Os bydd pwyllgor priodoldeb i ymarfer yn gosod gorchymyn disgyblu ar gofrestriad ymarferwr addysg, bydd hysbysiad yn ymddangos yma. Bydd yr hysbysiad yn parhau am gyfnod o 6 mis o’i ddiwrnod cyhoeddi.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg, fel y’i cyfansoddir o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, fel y’i diwygiwyd, trwy hyn yn hysbysu fod gorchymyn disgyblu wedi’i osod ar gofrestriad y canlynol, yn unol â Rheol 31 ei Weithdrefnau a Rheolau Disgyblu Gorffennaf 2024.
Ar gyfer ymholiadau'r wasg,
Joan Morgan - 21 Mai 2026
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 16-19 Mawrth, a 21 Mai 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Joan Morgan.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi gan Ysgol Llwyn yr Eos fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, bod Mrs Morgan:
- Ar neu o gwmpas 16 Mehefin 2023:
- wedi rhoi ei bys(edd) i mewn i geg Disgybl A
- wedi tynnu Disgybl A wrth ei fraich
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mrs Morgan o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod amhenodol.
Penderfynodd hefyd na chaiff Mrs Morgan wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Mrs Morgan yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 21 Mai 2028, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mrs Morgan hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Lee-Ann Thomas – 20 Mai 2026
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 19 a 20 Mai 2026, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Lee-Ann Thomas.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi fel Cynorthwy-ydd Addysgu a/neu Gynorthwy-ydd Goruchwylio a/neu Gynorthwy-ydd Cegin Cyffredinol y Clwb Brecwast yn Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn, bod Miss Thomas:
- wedi gafael yng nghydweithiwr a’i ddal wrth ei fraich dde
- ar un achlysur neu fwy, wedi ysgwyd braich dde cydweithiwr
- wedi gwasgu un neu fwy o’i bysedd i mewn i fraich dde cydweithiwr
- wedi gweiddi ar gydweithiwr
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Thomas fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod o 2 flynedd (o 20 Mai 2026 tan 20 Mai 2028).
Fel y cyfryw, bydd Miss Thomas yn gallu gweithio fel cofrestrai (gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru ar hyd cyfnod y Cerydd.
Mae gan Miss Thomas hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Geraint Lloyd – 30 Ebrill 2026
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 28, 29 a 30 Ebrill 2026, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athro addysg bellach, Mr Geraint Lloyd.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi fel Athro Addysg Bellach yng Ngrŵp Colegau NPTC (“y Coleg”), bod Mr Lloyd:
- ar neu o gwmpas 31 Awst 2023, wedi gwneud sylw wrth Gydweithiwr A
- ar neu o gwmpas 14 Medi 2023, wedi dweud wrth Gydweithiwr A “mae’r ddesg hon yn un dda i blygu rhywun drosti”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- rhwng mis Awst a mis Medi 2023, wedi gwneud sylwadau wrth Gydweithiwr A, gan gynnwys ei fod wedi dweud wrth Gydweithiwr A:
- ei bod hi wedi dwyn ei swydd, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- nad oedd neb yn y Coleg ei heisiau hi yn Rôl A, a bod pawb ei eisiau ef yn Rôl A, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- nad oedd staff eraill yn ei pharchu hi fel yr oeddent yn ei barchu ef, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- bod ei chydweithwyr blaenorol yn falch o gael gwared arni, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- nad oedd hi’n ddigon cryf ar gyfer Rôl A, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod ymddygiad Mr Lloyd yn amhriodol mewn perthynas â pharagraffau 1 i 3 uchod, yn amhroffesiynol mewn perthynas â pharagraff 3 uchod, ac o natur rywiol mewn perthynas â pharagraffau 1 a 2 uchod.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Lloyd o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori athro addysg bellach am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Lloyd wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 5 mlynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Lloyd yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 30 Ebrill 2031, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Lloyd hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Janine Brill – 20 Mai 2026
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 11 i 15 Mai 2026, a 18 i 20 Mai 2026. wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi’i brofi yn erbyn yr athrawes ysgol, Janine Brill.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi gan Ysgol Gynradd Goetre (‘yr Ysgol’) fel Pennaeth, a/neu ar ôl ei hymddeoliad, bod Mrs Brill:
- wedi caniatáu i’r Ysgol lunio contract ar gyfer dyfeisiau amlswyddogaeth ac argraffyddion dosbarth (“Contract mis Ionawr 2019”) gyda Chwmni 1 ar neu o gwmpas 24 Ionawr 2019, ac nad oedd:
- wedi cynnig Contract mis Ionawr 2019 ar gyfer tendrau
- wedi ceisio o leiaf dri dyfynbris yn ysgrifenedig cyn ei lunio
- wedi cael cymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu’r Ysgol i lunio Contract mis Ionawr 2019
- wedi sicrhau bod Contract mis Ionawr 2019 yn cynrychioli gwerth am arian; a/neu werth gorau
- wedi sicrhau eu bod yn ymwybodol o gostau gwirioneddol neu amcangyfrifedig y contract cyn llunio Contract mis Ionawr 2019
- wedi caniatáu i’r Ysgol lunio contract arall ar gyfer dyfeisiau amlswyddogaeth ac argraffyddion dosbarth (“Contract mis Chwefror 2019”) gyda Chwmni 1 ar neu o gwmpas 13 Chwefror 2019 a phan oedd:
- yn gwybod bod pryderon wedi cael eu codi ynglŷn â Chontract mis Ionawr 2019
- wedi cael cyfarwyddyd i ohirio’r broses osod tra bod y mater yn cael ei adolygu
- heb gynnig Contract mis Chwefror 2019 ar gyfer tendrau
- geisio o leiaf dri dyfynbris yn ysgrifenedig cyn ei lunio
- heb gael cymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu’r Ysgol i lunio Contract mis Chwefror 2019
- heb sicrhau bod Contract mis Chwefror 2019 yn cynrychioli gwerth am arian; a/neu werth gorau
- heb sicrhau eu bod yn ymwybodol o gostau gwirioneddol neu amcangyfrifedig Contract mis Chwefror 2019
- wedi caniatáu i’r Ysgol lunio contract ar gyfer dyfeisiau amlswyddogaeth ac argraffyddion dosbarth (“Contract mis Mawrth 2020”) yn ystod neu o gwmpas mis Mawrth 2020 pan oedd:
- yn gwybod bod pryderon wedi cael eu codi ynglŷn â Chontract mis Ionawr 2019 a/neu fis Chwefror 2019, a/neu ymddygiad Cwmni 1 mewn perthynas â’r contractau hyn
- heb gynnig Contract mis Mawrth 2020 ar gyfer tendrau
- geisio o leiaf dri dyfynbris yn ysgrifenedig cyn llunio Contract mis Mawrth 2020
- heb gael cymeradwyaeth gan Gorff Llywodraethu’r Ysgol i lunio Contract mis Mawrth 2020
- heb sicrhau bod Contract mis Mawrth 2020 yn cynrychioli: gwerth am arian; a/neu werth gorau
- heb sicrhau bod prosesau caffael y cyngor a/neu reoliadau ariannol y cyngor yn cael eu dilyn:
- ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod Mrs Brill yn dangos diffyg uniondeb
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mrs Brill o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori Athrawes Ysgol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mrs Brill wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 3 blynedd fynd heibio. Os na fydd Mrs Brill yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 20 Mai 2029, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mrs Brill hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Andrew Jones – 13 Mai 2026
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 12-13 Mai 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, ac athro ysgol, Andrew Jones.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel Hyfforddwr gyda Educ8 Training Limited, fe wnaeth Mr Jones annog a chyfarwyddo dysgwr i gwblhau ffurflen Adolygiad Cynnydd Llywodraeth Cymru ar ran y cyflogwr heb fod y cyflogwr yn gwybod nac yn cydsynio.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Mr Jones yn anonest, ac yn arddangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Jones fel ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 13 Mai 2026 a 13 Mai 2028).
