Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) – ymateb CGA i’r ymgynghoriad
CGA yw rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru. Rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg ar draws ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid a dysgu oedolion/dysgu’n seiliedig ar waith. Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn cyflwyno ein nodau a’n swyddogaethau yn ffurfiol. Yn yr ymateb hwn, rydym ni’n canolbwyntio ar faterion yn benodol i’n cylch gwaith, sef y gweithlu yn benodol.
Er mwyn rheoleiddio’r gweithlu, mae’n ofynnol i ni gynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg (y Gofrestr). O ganlyniad, mae’r Gofrestr yn darparu ffynhonnell gyfoethog o ddata am gyfansoddiad y gweithlu addysg yng Nghymru, ar draws 13 grŵp gwahanol o ymarferwyr cofrestredig. Mae ein data’n cynnwys gwybodaeth am y gweithlu, fel:
- Y gallu i siarad Cymraeg, addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, addysgu’r Gymraeg fel ail iaith
- Recriwtio a chadw
- Cyflogaeth (gan gynnwys cyfnod, pwnc, cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg)
- Niferoedd yr athrawon a hyfforddodd trwy gyfrwng y Gymraeg
- Y gweithlu cyflenwi a’u gallu Cymraeg
Byddem yn croesawu’r cyfle i friffio Llywodraeth Cymru a/neu’r pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y data. Rydym wedi darparu briffiau data tebyg (a diweddariadau eraill) i Grŵp Gweithredu allanol – y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru, yr ydym yn aelod ohono.
Ein sylwadau am y Bil
Darparu sylfaen statudol ar gyfer targed miliwn o siaradwyr Cymraeg
Mae CGA yn croesawu’r ddarpariaeth yn y Bil i ddarparu sylfaen statudol ar gyfer targed miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 (ochr yn ochr â thargedau eraill yn gysylltiedig â defnyddio’r iaith). Er mwyn cyrraedd nod mor uchelgeisiol, bydd angen ymdrech genedlaethol unedig, barhaus, yn cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid. Bydd gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i roi ystyriaeth briodol i’r targed wrth arfer eu swyddogaethau addysg (yn benodol yn gysylltiedig â chynyddu darpariaeth addysg Gymraeg a nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg), yn helpu i sicrhau bod yr arweinyddiaeth angenrheidiol yn cael ei darparu a’i chynnal dros gyfnod.
Serch hynny, ni ddylid tanamcangyfrif maint yr her a graddau’r adnoddau y bydd eu hangen i gyflawni targed 2050. Tanlinellir hyn gan ganlyniadau cyfrifiad 2021, a ddangosodd ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 2011 a 2021, ynghyd â data cofrestr CGA yn gysylltiedig â’r gweithlu ysgolion, sy’n dangos nad yw’r gweithlu ysgolion sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu yn y 5 mlynedd diwethaf. Nid yw Llywodraeth Cymru ychwaith wedi cyflawni ei gofyniad, sef bod 30% o recriwtio i raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon yn fyfyrwyr sy’n dysgu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i adolygu’r cynllun Cymraeg yn y gweithlu addysg i sicrhau bod y strategaeth a’r ymyraethau ynddo yn ddigon uchelgeisiol i fodloni amcanion y Bil yn llawn. Bydd strategaeth gynhwysfawr ar gyfer y gweithlu hefyd yn rhoi cyd-destun a chyfeiriad clir i waith yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol newydd, a phartneriaid allweddol eraill.
Bydd hi hefyd yn hanfodol sicrhau bod strategaeth y gweithlu yn adlewyrchu rolau athrawon ar bob lefel wrth gefnogi caffael y Gymraeg. Dylai hyn gynnwys rheiny o fewn darpariaeth y blynyddoedd cynnar, sydd â rôl hanfodol i’w chwarae yn gosod y seiliau ar gyfer dysgu gydol oes, trwy gyflwyno’r Gymraeg i blant iau, ar oed lle mae ganddynt allu cynhenid i ddysgu ieithoedd. Mae llwyddiant dysgu ail iaith mewn blynyddoedd diweddarach yn aml yn dibynnu ar ansawdd ac argaeledd y ddarpariaeth yn y camau cyntaf o ddysgu.
Gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu Safonau’r Gymraeg
Mae CGA yn nodi’r ddarpariaeth yn Rhan Un y bil sy’n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu Safonau’r Gymraeg yn gysylltiedig â gwella neu asesu sgiliau Cymraeg y gweithlu. Gallai diwygio’r safonau helpu i alluogi cyflawni targedau penodol ac, felly, rydym yn rhoi croeso gofalus i’r ddyletswydd hon. Fodd bynnag, wrth arfer y ddyletswydd, dylai Llywodraeth Cymru ystyried yn llawn effaith unrhyw newidiadau i’r safonau ar y gweithlu addysg, gan gynnwys goblygiadau o ran llwyth gwaith, recriwtio a chadw a dysgu proffesiynol. Mae hefyd yn amlwg y bydd angen dyrannu adnoddau ychwanegol priodol i gynorthwyo ysgolion â sicrhau bod y gweithlu yn bodloni’r safonau gofynnol.
Dull safonol i ddisgrifio gallu Cymraeg
Mae CGA yn croesawu’r cynnig i sefydlu dull safonol i ddisgrifio gallu Cymraeg, ar sail lefelau cyfeirio cyffredin y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd (CEFR). Credwn y bydd hyn yn helpu i hwyluso datblygiad safonau cenedlaethol clir a sicrhau bod hyfedredd iaith yn cael ei asesu’n gyson ac yn dryloyw. Gallai bodolaeth fframwaith clir fod yn ddefnyddiol hefyd o ran dylunio a datblygu cyrsiau Cymraeg sydd wedi’u teilwra i anghenion penodol dysgwyr ar bob lefel hyfedredd.
Gallai’r dull safonedig arfaethedig ar gyfer disgrifio gallu Cymraeg hefyd helpu i gadarnhau lefel yr hyfedredd ieithyddol sy’n angenrheidiol o fewn lleoliadau addysgol gwahanol. Gallai hyn gynorthwyo â llywio recriwtio staff a datblygiad proffesiynol i athrawon a gweithwyr cymorth dysgu, gan sicrhau bod y sgiliau Cymraeg disgwyliedig ar gyfer rolau penodol wedi’u diffinio’n glir.
Ar hyn o bryd, gofynnir i gofrestreion CGA p’un a ydynt yn gallu siarad Cymraeg a ph’un a allant weithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel rheoleiddiwr proffesiynol y gweithlu addysg, mae potensial i ni gasglu data ychwanegol a fyddai’n caniatáu am fonitro cymhwysedd Cymraeg y gweithlu (a sut mae’n newid dros gyfnod) ar lefel fanylach, yn unol â’r fframwaith, i gynorthwyo â chynllunio’r gweithlu.
Dynodi categorïau iaith ysgolion
Rydym yn cydnabod y sail resymegol wrth wraidd categoreiddio ysgolion yn ôl faint o addysg Gymraeg y maent yn ei ddarparu, gyda nodau dysgu Cymraeg penodol ar gyfer y rheiny ym mhob categori. Bydd hyn yn rhoi mwy o eglurder i ddysgwyr a’u rhieni/gwarcheidwaid yn gysylltiedig â natur (ieithyddol) yr addysg a gynigir mewn ysgolion gwahanol. Hefyd, bydd yn helpu sicrhau bod pob ysgol yn gallu chwarae rhan wrth gaffael y Gymraeg (gan gynnwys y rhai yn y categori “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”, y bydd o leiaf 10% o’u haddysgu yn gorfod bod trwy gyfrwng y Gymraeg).
Fodd bynnag mae perygl y gallai ehangu darpariaeth Gymraeg o fewn ysgolion cyfrwng Saesneg (yn bennaf) gael effaith niweidiol ar ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn enwedig pe bai gan rieni ddisgwyliad afrealistig o’r lefel o sgiliau iaith Gymraeg y gellid eu dysgu gan ddisgyblion sy’n astudio mewn lleoliad cyfrwng Saesneg. Bydd hi felly’n bwysig sicrhau bod ysgolion yn egluro i rieni a dysgwyr faint yn union o Gymraeg a ddefnyddir mewn gwersi, a pha mor rhugl y disgwylir i’r dysgwyr fod yn yr iaith wrth orffen yn yr ysgol.
Mae CGA yn croesawu targedau uchelgeisiol y Bil, o ran y nod bod dysgwyr yn dod yn hyfedr (C1/C2) mewn ysgolion Prif Iaith – Gymraeg ac annibyniaeth (B1/B2) mewn categorïau eraill. Fodd bynnag, rydym yn poeni y gall eu cyflawni beri heriau i rai ysgolion ar ddwy lefel. Yn gyntaf, bydd angen gweithlu cymwys tu hwnt i annibyniaeth (B1/B2), sy’n gyfystyr â safon lefel A i gefnogi dysgwyr i gyrraedd y gôl yma. Yn ail, bydd rhai ysgolion, yn enwedig y rhai â llai o adnoddau neu lle mae cysylltiad cyfran fwy o ddysgwyr â’r Gymraeg gartref neu yn eu cymuned leol yn gyfyngedig. Mewn rhai cymunedau o’r fath, efallai bod cyfran uchel o ddysgwyr sy’n dod o gartrefi lle bod Saesneg yn iaith ychwanegol. Bydd hi’n bwysig sicrhau bod anghenion addysgol cymunedau o’r fath yn cael eu hystyried.
