Lee-Ann Thomas – 20 Mai 2026
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 19 a 20 Mai 2026, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol, Lee-Ann Thomas.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi fel Cynorthwy-ydd Addysgu a/neu Gynorthwy-ydd Goruchwylio a/neu Gynorthwy-ydd Cegin Cyffredinol y Clwb Brecwast yn Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn, bod Miss Thomas:
- wedi gafael yng nghydweithiwr a’i ddal wrth ei fraich dde
- ar un achlysur neu fwy, wedi ysgwyd braich dde cydweithiwr
- wedi gwasgu un neu fwy o’i bysedd i mewn i fraich dde cydweithiwr
- wedi gweiddi ar gydweithiwr
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Thomas fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol am gyfnod o 2 flynedd (o 20 Mai 2026 tan 20 Mai 2028).
Fel y cyfryw, bydd Miss Thomas yn gallu gweithio fel cofrestrai (gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol) mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru ar hyd cyfnod y Cerydd.
Mae gan Miss Thomas hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