O'r herwydd bydd Mr Jones yn gallu gweithio fel person cofrestredig (ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith), sy'n darparu gwasanaethau ar ran corff dysgu'n seiliedig ar waith (heblaw fel gwirfoddolwr) yng Nghymru am gyfnod y Cerydd. Bydd Mr Jones hefyd yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mr Jones has the right of appeal to the High Court within 28 days.
Lowri Mair Williams - 23 Ebrill 2026
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2026
Fe wnaeth Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) oedd yn eistedd yng Nghaerdydd ar 20-23 Ebrill 2026, wedi penderfynu nad oedd gan Miss Lowri Mair Williams, athro ysgol annibynnol, achos i'w ateb o ran yr holl honiadau.
Richard Paterson – 23 Ebrill 2026
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 23 Ebrill 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Richard Paterson.
Canfu'r Pwyllgor bod yr holiadau canlynol wedi eu profi:
- ar neu o gwmpas Ebrill i Fehefin 2025 fe wnaeth Mr Paterson sylwadau a/neu anfon negeseuon o natur ddychrynllyd a/neu fygythiol i berson A
- o ganlyniad i'w ymddygiad ym mharagraff 1, fe wnaeth Mr Paterson gytuno i Ddatrysiad Cymunedol am y drosedd o anfon gohebiaeth yn bygwth marwolaeth neu niwed difrifol, yn erbyn adran 181 y ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023, oedd yn golygu bod angen i Mr Paterson fynychu cwrs ymwybyddiaeth alcohol.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Paterson fel athro ysgol am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 23 Ebrill 2026 a 23 Ebrill 2028).O'r herwydd bydd Mr Paterson yn gallu gweithio fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Paterson yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Kellie Kabza – 26 Mawrth 2026
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 24 i 26 Mawrth 2026, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn y Gweithiwr Cymorth Dysgu mewn Ysgol, Kellie Kabza.
Canfu’r Pwyllgor fod yr honiadau canlynol wedi’u profi:
- Ei bod wedi gwneud datganiadau a oedd yn anghywir a/neu’n gamarweiniol, gan gynnwys:
- ar neu o gwmpas 20 Ionawr 2023, dywedodd wrth Gydweithiwr A ei bod wedi rhoi gwybod i’r holl staff perthnasol am ddiweddariad i drefniadau diogelu Disgybl 1 a Disgybl 2, er nad oedd wedi gwneud hynny, mewn gwirionedd
- ar neu o gwmpas 17 Ebrill 2023, dywedodd wrth Gydweithiwr A nad oedd difrod i fws mini yr oedd wedi’i yrru wrth ei ddychwelyd, er ei bod wedi difrodi’r bws mini, mewn gwirionedd
- ar neu o gwmpas 20 Ebrill 2023 a 28 Ebrill 2023, dywedodd wrth Gydweithiwr A eich bod wedi tynnu lluniau o ginio Disgybl 11, er nad oedd wedi gwneud hynny, mewn gwirionedd
- ar neu o gwmpas 28 Ebrill 2023, dywedodd wrth Gydweithiwr A nad oedd yn cofio sut y difrodwyd y bws mini, er yr oedd yn gwybod mewn gwirionedd mai hi oedd wedi difrodi’r bws mini
- ar neu o gwmpas 2 Mai 2023, dywedodd wrth Gydweithiwr A ei bod wedi gwirio’r ffeiliau diogelu ar gyfer Disgyblion 8 a 9, er nad oedd wedi gwneud hynny, mewn gwirionedd
- ar neu o gwmpas 20 Ionawr 2023, nid oedd wedi rhoi gwybod i gynorthwy-ydd addysgu am drefniadau diogelu Disgybl 3, yn yr ystyr nad oedd wedi dweud na ddylai Disgybl 3 gael ei gasglu gan ei fam yn unig
- ar neu o gwmpas 13 Chwefror 2023, nid oedd wedi cymryd camau dilynol ynglŷn â threfniadau diogelu Disgybl 3, yn yr ystyr nad oedd wedi cadarnhau bod mam-gu’r plentyn yn bresennol ar yr adeg casglu o’r ysgol
- ar neu o gwmpas 30 Mawrth 2023, ei bod wedi anfon Disgybl 4 a Disgybl 5 adref pan allent fod wedi cael eu goruchwylio yn yr Ysgol gan aelod arall o staff
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer nad oedd Mrs Kabza wedi dangos ystyriaeth ddigonol o bwysigrwydd lles disgyblion a diogelu mewn perthynas â honiadau 1(a), 1(f), 2, 3, a 4.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer hefyd fod Mrs Kabza yn anonest ac wedi dangos diffyg unplygrwydd o ran honiad 1(a), 1(b), (c), 1(e) ac 1(f).