Rhaid ystyried hefyd amgylchiadau penodol ysgolion arbennig, yn enwedig y rheiny lle bod gan nifer sylweddol o ddisgyblion eirfa gyfyng, yn ei cael hi’n anodd deall iaith, neu’n ddi-eiriau. Mae angen eglurder o ran y lefel o hyfedredd y bydd disgwyl i’r y dysgwyr hyn gael, ar gefnogaeth ychwanegol (gan gynnwys hyfforddiant arbennig ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda disgyblion ADY), fydd ei hangen i gefnogi hyn
Ni ddylid tanamcangyfrif heriau gweithredu’r polisi hwn o ran y gweithlu, hefyd. Felly, byddem yn annog Gweinidogion Cymru i sicrhau bod ysgolion yn cael adnoddau a chymorth digonol i fodloni’r gofynion hyn, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad yn eang. Ni fydd y cyfyngiadau ariannol presennol ar y system yn hwyluso’r amodau ffafriol sy’n angen rheidiol i gyflawni’r targedau uchelgeisiol hyn.
Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgolion
Rydym yn cefnogi’r cynnig bod corff llywodraethu pob ysgol yn rhan o ddatblygu cynllun cyflawni addysg Gymraeg. Rydym hefyd yn croesawu’r ffaith y bydd ymgynghori ar y cynlluniau cyflawni yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys rhieni, staff a dysgwyr. Fodd bynnag, credwn mai’r ymarferwyr ddylai fod yn arwain paratoi’r cynlluniau, gyda llywodraethwyr yn cefnogi yn unol â’u rôl ddynodedig (sy’n strategol ac nid yn withredol).
Ar yr amod bod ysgolion yn cael cymorth priodol i ddatblygu llwybrau realistig clir er mwyn cyflawni eu targedau, mae CGA yn gobeithio y gallai’r cynlluniau cyflawni helpu i sicrhau bod ysgolion yn datblygu strategaethau manwl, wedi’u teilwra i’w hamgylchiadau penodol. Hefyd, credwn y dylai’r ymagwedd ymgynghorol sydd wedi’i hamlinellu yn y Bil helpu i feithrin amgylchedd mwy cydsyniol ar gyfer gweithredu (a, lle bo galw, ehangu) addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Serch hynny, bydd hi’n bwysig sicrhau nad yw prosesau ar gyfer cynhyrchu, adnewyddu a diwygio cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg yn mynd yn or-fiwrocrataidd nac yn cymryd gormod o amser i dimau arwain ysgolion a chyrff llywodraethu. Felly, bydd angen i awdurdodau lleol chwarae rôl gadarn yn cefnogi ysgolion a bydd angen neilltuo digon o amser ar gyfer ymgynghori a chynllunio ystyrlon.
Esemptiadau dros dro a chyfnodau pontio
Mae CGA o’r farn bod y ddarpariaeth yn y Bil sy’n caniatáu am eithriadau dros dro i ysgolion na allant fodloni gofynion am isafswm addysg Gymraeg ar unwaith yn ddoeth. Fodd bynnag, byddai’n ddefnyddiol deall rhagor am yr amryw amgylchiadau pan ellid ystyried bod esemptiad o’r fath yn briodol. Yn arbennig, byddem yn croesawu arweiniad pellach i ysgolion ar yr amgylchiadau pan all ystyriaethau llwyth gwaith fod yn ffactor wrth ganiatáu eithriadau i ysgolion. Hefyd, bydd hi’n bwysig sicrhau bod cymorth targedig i ysgolion a chynllun am gynnydd (gydag amserlen glir) tuag at gydymffurfio yn cyd-fynd â’r broses esemptiadau.
Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg
Mae CGA yn nodi’r gofyniad ar Weinidogion Cymru, yn y Bil, i gynhyrchu fframwaith yn disgrifio sut byddant yn gweithredu cynigion y Strategaeth Gymraeg yn gysylltiedig ag addysg Gymraeg, dysgu Cymraeg (gydol oes) a chaffael y Gymraeg. Bydd hi’n bwysig sicrhau bod y fframwaith hyn wedi ei alinio gyda’r mentrau cynllunio’r gweithlu yn ehangach, i sicrhau bod gan y gweithlu addysg y sgiliau a’r gefnogaeth angenrheidiol.
