Rydym wedi cyhoeddi ein cyfres oadroddiadau blynyddolgan gynnwys ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, yn nodi ein cynydd yn y flwyddyn at 31 Mawrth 2026.
Dod yn asesydd MAGI
Mae rôl asesydd Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid (MAGI) yn un werthfawr, ysgogol ac yn cynnig cyfle datblygu proffesiynol parhaus ardderchog. Mwy o wybodaeth a gwneud cais.
Y Sioe Fawr
Bydd y tîm yn y Sioe Fawr gydag wythnos nesaf, rhwng 20 a 24 Gorffennaf. Dewch draw i ddweud helo os fyddwch chi yno.
Rydym wedi cyflwyno ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Siarad gyda fi - Cam 2: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu 2026...
Mae Christine Hellings wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol newydd CGA. Daw Christine â chyfoeth o brofiad ar lefel uwch...
Mae recriwtio wedi agor ar gyfer aelodau newydd i’n Cyngor. Rydym ni’n rheoleiddio gweithlu mawr ac amrywiol sy’n gwasanaethu dysgwyr a phobl ifanc,...
Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau, ar gyfer 1 Ionawr 2023 hyd 31 Rhagfyr 2025. Mae'r adroddiad yn nodi sut...
Ddydd Mercher 21 Ionawr 2026, 16:00-17:30, ar-lein, bydd Siarad yn Broffesiynol 2026 yn cynnwys yr Athro Kelly Mackintosh o Brifysgol Abertawe fel y...
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi cael Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) aur. Cyllidir y Marc Ansawdd gan Lywodraeth Cymru, ac fe'i...
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cefnogi effaith gwaith ieuenctid ledled Cymru unwaith eto, drwy gymryd rhan yn Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni....
Mae'r Cyngor yn cyfarfod yn gyhoeddus dair gwaith y flwyddyn.
Mae croeso i unrhyw aelod o'r cyhoedd, gan gynnwys ymarferwyr addysg, ddod i arsylwi ar un o gyfarfodydd y Cyngor. I gael rhagor o wybodaeth ac i fynegi eich diddordeb mewn dod i gyfarfod, Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Cynhelir cyfarfod nesaf y Cyngor ddydd Iau 19 Tachwedd 2026.
Nodwch y gellid newid dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol.
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. os oes angen unhyw gofnodion o unrhyw gyfarfodydd sydd heb eu rhestru.
Mae gan y Cyngor 14 o aelodau, gan gynnwys y Cadeirydd. Mae'r aelodau'n cynrychioli ystod o ddiddordebau ar draws y gweithlu addysg yng Nghymru.
Penodir saith aelod yn uniongyrchol drwy broses penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru, a phenodir saith aelod yn dilyn enwebiadau a wnaed gan sefydliadau a enwir yn Atodlen 2 o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014. Mae dwy swydd wag ar gyfer aelodau enwebedig ar hyn o bryd.
Mae tri swydd wag ar gyfer aelodau a benodir yn uniongyrchol ar hyn o bryd.
Cychwynnodd y Cyngor presennol ar eu swyddi ar 1 Ebrill 2023.
Geraint Williams - Cadeirydd
Mae Geraint Williams yn Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd. Mae wedi gweithio mewn addysg ôl-16 am nifer o flynyddoedd, gan gael nifer o rolau ar draws y cwricwlwm a gofal bugeiliol.
Mae wedi gweithio mewn lleoliadau uwchradd ac addysg bellach yn ystod ei yrfa. Ar ôl graddio mewn cemeg o Brifysgol Caerdydd, aeth Geraint ymlaen i gwblhau cymhwyster TAR ac, yna, MA mewn Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Fel Cadeirydd Cyngor y Gweithlu Addysg, mae Geraint wedi ymrwymo i gefnogi'r gweithlu proffesiynol, a chyfrannu at ymdriniaeth reoleiddiol sy'n glir, cymesur, ac yn canolbwyntio ar gynnal a datblygu hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.