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd Dros Dro (heb amodau) ar gofrestriad Mrs Kabza fel Gweithiwr Cymorth Dysgu mewn Ysgol, am gyfnod o 17 mis (o 26 Mawrth 2026 tan 26 Awst 2027). Fel y cyfryw, ni fydd Mrs Kabza yn gallu gweithio fel Gweithiwr Cymorth Dysgu mewn Ysgol mewn ysgol a gynhelir nac ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru yn ystod cyfnod y Gorchymyn.
Mae gan Mrs Kabza hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Mark David Warren – 16 Ebrill 2026
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 14-16 Ebrill 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith, Mark David Warren.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, ar neu o gwmpas 15 Ionawr 2025, bod Mr Warren wedi cwblhau adroddiadau arsylwi o ran dysgwr 1 a dysgwr 2 oedd yn cynnwys gwybodaeth, sef bod dysgwyr wedi palu a chodi planhigion.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Mr Warren yn anonest, ac yn arddangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Warren fel ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 16 Ebrill 2026 a 16 Ebrill 2028). O'r herwydd bydd Mr Warren yn gallu gweithio fel person cofrestredig (ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith), sy'n darparu gwasanaethau ar ran corff dysgu'n seiliedig ar waith (heblaw fel gwirfoddolwr) yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Warren yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Rebecca Williams – 18 Mawrth 2026
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ebrill 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 16, 17 a 18 Mawrth 2026, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athrawes addysg bellach a’r ymarferydd dysgu seiliedig ar waith, Rebecca Williams.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi fel darlithydd yng Ngholeg Gwent, bod Ms Williams:
- rhwng tua mis Medi a mis Rhagfyr 2023, wedi gwneud un neu fwy o sylwadau amhriodol wrth ddysgwr/dysgwyr, neu ym mhresenoldeb dysgwr/dysgwyr, sef:
- o ran golwg Dysgwr 1:
- gwnaeth sylwadau negyddol ar ei dillad o flaen dysgwyr eraill
- gwnaeth sylwadau ar bwysau Dysgwr 1
- o ran Dysgwr 2:
- pan ofynnodd Dysgwr 2 am gael gadael yn gynnar, dywedodd, “Mae hynny’n iawn, gadawa pryd bynnag rwyt ti eisiau, dwyt ti ddim yn gwneud unrhyw beth yma, beth bynnag”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- pan oedd Dysgwr 2 yn siarad â dysgwr arall, dywedodd, “na, mae’n iawn, oherwydd bod ganddo [Dysgwr 2] gyflwr sy’n gadael iddo ddweud beth bynnag mae eisiau heb ganlyniadau a dydyn ni ddim yn cael dweud unrhyw beth”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi galw un neu fwy o ddysgwyr yn ‘muppets’ a/neu’n glowniau.
- o ran Dysgwr 6:
- dywedodd wrth Ddysgwr 6 nad oedd yn fachgen dymunol i fod yn ei gwmni na siarad ag ef, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- pan ddywedodd Dysgwr 6 “helô” wrthi, fe atebodd drwy ddweud “paid siarad â fi Mr [Dysgwr 6]”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi datgelu bod dysgwr yn ei dosbarth [Dysgwr 8] yn derbyn gofal o flaen dysgwyr eraill
- o ran Dysgwr 3:
- wedi ei galw’n “gwynwr”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw, yn unigol a/neu o flaen y dosbarth
- wedi dweud nad oedd yn mynd i farcio’r gofrestr ac nad oedd Dysgwr 3 yn mynd i gael ei chymorth ariannol, oherwydd ei bod hi’n swnian, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- ar ôl i Ddysgwr 3 godi pryderon ynglŷn â’i hymddygiad gyda Phennaeth yr Ysgol ar 12 Rhagfyr 2023, fe ddywedodd wrthi “Diolch am ddweud [wrth Gydweithiwr 1] amdana’ i”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- ar neu o gwmpas 21 Rhagfyr 2023, o ran Dysgwr 1, o flaen un neu fwy o ddysgwyr eraill:
- wedi dweud wrthi am wneud yn siŵr na fyddai hi’n mynd yn feichiog dros y Nadolig, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi gofyn a oedd hi’n defnyddio dulliau atal cenhedlu a/neu wedi cael y mewnblaniad [atal cenhedlu] wedi’i osod, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi dweud mewn perthynas â chlais ar Ddysgwr 1, “Rydyn ni’n gwybod pa fath o bethau rwyt ti’n eu gwneud”, gan awgrymu bod hyn o ganlyniad i weithgarwch rhywiol
- ar un achlysur neu fwy rhwng tua mis Medi 2023 a mis Rhagfyr 2023, pan gododd Dysgwr 1 bryderon gyda hi ynglŷn ag ymddygiad myfyriwr gwrywaidd tuag ati:
- wedi gwrthod caniatáu iddi symud oddi wrth y dysgwr gwrywaidd
- wedi dweud wrthi nad oedd ganddi Gyflwr Meddygol 1, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi dweud wrthi ei bod hi’n gorymateb, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi dweud wrth Ddysgwr 4, “Am beth est ti at [Gydweithiwr 1]?” ar ôl iddo godi pryderon gyda Phennaeth yr Ysgol ynglŷn â’i hymddygiad
- o ran golwg Dysgwr 1:
- ar neu o gwmpas 12 Rhagfyr 2023, o flaen dysgwyr eraill, wedi codi potel hylif diheintio dwylo a oedd yn eiddo i Ddysgwr 2 a’i rwbio ar ei dwylo a/neu ei chlun a/neu ei phen ôl dros ei dillad
- wedi dweud wrth Ddysgwr 4 am olchi ei fraich neu ei freichiau â weips gwrthfacterol:
- pan nad oedd hynny’n angenrheidiol a’i fod wedi dweud nad oedd eisiau
- pan oeddech yn gwybod neu y dylech fod wedi gwybod bod hyn yn niweidiol i’w groen
Canfu’r Pwyllgor hefyd fod sylwadau a/neu ymddygiad Ms Williams yn amhroffesiynol, yn fychanol a/neu’n wawdiol tuag at ddysgwyr, ac yn dangos diffyg sensitifrwydd.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Ms Williams o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categorïau athro addysg bellach ac ymarferydd dysgu seiliedig ar waith. Penderfynodd hefyd na chaiff Ms Williams wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o dair blynedd fynd heibio. Os na fydd Ms Williams yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 18 Mawrth 2029, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Ms Williams hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Hayley Austin – 19 Mawrth 2026
Dyddiad cyhoeddi:27 Mawrth 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 19 Mawrth 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi eu profi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Hayley Austin.