Mae CGA yn croesawu’r cynnig i ddatblygu fframwaith sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo a hwyluso dysgu Cymraeg ar draws sectorau addysgol a phroffesiynol, ac rydym yn falch o nodi y bydd hyn yn cwmpasu dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr addysg (fel yr amlinellir yn adran 5(3)(d)) yn benodol. Hefyd, rydym yn croesawu’r ffocws ar gynyddu addysg Gymraeg ar bob lefel (adran 5(4)(d)). Fodd bynnag, byddem yn pwysleisio eto bwysigrwydd sicrhau bod adnoddau ychwanegol priodol yn cael eu dyrannu i hwyluso unrhyw ofynion Cymraeg ychwanegol i addysgwyr. Gall cyflwyno gofynion o’r fath heb gefnogaeth ddigonol osod pwysau ychwanegol ar ysgolion (a’u cyllidebau) a gallai effeithio ar y gweithlu presennol yn negyddol, a allai gael trafferth cydbwyso dyletswyddau presennol â’r disgwyliadau newydd. Efallai bydd ysgolion yn dymuno ystyried yr ymagwedd fwyaf effeithlon ac effeithiol o fewn eu lleoliad at sicrhau bod yr holl athrawon a gweithwyr cymorth dysgu yn cael mynediad teg i gyfleoedd dysgu proffesiynol Cymraeg.
Dywed Adran 5(6)(c) fod yn rhaid i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg gynnwys asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg y bydd eu hangen i gyrraedd y targedau. Bydd rhagor o eglurder o ran gofynion y gweithlu yn ddefnyddiol a dylid defnyddio’r ffigurau hyn hefyd i helpu nodi unrhyw ofynion am adnoddau ychwanegol i ategu recriwtio, er mwyn lleihau prinder gweithlu a gosod straen ychwanegol ar y gweithlu presennol. Fodd bynnag, heb gyllid cywir a strategaeth recriwtio glir, efallai bydd y targedau hyn yn anodd eu cyflawni.
Er nad yw CGA wedi’i gynnwys yn rhestr y sefydliadau y bydd LlC yn ymgynghori â nhw ar y mater hwn fel y’u rhestrir ym mharagraff 5(26)(1), fel rheoleiddiwr y gweithlu a deiliad data unigryw ar gyfansoddiad y gweithlu addysg, byddem yn croesawu’r cyfle i gefnogi ymgynghoriadau o’r fath, yn unol â’n swyddogaeth (a ddisgrifir yn adran 4(1)(a) Deddf Addysg (Cymru) 2014) i ddarparu cyngor i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill ar faterion yn gysylltiedig â’r gweithlu addysg.
Cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg
Mae CGA yn cefnogi’r gofyniad yn y Bil i awdurdodau lleol baratoi a gweithredu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn amlinellu sut byddant yn hyrwyddo ac yn hwyluso addysg Gymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion yn eu hardal. Nodwn hefyd yn y cynlluniau hyn fod gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno’r camau a gymerant i sicrhau bod ganddynt ddigon o ymarferwyr addysg yn gweithio yn eu hardal. Fodd bynnag, fel yr amlinellir uchod, bydd angen adnoddau ychwanegol sylweddol i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu recriwtio a chadw staff sydd â’r sgiliau Cymraeg angenrheidiol sy’n ofynnol i gyrraedd y targedau hyn, ynghyd â sicrhau bod gan staff presennol fynediad i gyfleoedd dysgu proffesiynol. Dylid nodi hefyd gallai awdurdodau lleol llai o faint wynebu heriau penodol yn paratoi a gweithredu cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, oherwydd llai o gapasiti o fewn eu timau addysg, allai fod hefyd wedi eu hymestyn o ganlyniad i ad-drefnu’r haen ganol.
Byddem hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i adlewyrchu ar y rôl sylweddol a ellid ei chwarae gan waith ieuenctid i helpu creu mwy o siaradwyr Cymraeg. Mae’r lleoliadau hyn yn aml yn unigryw o dan annog defnydd o’r Gymraeg tu fewn a thu allan i leoliadau addysg ffurfiol (gan gynnwys o fewn cyd-destunau amrywiol). Credwn felly y dylid cynnwys gwaith ieuenctid a gynhelir gan awdurdodau lleol (eu hunain neu thrwy gytundebau gyda chyrff eraill), fel elfen allweddol o fewn cynlluniau strategol y Gymraeg yn addysg
Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol (Athrofa)
Mae sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn elfen arall o’r Bil a fydd â goblygiadau pwysig i’r gweithlu addysg yng Nghymru. Mae CGA yn nodi y bydd yr Athrofa yn gyfrifol am gynllunio “datblygiad y gweithlu addysg at ddiben gwella addysgu’r Gymraeg” (disgrifir hyn yn adran 37(2)(c)), ac am wneud trefniadau i roi cyfleoedd i’r gweithlu addysgu ddysgu Cymraeg (37(2)(d)) a gwella gallu Cymraeg ehangach y gweithlu (37(2)(e)).Fodd bynnag, mae sefydlu corff o’r fath a sicrhau ei fod yn cael digon o adnoddau yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol, ac mae’n hanfodol nad yw’n dod ar draul cefnogaeth uniongyrchol i ysgolion.
