Polly Frazer – 17 Chwefror 2026
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2026
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol rhwng 9 ac 17 Chwefror 2026, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Polly Frazer.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr honiadau o sylwadau ac ymddygiad amhriodol ac amhroffesiynol gan Ms Frazer wedi eu profi tra ei bod wedi ei chyflogi fel pennaeth yn Ysgol Gynradd Goetre.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan dynnu Ms Frazer oddi ar y Gofrestr o Ymarferwyr Addysg am gyfnod penagored yng nghategori athro ysgol. Penderfynodd hefyd na fyddai Ms Frazer yn cael gwneud cais i'w hadfer i'r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn bod cyfnod o 5 blynedd wedi treiglo. Os na wnaiff Ms Frazer wneud cais llwyddiannus i'w hadfer i'r Gofrestr ar ôl 17 Chwefror 2031, bydd wedi ei gwahardd am gyfnod penagored.
Mae gan Ms Frazer yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.