Canfu'r Pwyllgor bod Mrs Austin:
- ar 8 Awst, cafodd ei chael yn euog yn Llys y Goron Caerdydd:
- o gyflenwi cyffur a reolir - Dosbarth B - amffetamin, yn erbyn Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 a.4(3) ar 18 Hydref 2007, lle cafodd garchar o 32 wedi ei ohirio'n gyfan gwbl am 24 mis, a Gofyniad Gwaith Di-dâl o 200 awr
- o gyflenwi cyffur a reolir - Dosbarth B - amffetamin, yn erbyn Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 a.4(3) ar 18 Hydref 2007, lle cafodd garchar o 32 yn gydamserol, wedi ei ohirio'n gyfan gwbl am 24 mis, a Gofyniad Gwaith Di-dâl o 200 awr
- o gyflenwi cyffur a reolir - Dosbarth B - amffetamin, yn erbyn Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 a.4(3) ar 18 Hydref 2007, lle cafodd garchar o 32 yn gydamserol, wedi ei ohirio'n gyfan gwbl am 24 mis, a Gofyniad Gwaith Di-dâl o 200 awr
Ar ôl gwneud y canfyddiad yma, penderfynodd y Pwyllgor hefyd bod yr ymddygiad yn drosedd berthnasol.
- ar neu o gwmpas 6 Chwefror 2023, fe wnaeth Mrs Austin gais i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol, a nodi yn yr adran datganiadau nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau, ac nid oedd hyn yn gywir
Ar ôl gwneud y canfyddiad yma, penderfynodd y Pwyllgor hefyd bod yr ymddygiad yn anonest, heb hygrededd, ac yn golygu ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mrs Austin fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 19 Mawrth 2026 a 19 Mawrth 2028).
O'r herwydd bydd Mrs Austin yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mrs Austin yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Cerian Williams - 12 Mawrth 2026
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 10-12 Mawrth 2026 wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Cerian Williams.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra fod Ms Williams wedi ei chyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu yn Ysgol Gymraeg Gilfach Fargoed:
- ar neu gwmpas 20 Mai 2022, o ran disgybl A, fe wnaeth:
- tynnu
- afael yn gadarn
- tynnu gerfydd eu braich a'u garddwrn
- Roedd ei hymddygiad ym mharagraff 1 yn:
- defnydd diangen o rym
- defnydd gormodol o rym
- ddim yn cydfynd â Team Teach na pholisi'r ysgol o gwmpas grym rhesymol
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Ms Williams fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 12 mis (rhwng 12 Mawrth 2026 a 12 Mawrth 2027). O'r herwydd ni fydd Ms Williams yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Gorchymyn.
Mae gan Ms Williams yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Bethan Davies – 10 Mawrth 2026
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 10 Mawrth 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Bethan Davies.
Canfu'r Pwyllgor bod yr holiadau canlynol wedi eu profi:
- ar neu o gwmpas 21 Ebrill 2025, bod Miss Davies wedi cyflwyno cais i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol, a nododd yn y datganiad nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau, pan nad oedd hyn yn gywir
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod ymddygiad Miss Davies yn honiad 1 yn anonest a heb hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Waharddiad ar gofrestriad Miss Davies fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o chwe mis (rhwng 10 Mawrth 2026 a 10 Medi 2026).O'r herwydd ni fydd Miss Davies yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y gorchymyn.
Mae gan Miss Davies yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Nicole Brown – 4 Mawrth 2026
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 4 Mawrth 2026, wedi canfod bod honiad o drosedd berthnasol ac ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi eu profi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Nicole Brown.
Canfu'r Pwyllgor bod yr holiadau canlynol wedi eu profi:
- ar 12 Mehefin 2018, cafwyd Miss Brown yn euog yn Llys Ynadon Gwent o yrru cerbyd modur gyda gormodedd o alcohol, yn erbyn adran 5(1)(a) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988. O ganlyniad, cafodd Miss Brown ddirwy o £120, a'i gwahardd rhag gyrru am 20 mis
- ar neu o gwmpas 4 Mawrth 2025, fe wnaeth Miss Brown gais i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol, a nodi yn yr adra datganiadau nad oedd ganddi unrhyw euogfarnau, ac nid oedd hyn yn gywir
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod ymddygiad Miss Brown yn honiad 2 yn anonest a heb hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Brown fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 4 Mawrth 2026 a 4 Mawrth 2028).O'r herwydd bydd Miss Brown yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Miss Brown yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Phillip John Deacon – 2 Mawrth 2026
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd ar 23 Chwefror i 2 Mawrth 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Phillip Deacon.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel athro ysgol yn Ysgol Uwchradd Lliswerry, bod Mr Deacon:
- ar 5 Gorffennaf 2022 o ran Uned 1 (Archwilio Busnes) o Lefel 3 BTEC Cenedlaethol mewn Busnes, fe wnaeth ddarparu graddau dysgwyr i Gydweithiwr A i gyflwyno i'r bwrdd arholi, Pearson, pan nad oedd yr holl waith wedi ei gwblhau ac i'r safon i gyfiawnhau'r marciau a ddyfarnwyd
- rhwng 5 Gorffennaf 2022 ac Ionawr 2023, o ran Uned 1 (Archwilio Busnes) o Lefel 3 BTEC Cenedlaethol mewn Busnes, ar ôl i raddau'r dysgwyr gael eu cyflwyno i'r bwrdd arholi, ond cyn safoni:
- wedi rhoi adborth i ddysgwyr ar eu gwaith
- wedi caniatáu i ddysgwyr newid a gwella eu gwaith
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Mr Deacon anonest, ac yn arddangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Deacon oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori athro ysgol. Penderfynnodd hefyd na fyddai Mr Deacon yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o ddwy flynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Deacon wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 2 Mawrth 2028, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Deacon yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Polly Frazer – 17 Chwefror 2026