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y mae gan CGA berthynas waith sefydledig â hi, eisoes yn ymgymryd â llawer o’r swyddogaethau a restrir yn y Bil ar gyfer yr Athrofa. Mae CGA yn croesawu’r sylfaen statudol ar gyfer y corff newydd arfaethedig ac yn ystyried ei fod yn gyfle i adeiladu feysydd darparu a chyfleoedd datblygu proffesiynol newydd, yn seiliedig ar adnoddau o ansawdd uchel sy’n hyrwyddo hyfedredd yn y Gymraeg o fewn y gweithlu. Dylai darpariaeth o’r fath gael ei sgaffaldu i alinio gyda’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arwain yng Nghymru (nodwn sy’n berchen i Lywodraeth Cymru ac nid gan CGA fel rheoleiddiwr y gweithlu addysg, fel y disgwylir yn y mwyafrif o broffesiynol) i sicrhau bod dysgu proffesiynol yn cael ei dargedu, ac yn gydlynol, ac wedi ei alinio’n llaw gyda’r weledigaeth ehangach ar gyfer addysg yng Nghymru. Yr amcan yw rhoi cefnogaeth barhaus i ymarferwyr i wella eu sgiliau iaith Gymraeg trwy gydol eu gyrfaoedd, gyda chyfleoedd dysgu hyblyg wedi eu teilwra i fodloni anghenion gweithio mewn ysgol. Gallai hyn chwarae rôl allweddol wrth baratoi athrawon a staff cymorth â’r wybodaeth a’r sgiliau i ateb galw cynyddol am addysg ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg.
Gallai’r Athrofa weithio ochr yn ochr â darparwyr AGA i greu darpariaeth â ffocws a fydd yn helpu i wella sgiliau Cymraeg athrawon newydd sy’n ymuno â’r gweithlu. Hefyd bydd yr Athrofa yn gallu gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, i’w chynorthwyo â chyflawni’r amcanion yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Fodd bynnag, yn unol â’n sylwadau blaenorol, bydd angen cyllid priodol hefyd ar wella sgiliau’r gweithlu. Unwaith eto, byddem yn pwysleisio hefyd bwysigrwydd sicrhau bod athrawon a gweithwyr cymorth dysgu yn cael digon o amser i gymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu proffesiynol hyn, yn enwedig yn ystod cyfnod o newid arwyddocaol o fewn y system, fel y cwricwlwm newydd a’r Bil ADY, sy’n gofyn bod y gweithlu’n cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol parhaus. Dylid cyfleu a mynegi cydberthynas y newidiadau eraill sy’n digwydd o fewn system addysg Cymru, gyda Bil y Gymraeg ac Addysg i’r sector yn glir.
Casgliad
Mae CGA yn gobeithio bydd y Bil yn datblygu dwyieithrwydd yng Nghymru. Er ein bod yn cefnogi amcanion y Bil, gofynnwn fod Llywodraeth Cymru’n ymgymryd â gwaith pellach i nodi effeithiau posibl y Bil (gan gynnwys llwyth gwaith) ac yn sicrhau bod y system yn derbyn cymorth ariannol ac ymarferol digonol er mwyn cefnogi recriwtio a dysgu proffesiynol. Heb y rhain, mae perygl y bydd y Bil yn gosod gormod o faich ar y system heb gyflawni’r deilliannau a ddymunir. Bydd hi felly’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n cynnal ffocws clir ar y mesurau ymarferol sydd eu hangen i wthio’r newid a bodloni’r targedau uchelgeisiol y mae wedi eu gosod. Mae CGA yn ymrwymo i gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru trwy ein rôl statudol a’n cylch gwaith, gan gynnwys wrth gasglu a dadansoddi data ar y Gofrestr, achredu a monitro darpariaeth AGA, hyrwyddo gyrfaoedd mewn addysg a darparu cyngor i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill.