Rebecca Williams – 18 Mawrth 2026
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ebrill 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 16, 17 a 18 Mawrth 2026, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn yr athrawes addysg bellach a’r ymarferydd dysgu seiliedig ar waith, Rebecca Williams.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei chyflogi fel darlithydd yng Ngholeg Gwent, bod Ms Williams:
- rhwng tua mis Medi a mis Rhagfyr 2023, wedi gwneud un neu fwy o sylwadau amhriodol wrth ddysgwr/dysgwyr, neu ym mhresenoldeb dysgwr/dysgwyr, sef:
- o ran golwg Dysgwr 1:
- gwnaeth sylwadau negyddol ar ei dillad o flaen dysgwyr eraill
- gwnaeth sylwadau ar bwysau Dysgwr 1
- o ran Dysgwr 2:
- pan ofynnodd Dysgwr 2 am gael gadael yn gynnar, dywedodd, “Mae hynny’n iawn, gadawa pryd bynnag rwyt ti eisiau, dwyt ti ddim yn gwneud unrhyw beth yma, beth bynnag”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- pan oedd Dysgwr 2 yn siarad â dysgwr arall, dywedodd, “na, mae’n iawn, oherwydd bod ganddo [Dysgwr 2] gyflwr sy’n gadael iddo ddweud beth bynnag mae eisiau heb ganlyniadau a dydyn ni ddim yn cael dweud unrhyw beth”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi galw un neu fwy o ddysgwyr yn ‘muppets’ a/neu’n glowniau.
- o ran Dysgwr 6:
- dywedodd wrth Ddysgwr 6 nad oedd yn fachgen dymunol i fod yn ei gwmni na siarad ag ef, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- pan ddywedodd Dysgwr 6 “helô” wrthi, fe atebodd drwy ddweud “paid siarad â fi Mr [Dysgwr 6]”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi datgelu bod dysgwr yn ei dosbarth [Dysgwr 8] yn derbyn gofal o flaen dysgwyr eraill
- o ran Dysgwr 3:
- wedi ei galw’n “gwynwr”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw, yn unigol a/neu o flaen y dosbarth
- wedi dweud nad oedd yn mynd i farcio’r gofrestr ac nad oedd Dysgwr 3 yn mynd i gael ei chymorth ariannol, oherwydd ei bod hi’n swnian, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- ar ôl i Ddysgwr 3 godi pryderon ynglŷn â’i hymddygiad gyda Phennaeth yr Ysgol ar 12 Rhagfyr 2023, fe ddywedodd wrthi “Diolch am ddweud [wrth Gydweithiwr 1] amdana’ i”, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- ar neu o gwmpas 21 Rhagfyr 2023, o ran Dysgwr 1, o flaen un neu fwy o ddysgwyr eraill:
- wedi dweud wrthi am wneud yn siŵr na fyddai hi’n mynd yn feichiog dros y Nadolig, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi gofyn a oedd hi’n defnyddio dulliau atal cenhedlu a/neu wedi cael y mewnblaniad [atal cenhedlu] wedi’i osod, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi dweud mewn perthynas â chlais ar Ddysgwr 1, “Rydyn ni’n gwybod pa fath o bethau rwyt ti’n eu gwneud”, gan awgrymu bod hyn o ganlyniad i weithgarwch rhywiol
- ar un achlysur neu fwy rhwng tua mis Medi 2023 a mis Rhagfyr 2023, pan gododd Dysgwr 1 bryderon gyda hi ynglŷn ag ymddygiad myfyriwr gwrywaidd tuag ati:
- wedi gwrthod caniatáu iddi symud oddi wrth y dysgwr gwrywaidd
- wedi dweud wrthi nad oedd ganddi Gyflwr Meddygol 1, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi dweud wrthi ei bod hi’n gorymateb, neu eiriau i’r perwyl hwnnw
- wedi dweud wrth Ddysgwr 4, “Am beth est ti at [Gydweithiwr 1]?” ar ôl iddo godi pryderon gyda Phennaeth yr Ysgol ynglŷn â’i hymddygiad
- o ran golwg Dysgwr 1:
- ar neu o gwmpas 12 Rhagfyr 2023, o flaen dysgwyr eraill, wedi codi potel hylif diheintio dwylo a oedd yn eiddo i Ddysgwr 2 a’i rwbio ar ei dwylo a/neu ei chlun a/neu ei phen ôl dros ei dillad
- wedi dweud wrth Ddysgwr 4 am olchi ei fraich neu ei freichiau â weips gwrthfacterol:
- pan nad oedd hynny’n angenrheidiol a’i fod wedi dweud nad oedd eisiau
- pan oeddech yn gwybod neu y dylech fod wedi gwybod bod hyn yn niweidiol i’w groen
Canfu’r Pwyllgor hefyd fod sylwadau a/neu ymddygiad Ms Williams yn amhroffesiynol, yn fychanol a/neu’n wawdiol tuag at ddysgwyr, ac yn dangos diffyg sensitifrwydd.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Ms Williams o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categorïau athro addysg bellach ac ymarferydd dysgu seiliedig ar waith. Penderfynodd hefyd na chaiff Ms Williams wneud cais i gael ei hadfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o dair blynedd fynd heibio. Os na fydd Ms Williams yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei hadfer i’r Gofrestr ar ôl 18 Mawrth 2029, bydd yn aros wedi’i gwahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Ms Williams hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.