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol rhwng 9 ac 17 Chwefror 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Polly Frazer.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau o sylwadau ac ymddygiad amhriodol ac amhroffesiynol gan Ms Frazer wedi eu profi tra ei bod wedi ei chyflogi fel pennaeth yn Ysgol Gynradd Goetre.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Ms Frazer oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori athro ysgol. Penderfynodd hefyd na fyddai Ms Frazer yn cael gwneud cais i'w hadfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 5 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Ms Frazer wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 17 Chwefror 2031, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Ms Frazer yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Sophie Thomas – 3 Mawrth 2026
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 3 Mawrth 2026, wedi canfod bod honiad o drosedd berthnasol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Miss Sophie Thomas.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi, bod Miss Thomas:
- ar 29 Tachwedd 2024, wedi ei chael yn euog o glwyfo anghyfreithiol ar 4 Tachwedd 2023, yn erbyn adran 20 Deddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861. O ganlyniad i'r drosedd, ar 29 Tachwedd 2024, cafodd Miss Thomas ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei ohirio am 12 mis, 150 awr o waith di-dâl a Gorchymyn Iawndal o £1,000
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Thomas fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 3 Mawrth 2026 a 3 Mawrth 2028). O'r herwydd bydd Miss Thomas yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Miss Thomas yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Andrew William Edwards – 12 Chwefror 2026
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 9, 10, 11 a 12 Chwefror 2026, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr ymarferydd dysgu seiliedig ar waith, y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol a’r athro addysg bellach, Andrew Edwards.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi fel ymarferydd dysgu seiliedig ar waith yn ACT Training Limited, bod Mr Edwards:
- Yn ystod neu o gwmpas 2022 i fis Ionawr 2023:
- ar ôl gweld llun o Ddysgwr 1 ar Facebook, wedi gwneud sylw amhriodol ynglŷn â’r llun a bygwth dangos y llun i weddill y dosbarth
- heb gyfathrebu â dysgwyr mewn ffordd barchus
- yn wrthdrawol tuag at ddysgwyr
- Rhwng mis Hydref 2023 a mis Chwefror 2024, heb gyfathrebu’n briodol gydag un neu fwy o ddysgwyr, yn yr ystyr ei fod:
- yn ddadleugar gydag un neu fwy o ddysgwyr
- heb ymateb yn briodol i ymddygiad heriol gan ddysgwyr
- yn anystyriol a/neu’n ddiamynedd mewn perthynas â phryderon neu anawsterau personol dysgwyr
- wedi mynegi rhwystredigaeth pan nad oedd dysgwyr yn deall ei esboniadau a’i gyfarwyddiadau
- wedi gweiddi ar ddysgwyr pan nad oedd cyfiawnhad dros hynny;
- wedi syllu ar ddysgwyr
- wedi dweud wrth Ddysgwr 2 nad oedd yn credu y gallai hi wneud unrhyw beth ac nad oedd ganddo hyder ynddi
- wedi galw Dysgwr 2 yn “goc oen” neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- Digwyddodd ei ymddygiad a amlinellir ym mharagraff 2(a) i 2(h):
- pan oedd wedi cael ei rybuddio ynglŷn â’r ffordd yr oedd yn cyfathrebu â dysgwyr
- pan oedd wedi cael hyfforddiant a chymorth i fynd i’r afael â’r ffordd yr oedd yn cyfathrebu â dysgwyr
- thra oedd yn destun rhybudd ysgrifenedig terfynol ynglŷn â’i ymddygiad fel yr amlinellir ym mharagraff 1(a) i (c) uchod
- Trwy weithredu fel yr amlinellir ym mharagraff 1(a) i (c) a/neu 2(a) i 2(h) uchod, heb gymryd camau digonol i greu amgylchedd dysgu lle’r oedd dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu hannog a’u cefnogi.
- Yn ystod neu o gwmpas 2023 a/neu fis Ionawr 2024, heb gyfathrebu’n briodol â Chydweithiwr A, yn yr ystyr ei fod:
- yn wrthdrawol ac yn ddadleugar gyda hi
- wedi gwthio ei llaw i ffwrdd pan oedd hi’n ceisio ei helpu gyda thasg ar y gliniadur
- wedi dweud “Paid ti meiddio â chyffwrdd â’m sgrin” pan oedd hi’n ceisio ei helpu gyda thasg ar y gliniadur
- wedi cyfeirio at faint ei bronnau
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Edwards o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categorïau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith, gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol ac athro addysg bellach am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Edwards wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 3 blynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Edwards yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 12 Chwefror 2029, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Edwards hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Kathryn Ann Burke – 12 Chwefror 2026
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 11-12 Chwefror 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Kathryn Ann Burke.
Canfu'r pwyllgor, tra ei bod wedi ei chyflogi fel Swyddog Cefnogi Arbennig a Goruchwyliwr Llanw yn Ysgol Iau Llangewydd, ar neu tua 24 Awst 2023, roedd Mrs Burke:
- yn destun datrysiad tu allan i'r llys gan Heddlu De Cymru mewn perthynas â chymryd eitemau o adeilad manwerthu ar 2 achlysur gwahanol
- wedi methu â rhoi gwybod am y datrysiad tu allan i'r llys i'r ysgol
Canfu'r pwyllgor bod yr ymddygiad a brofwyd yn anonest a heb hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mrs Burke fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 12 Chwefror 2026 a 12 Chwefror 2028).
