Ddydd Mercher 21 Ionawr 2026, 16:00-17:30, ar-lein, bydd Siarad yn Broffesiynol 2026 yn cynnwys yr Athro Kelly Mackintosh o Brifysgol Abertawe fel y...
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi cael Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) aur. Cyllidir y Marc Ansawdd gan Lywodraeth Cymru, ac fe'i...
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cefnogi effaith gwaith ieuenctid ledled Cymru unwaith eto, drwy gymryd rhan yn Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni....
Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd a Merthyr Tudful yw’r sefydliadau diweddaraf i gael eu cydnabod yn ffurfiol am ansawdd eu darpariaeth, gan dderbyn y...
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi ymuno â sefydliadau eraill ledled Cymru i gymryd rhan yn ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg. Mae'r ymgyrch, wedi’i...
Ar 24 Mawrth 2021, bu i ni gynnal gweithdy rhyngweithiol ar-lein i bartneriaethau AGA yng Nghymru oedd yn canolbwyntio ar gadw diwygio aga ar drac.
Cafodd y digwyddiad ei gyflwyno gan yr Athro John Furlong a Dr Hazel Hagger, a roddodd gyfle i fynychwyr ystyried a pharatoi at flwyddyn academaidd 2021/22. Bu i'r Partneriaethau rannu eu profiadau o'r broses ddiwygio hyd yma, dathlu cyflawniadau, ystyried yr heriad a rhannu eu dysgu ar y cyd.
Bu i'r rheiny a wnaeth gyflwyno ar y dydd gynhyrchu cyfres o fideos byr cyn y digwyddiad i roi dealltwriaeth dda i fynychwyr o'r themâu a roddwyd sylw iddynt. Yna, cafwyd mewnwelediad manwl i'w gwaith yn ystod y digwyddiad.
I wylio neu ail-ymweld â'r chyflwyniadau o'r digwyddiad, gwelwch y rhestr chwarae YouTube isod.
Dyfodol AGA yng Nghymru
Yn ei adroddiad ym mis Mawrth 2015 Addysgu Athrawon Yfory, gwnaeth yr Athro John Furlong gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch dyfodol addysg gychwynnol athrawon (AGA) yng Nghymru. O dan Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achrediad Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) Swyddogaethau Ychwanegol 2017, mae gan CGA gyfrifoldeb statudol i:
achrediad rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
monitro cydymffurfiaeth rhaglenni achrededig yn erbyn meini prawf Llywodraeth Cymru
tynnu rhaglenni achrediad yn ôl
Yn ogystal ag adroddiad yr Athro Furlong, mae amrywiaeth eang o ymchwil ac adroddiadau wedi helpu i lunio gweledigaeth AGA Cymru yn y dyfodol:
Mae dyrannu cyfrifoldeb arnym i achredu rhaglenni AGA unigol yn galluogi ystyriaeth fwy penodol o sut y bydd y rhaglenni yn codi ansawdd y ddarpariaeth ac yn denu pobl iawn sydd â'r sgiliau, cymwysterau a'r gallu i addysgu yn iawn i fynd i'r proffesiwn. Bydd rôl Estyn mewn perthynas ag arolygu AGA yn parhau gyda rhai addasiadau i'r gweithdrefnau cyfredol. Bydd yr holl bartneriaethau AGA yn destun i arolygiad llawn gan Estyn yn ystod y cylch achredu yn ogystal ag ymweliad monitro blynyddol gan y Bwrdd.
Cynhadledd UCET 2019 - Addysg Athrawon yng Nghymru: Taith Ddiwygio
Yn Tachwedd 2019, cyflwynodd yr Athro John Furlong, ynghyd â Dr Hazel Hagger, (CGA), Elaine Sharpling (PCDDS), Rhonwen Morris (Ysgol y Preseli) a Leanne Prevell (Ysgol Gynradd Gelliswick) gyflwyniad ynglŷn â’r daith diwygio addysg athrawon yng Nghymru yn nghynhadledd eleni UCET.
Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes addysgu yng Nghymru, bydd angen i chi gael statws athro cymwysedig (SAC) trwy astudio rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) sydd wedi’i hachredu gennym ni, trwy ein Bwrdd Achredu AGA.
Mae rhaglenni AGA yn darparu addysg a datblygiad proffesiynol athrawon dan hyfforddiant. Maent yn eu paratoi nhw i weithio mewn ysgolion yng Nghymru ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer dysgu proffesiynol gydol gyrfa. Mae’r rhaglenni hyn yn seiliedig ar ddysgu sy’n drylwyr o ymarferol ac yn heriol yn ddeallusol, a cheisiant wneud yn siŵr bod athrawon yn ymrwymo i ragoriaeth, proffesiynoldeb ac addysgu o ansawdd uchel.