Caiff arweinyddiaeth Geraint ei lunio gan ymrwymiad cryf i wasanaeth cyhoeddus ac Addysgu Catholig Cymdeithasol, gyda ffocws penodol ar urddas, cynhwysiant, a gwella cyfleoedd bywyd i ddysgwyr o gymunedau dan anfantais.
Cofrestr buddiannau
Cyflogaeth bresennol
Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd
Cyflogaeth flaenorol
dd/b
Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au)
dd/b
Gwaith ymgynghori neu gontract
dd/b
Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg
dd/b
Aelodaeth undeb llafur
Yr Undeb Addysg Cenedlaethol, Aelod Lleyg - rhanbarth Caerdydd
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail
Aelod o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol
Rhoddion a lletygarwch
dd/b
Unrhyw ddatganiad arall
dd/b
David Edwards
Mae David Edwards yn Ddirprwy Bennaeth yn Oasis Academy, Daventry Road, Bryste. Yn ystod ei yrfa, mae wedi gweithio mewn lleoliadau cynradd ac uwchradd, ac wedi treulio nifer o flynyddoedd yn addysgu yn Ne Affrica yn y system addysg wladol.
Mae David yn angerddol am sicrhau cydraddoldeb ar gyfer holl aelodau'r gymuned ysgol, waeth bynnag fo'u hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, neu gefndir economaidd. Mae'n ganddo diddordeb penodol mewn ymarfer a hysbysir gan drawma i gefnogi pobl ifanc gyda phrofiadau plentyndod anffafriol.
Mae wedi treulio nifer o flynyddoedd yn addysgu yn Ne Affrica yn y system addysg gwladol yn Durban a Cape Town.
Mae gan David Gymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru, yn Arweinydd Arbenigol Addysg yn Lloegr, ac yn Arweinydd y Dyfodol yr Adran Addysg.
Cofrestr buddiannau
Cyflogaeth bresennol
Dirprwy Bennaeth yn Oasis Academy Daventry Road, Bryste
Cyflogaeth flaenorol
Uwch Arweinydd yn the Hereford Church of England Academy
Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au)
dd/b
Gwaith ymgynghori neu gontract
dd/b
Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg
dd/b
Aelodaeth undeb llafur
Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL)
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail
Ynad Cymwys, Llys Ynadon Caerdydd, 2006-presennol
Rhoddion a lletygarwch
dd/b
Unrhyw ddatganiad arall
dd/b
Kelly Edwards
Mae Kelly Edwards wedi gweithio ym maes addysg, ar draws amrywiol sectorau, ers dros chwarter canrif. Buodd yn athrawes Saesneg yn y sector uwchradd, cyn cymhwyso i fod yn gynghorydd gyrfaoedd. Gorffenodd ei MA mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd yn 2011.
Treuliodd naw mlynedd mewn amrywiol swyddogaethau ym maes addysg uwch yn hen Brifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg a Phrifysgol De Cymru, fel rheolwr prosiect, arweinydd rhaglenni ac uwch ddarlithydd ym maes dysgu seiliedig ar waith. Wedyn, symudodd i'r sector dysgu oedolion yn y gymuned i fod yn uwch ymchwilydd a swyddog polisi yn Addysg Oedolion Cymru.
Ymunodd Kelly â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i fod yn Bennaeth Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith yn 2016, gyda chyfrifoldeb strategol dros arwain y gwaith o wella ansawdd ar draws y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Partneriaethau a Datblygu Strategol gyda Colegau Cymru.
Cofrestr buddiannau
Cyflogaeth bresennol
Colegau Cymru
Cyflogaeth flaenorol
NTfW
Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au)
dd/b
Gwaith ymgynghori neu gontract
dd/b
Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg
dd/b
Aelodaeth undeb llafur
dd/b
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail
dd/b
Rhoddion a lletygarwch
dd/b
Unrhyw ddatganiad arall
dd/b
Theresa Evans-Rickards
Dechreuodd Theresa Evans-Rickards weithio ym maes addysg trwy waith gwirfoddol yn y trydydd sector gyda’r Geidiau, yna trwy weithio mewn canolfannau ieuenctid cyn dechrau ar ei gyrfa fel athrawes. Bu’n athrawes Astudiaethau Busnes, TGCh a Chyfrifiadura mewn nifer o ysgolion uwchradd yng Nghymru a Lloegr, gan ddod yn bennaeth cyfadran ac yn uwch arweinydd.
Yn 2010, daeth Theresa yn ymgynghorydd TGCh a Chyfrifiadura ar draws Torfaen a Sir Fynwy, yna dwy flynedd yn y Consortiwm Rhanbarthol. Yn 2014, symudodd i’r sector ADY gan ddod yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol Arbennig 3-19 oed. Ochr yn ochr â hyn, datblygodd a rheolodd Teresa Wasanaeth Ymarfer Cynhwysol Awdurdod Lleol, gan gefnogi ysgolion prif ffrwd, ac enillodd TAR ychwanegol ac MA mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg.
Mae Theresa yn Gadeirydd Cymdeithas Dirprwy Benaethiaid Ysgolion Arbennig De Cymru, sy'n rhoi cyfleoedd i ddatblygu cydweithredu ym maes arweinyddiaeth ar draws y sector. Daeth yn arolygydd cymheiriaid ar gyfer y sector ADY yn 2018. O ganlyniad i’w gwaith dros y degawd diwethaf, mae Theresa wedi dod yn lladmerydd ADY a’r athrawon a’r staff cymorth sy’n gweithio yn y sector hwnnw.
Pennaeth Gweithredol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cynghorydd TGCh, Cyfrifiadura, a Chymhwysedd, Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru
Dechreuodd Anwen ei gyrfa yn athrawes Saesneg ysgol uwchradd ac mae wedi gweithio ar draws addysg bellach ac addysg uwch. Mae hi hefyd wedi dal ystod o rolau awdurdod lleol gyda ffocws cyson ar wella deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc, o grwpiau bregus a heb gynrychiolaeth ddigonol, yn cynnwys y rheiny o dreftadaeth Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Mae Anwen yn bennaeth ysgol rithwir brofiadol, rôl sy’n rhychwantu addysg, gofal cymdeithasol ac iechyd, lle mae wedi arwain mentrau i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb addysgol a chryfhau cymorth ar gyfer dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae ganddi brofiad o arweinyddiaeth mewn cyd-destunau sector cyhoeddus cymhleth, ynghyd â chryfderau mewn cydweithio, mentora a hyfforddi. Mae ei diddordebau penodol mewn arfer sy’n ystyriol o drawma a chefnogi unigolion a thimau i ddatblygu hyder, galluogedd ac ymagweddau cynhwysol at addysg.
Cofrestr buddiannau
Cyflogaeth bresennol
Bennaeth ysgol rithwir brofiadol, Surrey
Cyflogaeth flaenorol
Bennaeth ysgol rithwir brofiadol, Hampshire
Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au)
dd/b
Gwaith ymgynghori neu gontract
dd/b
Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg
Llywodraethwr yn y Gwasanaeth Hope (Pwyllgor Rheoli)
Aelodaeth undeb llafur
UNISON
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail
Aelod o National Association of Virtual School Heads (NAVSH)
Cyfarwyddwr, Surrey Alliance for Excellence
Rhoddion a lletygarwch
dd/b
Unrhyw ddatganiad arall
dd/b
Jane Jenkins
Bu Jane yn gweithio fel athrawes, pennaeth ac ymgynghorydd gwella ysgolion yng Nghaerdydd ers dros 30 mlynedd.
Mae Jane wedi treulio ei gyrfa’n gweithio mewn ysgolion dinesig ac mae bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd cefnogi lles cymuned gyfan yr ysgol er mwyn sicrhau’r deilliannau gorau i blant. Canolbwyntiodd ei gwaith gyda’r gwasanaeth ymgynghori ar ddatblygu a gweithredu cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen, a bu’n lladmerydd cryf erioed dros ddysgu seiliedig ar chwarae a dysgu dilys.
Ers ymddeol, mae Jane wedi bod yn awyddus i fanteisio ar fwy o gyfleoedd i deithio ac mae wedi bod yn gweithio mewn ysgol yn India yn addysgu Saesneg i fyfyrwyr a staff.
Cofrestr buddiannau
Cyflogaeth bresennol
Wedi ymddeol
Cyflogaeth flaenorol
Pennaeth Ysgol Gynradd Moorland, Caerdydd
Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au)
dd/b
Gwaith ymgynghori neu gontract
Gwaith ymgynghorol ar gyfer Partneriaeth Dysgu Cymru Athro cyflenwi ar gyfer Cyngor Caerdydd trwy Caerdydd ar Waith
Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg
dd/b
Aelodaeth undeb llafur
NEU (1989-presennol)
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail
dd/b
Rhoddion a lletygarwch
dd/b
Unrhyw ddatganiad arall
dd/b
Karl Jones
Mae Karl Jones wedi gweithio ym myd addysg am bron i ugain mlynedd. Gweithiodd fel darlithydd mewn cyfrifiadureg yng Ngholeg Merthyr Tudful, cyn dod yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant. Yn fwy diweddar, mae Karl wedi ymgymryd â rôl Uwch Ddarlithydd mewn Technolegau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn dysgu cyfrifiadureg, ac yn rheoli agweddau o'u darpariaeth addysg traws genedlaethol.
Mae Karl hefyd wedi gweithio mewn nifer o rolau addysg ehangach gan gynnwys prif arholwr, craffu addysg, ac Arloeswr cwricwlwm Cymru ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg. Ynghyd â'i rôl gyda CGA, mae'n llywodraethwr ysgol hefyd.
Fe wnaeth Karl gwblhau ei MSc mewn cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Hertfordshire, ac mae'n gweithio tuag at ei PhD ar hyn o bryd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar dechnoleg addysg a gwella cyfranogiad.
Cofrestr buddiannau
Cyflogaeth bresennol
Prifysol Metropolitan Caerdydd
Cyflogaeth flaenorol
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant y Coleg, Merthyr Tudful Ltd
Llywodraethwr Awdurdod addyg lleol, Ysgol Gynradd Newton, Porthcawl Llywodraethwr Cymunedol, Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, Merthyr Tudfil (yn flaenorol)
Aelodaeth undeb llafur
UCU
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail
dd/b
Rhoddion a lletygarwch
dd/b
Unrhyw ddatganiad arall
dd/b
Matthew Owens
Dechreuodd Matthew ei yrfa yn weithiwr ieuenctid a hyfforddwr awyr agored cyn cymhwyso i fod yn athro ysgol gynradd yn 2014. Erbyn hyn, mae’n gweithio yng Nghaerdydd ac wedi addysgu ar draws pob sector mewn amrywiaeth o ysgolion ar hyd a lled de Cymru. Cwblhaodd Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MEP) yn 2019 ac mae wrthi’n astudio ar gyfer Doethuriaeth mewn Addysg (EdD) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn archwilio’r modd y mae athrawon ysgolion cynradd yn amgyffred ac yn ymgysylltu ag ymchwil fel ffurf o ddysgu proffesiynol.
Ochr yn ochr â’i rôl ystafell ddosbarth, mae Matthew yn gweithio fel Tiwtor Ymarfer i’r Brifysgol Agored, yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant a’u mentoriaid ledled Cymru. Mae hefyd yn aelod o Grŵp Ymchwil TAR y Brifysgol Agored, yn cyfrannu at ddatblygu diwylliant ymchwil cynhwysol ac ysbrydoledig. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys ymarfer myfyriol, ymholi yn yr ystafell ddosbarth, dysgu proffesiynol, diwygio athrawon a galluogedd athrawon.
Cofrestr buddiannau
Cyflogaeth bresennol
Ysgol Gynradd Baden Powell, Caerdydd
Cyflogaeth flaenorol
dd/b
Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au)
dd/b
Gwaith ymgynghori neu gontract
Tiwtor ymarfer - Y Brifysgol Agored
Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg
dd/b
Aelodaeth undeb llafur
NASWT (2025-presennol)
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail
Mountain Training Association
Rhoddion a lletygarwch
dd/b
Unrhyw ddatganiad arall
dd/b
Kathryn Robson
Kathryn yw Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru. Mae Kathryn wedi gweithio yn y sector addysg ôl-16 ers dros 20 mlynedd ac mae wedi datblygu llawer o bartneriaethau i helpu ehangu addysg bellach a dysgu oedolion yn y gymuned.
A chanddi gefndir mewn Rheoli Adnoddau Dynol, mae Kathryn yn Aelod Siartredig o’r CIPD ac mae ganddi gymhwyster Rheoli AD ôl-raddedig o Athrofa Addysg Uwch Abertawe. Mae’n aelod o Fforwm Penaethiaid Colegau Cymru ynghyd â’u Pwyllgor Archwilio, ac mae hefyd yn aelod o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Mae Kathryn yn ymwneud yn weithgar â datblygu mentrau cydraddoldeb hiliol ac mae’n Aelod Bwrdd o Gyngor Hil Cymru.
Mae gan Kathryn ddiddordeb brwd yn y buddion iechyd a lles sy’n gysylltiedig ag addysg oedolion, ac mae’n gweithio’n weithgar gyda’r Rhwydweithiau Rhagnodi Cymdeithasol ar draws pob rhanbarth. Mae’n lladmerydd dysgu gydol oes i bobl o bob oedran, ac mae wedi ymgymryd â rôl llywodraethwr ysgol ar draws addysg gynradd ac uwchradd trwy gydol ei gyrfa.
Cofrestr buddiannau
Cyflogaeth bresennol
Prif Weithredwr, Addysg Oedolion Cymru
Cyflogaeth flaenorol
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Staff a Dysgwyr, Coleg Sir Penfro
Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au)
dd/b
Gwaith ymgynghori neu gontract
dd/b
Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg
dd/b
Aelodaeth undeb llafur
dd/b
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail
Aelod o Cymdeithas yr Iaith Aelod o Bwyllgor Archwilio, Colegau Cymru Aelod o Fforwm Penaethiaid, Colegau Cymru Aelod, Sefydliad Dysgu a Gwaith Aelod o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, WCVA Aelod o'r tri Chyngor Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yng Nghymru Aelod Siartredig o'r CIPD Cynrychiolydd CYflogwyr ar Gyngor Partneriaeth Cymdeithasol Aelod o'r Panel Adolygu Penderfyniadau
Rhoddion a lletygarwch
dd/b
Unrhyw ddatganiad arall
dd/b
Nicola Stubbins
Mae Nicola Stubbins wedi gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus ers 1995. Dechreuodd ar ei gyrfa mewn gofal cymdeithasol fel Gweithiwr Cymorth Iechyd Meddwl, ac mae ganddi ystod eang o brofiad ar draws gofal cymdeithasol plant ac oedolion, addysg, tai, a digartrefedd. Mae gan Nicola Ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol a Gradd meistr mewn Gofal Cymdeithasol.
Mae Nicola wedi dal swyddi arwain uwch mewn llywodraeth leol am 18 mlynedd ac ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych.
Mae Nicola yn Ysgrifennydd Anrhydeddus Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ar ôl bod yn Lywydd yn ystod 2020-21. Mae hi hefyd yn Aelod o Fwrdd RYA Cymru Wales.
Cofrestr buddiannau
Cyflogaeth bresennol
Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg, Cyngor Sir Ddinbych
Cyflogaeth flaenorol
Pennaeth Diogelu a Lles Oedolion, Cyngor Blackpool
Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au)
dd/b
Gwaith ymgynghori neu gontract
dd/b
Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg
dd/b
Aelodaeth undeb llafur
UNISON
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail
Aelod Bwrdd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru RYA Cymru/Wales
Rhoddion a lletygarwch
dd/b
Unrhyw ddatganiad arall
dd/b
Gwawr Taylor
Gwawr Taylor yw Ysgrifennydd y Brifysgol a Chyfarwyddwr y Gymraeg ar gyfer Prifysgol Aberystwyth. Mae hi’n arwain ar lwyodraethiant y brifysgol, cydymffurfiaeth sefydliadol, yn arbennig o ran rheoli gwybodaeth, iechyd, diogelwch a’r amgylchedd, cydymffurfiaeth fisas myfyrwyr, cydymffurfiaeth y Gymraeg, gan gynnwys yr adran gyfieithu, a’r ddarpariaeth dysgu Cymraeg.