O'r herwydd bydd Mrs Burke yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mrs Burke yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Llyr James - 28 Ionawr 2026
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 27 a 28 Ionawr 2026, wedi canfod bod honiadau o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ a ‘throsedd berthnasol’ wedi’u profi yn erbyn yr athro ysgol, Mr Llyr James.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod Mr James:
- ar 8 Hydref 2024, wedi cael ei euogfarnu yn Llys Ynadon Sir Gaerfyrddin o drosedd Curo ar 9 Mawrth 2024, yn groes i adran 39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988. O ganlyniad i’r drosedd hon, ar 25 Hydref 2024, dedfrydwyd Mr James i orchymyn cymunedol gyda gofyniad i wneud gwaith di-dâl a gweithgarwch adsefydlu
- heb roi gwybod i Gyngor y Gweithlu Addysg y cafodd ei euogfarnu o drosedd Curo ar 8 Hydref 2024
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr James o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori athro ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr James wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Mr James yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 28 Ionawr 2028, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr James hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Christopher William Davies - 22 Ionawr 2026
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 20-22 Ionawr 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro addysg bellach, Christopher William Davies.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi ei brofi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel athro addysg bellach gyda Choleg y Cymoedd, fe wnaeth Mr Davies:
- Rhwng tua 11 Hydref 2023 a 22 Tachwedd 2023, fe wnaeth Mr Davies gyfnewid negeseuon amhriodol gyda Dysgwr A a/neu pwy oedden nhw'n meddwl oedd Dysgwr A, a'u bod wedi dweud a/neu anfon:
- ‘Beth mae e werth?’
- ‘Perswadia fi’
- ‘Felly beth ydw i'n cael?’
- ‘Dwyt ti ddim yn trial yn galed iawn. Allu di ddim bod eisiau'r Freddo yma cymaint â hynny...’
- ‘Diddorol...beth arall ydw i'n cael?’
- ‘Beth arall sydd gyda ti?’
- ‘Beth allet ti roi sydd ddim angen ei brynu?’
- ‘Wnes di ddim dangos y lluniau fel y gwnes di addo’
- ‘Pam na alla i eu gweld nhw nawr?’
- ‘merch dda’
- ‘sweet cheeks’
- llun o far siocled ar ei gôl
- ar neu o gwmpas 25 Hydref 2023, rhoddodd Mr Davies far siocled i Ddysgwr A
- rhwng tua 26 Medi 2023 a 29 Tachwedd 2023, fe wnaeth Mr Davies gyfnewid negeseuon amhriodol gyda Dysgwr B, a bod Mr Davies wedi dweud a/neu anfon:‘Allen i edrych arnat ti drwy'r dydd ngl’
- ‘Allen i ddod i arfer â hyn’
- ‘Rwyt ti'n fy ngwneud i'n boeth iawn fan hyn’
- ‘Rwyt ti'n gwneud i fi gael meddyliau amhroffesiynol iawn nawr’
- ‘mae hwna'n lun pryfoclyd iawn’
- ‘wna i byth ddweud na i fwy xx’
- ‘Wow ti wir yn anghredadwy x’
- ‘Mae'r lluniau yma'n addictive x’
- ‘Does neb yn gweld dy ffôn, na? Alla i ddim dechrau dweud faint o drwbl fyddwn i ynddo os bysai rhywun arall yn gweld y negeseuon yma’
- ‘Newydd sylweddoli bod y sgwrs yma wedi digwydd ar blatfform gwaith’
- ‘Rwyt ti'n rhoi meddyliau amhroffesiynol iawn i fi eto...Rwyt ti'n dda iawn am wneud hynny xx'
Ar ôl canfod bod yr ymddygiad uchod wedi ei brofi, canfu'r pwyllgor:
- nad oedd yr ymddygiad a brofwyd yn honiadau 1,2, a 4 ddim yn cynnal ffiniau proffesiynol
- bod ymddygiad Mr Davies yn honiadau 1 a 4 yn rhywiol eu natur
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Mr Davies oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori athro addysg bellach.
Penderfynodd hefyd na fyddai Mr Davies yn cael gwneud cais i'w adfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 2 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Mr Davies wneud cais llwyddiannus ar gyfer cymhwyster i'w adfer i'r Gofrestr ar ôl 22 Ionawr 2028, bydd wedi ei wahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Mr Davies yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Jessica Picton - 17 Rhagfyr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 16 a 17 Rhagfyr 2025, wedi canfod bod honiadau o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ a ‘throseddau perthnasol’ wedi’u profi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Jessica Picton.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi fel Cynorthwy-ydd Addysgu yn Ysgol Gynradd Clase (“yr Ysgol”), bod Miss Picton:
- heb roi gwybod i’r Ysgol y cafodd ei harestio ar 11 Rhagfyr 2023 hyd nes i Bennaeth yr Ysgol ei holi ynghylch yr arestiad ar 15 Rhagfyr 2023
- ar 15 Rhagfyr 2023, wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol ac anwir i Bennaeth yr Ysgol am amgylchiadau ei harestiad ar 11 Rhagfyr 2023
- ar 14 Mehefin 2024, wedi cael ei dyfarnu’n euog yn Llys Ynadon Gorllewin Morgannwg o:
- yrru cerbyd modur gyda chyfran cyffur penodol a reolir yn uwch na’r terfyn penodol ar 11 Rhagfyr 2023, yn groes i adran 5A(1)(a) a (2) Deddf Traffig Ffyrdd 1988 ac Atodlen 2 Deddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton i orchymyn cymunedol, gofyniad cyrffyw gyda thag electronig a gofyniad i wneud gweithgarwch adsefydlu, ac fe’i datgymhwyswyd rhag gyrru am 17 mis
- gyrru cerbyd modur gyda chyfran cyffur penodol a reolir yn uwch na’r terfyn penodol ar 11 Rhagfyr 2023, yn groes i adran 5A(1)(a) a (2) Deddf Traffig Ffyrdd 1988 ac Atodlen 2 Deddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988. O ganlyniad, dedfrydwyd Miss Picton i orchymyn cymunedol, gofyniad cyrffyw gyda thag electronig a gofyniad i wneud gweithgarwch adsefydlu, ac fe’i datgymhwyswyd rhag gyrru am 17 mis.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod ymddygiad Miss Picton ym mharagraffau 1 a 2 yn anonest ac yn dangos diffyg unplygrwydd.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Miss Picton o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Miss Picton wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 2 flynedd fynd heibio. Os na fydd Miss Picton yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 17 Rhagfyr 2027, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Miss Picton hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Mark Christopher Robertson – 15 Rhagfyr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 24-25 Mawrth, 20-24 Hydref ac 15 Rhagfyr 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro addysg bellach, Mark Christopher Robertson.
