgu cyfunol’. Mae’r sector addysg, y dadleuais yn flaenorol bod ei randdeiliaid ar gyfnodau gwahanol iawn o ran coleddu a defnyddio technolegau digidol, wedi ymateb yn gyflym i heriau datblygol realiti newydd.
Gall llawer ddigwydd mewn blwyddyn! Pan ddathlon ni’r Wythnos Iechyd Meddwl Plant y llynedd, roedd ysgolion ar agor ac yn llawn sŵn ac egni plant, athrawon a staff.
Fe ddes i’n weithiwr ieuenctid ar ddamwain yn fy arddegau, pan adeiladwyd canolfan gymunedol yng nghornel ein parc ‘ni’. Roedden ni’n cynnal ein clwb ieuenctid ein hunain bob nos Iau, gyda’r rhybudd y bydden ni’n cael ein gwahardd pe byddai unrhyw gwynion. Gan mai fi oedd yr aelod o’r ‘bois yn y parc’ â’r ddawn siarad, fe gymerais gyfrifoldeb, yn 15 oed, yn y 1960au.
Cymerodd technoleg ddigidol, sef adnodd ac iddo addewid ers i gyfrifiaduron gael eu cyflwyno mewn ystafelloedd dosbarth yn y 1980au, gam mawr ymlaen yn sydyn wrth i ysgolion (ynghyd â gweddill cymdeithas) geisio dygymod ag amgylchiadau’r clo.