Yn flaenorol roedd Gwawr yn Ysgrifennydd y Cwmni ar gyfer Coleg Merthyr Tudful, a Tydfil Training Consortium, ac mae hi wedi arwain darpariaeth Gymraeg yn y sectorau addysg uwch ac addysg bellach. Roedd hi hefyd yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn lywodraethwr awdurdod lleol yn Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn yng Ngheredigion.
Cofrestr buddiannau
Cyflogaeth bresennol
Ysgrifennydd y Brifysgol a Chyfarwyddwr y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth
Cyflogaeth flaenorol
Ysgrifennydd Cynorthwyol Prifysgol, Prifysgol De Cymru
Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au)
dd/b
Gwaith ymgynghori neu gontract
dd/b
Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg
Llywodraethwr Awdurdod Lleol, Ysgol Dyffryn Cledlyn
Aelodaeth undeb llafur
dd/b
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail
dd/b
Rhoddion a lletygarwch
dd/b
Unrhyw ddatganiad arall
dd/b
David Williams
Mae David Williams wedi bod yn ymwneud â gwaith ieuenctid ers ei fod yn 17 oed, fel gwirfoddolwr, ac ar hyn o bryd mae’n rheoli Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen. Mae’n gyfrifol am oruchwylio’r tîm arweinyddiaeth sy’n rheoli’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, a gosod y cyfeiriad strategol.
Mae David yn aelod o’r grŵp Arweinyddiaeth a Rheoli, is-grŵp Grŵp Datblygu y Gweithlu Gwaith Ieuenctid, sy'n rhan o gorff ehangach sy'n cefnogi gwaith Strategaeth gwaith ieuenctid i Gymru.
Cofrestr buddiannau
Cyflogaeth bresennol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Cyflogaeth flaenorol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd
Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au)
dd/b
Gwaith ymgynghori neu gontract
dd/b
Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg
dd/b
Aelodaeth undeb llafur
dd/b
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail
Ymddiriedolwr Elusen Gofrestredig yr Hwb Torfaen
Rhoddion a lletygarwch
dd/b
Unrhyw ddatganiad arall
dd/b
Sefydlwyd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, a daeth i fodolaeth ar 1 Ebrill 2015. Rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, ac addysg oedolion, a dysgu'n seiliedig ar waith.
Ein gweledigaeth yw edrych tua'r dyfodol a bod yn ymatebol, a bod ein cofrestreion, dysgwyr, pobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid a'r cyhoedd yn ymddiried ynom.
Rheoleiddio
Ein swyddogaeth graidd yw rheoleiddio ym mudd y cyhoedd. I wneud hyn rydym yn:
cynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg sy'n gymwys i ymarfer mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid a dysgu yn y gweithle.
Rydym yn ceisio cyfleoedd drwy'r amser i lywio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru er budd ein cofrestreion. Mae ein cyfrifoldeb statudol i ddarparu cyngor annibynnol, dadansoddi ymchwil, a deallusrwydd, yn golygu ein bod yn gallu cefnogi'r gwaith o gynllunio'r gweithlu yng Nghymru, gan greu amgylchedd cynhwysol ar gyfer yr holl broffesiwn.
Hyrwyddo
Rydym yn hyrwyddo gyrfaoedd addysg yng Nghymru trwy wefan Addysgwyr Cymru a'r gwasanaeth cyngor. Mae Addysgwyr Cymru yn cynnwys nifer o wasanaethau sy'n dod â chyfleoedd gyrfa, hyfforddiant a swyddi yn sector addysg Cymru ynghyd.