Canfu'r Pwyllgor bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei fod wedi ei gyflogi fel Athro AB yng Ngholeg Cambria, bod Mr Robertson, rhwng 2022 a 2023:
- wedi anfon un neu fwy o negeseuon i Ddysgwr 1 dros Instagram, oedd yn amhriodol, a/neu wedi torri ffiniau proffesiynol
- wedi anfon neges(euon) i Ddysgwr 1 dros Instagram, pan oeddent wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig yn 2019 am gysylltu gyda dysgwr mewn modd amhriodol ac amhroffesiynol
- ar un neu fwy achlysur, fe wnaethant dynnu a/neu gyffwrdd â gwallt Dysgwr 1, a ganfuwyd i fod yn amhriodol a/neu wedi torri ffiniau proffesiynol
- ar un neu fwy achlysur, wedi cofleidio Dysgwr 1, a ganfuwyd i fod yn amhriodol, a/neu wedi torri ffiniau proffesiynol
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Robertson fel athro ysgol addysg bellach am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 15 Rhagfyr 2025 a 15 Rhagfyr 2027). O'r herwydd, bydd Mr Robertson yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro addysg bellach) sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru, am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Robertson yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Samuel Aiden Davies - 10 Rhagfyr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 8–10 Rhagfyr 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Samuel Aiden Davies.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi gan Ap Prentis, ac yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Addysgu yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd (‘yr Ysgol’), bod Mr Davies:
- yn ystod neu o gwmpas 2022, wedi gwneud y sylwadau amhriodol canlynol mewn perthynas â dysgwyr:
- “rwyt ti’n edrych yn dda heddiw”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi gwneud sylw ynglŷn â chyfarfod a mynd am “sesh”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- yn ystod neu o gwmpas 2022, mewn perthynas â Dysgwr A:
- wedi anfon negeseuon at Ddysgwr A ar Snapchat
- wedi anfon llun(iau) o’i hun at Ddysgwr A
- yn ystod neu o gwmpas 2022, mewn perthynas â Dysgwr B:
- wedi gofyn i Ddysgwr B ei ychwanegu ar Snapchat
- wedi anfon negeseuon at Ddysgwr B ar Snapchat
- wedi anfon lluniau o’i hun at Ddysgwr B ar Snapchat
- wedi gofyn i Ddysgwr B anfon llun(iau) o’i hun ato
- yn ystod neu o gwmpas 2022, ar fwy nag un achlysur, wedi cynnig fêps i un neu fwy o ddysgwyr eu defnyddio y tu allan i safle’r Ysgol
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd:
- fod y lluniau a/neu’r negeseuon a anfonwyd yn honiadau 2a, 2b, 3b, 3c, 3d uchod yn amhriodol, wedi torri ffiniau proffesiynol ac o natur orgyfeillgar
- bod ymddygiad Mr Davies a amlinellwyd yn honiadau 2a, 3b, 3c, 3d wedi’i ysgogi gan ryw
- bod ymddygiad Mr Davies a amlinellwyd yn honiadau 2a, 3b, 3c, 3d o natur rywiol
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Davies o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod amhenodol.
Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Davies wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 5 mlynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Davies yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 10 Rhagfyr 2030, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Davies hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Scott Trigg-Turner – 9 Rhagfyr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 3, 4, 5, 8 a 9 Rhagfyr 2025, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol a’r gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach, Scott Trigg-Turner.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi fel cynorthwy-ydd cymorth dysgu mewn ysgol yn Ysgol Basaleg, bod Mr Trigg-Turner:
- wedi dangos ffafriaeth a thorri ffiniau proffesiynol mewn perthynas â’r disgyblion canlynol:
- Disgybl A, yn yr ystyr ei fod:
- wedi cynorthwyo Disgybl A gyda Mathemateg, pan nad oedd y cymorth hwn yn angenrheidiol ac wedi’i geisio gan ei reolwr llinell, sef Cydweithiwr A
- wedi gwneud ‘sgerbwd’ crefft i Ddisgybl A pan oedd yn absennol, ond nad oedd wedi gwneud un i ddisgybl arall a oedd hefyd yn absennol
- wedi symud dodrefn i eistedd wrth ymyl Disgybl A mewn amgylchiadau pan oedd wedi cwblhau ei waith ac y gallai disgyblion eraill fod wedi elwa o’i gymorth
- ar 21 Tachwedd 2023, wedi dweud wrth Gydweithiwr B y byddai’n gwirio Disgybl A, er nad oedd yn gyfrifol am wneud hynny
- Disgybl D, yn yr ystyr ei fod, ar neu o gwmpas 24 Tachwedd 2023:
- wedi eistedd yn agos at Ddisgybl D er nad oedd hynny’n angenrheidiol
- wedi eistedd gyda Disgybl D tra oedd yn ysgrifennu rhestr o enwau babanod, nad oedd angen ei gymorth ef ar ei gyfer
- Disgybl A, yn yr ystyr ei fod:
- ym mis Tachwedd 2023, wedi gwneud sylwadau wrth ddisgyblion a chydweithwyr, yr oedd yn gwybod eu bod yn anghywir ac yn gamarweiniol, yn yr ystyr ei fod wedi dweud wrthynt:
- y bu yn y fyddin a/neu’r lluoedd arfog
- y bu ym morlu America
- bod ganddo ddryll o hyd o wasanaeth gweithredol
- y bu’n saethwr cudd
- ei fod wedi lladd pobl
- mai ei lysenw/ffugenw oedd ‘kill switch’
- ar sawl achlysur yn 2023, wedi cyrraedd yn hwyr a gadael y dosbarth yn gynnar, heb gytundeb o flaen llaw gan ei reolwr llinell, sef Cydweithiwr A
- ar un achlysur neu fwy yn 2023, wedi rhoi esboniadau anghyson i’w gydweithwyr a’i reolwyr llinell ynglŷn â pham yr oedd wedi cyrraedd y dosbarth yn hwyr, neu adael yn gynnar
- ar sawl achlysur yn 2023, wedi rhoi esboniadau anghyson i'w gydweithwyr a’i reolwyr ynglŷn â sut y cafodd yr anafiadau a’i rhoddodd mewn cadair olwyn
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor fod ymddygiad Mr Trigg-Turner ym mharagraffau 2, 4 a 5 yn anonest ac yn dangos diffyg unplygrwydd.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Trigg-Turner o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categorïau gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol a gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Trigg-Turner wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o ddwy flynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Trigg-Turner yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 9 Rhagfyr 2027, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Trigg-Turner hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Matthew Porch – 2 Rhagfyr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn eistedd yng Nghaerdydd ar 2 Rhagfyr 2025, wedi canfod bod honiad o 'drosedd perthnasol' wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Matthew Porch.
Canfu'r Pwyllgor, tra ei fod wedi ei gyflogi fel athro ysgol yn Ysgol Gynradd Millbank, Caerdydd, bod Mr Porch, ar 14 Ionawr 2025, wedi ei gael yn euog o yrru cerbyd modur gyda gormodedd o alcohol, yn erbyn adran 5(1) Deddf Traffig y Ffyrdd, ac Atodlen 2 Deddf Troseddwyr Traffig y Ffyrdd 1988. O ganlyniad i'r drosedd hon, ar 4 Chwefror 2025, cafodd Mr Porch ei wahardd rhag gyrru am 23 mis, a chael Gorchymyn Cymunedol nes 3 Chwefror 2026, gofyniad gweithgaredd adfer, a dirwy o £100.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Porch fel athro ysgol am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 2 Rhagfyr 2025 a 2 Rhagfyr 2027). O'r herwydd bydd Mr Porch yn gallu gweithio fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Porch yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Chelsea Box – 4 Rhagfyr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 4 Rhagfyr 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Chelsea Box.
Canfu'r Pwyllgor bod Miss Chelsea Box yn euog o fethu â datgan ei bod wedi ei diswyddo gan ei chyflogwr blaenorol pan wnaeth gais i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Ar ôl gwneud y canfyddiad hwn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Miss Box yn anonest, ac yn arddangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Box fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 4 Rhagfyr 2025 ac 4 Rhagfyr 2027).
O'r herwydd bydd Miss Box yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Miss Box yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
James Matthew Richards - 27 Tachwedd 2025
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 24, 25, 26 a 27 Tachwedd 2025, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athro ysgol, Mr James Richards.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi fel Pennaeth yn Ysgol Gynradd Cadle, bod Mr Richards:
- yn ystod neu o gwmpas mis Mehefin 2012 a/neu fis Awst 2012, ar un achlysur neu fwy, wedi dangos ei bidyn i Gydweithiwr A
- yn ystod neu o gwmpas mis Ionawr 2012 a mis Ebrill 2013, wedi dangos ei bidyn i Gydweithiwr B
- yn ystod neu o gwmpas mis Mehefin a mis Gorffennaf 2013, o ran Cydweithiwr C:
- wedi gofyn am gael cymharu bronnau Cydweithiwr C â bronnau ei wraig
- wedi dangos llun o bidyn ar ei ffôn i Gydweithiwr C
- yn ystod neu o gwmpas mis Gorffennaf 2021, wedi rhannu delweddau o bidyn a chodiad arno ar y sgrin tra bod Cydweithiwr D yn bresennol
- rhwng tua 12 Hydref 2020 a 4 Tachwedd 2020, wedi dangos ffotograffau a fideos o’i bidyn i Gydweithiwr E
- yn ystod neu o gwmpas mis Medi 2021, heb ddychwelyd gliniadur gwaith i’r ysgol er gwaethaf cais i gyflwyno’r holl offer TG gwaith
- yn ystod neu o gwmpas mis Mehefin 2023, wedi achosi neu ganiatáu i wybodaeth anghywir a chamarweiniol gael ei rhoi i’r Awdurdod Lleol am ei iechyd
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod ymddygiad Mr Richards ym mharagraffau 1 i 5 uchod o natur rywiol ac wedi’i ysgogi gan ryw, a bod ei ymddygiad ym mharagraffau 6 a 7 yn anonest ac yn dangos diffyg uniondeb.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Richards o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori athro ysgol am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Richards wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 15 mlynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Richards yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 27 Tachwedd 2040, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Richards hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Nicola James – 9 Rhagfyr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 8 a 9 Rhagfyr 2025, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Nicola James.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, ar 8 Rhagfyr 2023, mewn perthynas â Disgybl A, bod Miss James:
- wedi gafael ynddo wrth ei ysgwydd
- wedi dweud ‘ca’ dy geg’ wrtho, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi’i wthio.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss James fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod o 2 flynedd (o 9 Rhagfyr 2025 tan 9 Rhagfyr 2027). Fel y cyfryw, bydd Miss James yn gallu parhau i weithio fel cofrestrai (gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru ar hyd cyfnod y Cerydd.
Mae gan Miss James hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.
Jessica Harvey - 27 Tachwedd 2025
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 25-27 Tachwedd 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Jessica Harvey.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol yn Ysgol Brynllywarch Hall, cafodd Miss Harvey ei chusanu gan ddisgybl. O ganlyniad i hyn, ni wnaeth hi gydnabod ei chyfrifoldebau fel model rôl tu allan i'r gweithle.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Harvey fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 2 flynedd (rhwng 27 Tachwedd 2025 a 27 Tachwedd 2027). O'r herwydd bydd Miss Harvey yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Miss Harvey yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
Cerys Bethan Warren – 10 Hydref 2025
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 6-10 Hydref 2025, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, athro addysg bellach, a gweithiwr cymorth dysgu ysgol, Cerys Warren.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu ychwanegol yng Ngholeg y Cymoedd, bod Mrs Warren:
- ar 21 Mai 2024, wedi dileu un neu fwy o ddogfennau am ddysgwr 2 o systemau cyfrifiadurol y Coleg, oedd:
- yn berthnasol i ymchwiliad disgyblu yn ei herbyn
- yn ddogfennau pwysig i iechyd a diogelwch dysgwr 2
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Mrs Warren yn anonest, ac yn arddangos diffyg hygrededd.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Mrs Warren fel gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, athro addysg bellach, a gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 6 mis (rhwng 10 Hydref 2025 a 10 Ebrill 2026). O'r herwydd ni fydd Mrs Warren yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, athro addysg bellach), sy'n darparu gwasanaethau arbennig i neu ar gyfer sefydliad addysg bellach ar gyfer cyfnod y Gorchymyn Gwahardd na fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru am gyfnod y Gorchymyn.
Mae gan Mrs Warren yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.



